Llwybrau Anrhydedd

Ciw-restr ar gyfer John

 
(1, 0) 7 Byt gaws, bachan, i ti gael dyfod yn gryf i weithio.
(1, 0) 8 'Does dim gwell Ann ni yn Nyffryn Tywi i weithio caws, nas cyffrai.
(1, 0) 9 Y mae'n un dda.
(Wil) {Yn codi oddiwrth y bwrdd yn ymestyn, ac yn rhoddi ochenaid, ac yn siarad ag ychydig lediaith.}
 
(Wil) Thankyou, fi wedi cael dicon yn awr; fi wedi byta da iawn.
(1, 0) 12 O'r gore.
(1, 0) 13 Cer nawr i roddi bwyd i'r anifeiliaid, da machan i.
(Ann) Yn wir, mishtir bach, mae yr hen grwt yna wedi mynd yn rhyfedd iawn oddiar pan ych chwi a finne wedi dechre caru.
 
(1, 0) 18 Lycoch chi nawr.
(1, 0) 19 Pe byddai Wil Sais Bach mor brysur ac mor ofalus efo'i waith ac ydyw e efo'n caru ni, fe fyddai yn hogyn da ofnatsan.
(1, 0) 20 Ond i newid yr ymadrodd, ys dywed y pregethwr, y mae yn ddealledig bellach dy fod di a minnau i ymuno mewn glân briodas.
(1, 0) 21 Yr wyt wedi bod yn forwyn dda a gofalus, ac yr wyf yn gwbl gredu y gwnei di wraig dda hefyd.
(Ann) Eithaf da, mishtir bach, ond dwyf fi ddim am i chi gredu mai dim ond gyda chwi yr wyf wedi cael cynnyg priodi hefyd.
 
(1, 0) 24 Lycoch chi nawr.
(1, 0) 25 Rhai budr i chi y merched am ddangos eich independancy, ac yr ydych yn leicio cael eich coaxio yn ofnatsan.
(Ann) Ie, ond yn siwr i chwi, ces i gynnyg pum mlynedd yn ol ar John, Tynyfron.
 
(1, 0) 30 Ie, lycoch chi nawr.
(Ann) Ac own ni yn mynd i weyd ta chi yn gadael llony i fi, ces i gynnyg hefyd ar William, gwas Ty'r-ddol.
 
(Ann) Fe wariodd swlltau yn ffair G'langaea ar ffeirins i mi, ac mi dalodd am ride i mi ar y ceffylau bach hefyd, a mae bob nos Sul am fy hebrwng i adre o'r cwrdd.
(1, 0) 33 Lycoch chi nawr, wyt ti yn cael hwyl ar siarad heddyw, Ann, ond yr wyt wedi bod yn forwyn dda a gofalus i mi am bymtheg mlynedd, ac y mae ychydig o'th gyflogau, fel y gwyddost, yn aros heb eu talu o hyd.
(1, 0) 34 Does gen i, wyt ti'n gweld, ddim ffashwn beth a thalent at garu fel sydd gan rai bechgyn, ond y mae yn hen bryd i ni ddod i'r penderfyniad bellach i fyw er gwell neu er gwaeth fel gwr a gwraig yn y Tyddyn Llwyd.
(Ann) O'r gore, mishtir bach, yr wyf yn eithaf boddlon, ond rhaid i mi gael amser i baratoi fy |nhress| briodas.
 
(Ann) Fe briododd Mary, morwyn Plas-bach yn ei hen |ddress|, a mawr fu y siarad yn y pentre am hynny, ac y maent yn edrych i lawr ar Mary byth oddiar hynny.
(1, 0) 38 Lycot ti nawr.
(1, 0) 39 Creaduriaid garw i chi y merched yma am eich gwisgoedd.
(1, 0) 40 Byth nas cyffra i, mae |dress| y briodas yn fwy pwysig yng ngolwg llawer merch na'r dyn y mae yn briodi; ond o'r goreu, cymer di dy amser fy ngeneth i, i gael dy |ddress|,' ac fe gadwn ni y mater yn |secret| hyd yr awr apwyntiedig.
(Ann) Ia'n wir, charwn ni ddim i deulu clonc y pentre ddwad i wybod.
 
