Yr Anfarwol Ifan Harris

Ciw-restr ar gyfer Ifan

(Mrs Harris-Jones) {Yn gollwng ei gafael ar ysgwydd ei mab gyda hwrdd bach fel pe bai hi'n cychwyn olwyn i lawr y rhiw.}
 
(Bertie) A gwisg hi yn dy |galon|!"
(1, 0) 56 Hylo, hylo, hylo!
(1, 0) 57 Be' sy'n mynd mlaen yma?
(1, 0) 58 Beth yw'r wynionyn yna sy genti yn dy got?
(1, 0) 59 Wyt ti'n mynd i ferwi cawl?
(Mrs Harris-Jones) Evan.
 
(Mrs Harris-Jones) Rhaid i chi gael sarnu popeth wastad.
(1, 0) 69 Pam?
(1, 0) 70 Wnes i ddim ond gofyn iddo a oedd e'n mynd i ferwi cawl.
(1, 0) 71 Dere mlaen, dere mlaen.
(1, 0) 72 Gad cael clywed yr adroddiad:
(1, 0) 73 ~
(1, 0) 74 "Os wyt Gymro hoff o'th iaith
(1, 0) 75 A hoff o gawl a sucan,
(1, 0) 76 Stwff genhinen yn dy gap,
(1, 0) 77 A stwff hi yn y sospan".
(1, 0) 78 Come on, boy!
(Bertie) Na - 'na i ddim nawr.
 
(1, 0) 88 Bachgen!
(1, 0) 89 Dere mlaen!
(1, 0) 90 Fe alli di gymryd joc ond alli di?
(1, 0) 91 Adrodd y pennill eto.
(David Henry) Ie, dere ngwas i.
 
(Mrs Harris-Jones) A ninnau'n mynd i gadw coffadwriaeth eich tad.
(1, 0) 98 Wel, wnes i ddim ond gofyn beth oedd pwrpas y geninen yna yn i gap e.
(1, 0) 99 Beth mae e'n wneud, te?
(Mrs Harris-Jones) (Yn wyllt.}
 
(Mrs Harris-Jones) Dyw e'n ddim ond enw o lys-dad i Bertie.
(1, 0) 105 Wel?
(1, 0) 106 Idea dda!
(1, 0) 107 Gaiff Bertie anrhydeddu Nhad i, a mi gaf innau anrhydeddu tad Bertie.
 
(1, 0) 109 Be chi'n weyd, Napoleon?
(1, 0) 110 Hoffech chi gael cof-golofn i'ch coffadwriaeth?
(David Henry) {More in sorrow, etc.}
 
(David Henry) Wrth gwrs, 'dwy ddim am ddangos amharch...
(1, 0) 116 Ha! Ha! He!
(1, 0) 117 Go lew, Napoleon!
(1, 0) 118 Go lew, Nap!
(1, 0) 119 The outraged step-father, myn diawl i.
(1, 0) 120 Dewch ymlaen, Paterfamilias.
(1, 0) 121 Dewch lawr i'r pentre.
 
(1, 0) 123 Does dim lle i chi a fi fan yma.
(Mrs Harris-Jones) {Yn ei ganfod a chornel ei llygad.}
 
(Mrs Harris-Jones) I chi mae dioloh am hyn.
(1, 0) 140 Wel.
(1, 0) 141 'Doeodd gen i ddim bwriad i stopio'r band, dyna fi'n dweud y gwir.
 
(1, 0) 144 Bertie.
(1, 0) 145 Dere boi bach!
(1, 0) 146 Mae mwy o stwffin ynot ti na hyn.
(1, 0) 147 Wna i ddim sport ar dy ben di.
(1, 0) 148 Dere mlaen!
(Mrs Harris-Jones) {Yn gynddeiriog.}
 
(1, 0) 160 Wel!
(1, 0) 161 Meddwl helpu own i nawr yn onest.
(David Henry) {Yn llwytho'i bib.}
 
(1, 0) 167 Cynghorion tadol, Nap?
(1, 0) 168 Mae heisiau nhw'n dost.
(David Henry) Rwyt ti'n poeni braidd gormod ar dy fam, Ifan.
 
(1, 0) 171 Dechreuad da.
(David Henry) Rwyt ti'n poeni braidd mwy na sydd eisiau, Ifan.
 
(David Henry) Ond wedi'r cwbwl, dy fam di yw hi...
(1, 0) 179 "That dear old mother of mine".
(1, 0) 180 'Dyw hi'n ffito dim mewn í'r pictiwr, Napoleon.
(1, 0) 181 Mi ddylai fod wedi gwisgo hen shol fagu a bonet, a spectol, nid low neck a short skirts.
(1, 0) 182 Mi adawes i gartre pan own i'n un-ar-bymtheg oed, ac o ran Mam fuodd fawr o awydd arna i ddwad nol byth wedyn.
(David Henry) Dy dad, Ifan?
 
(David Henry) Paid ti ag anghofio hynny.
(1, 0) 187 Ry'm ni'n i tharo hi'n go lew, mae'n rhaid dweud.
(David Henry) {Yn sentimental.}
 
(1, 0) 192 Ddysgodd i fi yfed y gwydraid cyntaf pan oedd Mam yn llywydd Urdd Dirwestol Cymru.
(1, 0) 193 Da ware, Napoleon l
(David Henry) Rhyw greadur anfodddog wyt ti, Ifan.
 
