a1

Llwybrau Anrhydedd (1917)

David Derwenydd Morgan

Out of copyright. This version Ⓒ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1


Golygfa: Cegin gyffredin ty fferm, ychydig o hen luniau, ac almanac meu ddau ar y mwriau. Bord fach gron ar y llawr, a llestri bwyd arni.

JOHN JONES, yn ei ddillad-bob-dydd, yn gyffredin ei olwg, yn disgwyl fel pe heb ymolch na dadrys ei wallt er ys tro, yn eistedd wrth y bwrdd, ac yn gorffen ei foreu-bryd.

ANN. Hon eto yn ei dillad-bob-dydd, yn gyffredin ei golwg, ac yn ymddangos fel pe yn brysur efo rhywbeth ar y bwrdd.

John

Byt gaws, bachan, i ti gael dyfod yn gryf i weithio. 'Does dim gwell Ann ni yn Nyffryn Tywi i weithio caws, nas cyffrai. Y mae'n un dda.

Wil

(Yn codi oddiwrth y bwrdd yn ymestyn, ac yn rhoddi ochenaid, ac yn siarad ag ychydig lediaith.) Thankyou, fi wedi cael dicon yn awr; fi wedi byta da iawn.

John

O'r gore. Cer nawr i roddi bwyd i'r anifeiliaid, da machan i.



Wir yn gafaelyd yn ei gap ac yn mynd, ond yn edrych yn ol tan wenu ar y ddau, fel pe yn credu fod yna ryw garwriaeth rhyngddynt.

Ann

Yn wir, mishtir bach, mae yr hen grwt yna wedi mynd yn rhyfedd iawn oddiar pan ych chwi a finne wedi dechre caru. Chawn ni ddim siarad gair â'n gilydd na fydd e yn treial watcho a gwrando o hyd, fel pe byddai ein caru ni yn rhyw fater pwysig iawn iddo ef.

John

(Yn rhwbio ei ddwylaw.) Lycoch chi nawr. Pe byddai Wil Sais Bach mor brysur ac mor ofalus efo'i waith ac ydyw e efo'n caru ni, fe fyddai yn hogyn da ofnatsan. Ond i newid yr ymadrodd, ys dywed y pregethwr, y mae yn ddealledig bellach dy fod di a minnau i ymuno mewn glân briodas. Yr wyt wedi bod yn forwyn dda a gofalus, ac yr wyf yn gwbl gredu y gwnei di wraig dda hefyd.

Ann

Eithaf da, mishtir bach, ond dwyf fi ddim am i chi gredu mai dim ond gyda chwi yr wyf wedi cael cynnyg priodi hefyd.

John

(Yn rhwbio ei ddwylaw.) Lycoch chi nawr. Rhai budr i chi y merched am ddangos eich independancy, ac yr ydych yn leicio cael eich coaxio yn ofnatsan.

Ann

Ie, ond yn siwr i chwi, ces i gynnyg pum mlynedd yn ol ar John, Tynyfron. Gwidwar yw John, mae yn wir, ac nid yw yn un o'r rhai glanaf, ond y mae yn berchen ar ei le bach ei hunan, ac y mae grân ar bethau yn Tynyfron. Y mae yn well i ferch i gael dyn â thipyn o arian ganddo a thipyn o brofiad mewn bywyd na chael rhyw hogyn pen-chwiban nad oes ganddo dim synnwyr yn ei ben, na gras yn ei galon, na cheiniog o arian yn ei logell.

John

(Yn esgus cydio ym mraich Ann.) Ie, lycoch chi nawr.

Ann

Ac own ni yn mynd i weyd ta chi yn gadael llony i fi, ces i gynnyg hefyd ar William, gwas Ty'r-ddol. Fe wariodd swlltau yn ffair G'langaea ar ffeirins i mi, ac mi dalodd am ride i mi ar y ceffylau bach hefyd, a mae bob nos Sul am fy hebrwng i adre o'r cwrdd.

