Asgre Lân

Ciw-restr ar gyfer Dafydd

(Morus) Be di'r rhif lluosog o'r gair clo, nhad?
 
(Gruffydd) Dafydd, be di'r llif rhuosog (be gebyst ydi'r enw?) o'r gair clo?
(1, 0) 15 "Tri chlo"' ddeydwn ni, yntê?
(Gruffydd) Diain i, un ciwt wyt ti'r hen law!
 
(Gruffydd) Llo─lloiau, yntê?
(1, 0) 19 Ia, siwr.
(Gruffydd) Dyn o'i go─dynion o'u coiau | os felly, clo─cloiau: rho fo i lawr Morus, achos ma'r ironmonger na'n bry gramadegol ofnadwy.
 
(Gruffydd) Cofia di bostio fo yn y Post Offis ac nid yn nhŷ Mr. Evans y gweinidog.
(1, 0) 25 Ma gen ti fachgen dan gamp, Gruffydd.
(Gruffydd) Oes, ma Morus yn fachgan go lew; ond mod i'n leicio berian dipyn arno fo weithia ynghylch Gwen Evans, merch y gweinidog.
 
(Gruffydd) Oes, ma Morus yn fachgan go lew; ond mod i'n leicio berian dipyn arno fo weithia ynghylch Gwen Evans, merch y gweinidog.
(1, 0) 27 Ma'r ddau'n caru, yn tydy nhw?
(Gruffydd) Felly ma pobol yn deyd, os oes rhyw goel arnyn nhw.
 
(Gruffydd) Gyda llaw, Dafydd, ma Mr. Evans y gweinidog yn mynd yn hen hwsmon efo chi yn Horeb acw bellach; sut mae o'n dal i dir, dywad?
(1, 0) 30 Siort ora; fydd Mari ddim yn i gamol o wrtho ti weithia?
(Gruffydd) Bydd, debig iawn; ond mi gamoli'th Mari ni bob pregethwr; chaiff neb ddeyd gair bach am yr un enaid byw bedyddiol ohonyn nhw os bydd hi wrth ymyl.
 
(Gruffydd) Mi fydda'n i phlagio hi amball dro drwy redag dipyn ar bregethwrs; ond welis di rioed mor fuan y bydd hi'n codi'r pastwn i gadw'i plaid nhw.
(1, 0) 33 Go lew hi; ma gyno ni glamp o feddwl o Mari Huws tua Horeb acw.
(Gruffydd) Rwan, Dafydd, deyda'r gwir rhwng dau frawd─be di'r farn gyffredin am Mari ni yn Horeb?
 
(Gruffydd) Tipyn o ddoctor a difein ydi hi, yntê, yng ngolwg rhai ohonoch chi?
(1, 0) 37 Mae mwy ym mhen Mari, wel di, na'n hannar ni, a choeliet ti byth mor anodd ydi cael y gora arni hi ar bwnc o ddadl mewn dosbarth rwan─ma'i hatab hi mor barod rywsut bob cynnig.
(Gruffydd) Dyna ti i'r blewyn─"atab parod bob cynnig"; pe dasa ti wedi byw efo hi fel fi am yn agos i ddeugain mlynedd, fasa ti ddim yn tynnu gwell llun ohoni na hwnna─"atab parod"; yn ddistaw bach yn dy glust fel hen ffrind, rhy barod o lawar, wyddost, i mhlesio i, achos mi fydda i'n leicio clywad y cloc yn rhuo dipyn yn i gorn cyn taro; dda gen i mo'r clocia ma sy'n taro'n ddirybudd fel bwlat o wn.
 
(1, 0) 40 Aros di Gruffydd, rwyt ti wedi rhoi darn go fawr at yr hyn ddywedis i; nid parodrwydd fel yna oedd yn y meddwl i.
(Gruffydd) Na, na, mi rydw i'n dy ddallt di'n burion─sôn yr oedda ti am i pharodrwydd hi ar bwnc o ddadl.
 
