Dwy Briodas Ann

Ciw-restr ar gyfer Elias

(Lowri) Mae Syr John wedi gorffen cinio.
 
(Syr John) Pnawn da.
(1, 0) 268 Pnawn da, Syr John.
(Syr John) Be alla i ei wneud i chi?
 
(Syr John) Be alla i ei wneud i chi?
(1, 0) 270 Mi fuoch chi'n gapten yn llynges ei Fawrhydi yn y rhyfel enbyd yma, Syr John?
 
(1, 0) 272 A'ch dyrchafu'n farchog i goroni'ch gyrfa enwog...
 
(1, 0) 274 Mi fuoch chi hefyd yn Uchel Sirif sir Fôn.
 
(1, 0) 276 Dyna'r pam y mentrais i ofyn am eich gweld chi, Syr John.
(1, 0) 277 Mi wyddoch chi'n well na nemor neb am beryglon y môr a helynt llongwyr ynys Môn yn y rhyfel, yn arbennig y llongau masnach y mae llongau rhyfel Napoleon yn eu herlid a'u dal.
(Syr John) Mae brwydr Traffalgar y llynedd wedi gostwng llawer ar y peryglon hynny.
 
(Syr John) Mae brwydr Traffalgar y llynedd wedi gostwng llawer ar y peryglon hynny.
(1, 0) 279 Do'n wir, Syr John, ac i chi'r capteiniaid a'r Arglwydd Nelson dan ragluniaeth y nef y mae'r diolch.
(1, 0) 280 Roedd y tâl yn ddrud hefyd, colli'r fath lyngesydd ar union awr y fuddugoliaeth.
(1, 0) 281 Ond y mae ambell long ryfel o Ffrainc yn ffroeni o gwmpas moroedd Cymru hyd yn oed rwan.
(Syr John) Ac weithiau'n dal ysglyfaeth.
 
(Syr John) Fel yna, welwch chi, mae capteiniaid llynges yn ennill eu bara.
(1, 0) 284 A'u hysglyfaeth yn dihoeni yng ngharcharau Ffrainc.
(Syr John) Mae'n drueni amdanyn nhw, ond rhyfel ydy rhyfel.
 
(Syr John) Mae'n drueni amdanyn nhw, ond rhyfel ydy rhyfel.
(1, 0) 286 Mae nifer ohonyn nhw'n Gymry, Syr John.
(Syr John) Oes rhai o Sir Fôn yma?
 
(Syr John) Oes rhai o Sir Fôn yma?
(1, 0) 288 Un o Amlwch, Capten Thomas Owen, perchennog ei long ei hun.
(1, 0) 289 Roedd o'n un o bum llong yn hwylio gyda llwyth o Amlwch i Lundain, ac un o'n llongau rhyfel ni yn eu hebrwng nhw.
(1, 0) 290 Ond tua thrwyn Cernyw mi drodd y llong ryfel yn ôl a'u gadael nhw heb warchod.
(1, 0) 291 Daeth llong ryfel o Brest ar eu gwartha nhw.
(1, 0) 292 Doedd dim amdani ond gwasgar.
(1, 0) 293 Fe ddaliwyd yr Elinor, llong Thomas Owen, ac y mae yntau rwan mewn carchar yn Verdun yn Ffrainc.
(1, 0) 294 Nid fo'n unig, ond amryw Gymry eraill, capteiniaid llongau o Fôn ac Arfon...
(1, 0) 295 Syr John, casglu cronfa i helpu'r Cymry hyn yn Ffrainc i brynu bwyd a chysuron yr ydw innau, a dwad yma i ofyn i chi helpu ydy fy neges i.
(Syr John) Ydach chi'n nabod rhai ohonyn nhw?
 
(Syr John) Ydach chi'n nabod rhai ohonyn nhw?
(1, 0) 297 Rydw i'n nabod Capten Thomas Owen yn dda.
(1, 0) 298 Mi fu o am dymor yn Fethodist, ond fe wrthgiliodd.
(Syr John) A chithau'n casglu iddo fo?
 
(Syr John) A chithau'n casglu iddo fo?
(1, 0) 300 Mae'n o'n Gymro ac mewn angen.
(Syr John) I'r Cymry rydych chi'n casglu?
 
(Syr John) I'r Cymry rydych chi'n casglu?
(1, 0) 302 I'r carcharorion rhyfel yn Ffrainc o Fôn ac Arfon a Meirionnydd.
(1, 0) 303 Rydan ni wedi anfon hanner can punt atyn nhw eisoes, ond mae gofyn am chwaneg.
(1, 0) 304 Maen nhw'n crefu'n daer.
(Syr John) Oes gennych chi rywbeth i ddangos iddyn nhw dderbyn yr arian?
 
(1, 0) 307 Dyma i chi ddogfennau o Lundain a Pharis yn cydnabod derbyn ac yn gofyn am chwaneg.
(Syr John) {Yn darllen.}
 
(1, 0) 313 Eich ufudd was.
(1, 0) 314 Anodd i bobl yn Ffrainc ddychmygu am neb llai na marchog sir yn estyn cymorth i drueiniaid rhyfel.
(Syr John) Yn wir, rydach chi'n rhoi golwg newydd i minna ar y Methodistiaid.
 