(Ann) Y maent yn estyn at un stori, ac yn tynnu oddiwrth stori arall, ac nid yw y stori yn agos yr un fath wedi iddi fyned trwy ddwylaw a thafodau teulu y glonc.
(1, 0) 44 Lycot ti, nas cyffra i.
(1, 0) 45 Creaduriaid budr am siarad yw y menywod yma.
(1, 0) 46 Roedd Deio y Saer yn dweyd yn wastad mai y rheswm na fuasai |moustache| yn tyfu ar ên menyw fel y mae ar ên gwryw, nad ydyw gên menyw ddim yn llonydd yn ddigon hir i |moustache| i dyfu arni, ond cloncian neu beidio, y mae yn rhaid i ni eich cael chwi.
(1, 0) 47 Os ydi menyw dipyn yn anhawdd byw efo hi, y mae yn anhawddach byth byw hebddi.
(Postman) {Yn dyfod i mewn gyda phac o lythyrau ac yn rhoddi llythyr ag ymyl ddu i JOHN JONES.}
 
(Postman) Gobeithio nad oes ynddo newydd drwg, ond dyna fel y mae yr hen Bostman i chwi, cario hyd y byd newyddion da a drwg.
(1, 0) 57 Lycoch chi.
(1, 0) 58 Llythyr oddiwrth, neu ynghylch Wil fy mrawd sydd yn yr America.
(1, 0) 59 Druan o Wil.
 
(1, 0) 61 Lycoch chi, peidiwch a chredu fy mod i yn |bad sort|, postman.
 
(1, 0) 63 Lycot ti, Ann.
(1, 0) 64 Cer i mofyn Morris y sgwlyn i ddarllen y llythyr.
(Ann) {Ar ol esgus trwsio tipyn yn rhedeg yn ei chloes.}
 
(1, 0) 68 Beth tybed ydyw'r newydd?
(1, 0) 69 Llawer o bethau sydd yn fy mlino yn awr.
(1, 0) 70 Llawer i gosfa dialedd roddais i i Wil pan oeddem yn blant.
(1, 0) 71 A helynt garw y bu hi ynghylch ewyllys nhad.
(1, 0) 72 Y ffaith am dani, yr oedd Wil yn fachan mor fawr, ac am berchenogi y cwbl.
(1, 0) 73 Ond er mwyn dangos i'r gwalch pwy oedd drech, fe gafodd fyned o'r Tyddyn Llwyd heb ond ychydig yn ei logell.
(1, 0) 74 Ond beth dâl whalu yn awr.
(1, 0) 75 Garw mor hir y mae Morris cyn dod.
(1, 0) 76 Garw y fath anfantais ydyw peidio cael ysgol.
(1, 0) 77 Gallaf fi wneud yn lled dda i gowntio pris y menyn a'r wyau, a gallaf ddarllen ychydig adnodau o'r hen Lyfr yna, ond garw mor lleied y gallaf wneud o lythyr; ond dyma nhw yn dod.
(1, 0) 78 Beth tybed yw y newydd.
(1, 0) 79 Y mae fy nghalon yn curo fel ffustau machine dyrnu pan fo Darby a Bess wrth y |power|.
(Morris) {Dyn tua hanner cant oed, bywiog ei ysbryd, ysgolheigaidd ei olwg, ond yn ymddangos fel un wedi gweled amser gwell.}
 
(Morris) Gobeithio nad oes ynddo |bad news|.
(1, 0) 84 Lycoch chi, dymafe.
(1, 0) 85 A welsoch chi erioed ffasiwn beth, fedra i ddim gwneud na phen na chynffon ohono fo,
(Morris) {Yn gosod eye-glasses ar ei lygaid, ac yn darllen.}
 