(David Henry) Dyna finne wedyn, weldi, yn i hela hi yn y blaen {yn dechreu "canu grwndi"} yn smo-co mhib, yn dawel fach, yn enjoyo... dim byth yn cynhyrfu neb... yn en-joyo...
(1, 0) 200 Rwy wedi blino ar bethau, Nap.
(1, 0) 201 Y gwisgo cennin yma, a'r bust yma {yn pwyntio at y mur tu ol iddo} i goffadwriaeth y Nhad, a'r ffys a'r bodder.
(1, 0) 202 Pryd mae'r seremoni yma i ddigwydd, a be ma nhw'n mynd I wneud?
(David Henry) Mi fyddant yn dadorchuddio'r cof-golofn i dy dad - coffa da am dano... am hanner awr wedí dau, a mi fydd te i'r plant...
 
(David Henry) Mi fyddant yn dadorchuddio'r cof-golofn i dy dad - coffa da am dano... am hanner awr wedí dau, a mi fydd te i'r plant...
(1, 0) 204 Rwy'n gwybod hynny.
(1, 0) 205 Rwy wedi clywed hynny nawr rhyw gant o weithiau...
(David Henry) Wel, ti ofynnodd, Ifan.
 
(David Henry) Wel, ti ofynnodd, Ifan.
(1, 0) 207 Pam na allan' nhw adael iddo orwedd yn dawel yn i fedd?
(David Henry) Fyddai hynny ddim yn deg a dyn mawr... i adael iddo orwedd yn dawel yn i fedd.
 
(1, 0) 214 Dwedwch yna eto!
(1, 0) 215 Dwedwch e eto!
(1, 0) 216 Mae e'n ddywediad mor arswydus o wreiddiol!
(David Henry) Wel, ti ofynnodd y cwestiwn, Ifan.
 
(David Henry) Wel, ti ofynnodd y cwestiwn, Ifan.
(1, 0) 218 Ofynnes i ddim a oedd 'y nhad yn ddyn mawr.
(1, 0) 219 Rwy'n meddwl mod i wedi cael digon o gyfle i wybod hynny.
(1, 0) 220 'Dwy ddim wedi clywed dim arall oddiar i'r syniad wawrio ar Mam.
(1, 0) 221 Bob man af i...
(1, 0) 222 "O, dyma fab Ifan Harris, aie...
(1, 0) 223 Yr anfarwol Ifan Harris.
(1, 0) 224 Felly wir!
(1, 0) 225 Ydych chwi'n mynd i fod yn ddyn mor fawr a'ch tad, machgen i?"
(1, 0) 226 Fel pe na bai enaid na phersonoliaeth gennyf i fy hun, a fel pe gallwn i lusgo oes allan yn marchogaeth ar gysgod 'y nhad,
(David Henry) Rhaid i ti beidio a chymryd pethe fel yna...
 
(David Henry) Rhaid i ti beidio a chymryd pethe fel yna...
(1, 0) 228 Wythnos ddwetha mi gwrdded ag un o'r |slugs| hyn.
(1, 0) 229 Yn union wedi iddo gael ei introdìwsio dyma fe'n dechreu, "Ydych chi, machgen i, yn ddyn mor fawr a'ch tad?"
(1, 0) 230 A mi atebais innau, "Dim o'r hanner, neu mi fuaswn wedi'ch llindagu chi cyn hyn", a mi gerddais i ffwrdd...
 
(1, 0) 232 Roedd Mam yn gweld chwith wrth gwrs.
(David Henry) Wel, mi ddwedaist lawer o wir wrtho... fel rwy i'n cofio dy dad, beth bynnag.
 
(David Henry) Cofia di, dim pob teulu all godi monument yn y ty...
(1, 0) 236 Dych chi ddim yn gweld ein bod ni i gyd yn byw mewn museum?
(David Henry) Museum?
 
(David Henry) Museum?
(1, 0) 238 le, museum. Dy' ni ddim ond ceidwaid mewn museum, a'r relics oddeutu ì ni er mwyn yr ymwelwyr.
(1, 0) 239 Edrychwch ar y gadair yna oddìtanoch chi.
(1, 0) 240 Paham mae'n cael ei chadw mor barchus?
(1, 0) 241 Er mwyn i chi gael bod yn gyfforddus?
(1, 0) 242 Dim perigl!
(1, 0) 243 Am mai cadair Ifan Harris yw hi!
(1, 0) 244 A'r sofa yne!
(1, 0) 245 Ydi hi wedi cael ei rhoi fanna er ych mwyn chi?
(1, 0) 246 Dim.
(1, 0) 247 Y sofa lle gorweddai'r anfarwol Ifan Harris yw hi!
(David Henry) Ie, wel, edrych di mor lwcus wyf fi fod dy dad yn ddyn mawr.
 
