Adra

Ciw-restr ar gyfer Megan

(Lisa) Ia?
 
(Arwel) Sori, dwi'm yn nabod, y...
(1, 0) 109 Megan.
(Arwel) A dachi'n...?
 
(Arwel) A dachi'n...?
(1, 0) 111 O, na, digwydd rhannu ymbarél wnaethon ni.
(Aaron) Ia, biti am y tywydd!
 
(Aaron) Aaron dwi.
(1, 0) 114 Hei.
(Lisa) Lisa.
 
(Aaron) O, wel, dwnim.
(1, 0) 126 Fydd rhaid i mi fynd, fedrai'm yfed, gen i gar...
(Ywain) Rosa i Tanci.
 
(Lisa) Hyd yn oed y meirw ddim yn ddistaw medda hi.
(1, 0) 137 Ffycin cripi, eistedd hefo corff.
(Lisa) Neith corff ddim byd i chdi.
 
(Arwel) Siŵr dduw fod na'm rhaid chi aros, ond do's na'm llawar ohona ni yma fel ma'i a peth lleia fedra i neud beth bynnag ydi ista 'ma heno am sbel.
(1, 0) 143 Sut na jesd ni sy 'ma?
(Arwel) Mi sgwennodd o betha i lawr.
 
(Aaron) Fydd rhaid mi ffonio i sôn.
(1, 0) 156 Dwi'm am yfed ond mi wna'i aros am chydig.
(Aaron) Sa signal 'ma?
 
(Aaron) Oce, diolch, fyddai'm yn hir gobeithio.
(1, 0) 163 Brifysgol?
(Lisa) Sori?
 
(Lisa) Sori?
(1, 0) 165 O brifysgol odda chdi'n nabod o?
(Lisa) O ia, yr un fflat flwyddyn gynta, a'r un cwrs.
 
(Lisa) O ia, yr un fflat flwyddyn gynta, a'r un cwrs.
(1, 0) 167 O.
(Lisa) Chditha?
 
(Lisa) Chditha?
(1, 0) 169 Gwaith, cyn iddo fo roi'r gora iddi.
(1, 0) 170 Ond odda ni dal yn siarad weithia, weld o allan a ballu.
(1, 0) 171 Be am dana chdi Owain?
(Ywain) Cefndar, a nabod o eniwe lly, odda ni'n yr un criw yn r'ysgol hefyd, ond adewish i yn sicstîn, nath o ddal ati.
 
(Ywain) Digri efo gafal ynddo fo, o'dd o'n gneud wbath wan fyd doedd?
(1, 0) 177 PhD rhan amsar.
(Ywain) Cinhel ia?
 
(Lisa) Doni'm yn gwbod, be o'dd y pwnc?
(1, 0) 181 O, god, y, rhyw fardd dwi'n meddwl.
(Arwel) Dyma ni lwch, helpa dy hun Sbic.
 
(Ywain) Ti'n siŵr na chymri di ddim Megan?
(1, 0) 193 Na, gyrru.
(Arwel) Ffeif and dreif ydi hi pen yma.
 
(Arwel) Ma' 'na sgwash yma'n rwla os leci di.
(1, 0) 197 Diolch.
(1, 0) 198 A na, dwi'n iawn.
(Arwel) Think, don't drink and drive.
 
(Arwel) Yn wahanol lly, ac yn cîn yn r'ysgol de.
(1, 0) 227 O'dd o'n glyfar doedd.
(Arwel) Odda chi'm yn weld o'n, wel, yn wahanol lly?
 
(Aaron) Na, ddim yn y ffordd da chi'n feddwl eniwe.
(1, 0) 231 O'dd o'n gleniach na lot.
(Ywain) Oedd mi oedd o'n glên, dda iawn efo'i fam.
 
(Aaron) Doni'm yn gwbod fod o/
(1, 0) 250 /na fi, ddim rili.
(Arwel) Ia, wel.
 
(Arwel) O'dd o'n ffycin oer.
(1, 0) 312 Doni'm yn gwbod fod o.
(Ywain) Na fina chwaith rili.
 
(Arwel) Mai'n anodd iawn peidio.
(1, 0) 334 Chi be, gymra'i ddrinc, ga'i aros yn fam'a caf?
(Arwel) Ma' 'na soffa, ma' 'na gadeiria, carpad faint fynnir.
 
(Ywain) Be gymri di?
(1, 0) 337 Mai'n win ne'n rym.
(Arwel) Do's na'r un o'r rheiny yma, dwi'n farman shit sori.
 
(Arwel) Do's na'r un o'r rheiny yma, dwi'n farman shit sori.
(1, 0) 339 Ma' 'na siop yn y pentra oes?
(Arwel) Rhaid ti frysio, ma' siop Magi Ann yn cau am ddeg.
 
(Arwel) Rhaid ti frysio, ma' siop Magi Ann yn cau am ddeg.
(1, 0) 341 Siop Magi Ann?
(Ywain) Yr OmniSaver ma'n feddwl.
 