(Gruffydd) Fum i rioed mewn dosbarth efo hi yn yr Ysgol Sul; ond mi wranta mai'r fan yma ar yr aelwyd wrth bracteisio arna i y dysgodd hi sut i drin i harfau.
(1, 0) 43 Mi sonist am yr Ysgol Sul rwan; pam na ddoi di i'r Ysgol, Gruffydd?
(1, 0) 44 Wel, mi ofynna i beth arall i ti: mi rydw i wedi bod yn meddwl i ofyn o iti ar hyd y blynydda.
(1, 0) 45 Rwyt ti'n wrandawr yn Horeb acw erioed; pam na ddoi di'n aelod, rhen ffrind?
(1, 0) 46 Peth digon chwithig, wyddost, ydi gweld Mari mor selog a thitha, i gŵr hi, y tuallan yn y byd.
(Gruffydd) Chwara teg i ti am ofyn; ond dyma gwestiwn i titha─pa wahaniaeth yno i fasa hynny'n i neud.
 
(Gruffydd) Chwara teg i ti am ofyn; ond dyma gwestiwn i titha─pa wahaniaeth yno i fasa hynny'n i neud.
(1, 0) 48 Pa wahaniaeth─be wyt ti'n feddwl?
(Gruffydd) Fasa dod yn aelod yn y ngneud i'n ddyn gwell nag ydyw i rwan?
 
(Gruffydd) Fasa dod yn aelod yn y ngneud i'n ddyn gwell nag ydyw i rwan?
(1, 0) 50 Cwestiwn go gynnil ydi hwnna, achos gofyn rwyt ti mewn ffordd neis be ydw i'n feddwl o dy gymeriad di fel dyn.
(Gruffydd) O'r gora; fasa dwad yn aelod o Horeb yn y ngneud i fymryn yn fwy geirwir a gonest nag ydw i ar hyn o bryd.
 
(Gruffydd) Gneud dynion da, decini, ydi amcan aelodaeth eglwysig?
(1, 0) 53 Ia, wrth gwrs: ond gofala na roi di ddim ystyr bach ysgafn i'r gair "da"; gair mawr iawn ydi'r gair "da," wyddost.
(Gruffydd) Howld on, ngwas i, paid ti a siarad efo fi fel taswn i'n sasiwn ne'n llond capal o bobol, a phaid a hollti blew hefyd; ateb yn blaen─ydi deyd y gwir a byw'n onest yn dda?
 
(Gruffydd) Howld on, ngwas i, paid ti a siarad efo fi fel taswn i'n sasiwn ne'n llond capal o bobol, a phaid a hollti blew hefyd; ateb yn blaen─ydi deyd y gwir a byw'n onest yn dda?
(1, 0) 55 Ydi, wrth gwrs, ma daioni yn cynnwys hynny, a rhagor hefyd.
(Gruffydd) Ah, rhen sciemar, mi rwyt ti am dorri bwlch yn y clawdd efo'r gair "rhagor'' na, er mwyn cael slipio drwyddo fo os daw hi'n glos cwartars arnat ti; y pwnc yn blaen ydi hwn─a ddyla crefyddwr ddeyd y gwir a delio'n onest?
 
(Gruffydd) Ah, rhen sciemar, mi rwyt ti am dorri bwlch yn y clawdd efo'r gair "rhagor'' na, er mwyn cael slipio drwyddo fo os daw hi'n glos cwartars arnat ti; y pwnc yn blaen ydi hwn─a ddyla crefyddwr ddeyd y gwir a delio'n onest?
(1, 0) 57 Wel, gwarchod pawb! mi ddyla neud hynny bach wrth ddechra crefydda.
(Gruffydd) O'r gora; ma Huw'r Ffridd yn aelod yn Horeb acw, yn tydi o?
 