(David Henry) Dyna'r gadair a'r sofa fwyaf cysurus yn y wlad...
(1, 0) 250 Ond nid chi pia' nhw.
(1, 0) 251 Mae cysgod y marw ar bopeth yn y ty yma.
(1, 0) 252 Hyd yn oed y gwely 'rych chi'n cysgu ynddo.
(1, 0) 253 Dyna lle gorweddodd 'y Nhad...
(David Henry) Paid nawr, wir, Ifan.
 
(David Henry) Rwyt ti'n ngneud i'n nervous...
(1, 0) 256 Ond does dim eisiau mynd at y dodrefn.
(1, 0) 257 Beth y'm ni'n dau ond relics?
(1, 0) 258 Pwy wyf i?
(1, 0) 259 Mab i Ifan Harris!
(1, 0) 260 'Does gen i ddim enw fy hun.
(1, 0) 261 Enw nhad sy arna i.
(1, 0) 262 'Dwy i ddim yn bod fy hun...
(David Henry) O wyt, Ifan, wyt.
 
(David Henry) Rwyt ti'n bod, ac yn cadw tipyn o dwrw...
(1, 0) 265 Wel, 'dych |chi| ddim beth bynnag.
(David Henry) Wel, rown i dan yr argraff mod i...
 
(David Henry) Wel, rown i dan yr argraff mod i...
(1, 0) 267 Ydych chi'n cael eich adnabod fel "Mr Jones, Allt-wen"?
(1, 0) 268 Dim perigl.
(1, 0) 269 "Ail wr gwraig Ifan Harris"!
(1, 0) 270 Dyna pwy ych chi!
(David Henry) {Yn anghysurus.}
 
(David Henry) Dipyn bach yn gas oedd beth ddwedest ti nawr.
(1, 0) 274 Pwy gas?
(1, 0) 275 'Dwy ddim casach i chi nag wyf i i mi fy hun.
(1, 0) 276 'Rym ni'n dau yn byw bywydau ail-law.
(David Henry) {Yn ail-lonni.}
 
(David Henry) Mae hynny'n rhyw gysur.
(1, 0) 282 Yr un cyflwr yn hollol!
(1, 0) 283 Bore echdoe rown i'n clywed fod rhywun wedi dweud am dana i, "Mae e'n lwcus dychrynllyd i fod e'n fab i dad".
(1, 0) 284 Mi fyse'n well getyn gen i fod yn fab i Nhadcu... yr hen wr bach oedd yn gwneud coffine.
(1, 0) 285 'Does fawr o son am hwnnw yn y ty hwn.
(1, 0) 286 'Doedd e ddim yn anfarwol, mae'n debyg.
(David Henry) Wel, fyddai hynny ddim yn good for trade, weldi, i ddyn oedd yn gwneud coffine.
 
(David Henry) Wel, fyddai hynny ddim yn good for trade, weldi, i ddyn oedd yn gwneud coffine.
(1, 0) 288 Napoleon!
(1, 0) 289 Dwedwch wrthw i'n onest... aiff e ddim pellach... beth yw'ch barn chi am 'y Nhad?
(1, 0) 290 Dych chi ddim yn blino weithe gyda'r holl ffys hyn am 'y Nhad, a chwithe'n... y... ail wr?
(David Henry) {Yn bwyllog.}
 
(David Henry) O'r goreu, o'r goreu, Ifan, 'does dim eisie i ti wylltu!
(1, 0) 294 Ie, mlaen a chwì!
(David Henry) O leia, mae pawb yn dweud hynny ers rhyw ugain mlynedd mwy neu lai.
 
(David Henry) O leia, mae pawb yn dweud hynny ers rhyw ugain mlynedd mwy neu lai.
(1, 0) 296 O ie, dyna beth arall oeddwn i am ofyn...
(1, 0) 297 Faint o'r bobol yma sy'n cadw'r holl swn yn awr oedd yn cydnabod mawredd 'y Nhad pan oedd e byw?
(David Henry) Wel, rhaid i ti gofío fod llawer ohonyn nhw'n ifanc iawn bryd hynny.
 
(David Henry) Wel, rhaid i ti gofío fod llawer ohonyn nhw'n ifanc iawn bryd hynny.
(1, 0) 299 Ond y teip, rwy'n feddwl.
(1, 0) 300 'Roedd yr un hen deip yng Nghymru ers oed Adda...
(1, 0) 301 Pobol y marwnadau!
(1, 0) 302 Beth oedd barn rheiny am 'y nhad?
(David Henry) {Yn ystyried.}
 
(David Henry) Beth wyt tí'n feddwl wrth hynna, nawr?
(1, 0) 306 Wel, pobol o deip Gwilym Reynolds, sy'n dadorchuddio'r |bust| yma, a Walter Bevan, Llywydd Urdd y Dinasyddion bychain, a Rice Roberts, a Mrs Eurallt Morris, sy wedi gwasanaethu ar gymaint o bwyllgorau fel na phrynith hi ddim "pork chops" i ginio heb i'r mwyafrif o'r plant godi dwylo o blaid y peth.
(1, 0) 307 'Rych chi'n gwybod pwy wy'n feddwl... boys y Pwyllgorau a hen wlad y menyg gwynion.
(David Henry) Wel, os rwy'n dy ddeall di, 'roedd dy dad ddim yn rhyw wr mawr ìawn gyda'r teip yna.
 
