Angel Pen Ffordd

Ciw-restr ar gyfer Charles

(Beti) Dyma'r bywyd yntê, Doris?
 
(Doris) Ia?
(2, 0) 312 Ia, be?
(Doris) {Ochenaid.}
 
(Doris) Ia, meistr?
(2, 0) 315 Dyna welliant.
(Doris) Be dach chi isio?
 
(Doris) Be dach chi isio?
(2, 0) 317 Am bedwar munud union oeddet ti fod i ferwi'r ŵy 'ma.
(Doris) Dyna wnes i.
 
(Doris) Dyna wnes i.
(2, 0) 319 Paid â deud celwydd.
(2, 0) 320 Mae'n amlwg i mi bod yr ŵy yma wedi bod yn y dŵr am beth bynnag bedwar munud a hanner.
(2, 0) 321 Dos â fo o 'ma a gwna un arall!
(Doris) O-ce.
 
(Beti) Be ga' i 'neud i chi, Charles?
(2, 0) 329 Mae yna ormod o lwch yn yr ystafell yma ac mae'r ffenestri angen eu glanhau.
(2, 0) 330 Chi sydd yn gyfrifol fod y gweision yn gwneud eu gwaith yn iawn a dach chi ddim yn gwneud eich job.
(Beti) Ond Charles...
 
(Beti) Ond Charles...
(2, 0) 332 Dwi ddim isio esgusion.
(2, 0) 333 Gewch chi fynd rŵan.
(Doris) Dim ond dwy funud mae o wedi bod!
 
(Doris) Dim ond dwy funud mae o wedi bod!
(2, 0) 337 Mae'r te yma yn oer.
(2, 0) 338 Cer i wneud peth ffres!
(Doris) Ar y ffordd allan gyda'r tebot a'i chefn at Charles.}
 
(Ben) Ia, syr?
(2, 0) 346 Mi fydda i isio'r car mewn hanner awr.
(Ben) Syr!
 
(Ben) {Yn mynd allan.}
(2, 0) 354 Helo David, sut ydach chi?
 
(2, 0) 356 Wrth gwrs mi wna' i ei ddarllen o'n syth.
(2, 0) 357 Wnewch chi anfon o yma?
 
(2, 0) 359 Diolch yn fawr.
(2, 0) 360 Hwyl.
(Ben) Syr!
 
(Ben) Syr!
(2, 0) 365 Mae yna adroddiad pwysig ar y ffordd.
(2, 0) 366 Tyrd â fo i mi yn syth pan y daw o.
(2, 0) 367 Mi ddyle fod yma mewn tua dau funud.
(Ben) Wrth gwrs, syr.
 
(Doris) Ydi hwnna'n well!
(2, 0) 373 Ymhell o fod yn berffaith ond mi wnaiff y tro.
(Doris) Taswn i yma am gan mlynedd wna' i byth blesio hwn.
 
(Ben) Newydd gyrraedd, meistr.
(2, 0) 382 Rargian fawr!
 
(2, 0) 384 Car mewn pum munud.
(Ben) Syr!
 
(Ben) {Ben yn mynd allan.}
(2, 0) 388 'Rydw i ar frys.
(2, 0) 389 Tyrd â fy sgidie du newydd i mi.
(Doris) Iawn.
 
(Doris) {Yn mynd allan.}
(2, 0) 393 Ewch i nôl fy nghôt fawr o'r llofft a dowch â thei hefyd.
(Beti) Wrth gwrs, Charles.
 
(Beti) Wrth gwrs, Charles.
(2, 0) 397 Rho nhw ar fy nhraed i.
(2, 0) 398 Rydw isio cario ymlaen i ddarllen.
(Doris) Be nesa!
 
(Doris) {Rhoi yr esgidiau am ei draed.}
(2, 0) 403 Rhowch y tei ymlaen.
 
(2, 0) 406 Dwi ddim yn gallu darllen, Beti.
(2, 0) 407 Mae'ch breichiau chi ymhob man.
(Beti) Sori, Charles.
 
(Doris) 'Dach chi ddim wedi gorffen eich ŵy meistr.
(2, 0) 414 Tyrd a fo yma 'ta.
 
(2, 0) 417 Fedri di ddim gweld, mae 'nwylo i yn llawn!
(2, 0) 418 Bwyda fi!
(Doris) Wel, agorwch eich ceg 'ta.
 
(2, 0) 424 Bowler!
(Beti) Pardwn.
 
(Beti) Pardwn.
(2, 0) 426 Yr het bowler.
(2, 0) 427 Estynnwch hi!
 