(Morris) Daeth o hyd i wythien o aur."
(1, 0) 93 Lycoch chi nawr, |well done| Wil fy mrawd.
(1, 0) 94 Ile, un da oedd Wil erioed am gael gafael mewn rhywbeth.
(1, 0) 95 Rwy'n cofio colli dafad un tro, pan oeddym yn blant, ac yr oeddym yn suspecto fod yna leidr wedi bod yn y lle.
(1, 0) 96 Ond mi gafodd Wil ei |drack| e, a ble 'rych chwi yn meddwl ca'dd Wil afael yn y ddafad? a mi 'nabyddodd hi hefyd—ond yng nghrochan cawl Dai Shams Puw.
(1, 0) 97 Ie, ewch ymlaen, Morris.
(1, 0) 98 Gwythien o aur─
(Ann) {Yn dawnsio gan lawenydd, ac yn cwro ei dwylaw.}
 
(Ann) Ie, gwythien o aur, a finne yn gweithio blwyddyn gyfan am ddeuddeg punt, ac y mae ychydig o fy nghyflogau yn aros heb eu talu o hyd.
(1, 0) 101 Ewch ymlaen, Morris, gwythien o aur─
(Ann) {Yn chwerthin gan lawenydd.}
 
(Morris) "Heblaw y swm anferth o aur cafodd hefyd ffynhonnau o olew, a llawer iawn o nwy (gas) tra gwerthfawr; fel trwy y cyfan gwnaeth eich brawd William Jones, mewn oes gymharol fer, y swm anferth o dri chan mil o ddoleri, yn ol arian y wlad hon, yn ol arian eich gwlad chwi byddant yn rhyw driugain mil o bunnau."
(1, 0) 105 Triugain mil o bynnau, nas cyffra i—dyna waith da!
(Ann) Ma digon o'u heisiau nhw arnoch chi, mishtir bach.
 
(Ann) Wedi i Pinken farw 'doedd gennych chwi ddim arian i gael buwch yn ei lle hi, a phe buaswn ni yn gwasgu am fy nhipyn cyflogau.
(1, 0) 108 Ewch ymlaen, Morris, wr glân, peidiwch a gwrando ar Ann.
(1, 0) 109 Garw y fath ddiddordeb y mae yn gymryd yn arian pobl eraill.
(Ann) Arian pobl eraill yn wir, a minnau yn mynd─
 
(1, 0) 112 Ewch ymlaen, Morris.
(Morris) {Yn darllen ymlaen.}
 
(1, 0) 120 Lycoch chi nawr.
(1, 0) 121 Ddim mor gyfoethog a Holeford y Dderi.
(Morris) Lawer mwy cyfoethog.
 
(Morris) Lawer cyfoethocach.
(1, 0) 125 Hwre.
(1, 0) 126 Lycoch chi nawr.
(1, 0) 127 Dyma fachan fydd yn torri sgwars.
(Ann) {Yn clapio ei dwylaw.}
 
(Ann) hwre!
(1, 0) 131 Peidiwch a gwneud sylw o Ann, Mr. Morris.
(1, 0) 132 Y mae wedi cael rhyw chwilen yn ei phen heddi eto.
(Morris) Quite so.
 
(1, 0) 140 Lycoch chi nawr.
(Ann) Chware teg i mishtir.
 