(David Henry) Wel, os rwy'n dy ddeall di, 'roedd dy dad ddim yn rhyw wr mawr ìawn gyda'r teip yna.
(1, 0) 309 A mam? Beth am mam?
(David Henry) {Yn anghysurus.}
 
(David Henry) Wel, wrth gwrs... mor bell ag oedd y teulu yn y cwestiwn, do'wn i ddim mewn sefyllfa bryd hynny...
(1, 0) 312 Y peth wyf fi am wybod yw... a oedd Mam yn ystyried 'y Nhad yn ddyn mawr pan oedd e yma?
(David Henry) Ddim yn hollol, Ifan... neu, a bod yn onest... 'dwy ddim yn meddwl y buasai hi wedi mhriodi i.
 
(David Henry) Ifan, pe bai rhywun wedi dweud wrthw i pan oedd dy dad yn ein plith ni, y buaswn i'n ail wr i wraig Ifan Harrís mi fuaswn wedi dychrynu!
(1, 0) 315 Pam?
(1, 0) 316 Oedd ofn 'y Nhad arnoch chi?
(David Henry) O cofia di, roedd dy dad a finnau'n í tharo hi'n burion pan fyddai digwydd i ni gyfarfod.
 
(1, 0) 325 Naddo?
(David Henry) Na ffrindie.
 
(David Henry) 'Roedd pob un yn elyn neu yn ffrind iddo.
(1, 0) 328 Ond 'rych chi'n gadael y pwynt.
(1, 0) 329 Pryd dechreuodd Mam edrych arno fel dyn mawr?
(David Henry) Wel, a bod yn onest... dim amharch cofia... does geni ddim cof i mi feddwl hynny'n hunan pan oedd e yma.
 
(David Henry) Ond diast, erbyn meddwl, roedd e'n wahanol i bob un arall rywsut!
(1, 0) 339 Ym mha ffordd?
(David Henry) Roedd dy dad... dim amharch, cofia!
 
(1, 0) 342 O, peidiwch a dweud felna o hyd!
(1, 0) 343 Mlaen a chi!
(David Henry) 'Roedd dy dad yn ddyn... wel, ddweda i ddim i fod e'n ddyn cas.
 
(1, 0) 357 Ydych chi?
(David Henry) Ydw.
 
(David Henry) Wrth gwrs, paid a son gair wrth... mm... mm... mm
(1, 0) 365 Fel y banc, Nap.
(1, 0) 366 Go on!
(David Henry) O!
 
(David Henry) Down i ddim yn i deall hi'n iawn...
(1, 0) 371 Rw i'n deall yn burion...
(1, 0) 372 Rhaid i bod hi'n fwy cysurus arnoch chi cyn i'r idea yma wawrio ar Mam.
(David Henry) Wel Ifan, 'does gen i ddim lle i achwyn.
 
(David Henry) Rhaid cyfaddef, mi es i'n dipyn bach mwy o Number Two nag own i wedi fargeinio am dano.
(1, 0) 380 Wel, Mussolini!
(1, 0) 381 Ddysgest ti dy "bisyn"?
(Bertie) Fues i ddim yn treio nawr.
 
(Bertie) Fues i ddim yn treio nawr.
(1, 0) 383 Gwell i ti shapo!
(1, 0) 384 Mae'r llo aur yna {yn pwyntio at y gorchudd} yn cael ei ddadorchuddio y dìwmod ar ol fory,
(Bertie) Ifan, a fyddech chi'n folon dysgu'r darn yna i fi?
 
(Bertie) Ifan, a fyddech chi'n folon dysgu'r darn yna i fi?
(1, 0) 386 Fi?
(1, 0) 387 Pwna di arni, boy.
(1, 0) 388 Mae Mam wrth y gwaith ond yw hi?
(Bertie) Gwell gen i 'se chi'n gneyd.
 
(Bertie) Gwell gen i 'se chi'n gneyd.
(1, 0) 390 Dim, dim.
(1, 0) 391 Os yw Mrs Harris-Jones wedi dechreu ar y gwaith wnaiff hi ddim o'r tro i fi roi mhig i mewn.
(Bertie) Mae hi'n eitha bolon.
 
(Bertie) Mae hi'n eitha bolon.
(1, 0) 393 Mam ddywedodd wrthyt ti am ofyn?
(Bertie) le.
 
(Bertie) le.
(1, 0) 395 Be sy'n bod, te?
(Bertie) Dim byd, ond i bod hi am i ti wneud.
 
(Bertie) Dim byd, ond i bod hi am i ti wneud.
(1, 0) 397 Beth yw'r game?
(Bertie) Dim byd.
 
(1, 0) 401 Wel, mae hynny'n eitha gwir...
(1, 0) 402 Na, na.
(1, 0) 403 Gwna di fel mae hi'n dweud.
 
(1, 0) 405 Does gen i ddim o'r sel gwladgarol sydd gyda hi...
(1, 0) 406 Be wnest ti a'r genhinen?
(1, 0) 407 Roddest ti hi'n cawl?
(Bertie) O gwna, Ifan!
 