(2, 0) 430 Rhowch hi ar fy mhen.
(Ben) Car yn barod syr!
 
(Beti) Gwrandwch arna' i, Charles.
(2, 0) 505 Allan!
(Beti) Ond...
 
(Beti) Ond...
(2, 0) 507 Allan ddeudais i.
(2, 0) 508 Doris cliria'r bwrdd.
(Doris) {Wrthi ei hun.}
 
(2, 0) 514 Reit, cym on ferchaid.
(2, 0) 515 Mae yna ddigon o ystafelloedd eraill yn y tŷ.
(2, 0) 516 (Rhoi eu paneidiau yn eu dwylo a'u hebrwng at y drws.
(2, 0) 517 Beti yn dilyn)
 
(2, 0) 519 Rydw i yn disgwyl dau ffrind.
(2, 0) 520 Dwedwch wrth Doris am ddod â nhw i mewn yma yn syth.
(Beti) Wrth gwrs, Charles.
 
(Beti) Yn mynd allan.}
(2, 0) 526 Hylo, Seimon.
(2, 0) 527 Hylo, Emlyn.
(2, 0) 528 Dowch i eistedd.
 
(2, 0) 531 Diolch Doris.
 
(2, 0) 533 Rydan ni yn lwcus iawn o gael Doris.
(2, 0) 534 Halen y ddaear wyddoch chi.
(Doris) {Wrthi ei hun.}
 
(Doris) {Yn mynd allan.}
(2, 0) 538 Eisteddwch, gyfeillion.
(Emlyn) Diolch C.J.
 
(2, 0) 544 Diolch, gyfeillion.
(Emlyn) Be' ydi'r gyfrinach G.J.?
 
(Emlyn) Be' ydi'r gyfrinach G.J.?
(2, 0) 546 O, mi fuaswn i yn deud ─ bod yn garedig wrth bobol.
(Seimon) Mae hynny yn siŵr o fod yn wir.
 
(Seimon) Mae hynny yn siŵr o fod yn wir.
(2, 0) 548 Reit gyfeillion, beth am drafod busnes.
(Emlyn) Rydan ni yn gwrando C.J.
 
(2, 0) 551 Dyma blan o'r gwesty newydd, Bryn Awelon, fydd yn cael ei adeiladu y flwyddyn nesaf ar gyrion y dref.
(Seimon) Mae o'n edrych yn broject go fawr C.J.
 
(Seimon) Mae o'n edrych yn broject go fawr C.J.
(2, 0) 553 Tua miliwn a hanner.
(Emlyn) 'Rargian fawr!
 
(Emlyn) Mi fydd eich ffî chi am y cynllun yma yn un sylweddol.
(2, 0) 556 Wel, mae'n rhaid iddyn nhw dalu am y gorau.
(Seimon) Rhaid yn wir.
 
(Emlyn) Fedrwn ni gyfrannu i lwyddiant y fenter C.J.?
(2, 0) 559 Wrth gwrs, wrth gwrs.
(2, 0) 560 Dyna pam fy mod i wedi eich gwadd chi yma heddiw.
(2, 0) 561 Dach chi'n gwerthu dodrefn da, Emlyn, a chitha garpedi gwych, Seimon.
(Seimon) Oes posib rhoi gair i mewn drosom ni?
 
(Seimon) Oes posib rhoi gair i mewn drosom ni?
(2, 0) 563 Wrth gwrs, ond mae yna un broblem bach.
(Emlyn) Be ydi honno C.J.?
 
(Emlyn) Be ydi honno C.J.?
(2, 0) 565 Meddwl bod hi'n bryd i ni feddwl am newid y dodrefn a'r carpedi yn yr hen dŷ yma.
(Seimon) Say no more C.J.
 
(Emlyn) Ie, wir.
(2, 0) 568 Rydw i'n falch ein bod yn deall ein gilydd ffrindiau.
(2, 0) 569 Rŵan, rwy'n cynnig ein bod yn cael ychydig o fy ngwin cartref i ddathlu,
 
(2, 0) 571 Rydw i wedi cael hwyl ar wneud hwn.
(2, 0) 572 Fy un gorau i ers talwm.
(Pawb) I Bryn Awelon.
 
(Pawb) I Bryn Awelon.
(2, 0) 575 'Dych chi ddim wedi cyfarfod y wraig yn naddo?
(2, 0) 576 Mi af i'w nôl hi, mi fydd wrth ei bodd eich cyfarfod chi.
 
