Asgre Lân

Ciw-restr ar gyfer Gruffydd

(Morus) Be di'r rhif lluosog o'r gair clo, nhad?
 
(Morus) Be di'r rhif lluosog o'r gair clo, nhad?
(1, 0) 9 Rhif lluosog─be wyt ti'n feddwl?
(Morus) {Yn ddi-amynedd.}
 
(Morus) Be ddeydwch chi am fwy nag un clo─tri o gloiau, tri o gloion, ne dri o gloedigaethau?
(1, 0) 12 Dyna ti'n siarad yn blaen rwan; waeth gen i glywad dyn yn tyngu a rhegi na'i glywad o'n siarad fel llyfr mewn trowsus.
 
(1, 0) 14 Dafydd, be di'r llif rhuosog (be gebyst ydi'r enw?) o'r gair clo?
(Dafydd) "Tri chlo"' ddeydwn ni, yntê?
 
(Dafydd) "Tri chlo"' ddeydwn ni, yntê?
(1, 0) 16 Diain i, un ciwt wyt ti'r hen law!
(1, 0) 17 Ond er hynny, sciam wael ydi peth fel yna i sgoi anhawstar.
(1, 0) 18 Llo─lloiau, yntê?
(Dafydd) Ia, siwr.
 
(Dafydd) Ia, siwr.
(1, 0) 20 Dyn o'i go─dynion o'u coiau | os felly, clo─cloiau: rho fo i lawr Morus, achos ma'r ironmonger na'n bry gramadegol ofnadwy.
(Morus) {Ar ol diweddu'r llythyr.}
 
(1, 0) 24 Cofia di bostio fo yn y Post Offis ac nid yn nhŷ Mr. Evans y gweinidog.
(Dafydd) Ma gen ti fachgen dan gamp, Gruffydd.
 
(Dafydd) Ma gen ti fachgen dan gamp, Gruffydd.
(1, 0) 26 Oes, ma Morus yn fachgan go lew; ond mod i'n leicio berian dipyn arno fo weithia ynghylch Gwen Evans, merch y gweinidog.
(Dafydd) Ma'r ddau'n caru, yn tydy nhw?
 
(Dafydd) Ma'r ddau'n caru, yn tydy nhw?
(1, 0) 28 Felly ma pobol yn deyd, os oes rhyw goel arnyn nhw.
(1, 0) 29 Gyda llaw, Dafydd, ma Mr. Evans y gweinidog yn mynd yn hen hwsmon efo chi yn Horeb acw bellach; sut mae o'n dal i dir, dywad?
(Dafydd) Siort ora; fydd Mari ddim yn i gamol o wrtho ti weithia?
 
(Dafydd) Siort ora; fydd Mari ddim yn i gamol o wrtho ti weithia?
(1, 0) 31 Bydd, debig iawn; ond mi gamoli'th Mari ni bob pregethwr; chaiff neb ddeyd gair bach am yr un enaid byw bedyddiol ohonyn nhw os bydd hi wrth ymyl.
(1, 0) 32 Mi fydda'n i phlagio hi amball dro drwy redag dipyn ar bregethwrs; ond welis di rioed mor fuan y bydd hi'n codi'r pastwn i gadw'i plaid nhw.
(Dafydd) Go lew hi; ma gyno ni glamp o feddwl o Mari Huws tua Horeb acw.
 
(Dafydd) Go lew hi; ma gyno ni glamp o feddwl o Mari Huws tua Horeb acw.
(1, 0) 34 Rwan, Dafydd, deyda'r gwir rhwng dau frawd─be di'r farn gyffredin am Mari ni yn Horeb?
(1, 0) 35 Ofynnis i rioed o'r blaen iti.
(1, 0) 36 Tipyn o ddoctor a difein ydi hi, yntê, yng ngolwg rhai ohonoch chi?
(Dafydd) Mae mwy ym mhen Mari, wel di, na'n hannar ni, a choeliet ti byth mor anodd ydi cael y gora arni hi ar bwnc o ddadl mewn dosbarth rwan─ma'i hatab hi mor barod rywsut bob cynnig.
 