(Bertie) Adrodda i'n dda wedyn, Ifan.
(1, 0) 414 'Dwyt ti ddim yn foneddigaidd iawn i dy fam.
(Mrs Harris-Jones) Ofynnest ti i Evan, Bertie?
 
(Mrs Harris-Jones) Evan, rwy'n siwr y gwnewch chi gymaint a hynna i mhliso i... dysgu recitation bach i Bertie bach, gwnewch!
(1, 0) 421 Beth ar ddaear sy'n bod nawr te?
(1, 0) 422 Gynnau fach chawswn i ddim rhoi 'mhig i mewn.
(Mrs Harris-Jones) Oh come, come, Evan!
 
(Mrs Harris-Jones) 'Rych chi'n gwybod cymaint am reseito!
(1, 0) 427 Wel yn enw popeth!
(1, 0) 428 Pam nad ewch chi mlaen a'r gwaith wedi i chi ddechreu?
(Mrs Harris-Jones) Oh Evan, rych chi'n gwybod mwy na fi, a mae'ch Cymraeg chi gymaint yn well.
 
(Mrs Harris-Jones) Oh Evan, rych chi'n gwybod mwy na fi, a mae'ch Cymraeg chi gymaint yn well.
(1, 0) 430 'Wn 'im.
(1, 0) 431 Chi sy a'r cennin yma a phethe ar hyd y ty.
(1, 0) 432 Mi ddylsech Cymraeg chi fod yn ddigon da.
(Mrs Harris-Jones) O, rwy'n very Welsh o ran fy ideals.
 
(Mrs Harris-Jones) Ond ches i ddim o'r cyfle gawsoch chi.
(1, 0) 435 Do.
(1, 0) 436 Fe gawsoch fwy.
(Mrs Harris-Jones) Ches i ddim o 'nwyn i fyny mewn Welsh atmosphere yn y cartref fel chi.
 
(1, 0) 445 Gaf i ddewis y darn?
(Bertie) O cewch.
 
(Mrs Harris-Jones) Pa ddarn fyddech chi'n sujesto?
(1, 0) 450 Pryd mae e'n adrodd... o flaen y seremoni?
(Mrs Harris-Jones) Ie.
 
(Mrs Harris-Jones) Just o flaen yr unveiling.
(1, 0) 453 Mae darn tarawiadol iawn gan Parry-Williams... rhywbeth am esgym y meirw.
(Mrs Harris-Jones) {Yn gwrido.}
 
(Mrs Harris-Jones) Nawr a fyddwch chi'n neis nawr a gwrando am dipyn bach, a pheido a bod yn brofoclyd? Rych chi am y mhliso i, ond ych chi?
(1, 0) 459 Beth ych chi eisiau?
(Mrs Harris-Jones) Nawr, rych chi'n gwybod ond ych chi fod tipyn bach o sensation yn y pentre am yr unveiling yma...
 
(Mrs Harris-Jones) Pobol ddieithr yn dwad yma ac yn y blaen.
(1, 0) 462 Wel?
(Mrs Harris-Jones) Nawr, mae e'n strain fawr ar fy meddwl i.
 
(Mrs Harris-Jones) Chysges i ddim hanner nos neithiwr.
(1, 0) 465 Wel, beth ych chi moyn codi rhyw stunt fel yma?
(Mrs Harris-Jones) {Yn dyner.}
 
(Mrs Harris-Jones) 'Dych chi ddim yn meddwl fod eich tad annwyl yn haeddu peth parch?
(1, 0) 468 Parch be damned,...!
(Mrs Harris-Jones) Evan!
 
(Bertie) Mi ddylai fod cywilydd amoch chi... siarad felna am y nada cynta i!
(1, 0) 472 O'r goreu!
(1, 0) 473 Paid ti a rhoi dy drwyn i fewn!
(Mrs Harris-Jones) {Yn ei meddiannu ei hun.}
 
(Mrs Harris-Jones) Rych chi am y mhliso i ond ydych chi?
(1, 0) 481 Wel, beth ych chi am i mi wneud?
(Mrs Harris-Jones) Nawr, rwy am i chwi wneud favour fach a fi.
 
(Mrs Harris-Jones) Nawr, rych chi'n gwybod fod eich tad pan oedd e byw yn annwyl iawn i mi.
(1, 0) 485 Oedd e?
(Mrs Harris-Jones) {Ymron a cholli thymer.}
 
(Mrs Harris-Jones) A mae gen i barch i enw e ac i'w syniade fe.
(1, 0) 490 Beth oedd i syniade fe?
(Mrs Harris-Jones) Mi wyddoch chwi beth oedd i syniade fe.
 
(Mrs Harris-Jones) Mi wyddoch chwi beth oedd i syniade fe.
(1, 0) 492 Gwn.
(1, 0) 493 Fe wn |i|.
(1, 0) 494 Ond ydych |chi|'n i gwybod nhw? I
(1, 0) 495 syniade cyhoeddus e...
(1, 0) 496 Syniadau a gyhoeddodd e yn y pamphledi a wrthodwyd gan bob cyhoeddwr yng Nghymru ond un?
(1, 0) 497 A oes un o'r gang fydd yn dwad yma Dydd Mercher i frolio yn i gylch e wedi dangos unrhyw barch i syniade fe yn i gweithredoedd?
(1, 0) 498 A feiddiai un ohonyn nhw?
(David Henry) Ie, wel, mae yna bwynt fan yna...
 