(Morris) Ond fe fydd John Jones, coeliwch chwi fi, yn eistedd yn y set fawr yn Salem cyn bo chwech mis arall wedi mynd heibio.
(1, 0) 148 Lycoch chi nawr—yn y set fawr yn Salem yn ochor Jones y Gelli.
(Morris) Quite so, ac nid yw hynny ond dechreu—
 
(1, 0) 152 Ie, lycoch chi nawr.
(Morris) Ac ymhellach, fe ellwch brynu llaw a chalon y ferch lanaf yn nyffryn Tywi am drigain mil o bunnau, a'i chael yn wraig yn y Tyddyn Llwyd,
 
(Ann) Ychydig o gysur gaiff e gyda hi.
(1, 0) 158 Lycoch chi, peidiwch a gwneud sylw o Ann, Mr. Morris, y mae ei thafod yn hir ar brydiau.
(Morris) Quite so.
 
(Morris) Byw a thorri |stroke| nes bo Jones y Gelli a Holeford y Dderi yn mynd na fydd dim son am danynt, a chyda y fath swm o gyfoeth fe allwch yn hawdd wneud hynny.
(1, 0) 166 Nas cyffra i.
(1, 0) 167 Lycoch chi nawr.
(1, 0) 168 Does dim a garem yn fwy na byw fel Holeford y Dderi a Jones y Gelli, oherwydd y maent yn cael eu hanner addoli am eu cyfoeth, a pham nad allaf finnau.
(1, 0) 169 Ond y gwir ag e, Morris, yr wyf dipyn yn anllythrennog.
(1, 0) 170 Yr wyf yn gallu gwerthu moch yn Llandilo, a menyn ym Mrynaman, ond nas cyffra i, wn i ddim o'r ffordd i weithredu yn y cylch y mae Holeford a Jones yn troi ynddo.
(Morris) O, y mae yn rhaid i chwi gael |Private Secretary|, Mr. Jones, a does dim a rydd mwy o bleser i mi na'ch gwasanaethu fel y cyfryw.
 
(Morris) Mi a'ch cynorthwyaf i dorri y fath |stroke| nes synnu gwlad gyfan, a'ch gwneuthur yn deilwng o'ch safle fel y gwr bonheddig pennaf fagwyd erioed wrth droed y Mynydd Du.
(1, 0) 175 Lycoch chi, nawr.
(1, 0) 176 Bachan helyg wyt ti, Morris.
(1, 0) 177 Dyna setlo y peth.
(1, 0) 178 Rho dy law.
(1, 0) 179 Fi gwr bonheddig mawr a tithau yn |Private Secretary|.
(Morris) Quite so.
 
(1, 0) 185 Lycoch chi nawr.
(Morris) Ond y mae yn rhaid i chwi wrth lawer iawn o gyfnewidiadau, Syr.
 
(Morris) Y mae |motor car| yn anhepgorol angenrheidiol i wneud gwr bonheddig.
(1, 0) 198 Lycoch chi nawr, pwy fydd yn drifo rhyw greadur fel hynny.
(1, 0) 199 Alla i ddrifo Darby a'r cart am y goreu ag undyn, ond, nas cyffra i, wn i ddim y ffordd i ddrifo rhyw greadur fel yna, na wrandawa fe ddim ar "Gee," a "Come here," a "Woa."
(Morris) Fe wna Wil Sais Bach y tro fel |chaffeur|.
 
(Morris) Y mae yn rhaid i chwi osod hwnna o'r neilltu, ac os bydd rhaid i chwi gael rhyw |slang word|, wel, dywedwch "|Snakes and Fiddlesticks|," y mae yn gweddu yn well i wr bonheddig.
(1, 0) 209 Lycoch chi nawr.
(1, 0) 210 Snakes and Fiddlesticks.
(1, 0) 211 Bachan helyg wyt ti, Morris, hefyd.
(Morris) Fe gawn ni weld ymhellach eto ynghylch hyn Syr.
 
(Morris) Gwell i ni fynd yn awr i ordro y dillad a'r |motor|, ac efallai i gael dropin bach ym mharlwr y Red Lion i ddathlu yr amgylchiad ac i yfed llongyfarchiadau i John Jones Esquire, a'r trigain mil.
(1, 0) 215 Lycot ti nawr.
(1, 0) 216 Snakes and Fiddlesticks.