Llwybrau Anrhydedd

Ciw-restr ar gyfer Morris

(John) Byt gaws, bachan, i ti gael dyfod yn gryf i weithio.
 
(1, 0) 81 Dydd da, John Jones.
(1, 0) 82 Y mae Ann yn dweyd wrthyf eich bod newydd dderbyn llythyr o'r America a bod iddo ymyl ddu.
(1, 0) 83 Gobeithio nad oes ynddo |bad news|.
(John) Lycoch chi, dymafe.
 
(1, 0) 87 "Pueblo Colorado, North America.
(1, 0) 88 Annwyl Syr.
(1, 0) 89 Y mae eich brawd William Jones wedi marw, ac wedi gadael ei holl eiddo i chwi.
(1, 0) 90 Daeth drosodd, fel y gwyddoch, i'r rhan o'r wlad yn yr |eighties|, a phrynodd ddarn helaeth o dir yn ymyl y mynyddoedd Creigog.
(1, 0) 91 Trodd yr anturiaeth allan yn hynod lwyddiannus.
(1, 0) 92 Daeth o hyd i wythien o aur."
(John) Lycoch chi nawr, |well done| Wil fy mrawd.
 
(Ann) Gwythien o aur.
(1, 0) 104 "Heblaw y swm anferth o aur cafodd hefyd ffynhonnau o olew, a llawer iawn o nwy (gas) tra gwerthfawr; fel trwy y cyfan gwnaeth eich brawd William Jones, mewn oes gymharol fer, y swm anferth o dri chan mil o ddoleri, yn ol arian y wlad hon, yn ol arian eich gwlad chwi byddant yn rhyw driugain mil o bunnau."
(John) Triugain mil o bynnau, nas cyffra i—dyna waith da!
 
(1, 0) 114 "Yr wyf wedi fy mhenodi gan eich brawd yn ymddiriedolwr i'r ewyllys, ac yr wyf wedi cario allan ei ddymuniadau olaf i'r llythyren.
(1, 0) 115 Yr wyf wedi gwerthu yr eiddo, ac yn danfon i chwi |draft| am yr arian yn llawn.
(1, 0) 116 Yr eiddoch, Sam Pritchard."
 
(1, 0) 118 Gadewch i mi eich llongyfarch, Syr, fel un o'r dynion cyfoethocaf fu erioed yn byw wrth droed y Mynydd Du.
(John) {Yn rhwbio eí ddwylaw.}
 
(John) Ddim mor gyfoethog a Holeford y Dderi.
(1, 0) 122 Lawer mwy cyfoethog.
(Ann) A Jones y Gellideg.
 
(Ann) A Jones y Gellideg.
(1, 0) 124 Lawer cyfoethocach.
(John) Hwre.
 
(John) Y mae wedi cael rhyw chwilen yn ei phen heddi eto.
(1, 0) 133 Quite so.
(1, 0) 134 Quite so.
(1, 0) 135 Ond gaf fi eich atgofio Syr, eich bod yn byw mewn oes y mae arian yn chwarae rhan bwysig iawn ynddi.
(1, 0) 136 Y mae arian heddyw yn gallu agor pob drws ond drws y nef.
(1, 0) 137 Yn rhinwedd y trigain mil yna, Syr, fe fydd safleoedd pwysicaf y wlad yn cael eu cynnyg i chwi.
(1, 0) 138 Yn awr, y mae yn rhaid i chwi ddihuno i'r amgylchiadau─ diacon yn y capel─
(John) {Yn llonni, ac yn rhwbio ei ddwylaw.}
 
(Ann) Ond pan oeddynt yn dewis diaconiaid yn Salem, bu dim cymaint a son am enw mishtir.
(1, 0) 145 Quite so.
(1, 0) 146 Quite so.
(1, 0) 147 Ond fe fydd John Jones, coeliwch chwi fi, yn eistedd yn y set fawr yn Salem cyn bo chwech mis arall wedi mynd heibio.
(John) Lycoch chi nawr—yn y set fawr yn Salem yn ochor Jones y Gelli.
 
(John) Lycoch chi nawr—yn y set fawr yn Salem yn ochor Jones y Gelli.
(1, 0) 149 Quite so, ac nid yw hynny ond dechreu—
(1, 0) 150 Y Cyngor Sirol, Bwrdd y Gwarcheidwaid, Bwrdd yr Ustusiaid, a hyd yn oed Senedd Prydain Fawr, yn agored i'r gwr â'r cyfoeth, dim ond iddo wybod y ffordd i dynnu y |wires| yn iawn, a thalu eraill am wneud hynny.
(John) {Yn gwenu ac yn rhwbio eî ddwylaw.}
 
(John) Ie, lycoch chi nawr.
(1, 0) 153 Ac ymhellach, fe ellwch brynu llaw a chalon y ferch lanaf yn nyffryn Tywi am drigain mil o bunnau, a'i chael yn wraig yn y Tyddyn Llwyd,
(Ann) {Yn gwylltio ac yn taro ei throed yn erbyn y llawr.}
 
(John) Lycoch chi, peidiwch a gwneud sylw o Ann, Mr. Morris, y mae ei thafod yn hir ar brydiau.
(1, 0) 159 Quite so.
(1, 0) 160 Quite so.
(1, 0) 161 Yr ydych yn awr yn byw mewn byd hollol newydd, Mr. Jones—byd y trigain mil.
(1, 0) 162 Ac y mae yn rhaid i chwi fyw i fyny â'r amgylchiadau.
(1, 0) 163 Gosodwch y trigain mil yn y banc, a byddwch fyw bywyd fel o'r blaen, a pha leshad fyddant i chwi.
(1, 0) 164 Na, na, y mae yn rhaid i chwi weithian fyw bywyd gwr bonheddig.
(1, 0) 165 Byw a thorri |stroke| nes bo Jones y Gelli a Holeford y Dderi yn mynd na fydd dim son am danynt, a chyda y fath swm o gyfoeth fe allwch yn hawdd wneud hynny.
(John) Nas cyffra i.
 