(Mrs Harris-Jones) Rych chi'n gwbod, Ifan, fod y gentlemen sy'n dwad yma i'r unveiling yn cymryd yn ganiataol y bydd i fab Ifan Harris wneud rhywbeth yn y seremoni...
(1, 0) 508 Mi ddwedes i'n ddigon plaun ar y dechreu nad own i ddim yn mynd i gymryd unrhyw ran...
(Mrs Harris-Jones) Very well... gwrandewch funud...
 
(Mrs Harris-Jones) Very well... gwrandewch funud...
(1, 0) 510 ... dim un ran o gwbwl.
(Mrs Harris-Jones) Very well.
 
(Mrs Harris-Jones) Dyna i gyd rwy eisieu i chi wneud yw rhoi un speech fach...
(1, 0) 515 Dw...
(Mrs Harris-Jones) Un speech fach o flaen yr unveiling.
 
(Mrs Harris-Jones) Nawr a ydw i'n gofyn gormod i chwi wneud un favour fach a fì am unwaith yn y mywyd?
(1, 0) 518 Dim ffafr a chi yw'r pwynt.
(1, 0) 519 Dwi ddim yn mynd i sefyll i fyny fanna a'r |bust| hyll yna tu ol i mhen i, a rhyw ddynion samllyd yn gwenu ama i, a brolio rhyw blatitiwds am 'y nhad... dwy ddim yn mynd i wneud e!
(Mrs Harris-Jones) Pam, Evan?
 
(Mrs Harris-Jones) {Tarewir David Henry gan gymaint o syndod fel y neidia'n llwyr o'i gadair ac yn ol drachefn.}
(1, 0) 524 Pwy?
(1, 0) 525 Naroleon?
(David Henry) Fi!?
 
(David Henry) {Tarewir ef yn fud.}
(1, 0) 541 Hal Ha! Ha!
(1, 0) 542 Leicwn i weld Napoleon wrthi.
(Mrs Harris-Jones) Wel dyna fe, Evan, os gwnewch chi, mae David Henry yn addo gneyd.
 
(1, 0) 547 'Dwy ddim yn mynd i ddwad yn agos i'r seremoni.
(Mrs Harris-Jones) Dych chi ddim yn mynd i ddwad yn agos i'r seremoni
 
(Mrs Harris-Jones) Dych chi ddim yn mynd i ddwad yn agos i'r seremoni
(1, 0) 549 Nagw.
(Mrs Harris-Jones) A ble mae'ch parch chi i'ch tad?
 
(Mrs Harris-Jones) A ble mae'ch parch chi i'ch tad?
(1, 0) 551 'Dwn i ddim ymhle mae mharch i nhad, ond os na ddaeth e i'r golwg cyn hyn, 'dyw e ddim yn mynd i godi nawr i swn band y pentre ac areithiau Gwilym Reynolds,
(Mrs Harris-Jones) Rhag ych cywilydd chi, Evan!
 
(Mrs Harris-Jones) Mae'ch tad yn gorwedd yn llonydd mewn mangre dawel ochr ddraw i'r Werydd.
(1, 0) 555 Gobeithio i fod e.
(1, 0) 556 Mae e'n cadw digon o stwr yr ochr hyn i'r mor.
(Mrs Harris-Jones) Mae ei enw yn perarogli yn ein plith ni, ac yntau'n gorwedd yn i fedd ymhlith estroniaid na wyddant am ei syniadau na'i fywyd disglair.
 
(Mrs Harris-Jones) Mae ei enw yn perarogli yn ein plith ni, ac yntau'n gorwedd yn i fedd ymhlith estroniaid na wyddant am ei syniadau na'i fywyd disglair.
(1, 0) 558 Mae pobol lwcus yn America.
(1, 0) 559 |Speech| yr |unveiling| yw honna, mam?
(Mrs Harris-Jones) {Yn colli ei thymer yn llwyr.}
 
(Mrs Harris-Jones) Wnaethoch chi ddim un cynnig erioed.
(1, 0) 569 Beth yw'ch ideals chi, Mam?
(Mrs Harris-Jones) Os nad ych chi wedi i deall nw cyn hyn, ddeallwch chi ddim ohonyn nhw nawr.
 
(David Henry) Gneud speech!
(1, 0) 573 Roeddech chi'n son gynne am barch.
(1, 0) 574 Ydych chi'n parchu coffadwriaeth 'y Nhad?
(Mrs Harris-Jones) Peidiwch a gofyn cwestiwn mor insulting.
 
(Mrs Harris-Jones) Peidiwch a gofyn cwestiwn mor insulting.
(1, 0) 576 Ydych chi mewn gwirionedd?
(1, 0) 577 Ydych chi'n siwr nad cadw i enw e'n fyw er mwyn dwad ag enwogrwydd i'ch ty chi, ych chi?
(1, 0) 578 Er mwyn i chwi gael cadw mewn cyffyrddiad a'r bobol fawr yma...
(Mrs Harris-Jones) Rych chi'n hollol insulting.
 