(Ywain) Pawb yn sôn, golwg 'tha bo hi di ista ar ddildo weiran bigog arni hi, dyna fydda taid yn ddeud.
(1, 0) 353 Ffycin hel Owain.
(Ywain) Taid ddudodd ddim fi, a OmniSaver 'di hi rwan efo bîns own brand a congol i bobol pen yma werthu moron cam a wya' efo cachu arnyn nhw.
 
(Arwel) O gei di bitsa, a cebab, a ffycin, y, pethma... /
(1, 0) 363 /Reis crispies/
(Arwel) /Reis crispies, ffyc off, calzone.
 
(Lisa) Be?
(1, 0) 395 Fedrai'm coelio bo chdi di deud hynna.
(Arwel) Hold on rŵan.
 
(Lisa) /So be, jesd am laff ti'n deud petha felna ia?/
(1, 0) 409 /Dwi'm yn meddwl na dyna o'dd o'n/
(Ywain) /Dwi'n mynd am ffag.
 
(Aaron) God nagoes, peth cynta nes i odd deud ta-ta wrth rheiny ond 'di pawb ddim.
(1, 0) 424 Sgynoch chi'm syniad nagos.
(Lisa) Be?
 
(Lisa) Be?
(1, 0) 426 Y lol bo chdi'm yn gwbod fod pobol fel'na'n bodoli.
(1, 0) 427 Lle ti'n byw?
(1, 0) 428 A 'di dy fam a dy dad rioed di deud dim byd doji naddo masiwr?
(Lisa) Naddo.
 
(Lisa) Naddo.
(1, 0) 430 Ma nhw'n wahanol ar y diawl i'n rhei i ta.
(Aaron) O'dd o'n rong.
 
(Aaron) O'dd o'n rong.
(1, 0) 432 Oedd, dwi'n gwbod hynny, jesd ddim ond fo sydd fel'na, a 'di hynna'm yn deud fod o'n iawn, jesd deud dwi.
(1, 0) 433 Eniwe dwi am fynd i siop Jini Bach Penclawdd ne be bynnag 'di enw hi.
(Lisa) Sa well taswn i heb aros.
 
(Aaron) Ia, sa hynna'n braf basa deud gwir.
(1, 0) 468 Dwi 'di ca'l gair efo nhw, ma nhw ar 'u ffordd i fewn.
(Arwel) Ma' gin Ywain wbath i ddeud.
 
(Ywain) Ond sti be, ma'r cerrig na'n yr afon ers dros ddeg mlynadd a chydig ar y diawl o ddŵr ma nhw'n sdopio rhag mynd i'r môr.
(1, 0) 523 Owain.
(Ywain) Ywain di'n enw fi!
 
(Lisa) Be gawn ni 'di peth?
(1, 0) 539 Hangman?
(Ywain) Ffycin hel.
 
(Ywain) Ffycin hel.
(1, 0) 542 Shit, sori nes i'm meddwl, oni, ffyc.
(Lisa) Snakes and ladders.
 
(Aaron) Be 'da ni, plant?
(1, 0) 546 Na, gwo on.
(Ywain) Ofn ca'l stîd mae o.
 
(Lisa) Fydda'n gas ganddo fo fonopoli bydda.
(1, 0) 552 O ia?
(Arwel) Collwr gwael.
 
(Aaron) Fydda fo'n cicio'n nhin i ar Cluedo.
(1, 0) 562 Whodunnit.
(1, 0) 563 Fydda ni'n siarad dipyn am betha fel'na, rhaglenni felly lly.
(Aaron) Taclus di rheiny de, ffendio bai pwy o'dd o ar y diwadd.
 
(Ywain) Fatha' rhan fwya o betha.
(1, 0) 572 Reit, bob tro dachi'n cal neidar rhaid chi ddownio.
(Arwel) Fel'na ma'i gneud hi!
 
(Aaron) Ma'n gneud sens.
(1, 0) 579 Bwl.
(1, 0) 580 Shit.
(Arwel) Ma' hon fatha'r un am y Ryshians na sgin ti.
 
(Lisa) Wel swni'n synnu i weld ffycin epa de.
(1, 0) 594 A fi, chos sgin i'm parlwr.
(Ywain) Ma' gin ffycin, y, ma' gin fwnci gynffon reit, i falansio mewn briga a ballu, sgin chimps ddim.
 
(Ywain) A ma Merica'n mynd 'o shit lle ma Stanley Kubrick i ni gal cogio landio ar y lleuad'/
(1, 0) 606 /o Iesu/
(Ywain) /Ia, ond y point ydi de.
 
(Lisa) Ia, a fi, odd Chernobyl yn hysh hysh am fisoedd doedd.
(1, 0) 613 Yr holl fwncis heb gynffonna druan 'na 'di rhewi uwch yn penna ni.
 
(Aaron) Ma nhw'n llai, ac yn blasu'n wahanol.
(1, 0) 620 Ond jesd lliw gwahanol dio, ddim blas.
(Arwel) Diolch!
 