John

Lycoch chi nawr, wyt ti yn cael hwyl ar siarad heddyw, Ann, ond yr wyt wedi bod yn forwyn dda a gofalus i mi am bymtheg mlynedd, ac y mae ychydig o'th gyflogau, fel y gwyddost, yn aros heb eu talu o hyd. Does gen i, wyt ti'n gweld, ddim ffashwn beth a thalent at garu fel sydd gan rai bechgyn, ond y mae yn hen bryd i ni ddod i'r penderfyniad bellach i fyw er gwell neu er gwaeth fel gwr a gwraig yn y Tyddyn Llwyd.

Ann

O'r gore, mishtir bach, yr wyf yn eithaf boddlon, ond rhaid i mi gael amser i baratoi fy nhress briodas. Yr wyf am gael un newydd spon. Fe briododd Mary, morwyn Plas-bach yn ei hen ddress, a mawr fu y siarad yn y pentre am hynny, ac y maent yn edrych i lawr ar Mary byth oddiar hynny.

John

Lycot ti nawr. Creaduriaid garw i chi y merched yma am eich gwisgoedd. Byth nas cyffra i, mae dress y briodas yn fwy pwysig yng ngolwg llawer merch na'r dyn y mae yn briodi; ond o'r goreu, cymer di dy amser fy ngeneth i, i gael dy ddress,' ac fe gadwn ni y mater yn secret hyd yr awr apwyntiedig.

Ann

Ia'n wir, charwn ni ddim i deulu clonc y pentre ddwad i wybod. Wa'th chi wyddoch, mishtir bach, fel y ma nhw yn siarad am bob peth. Y maent yn estyn at un stori, ac yn tynnu oddiwrth stori arall, ac nid yw y stori yn agos yr un fath wedi iddi fyned trwy ddwylaw a thafodau teulu y glonc.

John

Lycot ti, nas cyffra i. Creaduriaid budr am siarad yw y menywod yma. Roedd Deio y Saer yn dweyd yn wastad mai y rheswm na fuasai moustache yn tyfu ar ên menyw fel y mae ar ên gwryw, nad ydyw gên menyw ddim yn llonydd yn ddigon hir i moustache i dyfu arni, ond cloncian neu beidio, y mae yn rhaid i ni eich cael chwi. Os ydi menyw dipyn yn anhawdd byw efo hi, y mae yn anhawddach byth byw hebddi.



Gall JOHN JONES osod ei law ar ysgwydd ANN. Cnoc wrth y drws. Y ddau yn gwylltio. ANN yn myned i'r drws.

Postman

(Yn dyfod i mewn gyda phac o lythyrau ac yn rhoddi llythyr ag ymyl ddu i JOHN JONES.) Bore da, John Jones. Bore da, Ann. Llythyr ag ymyl ddu. Gobeithio nad oes ynddo newydd drwg, ond dyna fel y mae yr hen Bostman i chwi, cario hyd y byd newyddion da a drwg.

John

Lycoch chi. Llythyr oddiwrth, neu ynghylch Wil fy mrawd sydd yn yr America. Druan o Wil. (Yn tynnu allan bwrs, ac yn chwilio am ddwy geiniog i'r POSTMAN.) Lycoch chi, peidiwch a chredu fy mod i yn bad sort, postman. (Y postman yn bowio yn barchus ac yn myned.) Lycot ti, Ann. Cer i mofyn Morris y sgwlyn i ddarllen y llythyr.

Ann

(Ar ol esgus trwsio tipyn yn rhedeg yn ei chloes.) Alright, mishtir bach, yn y funud nawr.

John

(Yn agor y llythyr, ac yn siarad ag ef ei hun.) Beth tybed ydyw'r newydd? Llawer o bethau sydd yn fy mlino yn awr. Llawer i gosfa dialedd roddais i i Wil pan oeddem yn blant. A helynt garw y bu hi ynghylch ewyllys nhad. Y ffaith am dani, yr oedd Wil yn fachan mor fawr, ac am berchenogi y cwbl. Ond er mwyn dangos i'r gwalch pwy oedd drech, fe gafodd fyned o'r Tyddyn Llwyd heb ond ychydig yn ei logell. Ond beth dâl whalu yn awr. Garw mor hir y mae Morris cyn dod. Garw y fath anfantais ydyw peidio cael ysgol. Gallaf fi wneud yn lled dda i gowntio pris y menyn a'r wyau, a gallaf ddarllen ychydig adnodau o'r hen Lyfr yna, ond garw mor lleied y gallaf wneud o lythyr; ond dyma nhw yn dod. Beth tybed yw y newydd. Y mae fy nghalon yn curo fel ffustau machine dyrnu pan fo Darby a Bess wrth y power.