(Syr John) Peth anghyffredin yn eich hanes chi?
(1, 0) 317 Syr John, mae gennym ni Fethodistiaid esgob o lywydd i Ogledd Cymru yn y Parchedig Mr.
(1, 0) 318 Thomas Charles o'r Bala.
(1, 0) 319 Fo sy'n ein dysgu ni i anrhydeddu'r brenin ac ufuddhau i'r llywodraeth.
(1, 0) 320 Y mae casglu i'r capteiniaid o Gymry yn Ffrainc ac i Gymdeithas y Beiblau drwy'r byd yn rhan o'n dyletswydd ni yn ôl Epistol Pedr ac yn ôl athrawiaeth Mr. Charles.
(Syr John) Wel, mi gaiff fod yn rhan o 'nyletswydd inne, er nad ydw i ddim yn Fethodist.
 
(Syr John) Mi ro i ddau gini i chi at yr achos da.
(1, 0) 323 Bendith y nefoedd arnoch chi, syr, ac ar─roeddwn i ar fin dweud ac ar eich teulu.
(1, 0) 324 Ond gŵr dibriod ydach chi.
(Syr John) Wel ie, hyd yn hyn, hyd yn hyn...
 
(Syr John) Rydach chi, yn ôl a glywaf i, yn fab yng nghyfraith iddo fo?
(1, 0) 328 Mi gefais i'r anrhydedd o ennill llaw ei ferch hynaf o.
(1, 0) 329 Ond nid o fodd Mr. Broadhead, mae'n ddrwg gen i ddeud.
(Syr John) Mae hynny'n naturiol.
 
(Syr John) Mae priodi'n is na'i stad yn beryg go enbyd, yn enwedig i ferch.
(1, 0) 332 Mi wn ei fod o'n berigl ac yn dramgwydd.
(1, 0) 333 Ond chlywais i erioed awgrym o hynny gan fy ngwraig.
(Syr John) Mi ddalia i naddo.
 
(Syr John) Rydw i'n ei chofio hi'n eneth fach, yr hyna ohonyn nhw, ffefryn annwyl ei thad, merch fonheddig a gwraig fonheddig.
(1, 0) 336 Gwraig dduwiol.
(Syr John) Aha?
 
(Syr John) Chi wnaeth Fethodist ohoni?
(1, 0) 339 Roedd hi'n Fethodist cyn i mi ei gweld hi.
(Syr John) Felly nid ei phriodas oedd achos y rhwyg rhyngddi a'i thad?
 
(Syr John) Felly nid ei phriodas oedd achos y rhwyg rhyngddi a'i thad?
(1, 0) 341 Ei chrefydd hi oedd cychwyn y trwbl, mynd i'r seiat.
(Syr John) Dewis cwmni isel, gwerinol.
 
(Syr John) Hynny yw, yn ei gylch ei hun.
(1, 0) 347 Mae o'n dechrau maddau iddi hi.
(Syr John) Ac i chithau?
 
(Syr John) Wedi'r cwbl, mae ganddo fab yng nghyfraith reit enwog.
(1, 0) 350 Wel, mae o'n cyfrannu at y gronfa yma i helpu'r Cymry yn Ffrainc.
(Syr John) Rydach chi'n swynwr heb eich bath.
 
(Syr John) Mi ddalia i mai yn y pwlpud y gwelodd Miss Broadhead chi gynta?
(1, 0) 353 Pregethu ydy fy ngwaith i, fy mywyd i.
(1, 0) 354 I hynny y'm galwyd i.
(1, 0) 355 Mi welodd hithau hynny.
(Syr John) Mae pwlpud yn berig i ferch!
 
(Syr John) Mae pwlpud yn berig i ferch!
(1, 0) 357 Tybed nad ydy plas hen lanc yn berig i ferch?
(Syr John) Wel ie, digon posib.
 
(Syr John) Ond fu 'na rioed ferch a briododd y pwlpud a'r plas.
(1, 0) 360 Gadael y plas i weini ar y pwlpud, dyna offrwm fy ngwraig i.
(Syr John) Offrwm?
 
(Syr John) Dwedwch i mi, a gobeithio nad ydy'r cwestiwn ddim yn rhy bersonol... gawsoch chi fod priodi mor anghyfartal o ran dosbarth a dygiad i fyny, yn anodd?
(1, 0) 364 Syr John, os ydy'r briodas o'r ddwy ochr o wirfodd─
(Syr John) Ie?
 
(Syr John) Ie?
(1, 0) 366 Yna does dim priodi anghyfartal.
(Syr John) {Gan groesi ato a chymryd ei law yn wresog.}
 
(Syr John) Faint ddwedais i y rhown i i'r gronfa yma?
(1, 0) 375 Dau gini, yntê?