(Lisa) Oes, fedrai'm cofio, dim fel'na chwaith, rhyfadd.
(1, 0) 629 Nath o'm sôn lot am ddyddia coleg wrtha fi.
(Arwel) Dyddia gora dy fywyd di medda nhw.
 
(Lisa) /mi driodd o o'r blaen.
(1, 0) 635 Be?
(Lisa) I neud hyn, mi driodd o o'r blaen, o'n i yna.
 
(Lisa) Sa fo hefyd.
(1, 0) 691 Helpu nes di Lisa, dim byd arall.
(Lisa) Ond di helpu ddim yn ddigon nacdi, weithia.
 
(Aaron) Ond dwi'n dy ffycin fethu di fyd.
(1, 0) 841 Pwy sy na?
(Aaron) Fi, sori i dy ddeffro di.
 
(Aaron) Fi, sori i dy ddeffro di.
(1, 0) 843 Na, ma'n iawn, doni'm isio cysgu eniwe rili.
(1, 0) 844 Doni'm i fod yma mor hwyr, gin i waith fory i fod.
(Aaron) Cyfieithu ti ia?
 
(Aaron) Cyfieithu ti ia?
(1, 0) 846 M, yn dre.
(Aaron) Ffonia fewn, gei di gymyd amsar off efo galar sti, dwi'n gyfreithiwr, ddylia mod i'n gwbod.
 
(Aaron) Ffonia fewn, gei di gymyd amsar off efo galar sti, dwi'n gyfreithiwr, ddylia mod i'n gwbod.
(1, 0) 848 Chdi odd y cyfreithiwr?
(1, 0) 849 Oni'n ama.
(Aaron) Be, o'dd o'n sôn am danai?
 
(Aaron) Be, o'dd o'n sôn am danai?
(1, 0) 851 Am rhyw gyfreithiwr beth bynnag, sôn ddipyn deud gwir.
(Aaron) Am be lly?
 
(Aaron) Am be lly?
(1, 0) 853 Wel, wsti, hel straeon de.
(1, 0) 854 Bob math o betha.
(1, 0) 855 Petha da ddo.
(Aaron) O, wel, oce.
 
(Aaron) O, wel, oce.
(1, 0) 857 Dyna pam mod i yma dwi'n meddwl ia?
(1, 0) 858 Am mod i di siarad efo fo am betha fel'na?
(Aaron) Dwi'm yn gwbod, dwni'm pam fod o isio neb yma o gwbwl.
 
(Aaron) Dwi'm yn gwbod, dwni'm pam fod o isio neb yma o gwbwl.
(1, 0) 860 Jesd ma'n rhyfadd achos doni'm yn nabod o fatha chdi, ne neb arall yma rili.
(1, 0) 861 Jesd nabod gwaith odda ni de.
(1, 0) 862 Dibynnu ar y ffaith bo ni'n gorfod bod yn yr un adeilad am oria odda ni, a petha fel y bos a'r mashin coffi shit yn lle petha fel profiada ne atgofion yn dod a ni at 'n gilydd.
(Aaron) I ddechra cychwyn ia, ond fedri di dal gal ffrindia gwaith.
 
(Aaron) I ddechra cychwyn ia, ond fedri di dal gal ffrindia gwaith.
(1, 0) 864 Sgin ti rei?
(Aaron) Crwner sy'n saethu ar y wicends ydi un a dynas yn ei ffifftis sy'n byta sardins o gan wrth ei desg 'di'r llall so nagoes, ond ddim dyna ydi'r point.
 
(Aaron) Crwner sy'n saethu ar y wicends ydi un a dynas yn ei ffifftis sy'n byta sardins o gan wrth ei desg 'di'r llall so nagoes, ond ddim dyna ydi'r point.
(1, 0) 866 Dwi jesd yn teimlo tha mod i ddim i fod yma rwsut.
(Aaron) Falla bo hi'n haws siarad efo chdi na neb ohonna ni, dwi'n gwbod fod o heb grybwyll fi wrth y Deliverance Twins yn fana felly ma gin ti hynna.
 
(Aaron) Falla bo hi'n haws siarad efo chdi na neb ohonna ni, dwi'n gwbod fod o heb grybwyll fi wrth y Deliverance Twins yn fana felly ma gin ti hynna.
(1, 0) 869 Pam ni de?
(Aaron) Cysylltiada?
 
(Aaron) Dwnim, doddna'm llythyr nagoedd ond o'dd 'na wbath.
(1, 0) 872 Feddyliodd o am dana ni ti'n meddwl?
(Lisa) Oes 'na rwla i ga'l brecwast o gwmpas fama Arwel?
 
(Ywain) Sa well i minna fynd adra fyd.
(1, 0) 883 Be sgwennodd o, Arwel?
(Arwel) Y?
 
(Arwel) Y?
(1, 0) 885 Nes di sôn fod 'na bapura.
(1, 0) 886 O'dd 'na tha llythyr ne wbath?