Morris

(Dyn tua hanner cant oed, bywiog ei ysbryd, ysgolheigaidd ei olwg, ond yn ymddangos fel un wedi gweled amser gwell.) Dydd da, John Jones. Y mae Ann yn dweyd wrthyf eich bod newydd dderbyn llythyr o'r America a bod iddo ymyl ddu. Gobeithio nad oes ynddo bad news.

John

Lycoch chi, dymafe. A welsoch chi erioed ffasiwn beth, fedra i ddim gwneud na phen na chynffon ohono fo,

Morris

(Yn gosod eye-glasses ar ei lygaid, ac yn darllen.) "Pueblo Colorado, North America. Annwyl Syr. Y mae eich brawd William Jones wedi marw, ac wedi gadael ei holl eiddo i chwi. Daeth drosodd, fel y gwyddoch, i'r rhan o'r wlad yn yr eighties, a phrynodd ddarn helaeth o dir yn ymyl y mynyddoedd Creigog. Trodd yr anturiaeth allan yn hynod lwyddiannus. Daeth o hyd i wythien o aur."

John

Lycoch chi nawr, well done Wil fy mrawd. Ile, un da oedd Wil erioed am gael gafael mewn rhywbeth. Rwy'n cofio colli dafad un tro, pan oeddym yn blant, ac yr oeddym yn suspecto fod yna leidr wedi bod yn y lle. Ond mi gafodd Wil ei drack e, a ble 'rych chwi yn meddwl ca'dd Wil afael yn y ddafad? a mi 'nabyddodd hi hefyd—ond yng nghrochan cawl Dai Shams Puw. Ie, ewch ymlaen, Morris. Gwythien o aur─

Ann

(Yn dawnsio gan lawenydd, ac yn cwro ei dwylaw.) Ie, gwythien o aur, a finne yn gweithio blwyddyn gyfan am ddeuddeg punt, ac y mae ychydig o fy nghyflogau yn aros heb eu talu o hyd.

John

Ewch ymlaen, Morris, gwythien o aur─

Ann

(Yn chwerthin gan lawenydd.) Gwythien o aur.

Morris

"Heblaw y swm anferth o aur cafodd hefyd ffynhonnau o olew, a llawer iawn o nwy (gas) tra gwerthfawr; fel trwy y cyfan gwnaeth eich brawd William Jones, mewn oes gymharol fer, y swm anferth o dri chan mil o ddoleri, yn ol arian y wlad hon, yn ol arian eich gwlad chwi byddant yn rhyw driugain mil o bunnau."

John

Triugain mil o bynnau, nas cyffra i—dyna waith da!

Ann

Ma digon o'u heisiau nhw arnoch chi, mishtir bach. Wedi i Pinken farw 'doedd gennych chwi ddim arian i gael buwch yn ei lle hi, a phe buaswn ni yn gwasgu am fy nhipyn cyflogau.

John

Ewch ymlaen, Morris, wr glân, peidiwch a gwrando ar Ann. Garw y fath ddiddordeb y mae yn gymryd yn arian pobl eraill.

Ann

Arian pobl eraill yn wir, a minnau yn mynd─

John

(Yn rhoddi amnaid ar ANN i fod yn ddistaw.) Ewch ymlaen, Morris.

Morris

(Yn darllen ymlaen.) "Yr wyf wedi fy mhenodi gan eich brawd yn ymddiriedolwr i'r ewyllys, ac yr wyf wedi cario allan ei ddymuniadau olaf i'r llythyren. Yr wyf wedi gwerthu yr eiddo, ac yn danfon i chwi draft am yr arian yn llawn. Yr eiddoch, Sam Pritchard." (Yn troi at JOHN JONES.) Gadewch i mi eich llongyfarch, Syr, fel un o'r dynion cyfoethocaf fu erioed yn byw wrth droed y Mynydd Du.