(Dafydd) Mae mwy ym mhen Mari, wel di, na'n hannar ni, a choeliet ti byth mor anodd ydi cael y gora arni hi ar bwnc o ddadl mewn dosbarth rwan─ma'i hatab hi mor barod rywsut bob cynnig.
(1, 0) 38 Dyna ti i'r blewyn─"atab parod bob cynnig"; pe dasa ti wedi byw efo hi fel fi am yn agos i ddeugain mlynedd, fasa ti ddim yn tynnu gwell llun ohoni na hwnna─"atab parod"; yn ddistaw bach yn dy glust fel hen ffrind, rhy barod o lawar, wyddost, i mhlesio i, achos mi fydda i'n leicio clywad y cloc yn rhuo dipyn yn i gorn cyn taro; dda gen i mo'r clocia ma sy'n taro'n ddirybudd fel bwlat o wn.
(Dafydd) {Dan ysgwyd es ben a gwenu.}
 
(Dafydd) Aros di Gruffydd, rwyt ti wedi rhoi darn go fawr at yr hyn ddywedis i; nid parodrwydd fel yna oedd yn y meddwl i.
(1, 0) 41 Na, na, mi rydw i'n dy ddallt di'n burion─sôn yr oedda ti am i pharodrwydd hi ar bwnc o ddadl.
(1, 0) 42 Fum i rioed mewn dosbarth efo hi yn yr Ysgol Sul; ond mi wranta mai'r fan yma ar yr aelwyd wrth bracteisio arna i y dysgodd hi sut i drin i harfau.
(Dafydd) Mi sonist am yr Ysgol Sul rwan; pam na ddoi di i'r Ysgol, Gruffydd?
 
(Dafydd) Peth digon chwithig, wyddost, ydi gweld Mari mor selog a thitha, i gŵr hi, y tuallan yn y byd.
(1, 0) 47 Chwara teg i ti am ofyn; ond dyma gwestiwn i titha─pa wahaniaeth yno i fasa hynny'n i neud.
(Dafydd) Pa wahaniaeth─be wyt ti'n feddwl?
 
(Dafydd) Pa wahaniaeth─be wyt ti'n feddwl?
(1, 0) 49 Fasa dod yn aelod yn y ngneud i'n ddyn gwell nag ydyw i rwan?
(Dafydd) Cwestiwn go gynnil ydi hwnna, achos gofyn rwyt ti mewn ffordd neis be ydw i'n feddwl o dy gymeriad di fel dyn.
 
(Dafydd) Cwestiwn go gynnil ydi hwnna, achos gofyn rwyt ti mewn ffordd neis be ydw i'n feddwl o dy gymeriad di fel dyn.
(1, 0) 51 O'r gora; fasa dwad yn aelod o Horeb yn y ngneud i fymryn yn fwy geirwir a gonest nag ydw i ar hyn o bryd.
(1, 0) 52 Gneud dynion da, decini, ydi amcan aelodaeth eglwysig?
(Dafydd) Ia, wrth gwrs: ond gofala na roi di ddim ystyr bach ysgafn i'r gair "da"; gair mawr iawn ydi'r gair "da," wyddost.
 
(Dafydd) Ia, wrth gwrs: ond gofala na roi di ddim ystyr bach ysgafn i'r gair "da"; gair mawr iawn ydi'r gair "da," wyddost.
(1, 0) 54 Howld on, ngwas i, paid ti a siarad efo fi fel taswn i'n sasiwn ne'n llond capal o bobol, a phaid a hollti blew hefyd; ateb yn blaen─ydi deyd y gwir a byw'n onest yn dda?
(Dafydd) Ydi, wrth gwrs, ma daioni yn cynnwys hynny, a rhagor hefyd.
 
(Dafydd) Ydi, wrth gwrs, ma daioni yn cynnwys hynny, a rhagor hefyd.
(1, 0) 56 Ah, rhen sciemar, mi rwyt ti am dorri bwlch yn y clawdd efo'r gair "rhagor'' na, er mwyn cael slipio drwyddo fo os daw hi'n glos cwartars arnat ti; y pwnc yn blaen ydi hwn─a ddyla crefyddwr ddeyd y gwir a delio'n onest?
(Dafydd) Wel, gwarchod pawb! mi ddyla neud hynny bach wrth ddechra crefydda.
 
(Dafydd) Wel, gwarchod pawb! mi ddyla neud hynny bach wrth ddechra crefydda.
(1, 0) 58 O'r gora; ma Huw'r Ffridd yn aelod yn Horeb acw, yn tydi o?
(Dafydd) Ydi, mae o'n flaenor fel finna yn y sêt fawr.
 
(1, 0) 61 Ah, ie, y sêt fawr, sêt bwysig ydi honno, yntê?
(1, 0) 62 Edrach ar y weathar glas ma.
(1, 0) 63 Y sêt fawr, wyddost, ydi'r |very dry| ac weddar glas yr eglwys: ond fel rwyt ti'n nesu oddiwrth y sêt fawr at y seti wrth y drws rwyt ti'n dwad at |Fair| a |Change|; y tuallan i'r capel, wrth gwrs, rwyt ti yn y |Rain| a'r |Very Stormy|.
(1, 0) 64 Mi rydw i, Gruffydd Huws y Berthlwyd, yn y |very stormy|, ac ma Huw'r Ffridd yn |very dry| y sêt fawr.
(Dafydd) Aros funud─
 