(Mrs Harris-Jones) Rych chi'n hollol insulting.
(1, 0) 580 Ydw.
(1, 0) 581 Ond rwy'n dweud llawer o wir.
(1, 0) 582 Mi ofynnes i i chi gynne beth oedd syniade Nhad.
(1, 0) 583 Ydych chi wedi darllen y cwbwl y gyhoeddodd ef... heb son am ysgrifau yn y ty hwn na welodd neb arall erioed?
(1, 0) 584 Dyma her i chwi!
(1, 0) 585 Treiwch hi roi rhai o syniade yr anfarwol Ifan Harris mewn gweithred a mi ddweda inne beth yn y byd a fynnoch chi yn y seremoni!
(Mrs Harris-Jones) Peidiwch a siarad mor ffol.
 
(Mrs Harris-Jones) Sut gall benyw wan fel fi roi gweithred i syniadau dyn mawr fel efe!
(1, 0) 588 Pam ych chi'n codi stunt fel yma?
(Mrs Harris-Jones) Mae'r gair yna'n hollol discourteous - hollol, pan yn son am commemoration service ych tad.
 
(Mrs Harris-Jones) Mae'r gair yna'n hollol discourteous - hollol, pan yn son am commemoration service ych tad.
(1, 0) 590 Wel, os ych chi am i fi siarad yn yr unveiling... mi wnaf.
(Mrs Harris-Jones) {Yn sirioli.}
 
(Mrs Harris-Jones) Beth ddywedwch chi?
(1, 0) 598 Gadewch chi hynny i fi.
(Mrs Harris-Jones) {Yn ffromi eto.}
 
(Mrs Harris-Jones) Rhywbeth cas eto!
(1, 0) 602 Gaf i ddweud y gwirionedd am dano, mam?
(Mrs Harris-Jones) {Yn wyllt.}
 
(Mrs Harris-Jones) Na chewch!... y... cewch... hynny yw...
(1, 0) 605 Wnaiff hi ddim o'r tro i ddweud y gwir am ddyn marw, mam!
(Mrs Harris-Jones) Very cheap, Evan, very cheap.
 
(Mrs Harris-Jones) Gwell gen i chi gadw draw.
(1, 0) 610 Rwy'n folon dwad yna a rhoi eglurhad am y tro cyntaf yn i hoes i rai o'r bobol barchus yna beth oedd syniade Nhad mewn gwirionedd.
(1, 0) 611 Hyd y gwn i does neb arall yn i deall nw, a dw inne ddim yn honni mod i'n i credu nhw i gyd.
(Mrs Harris-Jones) Ddewch chi ddim yn agos, Evan... dim ar ych perigl!
 
(Mrs Harris-Jones) Fe gaiff 'i fab fod lawr yn y dafarn gyda scums y pentre.
(1, 0) 615 Gaf i wneud araith i Napoleon, te?
(Mrs Harris-Jones) Na chewch! Fe wna i araith iddo fe.
 
(1, 0) 626 Pam fues i mor ffol a dweud wrthi?
(1, 0) 627 Mi |wnawn| i araith pe bawn i'n cael cyfle!...
(1, 0) 628 Napoleon, peidiwch a gofidio!
(1, 0) 629 Fe wna i araith i chi!
(David Henry) Nid gneud yr araith yw'r pwynt.
 
(David Henry) O dier, dier!
(1, 0) 633 Dewch allan am dro, Nap.
 
(1, 0) 635 O diawch!
(1, 0) 636 Mae un o'r cigfrain wrth y drws eto.
(1, 0) 637 Dewch i mewn i'r rwm gefen.
(1, 0) 638 Fe gawn siarad fan honno.
(1, 0) 639 Bertie, dwed wrth Ann y forwyn fod rhywun wrth y drws.
(Bertie) {Yn ymddangos yn y drws pellaf.}
 
(Mr Inskip) Mi fyddaf i'n all right.
(1, 0) 803 Hylo, hylo!
(Mr Inskip) O... y... Mr Inskip wyf i... ynte?
 
(Mr Inskip) O... y... Mr Inskip wyf i... ynte?
(1, 0) 806 Wel, chi ddylai fod yn gwybod.
(Mr Inskip) Y... ie.
 
(Mr Inskip) Mab Mr Ifan Harris ych chwi?
(1, 0) 811 Ie.
(Mr Inskip) {Yn dyfod ymlaen.}
 
(1, 0) 817 Ie siwr.
(1, 0) 818 Fi yw e, Mam ddywedodd wrthw i'ch bod chwi yma.
(1, 0) 819 Mi ddywedodd wrthw i'ch bod chwi wedi gweld y gadair a'r ysgrifbin.
(1, 0) 820 Rown i'n meddwl i bod hi'n drueni na chawsech chi ngweld innau... un o'r relics goreu adawodd 'y Nhad ar ei ol.
(Mr Inskip) Y... Ie Siwr.
 
(Mr Inskip) A dyma fab Ifan Harris?
(1, 0) 824 Dyma fe.
(Mr Inskip) Ydych chi'n mynd i fod yn gymaint o ddyn a'ch tad, machgen i?
 