John

(Yn rhwbio eí ddwylaw.) Lycoch chi nawr. Ddim mor gyfoethog a Holeford y Dderi.

Morris

Lawer mwy cyfoethog.

Ann

A Jones y Gellideg.

Morris

Lawer cyfoethocach.

John

Hwre. Lycoch chi nawr. Dyma fachan fydd yn torri sgwars.

Ann

(Yn clapio ei dwylaw.) Hwre! hwre!

John

Peidiwch a gwneud sylw o Ann, Mr. Morris. Y mae wedi cael rhyw chwilen yn ei phen heddi eto.

Morris

Quite so. Quite so. Ond gaf fi eich atgofio Syr, eich bod yn byw mewn oes y mae arian yn chwarae rhan bwysig iawn ynddi. Y mae arian heddyw yn gallu agor pob drws ond drws y nef. Yn rhinwedd y trigain mil yna, Syr, fe fydd safleoedd pwysicaf y wlad yn cael eu cynnyg i chwi. Yn awr, y mae yn rhaid i chwi ddihuno i'r amgylchiadau─ diacon yn y capel─

John

(Yn llonni, ac yn rhwbio ei ddwylaw.) Lycoch chi nawr.

Ann

Chware teg i mishtir. Y mae mishtir yn mynd i'r cwrdd bob dydd Sul. Chollodd e ddim dydd Sul eleni, ond pan ddaeth Beauty â llo bach, ac fe ddigwyddodd yr hen fuwch ddod ar amser cwrdd. Ond pan oeddynt yn dewis diaconiaid yn Salem, bu dim cymaint a son am enw mishtir.

Morris

Quite so. Quite so. Ond fe fydd John Jones, coeliwch chwi fi, yn eistedd yn y set fawr yn Salem cyn bo chwech mis arall wedi mynd heibio.

John

Lycoch chi nawr—yn y set fawr yn Salem yn ochor Jones y Gelli.

Morris

Quite so, ac nid yw hynny ond dechreu— Y Cyngor Sirol, Bwrdd y Gwarcheidwaid, Bwrdd yr Ustusiaid, a hyd yn oed Senedd Prydain Fawr, yn agored i'r gwr â'r cyfoeth, dim ond iddo wybod y ffordd i dynnu y wires yn iawn, a thalu eraill am wneud hynny.

John

(Yn gwenu ac yn rhwbio eî ddwylaw.) Ie, lycoch chi nawr.

Morris

Ac ymhellach, fe ellwch brynu llaw a chalon y ferch lanaf yn nyffryn Tywi am drigain mil o bunnau, a'i chael yn wraig yn y Tyddyn Llwyd,

Ann

(Yn gwylltio ac yn taro ei throed yn erbyn y llawr.) For shame, Morris, a dweyd sut beth. Os mai priodi mishtir er mwyn ei arian wnaiff hi, y mae yn well iddo fod hebddi. Ychydig o gysur gaiff e gyda hi.

John

Lycoch chi, peidiwch a gwneud sylw o Ann, Mr. Morris, y mae ei thafod yn hir ar brydiau.

Morris

Quite so. Quite so. Yr ydych yn awr yn byw mewn byd hollol newydd, Mr. Jones—byd y trigain mil. Ac y mae yn rhaid i chwi fyw i fyny â'r amgylchiadau. Gosodwch y trigain mil yn y banc, a byddwch fyw bywyd fel o'r blaen, a pha leshad fyddant i chwi. Na, na, y mae yn rhaid i chwi weithian fyw bywyd gwr bonheddig. Byw a thorri stroke nes bo Jones y Gelli a Holeford y Dderi yn mynd na fydd dim son am danynt, a chyda y fath swm o gyfoeth fe allwch yn hawdd wneud hynny.