(Gruffydd) O'r gora; ma Huw'r Ffridd yn aelod yn Horeb acw, yn tydi o?
(1, 0) 59 Ydi, mae o'n flaenor fel finna yn y sêt fawr.
(Gruffydd) {Cyfyd ac â at y weather glass.}
 
(Gruffydd) Mi rydw i, Gruffydd Huws y Berthlwyd, yn y |very stormy|, ac ma Huw'r Ffridd yn |very dry| y sêt fawr.
(1, 0) 65 Aros funud─
(Gruffydd) Gad lonydd i mi orffen.
 
(Gruffydd) Mi cymrais o ar i air, am i fod o'n gymydog agos, ac yn un o bobol y sêt fawr; ond cyn sicred a dy fod yn eista yn y fan na, cyn pen yr wsnos mi ddalltis fod gan y ceffyl gast ne ddau mor gas fel nad oedd o'n dda i ddim ond i'w seuthu, a'i grogi hefyd ran hynny.
(1, 0) 69 Os daru mi dy ddallt ti, yr hen geffyl sy'n dy gadw di rhag bod yn aelod yn Horeb?
(Gruffydd) {Yn danllyd.}
 
(Gruffydd) Huw gastiog efo'i sêt fawr a'i gybôl ffug-dduwiol: a dyna ydw i'n ddeyd, os petha fel Huw sy'n uchel i cloch yn y capel, dydy nhw ddim yn haeddu papur aelodaeth i ddwad i berthyn i'r byd heb son am yr eglwys, yn siwr i ti.
(1, 0) 73 Tro sâl oedd hwnna, rhaid cyfadda; ond un ydi Huw'r Ffridd; yn eno'r taid annwyl, dwyt ti ddim yn taflu'n bod ni i gyd yn Horeb yn palu celwydd fel y gnath Huw'r tro yna?
(Gruffydd) O, nag ydw; ond cofia di ma na rai tatws drwg yn sach Horeb heblaw Huw.
 
(Gruffydd) Doedd yma neb yn colli'i dempar cyn i ti ddwad i mewn beth bynnag.
(1, 0) 84 Na, fi oedd yn ceisio perswadio Gruffydd i ddod yn aelod o Horeb acw.
(Mari) Felly wir; mi fuoch, decini, yn deyd wrtho fo'r fath golled i'r eglwys ydi bod heb ddyn fel y fo?
 
(Mari) Felly wir; mi fuoch, decini, yn deyd wrtho fo'r fath golled i'r eglwys ydi bod heb ddyn fel y fo?
(1, 0) 86 Wel ia─
(Mari) Mi fuoch yn dangos y fath fraint i'r eglwys fasa medru bachu samon mawr fel Gruffydd ni?
 
(Mari) Dafydd, glywsoch chi fod Mr. Evans yn |agent| dros y cwmni na yn Llunden?
(1, 0) 96 Pa gwmni?
(Mari) Yn eno'r tad, y cwmni mawr sydd a chymin o sôn am dano'n talu'r llog arian uchel.
 
(Mari) Yn eno'r tad, y cwmni mawr sydd a chymin o sôn am dano'n talu'r llog arian uchel.
(1, 0) 98 O! 'r |Auxilary Society|?
(Mari) Dyna fo.
 
(1, 0) 101 Mr. Evans, y gweinidog, yn |agent| iddyn nhw?
(Mari) Ia, pam lai?
 
(Mari) Mi wyddoch fod dega lawer o weinidogion y gwahanol enwada yn |agents| i'r |Auxiliary|.
(1, 0) 105 Eitha gwir; ond fedra i yn y myw rywsut feddwl am Mr. Evans yn |agent|: fel myfyriwr a phregethwr y bydda i'n arfar edrach arno fo.
(Gruffydd) Hynny ydi, Dafydd, dy syniad di ydi fod Mr. Evans yn ormod o freuddwydiwr i drin busnes arian?
 
(1, 0) 112 Pa deitl roet ti iddo fo?
(Gruffydd) Be di enw llyfr Tomos Binney hefyd─y llyfr na fuost ti'n ddarllen chydig yn ol, Mari?
 