(John) Yr wyf yn gallu gwerthu moch yn Llandilo, a menyn ym Mrynaman, ond nas cyffra i, wn i ddim o'r ffordd i weithredu yn y cylch y mae Holeford a Jones yn troi ynddo.
(1, 0) 171 O, y mae yn rhaid i chwi gael |Private Secretary|, Mr. Jones, a does dim a rydd mwy o bleser i mi na'ch gwasanaethu fel y cyfryw.
(1, 0) 172 Yr wyf wedi cael profiad helaeth o'r byd yma.
(1, 0) 173 Yr wyfyn gwybod am y |wheels bach| yma sydd yn troi. Yr wyf yn gwybod y ffordd i dynnu y |wires| yn amser etholiadau.
(1, 0) 174 Mi a'ch cynorthwyaf i dorri y fath |stroke| nes synnu gwlad gyfan, a'ch gwneuthur yn deilwng o'ch safle fel y gwr bonheddig pennaf fagwyd erioed wrth droed y Mynydd Du.
(John) Lycoch chi, nawr.
 
(John) Fi gwr bonheddig mawr a tithau yn |Private Secretary|.
(1, 0) 180 Quite so.
(1, 0) 181 Quite so.
(1, 0) 182 Honour bright.
(1, 0) 183 Os caf fi fy ffordd, chwi fyddwch y dyn pwysicaf ac yn llanw y safleoedd uwchaf yn y wlad ymhen ychydig iawn o amser.
(John) {Yn rhwbio ei ddwylaw.}
 
(John) Lycoch chi nawr.
(1, 0) 186 Ond y mae yn rhaid i chwi wrth lawer iawn o gyfnewidiadau, Syr.
(1, 0) 187 Rhaid i chwi wrth bethau ac wrth arferion fyddant yn eich gweddu fel gwr bonheddig mawr yn yr ardal.
(1, 0) 188 Yn gyntaf, y mae yn rhaid i chwi ordro |suit| o ddillad |of the very latest cut|, oherwydd y mae dillad yn oll bwysig yn yr oes hon.
(1, 0) 189 Os na fydd eich |suit| yn y |latest fashion|, cred neb eich bod yn wr bonheddig, a pharcha neb chwi fel y cyfryw ychwaith.
(Ann) Ie, y mae eisiau dillad newydd ar mishtir.
 
(Ann) Yr unig tro y mae mishtir yn gwisgo colar yw pan bo |meeting| rhent, neu gymanfa bregethu yn Salem.
(1, 0) 194 Quite so.
(1, 0) 195 Quite so.
(1, 0) 196 Wedyn, y mae yn rhaid cael |motor car|.
(1, 0) 197 Y mae |motor car| yn anhepgorol angenrheidiol i wneud gwr bonheddig.
(John) Lycoch chi nawr, pwy fydd yn drifo rhyw greadur fel hynny.
 
(John) Alla i ddrifo Darby a'r cart am y goreu ag undyn, ond, nas cyffra i, wn i ddim y ffordd i ddrifo rhyw greadur fel yna, na wrandawa fe ddim ar "Gee," a "Come here," a "Woa."
(1, 0) 200 Fe wna Wil Sais Bach y tro fel |chaffeur|.
(1, 0) 201 Gydag ychydig bach o bractis fe ddaw Wil bach ati yn iawn.
(Ann) Ie, ma ishe rhywbeth ar mishtir yn lle Darby a'r cart.
 
(Ann) Rhyng bod Darby dipyn yn gloff a mishtir yn galw yn y tafarnau mae e byth a hefyd ar yr hewl, ond chware teg i mishtir, mae e yn mynd i'r cwrdd bore dy' Sul wedyn.
(1, 0) 205 Quite so.
(1, 0) 206 Wedyn Mr. Jones y mae yn rhaid defnyddio iaith fo yn gweddu gwr bonheddig, iaith hanner Gymraeg a hanner Saesneg, a thipyn bach o lediaith.
(1, 0) 207 Nid yw yn digymod â'ch anrhydedd chwi, Syr, i ddweyd: "Lycoch chi nawr."
(1, 0) 208 Y mae yn rhaid i chwi osod hwnna o'r neilltu, ac os bydd rhaid i chwi gael rhyw |slang word|, wel, dywedwch "|Snakes and Fiddlesticks|," y mae yn gweddu yn well i wr bonheddig.
(John) Lycoch chi nawr.
 
(John) Bachan helyg wyt ti, Morris, hefyd.
(1, 0) 212 Fe gawn ni weld ymhellach eto ynghylch hyn Syr.
(1, 0) 213 Ac mi rof y |tips| i chwi eto yn ol fel bydd yr amgylchiadau yn galw.
(1, 0) 214 Gwell i ni fynd yn awr i ordro y dillad a'r |motor|, ac efallai i gael dropin bach ym mharlwr y Red Lion i ddathlu yr amgylchiad ac i yfed llongyfarchiadau i John Jones Esquire, a'r trigain mil.