John

Nas cyffra i. Lycoch chi nawr. Does dim a garem yn fwy na byw fel Holeford y Dderi a Jones y Gelli, oherwydd y maent yn cael eu hanner addoli am eu cyfoeth, a pham nad allaf finnau. Ond y gwir ag e, Morris, yr wyf dipyn yn anllythrennog. Yr wyf yn gallu gwerthu moch yn Llandilo, a menyn ym Mrynaman, ond nas cyffra i, wn i ddim o'r ffordd i weithredu yn y cylch y mae Holeford a Jones yn troi ynddo.

Morris

O, y mae yn rhaid i chwi gael Private Secretary, Mr. Jones, a does dim a rydd mwy o bleser i mi na'ch gwasanaethu fel y cyfryw. Yr wyf wedi cael profiad helaeth o'r byd yma. Yr wyfyn gwybod am y wheels bach yma sydd yn troi. Yr wyf yn gwybod y ffordd i dynnu y wires yn amser etholiadau. Mi a'ch cynorthwyaf i dorri y fath stroke nes synnu gwlad gyfan, a'ch gwneuthur yn deilwng o'ch safle fel y gwr bonheddig pennaf fagwyd erioed wrth droed y Mynydd Du.

John

Lycoch chi, nawr. Bachan helyg wyt ti, Morris. Dyna setlo y peth. Rho dy law. Fi gwr bonheddig mawr a tithau yn Private Secretary.

Morris

Quite so. Quite so. Honour bright. Os caf fi fy ffordd, chwi fyddwch y dyn pwysicaf ac yn llanw y safleoedd uwchaf yn y wlad ymhen ychydig iawn o amser.

John

(Yn rhwbio ei ddwylaw.) Lycoch chi nawr.

Morris

Ond y mae yn rhaid i chwi wrth lawer iawn o gyfnewidiadau, Syr. Rhaid i chwi wrth bethau ac wrth arferion fyddant yn eich gweddu fel gwr bonheddig mawr yn yr ardal. Yn gyntaf, y mae yn rhaid i chwi ordro suit o ddillad of the very latest cut, oherwydd y mae dillad yn oll bwysig yn yr oes hon. Os na fydd eich suit yn y latest fashion, cred neb eich bod yn wr bonheddig, a pharcha neb chwi fel y cyfryw ychwaith.

Ann

Ie, y mae eisiau dillad newydd ar mishtir. Does dim balchter ynddo fe. Pan fyddaf fi wedi trafferthu i gael ei golar yn loew, fe aiff mishtir i'r cwrdd dy' Sul wedyn yn ei grafat goch, am fod honno, ebai fe, yn fwy cymffyrddus. Yr unig tro y mae mishtir yn gwisgo colar yw pan bo meeting rhent, neu gymanfa bregethu yn Salem.

Morris

Quite so. Quite so. Wedyn, y mae yn rhaid cael motor car. Y mae motor car yn anhepgorol angenrheidiol i wneud gwr bonheddig.

John

Lycoch chi nawr, pwy fydd yn drifo rhyw greadur fel hynny. Alla i ddrifo Darby a'r cart am y goreu ag undyn, ond, nas cyffra i, wn i ddim y ffordd i ddrifo rhyw greadur fel yna, na wrandawa fe ddim ar "Gee," a "Come here," a "Woa."

Morris

Fe wna Wil Sais Bach y tro fel chaffeur. Gydag ychydig bach o bractis fe ddaw Wil bach ati yn iawn.

Ann

Ie, ma ishe rhywbeth ar mishtir yn lle Darby a'r cart. Pan y mae yn myned dy' Sadwrn i farchnad Llandilo, ddaw e ddim gartre nes bo hì yn rhywbryd o'r nos. Rhyng bod Darby dipyn yn gloff a mishtir yn galw yn y tafarnau mae e byth a hefyd ar yr hewl, ond chware teg i mishtir, mae e yn mynd i'r cwrdd bore dy' Sul wedyn.