(Dafydd) Aros funud─
(1, 0) 66 Gad lonydd i mi orffen.
(1, 0) 67 Chydig bach yn ol, fe werthodd Huw'r Ffridd geffyl i mi, ac fe aeth ar i lw nad oedd dim anghaffael na chastia drwg yn perthyn iddo fo.
(1, 0) 68 Mi cymrais o ar i air, am i fod o'n gymydog agos, ac yn un o bobol y sêt fawr; ond cyn sicred a dy fod yn eista yn y fan na, cyn pen yr wsnos mi ddalltis fod gan y ceffyl gast ne ddau mor gas fel nad oedd o'n dda i ddim ond i'w seuthu, a'i grogi hefyd ran hynny.
(Dafydd) Os daru mi dy ddallt ti, yr hen geffyl sy'n dy gadw di rhag bod yn aelod yn Horeb?
 
(1, 0) 71 Nage, meistar yr hen geffyl─
(1, 0) 72 Huw gastiog efo'i sêt fawr a'i gybôl ffug-dduwiol: a dyna ydw i'n ddeyd, os petha fel Huw sy'n uchel i cloch yn y capel, dydy nhw ddim yn haeddu papur aelodaeth i ddwad i berthyn i'r byd heb son am yr eglwys, yn siwr i ti.
(Dafydd) Tro sâl oedd hwnna, rhaid cyfadda; ond un ydi Huw'r Ffridd; yn eno'r taid annwyl, dwyt ti ddim yn taflu'n bod ni i gyd yn Horeb yn palu celwydd fel y gnath Huw'r tro yna?
 
(Dafydd) Tro sâl oedd hwnna, rhaid cyfadda; ond un ydi Huw'r Ffridd; yn eno'r taid annwyl, dwyt ti ddim yn taflu'n bod ni i gyd yn Horeb yn palu celwydd fel y gnath Huw'r tro yna?
(1, 0) 74 O, nag ydw; ond cofia di ma na rai tatws drwg yn sach Horeb heblaw Huw.
(Mari) Mi feddylis mod i'n clywad sŵn ych llais chi, Dafydd.
 
(Mari) Ma'ch gwynab chi cyn goched a chrib ceiliog; be sy wedi codi'ch gwrychyn chi rwan?
(1, 0) 80 Dim, dim: ymresymu dipyn hefo Dafydd yr oeddwn i.
(Mari) Wel, yn wir, o'r holl greduriaid sydd ar y ffarm chi'r dynion ydi'r rhai rhyfedda!
 
(Mari) Chi ddynion yn fodau rhesymol─chi sy'n colli'ch tempar y funud yr ewch i drio ymresymu?
(1, 0) 83 Doedd yma neb yn colli'i dempar cyn i ti ddwad i mewn beth bynnag.
(Dafydd) Na, fi oedd yn ceisio perswadio Gruffydd i ddod yn aelod o Horeb acw.
 
(1, 0) 90 Hannar munud, Mari: ma dy wir cyffredin di'n ddigon crafog, os doi di a dy wir plaen allan, mi mlingi fi i'r asgwrn.
(Mari) Y gwir plaen ydi─ma Gruffydd yn credu i fod o'n ddigon o eglwys i hunan.
 
(Mari) Y gwir plaen ydi─ma Gruffydd yn credu i fod o'n ddigon o eglwys i hunan.
(1, 0) 92 Ar y ngair i, os ydw i'n eglwys ti ydi'r person a'r clochydd arni hi; brensiach fawr, Dafydd, pam na rowch chi Mari ni yn y sêt fawr?
(Mari) Peidiwch a chellwar hefo petha na wyddoch chi ddim am danyn nhw; byddwch yn fodlon i fod yn awdurdod ar fenyn a chaws a ffowls.
 
(Dafydd) Eitha gwir; ond fedra i yn y myw rywsut feddwl am Mr. Evans yn |agent|: fel myfyriwr a phregethwr y bydda i'n arfar edrach arno fo.
(1, 0) 106 Hynny ydi, Dafydd, dy syniad di ydi fod Mr. Evans yn ormod o freuddwydiwr i drin busnes arian?
(1, 0) 107 Mae fel pe baet ti'n meddwl am Williams, Pantycelyn, yn cyfri arian y tu ol i'r cowntar!
(1, 0) 108 Grym annwyl, mae o'n syniad digri hefyd i feddwl am yr hen Evans yn canu mawl yr |Auxiliary Society| ac yn dosbarthu |prospectuses| ar hyd y wlad ma.
(1, 0) 109 Diaist i, rwan y basa shar o ddawn busnes Huw'r Ffridd yn dod yn handi iddo fo.
(1, 0) 110 Mi ddyla'r hen Huwcyn ddod a llyfr allan, mi ro i deitl iddo fo'n rhad ac am ddim.
(Dafydd) {Dan wenu.}
 
(Dafydd) Pa deitl roet ti iddo fo?
(1, 0) 113 Be di enw llyfr Tomos Binney hefyd─y llyfr na fuost ti'n ddarllen chydig yn ol, Mari?
(Mari) "Pa fodd i wneud y goreu o'r ddau fyd."
 