(Seimon) Syniad da.
(2, 0) 585 Rwyf am i chi gyfarfod dau gyfaill i mi, cariad.
(2, 0) 586 Gyfeillion, dyma fy annwyl wraig, Beti.
(2, 0) 587 Beti, dyma Emlyn Prytherch a Seimon Pyrs.
(Beti) {Yn ddi-wên.}
 
(Beti) Falch o'ch cyfarfod chi.
(2, 0) 590 Mae Beti a fi wedi bod yn briod ers ugain mlynedd.
(2, 0) 591 Pob un ohonyn nhw y tu hwnt o hapus.
(2, 0) 592 Yntê, cariad?
(Beti) {Heb wenu.}
 
(Beti) Ia, Charles.
(2, 0) 595 Gyfeillion, mae'ch gwydrau chi'n wag.
(2, 0) 596 Rhaid i chi gael mwy.
(Emlyn) Na, dim diolch C.J.
 
(Seimon) Rhaid ini fynd.
(2, 0) 599 Twt lol, mae gennych chi ddigon o amser am wydriad bach arall.
 
(Beti) Dach chi'n meddwl?
(2, 0) 604 Wel, lawr â fo gyfeillion.
(2, 0) 605 Fe awn ni rŵan i weld perchennog y gwesty.
(Emlyn) Iawn C.J.
 
(Emlyn) Iawn C.J.
(2, 0) 608 Gyfeillion, rwy'n synnu atoch chi.
(2, 0) 609 Mae yna lot o win ar ôl yn eich gwydrau.
(2, 0) 610 Dewch rŵan, dach chi ddim yn mynd i wastraffu gwin da!
(Seimon) Wel mi rydan ni ar fai C.J.
 
(Seimon) Campus ydi'r unig air amdano fo.
(2, 0) 616 Dewch gyfeillion.
 
(2, 0) 618 Gwelaf chi yn hwyrach, siwgwr.
(Doris) Mae'r merchaid newydd fynd gyda Dei.
 
(Doris) Ar ôl iddo fo setlo, mi gaiff meistres ddod i mewn ato fo.
(2, 0) 709 Lle gebyst mae pawb?
 
(2, 0) 711 Lle mae'r merchaid 'ma?
(Beti) Charles, rydan ni...
 
(Doris) Mae rhywun yn dod.
(2, 0) 757 A dyma be mae fy ngweision i yn wneud pan rydw i'n troi fy nghefn.
(2, 0) 758 Talu cyflogau uchel iddyn nhw gael chwarae mig.
(Doris) Hy, be ydi cyflog?
 
(Doris) Hy, be ydi cyflog?
(2, 0) 760 Paid ti â meiddio fy ateb i yn ôl.
(Ben) Sori syr.
 
(Ben) Wnawn ni byth eto.
(2, 0) 763 A lle mae fy ngwraig i wedi mynd?
(2, 0) 764 Rydw i isio gair ymhellach gyda hi.
(2, 0) 765 Mae isio dysgu gwers iddi.
(Ben) Newydd fynd allan meistr.
 
(Ben) Newydd fynd allan meistr.
(2, 0) 767 Pan ddaw hi'n ôl, dwedwch wrthi fy mod isio ei gweld hi yn syth.
(Ben) Gwnawn wrth gwrs, syr.
 
(2, 0) 833 Beti, Doris, Ben.
(2, 0) 834 Sut ydych chi erbyn hyn?
(Doris) {Wrth Beti a Ben.}
 
(Doris) Fasach chi'n meddwl nad ydi o ddim wedi'n gweld ni ers chwe mis.
(2, 0) 837 Mae'n rhaid i mi ddeud fy mod i'n teimlo mewn mwd caredig iawn heddiw.
(Doris) Tro cynta ers naintin-sicsti!
 
(Doris) Tro cynta ers naintin-sicsti!
(2, 0) 839 Er fy mod i yn cael fy ngadael i lawr gennych mor aml, dw i ddim yn un am ddal dig am amser hir.
(2, 0) 840 Na, fel mae Mr Davies y Gweinidog yn ei ddweud, rhaid maddau yn yr hen fyd 'ma.
(2, 0) 841 Felly dyma anrhegion i chi'ch tri.
(2, 0) 842 I chi, Beti ─ côt ffyr.
(2, 0) 843 I ti, Doris ─ cyflog tri mis a bonws o gan punt.
(2, 0) 844 Ac i tithau, Ben ─ bonws o gan punt a watsh aur.
(Doris) Ew, dw i ddim wedi cael gymaint o arian ers talwm.
 
(Beti) Well ini fynd i newid yn sydyn.
(2, 0) 850 Ardderchog.
(2, 0) 851 Mi ddo' i gyda chi.