Morris

Quite so. Wedyn Mr. Jones y mae yn rhaid defnyddio iaith fo yn gweddu gwr bonheddig, iaith hanner Gymraeg a hanner Saesneg, a thipyn bach o lediaith. Nid yw yn digymod â'ch anrhydedd chwi, Syr, i ddweyd: "Lycoch chi nawr." Y mae yn rhaid i chwi osod hwnna o'r neilltu, ac os bydd rhaid i chwi gael rhyw slang word, wel, dywedwch "Snakes and Fiddlesticks," y mae yn gweddu yn well i wr bonheddig.

John

Lycoch chi nawr. Snakes and Fiddlesticks. Bachan helyg wyt ti, Morris, hefyd.

Morris

Fe gawn ni weld ymhellach eto ynghylch hyn Syr. Ac mi rof y tips i chwi eto yn ol fel bydd yr amgylchiadau yn galw. Gwell i ni fynd yn awr i ordro y dillad a'r motor, ac efallai i gael dropin bach ym mharlwr y Red Lion i ddathlu yr amgylchiad ac i yfed llongyfarchiadau i John Jones Esquire, a'r trigain mil.

John

Lycot ti nawr. Snakes and Fiddlesticks. (Y ddau yn mynd.)

Ann

(Wrth ei hun ar y llwyfan.) Ie'n wir, trigain mil o bunnau. Garw byth na buaswn wedi gwneud yn siwr ohono, a minnau wedi cael cymaint o gynnyg. Does gen i ddim golwg ar yr hen Forris yna. Mae pawb yn gwybod ei hanes ef. Hen sgwlyn wedi colli ei job trwy feddwi. Y mae digon a gormod yn ei ben ef, ond y mae ei galon mor ddued a simne glo ring. Pa eisiau iddo fe i saco ymhen mishtir y gallai fe gael y ferch lanaf yn Nyffryn Tywi os mynnai ef. Wyddis ar y ddaear beth osodith Morris ym mhen mishtir eto. Dyw i ddim yn talu i ferch fod yn rhy independant. Mae hi y rhan amlaf yn 'difaru.



LLEN

Caned ANN yn awr y penillion canlynol y tu blaen i'r llen. A thra byddo ANN yn canu caffed eraill Siop y Saer yn barod y tu ol i'r llen. Ni fydd eisiau ond ffwrwm waith, ychydig o offer saer, ac ychydig ysglod ar y llawr.



Y Ferch wrth Odre'r Mynydd





Cân i ANN i'w chanu.

Caner hon ar yr alaw "Gwnewch bopeth yn Gymraeg," a dybler y ddwy linell olaf ymhob pennill er ffurfio'r gytgan.

Ann
Rwy'n awr yn un ar hugain
O flwyddi llawn mewn oed;
Ac wedi byw wrth odre
Y mynydd mawr erioed;
Mae rhai yn hoffi teithio
I weld pellterau'r byd:
Ond byw wrth droed y mynydd
Y byddaf fi o hyd.

Rwy'n mynd i'r gwely'n gynnar,
Rwy'n codi gyda'r wawr;
Caf glywed can yr 'hedydd
Ar ben y mynydd mawr.
Rwy'n godro'r gwartheg blithion
Bob bore a phob hwyr;
A llaethi'r lloi yn gyson
Sydd wrth fy modd yn llwyr.

Mae rhai yn byw ar foethau,
A gwino'dd o bob math;
Rwyf finnau'n iach fy ngruddiau
Wrth fyw ar gawl a lla'th:
Mae rhywrai mewn segurdod
Yn treulio'u hoes yn llwyr,
Ond gweithio byddaf finnau
O'r bore hyd yr hwyr.

Mae rhai yn gwisgo'n gostus
Mewn rhyw sidanau drud;
A dilyn duwies ffasiwn
Eu hymffrost yn y byd.
Caf finnau wisgoedd cynnes
O wlân y llwdwn du
Sy'n pori ar lechweddau
Y mynydd ger y ty.

Pwy omedd im' freuddwydio
Am ddyddiau lawer gwell
Pwy omedd im' ddelfrydau
Ar ben y talfryn pell.
Pwy wyr na welir finnau
Os ffawd o'm hochor dry,
Yn wraig i'r cyfoethocaf
Wrth droed y Mynydd Du.


Y llen yn codi.

a1