(Gruffydd) Mi fasa'n harddach i chi i garthu o allan i'r |lobby| o lawer.
(1, 0) 123 Fedra i yn y myw beidio meddwl am Mr. Evans yn |agent| yr |Auxiliary|.
(1, 0) 124 Gawsoch chi'r newydd o le go saff, Mari Huws?
(Mari) Morus, y bachgan ma, roth hum i mi.
 
(Mari) Morus, y bachgan ma, roth hum i mi.
(1, 0) 126 Ha, mi gwela hi rwan; Gwen Evans ddeydodd wrth Morus am i thad; ma Morus a hitha'n caru'n o glos, yn tydy nhw?
(Mari) Felly ma nhw'n deyd.
 
(Gruffydd) Mi ddeydist rwan, Mari, ma Morus roth hum i ti; ddeydith yr hen walch yr un pwmp wrtho i; ond rwyt ti'n medru cocsio i secrats o i gyd.
(1, 0) 130 Paid ag achwyn, Gruffydd, rwyt ti yn yr un manshar a phob tad arall.
(1, 0) 131 Wel, ma'n ddrwg gen i fod Mr. Evans yn mynd i ffwndro 'i ben efo'r cwmni na; ma rhyw gloch bach yn canu'n y nghlust i: gobeithio'r annwyl ma nid rhyw gnafon twyllodrus o gwmpas Llunden na sy'n gwthio'r busnes yn i flaen.
(Mari) {Yn ddigllon.}
 
(Mr Evans) Fydd y swydd wrth gwrs yn ymyrryd dim â ngwaith i fel gweinidog Horeb, a wela i ddim fod y ddau waith yn taro chwaith yn erbyn i gilydd yn y gronyn lleia, achos does dim amheuaeth am onestrwydd y Gymdeithas; mae hi fel y banc, ac mae dynion o ymddiried wrth i chefn hi─dynion sydd â'u henwau yn barchus mewn cylchoedd eglwysig.
(1, 0) 155 Does dim dowt nad oes mynd mawr arni hi ar hyn o bryd; ond, a gadael i hynny fod, ofni rydw i, os ca i ddeyd heb y'ch digio chi, nad ydach chi, Mr. Evans, ddim wedi'ch torri ar gyfar y fath waith.
(1, 0) 156 Fel deydis i rwan jest wrth Gruffydd a Mari Huws, teimlo rydw i bob amser y'ch bod chi'n fwy naturiol o lawar i mi yn y stydi a'r pulpud nag efo rhyw waith fel hyn sy'n gofyn am wybodaeth go helaeth o gylch masnach.
(Gruffydd) Twt, twt! deyda'n blaen fachgan, teimlo rwyt ti ma pysgodyn mewn cae tatws fydd Mr. Evans fel |agent| yr |Auxiliary|.
 
(Gruffydd) Twt, twt! deyda'n blaen fachgan, teimlo rwyt ti ma pysgodyn mewn cae tatws fydd Mr. Evans fel |agent| yr |Auxiliary|.
(1, 0) 158 Wel ia, hwyrach; ond rho di dy farn, Gruffydd.
(Mari) Dafydd, dydw i ddim o gwbl o'r un farn a chi.
 
(Gruffydd) Mae ceffyl castiog Huw yn y nghroen i o hyd, Mari bach; ond yn wirionadd i mi, fydd yn hwb da ymlaen i'r Gymdeithas yn yr ardal ma fod Huw wedi credu yni hi efo'i dafod ac hefo'i boced.
(1, 0) 181 Mi rowch chitha'ch arian yni hi, Mr. Evans?
(Mr Evans) Os na wna i, pwy wnaiff?
 
(Mr Evans) Nos dawch i chi'ch tri.
(1, 0) 205 Waeth i mi ddwad hefo chi Mr. Evans, mae'n bryd i minna fynd i glwydo.
(1, 0) 206 Nos dawch.