(Mr Inskip) Rych chi'n siwr o fod yn falch iawn o enw'ch tad.
(1, 0) 827 Wel, ambell waith rwy'n cael y cyfle o glywed i enw e, ond pan fydd digwydd i rywun, ar siawns weithiau, wneud rhyw gyfeiriad ato rwy'n pefreiddio drwyddo i gyd a pharchedig ofn!
(Mr Inskip) Da iawn, machgen i, da íawn.
 
(Mr Inskip) Parchwch i enw e beth bynnag a wnewch chi.
(1, 0) 832 Fydda i'n siwr o wneud, Mr Inskip, gan mai chwi sydd yn gofyn...
(1, 0) 833 Nawr, Mr Inskip, a ydyw Mam wedi dangos y relics i gyd i chwi?
(Mr Inskip) Wel, fe welais i'r gadair...
 
(Mr Inskip) Wel, fe welais i'r gadair...
(1, 0) 835 Twt! Twt, twt, twt!
(Mr Inskip) A'r pen sgrifemnu.
 
(Mr Inskip) A'r pen sgrifemnu.
(1, 0) 837 Twh! Twt, twt!
(1, 0) 838 A welsoch chwi'r warming-pan?
(Mr Inskip) Y waming-pan?
 
(Mr Inskip) Y waming-pan?
(1, 0) 840 le, waming-pan 'y Nhad.
(1, 0) 841 Y warming-pan a fu'n twymno 'i draed e am yr holl flynyddau?
(Mr Inskip) {Braidd yn wannaidd.}
 
(Mr Inskip) Naddo.
(1, 0) 844 O dier, dier.
(1, 0) 845 Mae Mam yn esgeulus.
(1, 0) 846 Mi ddylsai fod wedi dangos y warming-pan i chwi.
(1, 0) 847 Y relic mwyaf gwerthfawr adawodd 'y Nhad ar ei ol.
(1, 0) 848 Ond mae arna i ofn i fod e yn yr iws ar hyn o bryd.
(Mr Inskip) O, na hidiwch Mr... Harris.
 
(Mr Inskip) Na nidiwch.
(1, 0) 851 Ond fe gewch chi weld yr aser, beth bynnag.
 
(1, 0) 854 Dyna aser 'y Nhad, Mr Inskip.
(1, 0) 855 Mae cyfeiriad at hwn yn un o'i weithie fe, Mr Inskip.
(1, 0) 856 Rych chi wedi darllen i weithiau fe i gyd.
(Mr Inskip) {Yn edrych yn bryderus at y drws.}
 
(Mr Inskip) Y... ydw... y... rhan fwyaf... y...
(1, 0) 859 "Llyfr y tri aderyn", Mr Inskip!
(Mr Inskip) Y... ie...
 
(Mr Inskip) Y... ie...
(1, 0) 861 "Theomemphus", Mr Inskip?
(Mr Inskip) le siwr... ydw.
 
(Mr Inskip) le siwr... ydw.
(1, 0) 863 A Chofiant Dic Aberdaron,
(Mr Inskip) Ie siwr.
 
(1, 0) 866 A "Drych y Prif Oesoedd", Mr Inskip.
(Mr Inskip) Yn anghysurus.}
 
(Mr Inskip) Wel, wel, nid pawb all ddweud i fod e wedi gweld peth fel hwn.
(1, 0) 871 Ychydig iawn sydd wedi cael gweld yr aser yna.
(Mr Inskip) Felly siwr.
 
(Mr Inskip) Rhywbeth rhyfedd yw meddwl mai hon oedd gyda'ch tad yn eillio bob dydd...
(1, 0) 875 Eillio!
(1, 0) 876 Eillio!, weddsoch chi?
(Mr Inskip) Ie.
 
(1, 0) 879 Ni chyfarfu hon erioed ag wyneb 'y Nhad!
(Mr Inskip) {Yn syn.}
 
(Mr Inskip) O!
(1, 0) 882 Hon oedd ganddo yn torri 'i gyrn.
(Mr Inskip) {Heb wybod yn iawn beth i wneud o'r sefyllfa.}
 
(Mr Inskip) le... y... ie... Mr Harris, ynte?
(1, 0) 893 Pwy Fister Harris?
(Mr Inskip) {Yn methu a deall.}
 
(Mr Inskip) Mab Ifan Harris ych chwi?
(1, 0) 897 Wel, nage!
(1, 0) 898 Rych chi wedi dwad i'r ty wrong!
(Mr Inskip) Wel, yn enw'r annwyl, ty pwy yw hwn?
 
(Mr Inskip) Wel, yn enw'r annwyl, ty pwy yw hwn?
(1, 0) 900 Jonathan Thomas.
(Mr Inskip) Pwy Jonathan Thomas?
 
(Mr Inskip) Pwy Jonathan Thomas?
(1, 0) 902 Y trafaeliwr pop.
(Mr Inskip) {Yn anadlu ei anadl olaf.}
 
(Mr Inskip) Trafaeliwr pop?
(1, 0) 905 le.
(1, 0) 906 Roedd e'n gwerthu ginger beer dros yr Hopkin Breweries...