(Mari) "Pa fodd i wneud y goreu o'r ddau fyd."
(1, 0) 115 Dyna fo.
(1, 0) 116 Wel, dyma deitl i lyfr Huw─"Pa fodd y ces i'r goreu ar y byd hwn," sef, arna i, Gruffydd Huws, wyddost.
(Mari) Peidiwch a boddro am Huw mor amal; mi rydw i wedi laru'ch clywad chi byth a hefyd yn barnu crefyddwyr wrth Huw, a chitha'n gwbod ma un o chwyn yr eglwys ydi o.
 
(1, 0) 119 Pam gebyst ynta rydach chi yn Horeb yn gadael iddo fo dyfu yn y gwely gora sydd yn y capal?
(1, 0) 120 Rhyw bwnsh o ddalan poethion fel fo yn y sêt fawr!
(1, 0) 121 Mi fasa'n harddach i chi i garthu o allan i'r |lobby| o lawer.
(Dafydd) Fedra i yn y myw beidio meddwl am Mr. Evans yn |agent| yr |Auxiliary|.
 
(Mari) Mi fydd Morus yn lwcus i chael hi, achos mi ŵyr sut i gadw tŷ; dyma hi wedi cadw'r tŷ i'w thad byth er pan bu farw i mam.
(1, 0) 129 Mi ddeydist rwan, Mari, ma Morus roth hum i ti; ddeydith yr hen walch yr un pwmp wrtho i; ond rwyt ti'n medru cocsio i secrats o i gyd.
(Dafydd) Paid ag achwyn, Gruffydd, rwyt ti yn yr un manshar a phob tad arall.
 
(Mari) Dyna'r pen dyn, Mr. Francis, yn aelod seneddol ac yn proffesu crefydd, a mawr o arian mae o'n gyfrannu o hyd at achosion crefydd.
(1, 0) 136 Wyt ti dy hun, Mari, yn peidio bod yn |agent| ar y slei dywad?
(1, 0) 137 Rwyt ti'n siarad run ffunud a |phrospectus| y gymdeithas.
(1, 0) 138 Da i byth o'r fan ma, nid peth dwl fasa cael plat melyn ar y lidiart o flaen y tŷ: "|Mari Huws, Agent for the Auxiliary Society|."
(Mari) Wfft fawr i'ch coegni chi.
 
(1, 0) 143 I ba enwad, sgwn i, ma Francis yn perthyn, achos ma'n bwysig i ni wybod yng Nghymru prun ai Sentar ne Fethodis ne Fatist ydi o cyn ymddiried yn harian iddo fo.
 
(1, 0) 145 Dyma'r dyn fedar sponio'r dirgelwch i ni; Mr. Evans, i ba enwad ma Francis, pen manijar yr |Auxiliary Society| yn perthyn?
(Mari) Da chi, Gruffydd, rhowch ben ar y gwawd annuwiol na; peidiwch a sylwi arno fo, Mr. Evans.
 
(Mr Evans) O, fe wnaf o'r goreu â Gruffydd Huws; does dim ofn i frathiad o arna i.
(1, 0) 148 Y nghyfarthiad i ydi'r gwaetha, ia, Mr. Evans?
(1, 0) 149 Eitha gwir: roedd gen i gi defaid amsar yn ol a chena drwg oedd hwnnw─roedd o'n brathu heb gyfarth, a thacla melltigedig ydi rheini.
(1, 0) 150 Mi ddyla pob ci respectabl gyfarth unwaith beth bynnag cyn brathu.
(1, 0) 151 Ond be ydi'r si ma sy ar led, Mr. Evans, y'ch bod chi'n |agent| i'r |Auxiliary|?
(Mr Evans) O, mae hi wedi'ch cyrraedd chitha felly?
 
(Dafydd) Fel deydis i rwan jest wrth Gruffydd a Mari Huws, teimlo rydw i bob amser y'ch bod chi'n fwy naturiol o lawar i mi yn y stydi a'r pulpud nag efo rhyw waith fel hyn sy'n gofyn am wybodaeth go helaeth o gylch masnach.
(1, 0) 157 Twt, twt! deyda'n blaen fachgan, teimlo rwyt ti ma pysgodyn mewn cae tatws fydd Mr. Evans fel |agent| yr |Auxiliary|.
(Dafydd) Wel ia, hwyrach; ond rho di dy farn, Gruffydd.
 
(Mari) Dafydd, dydw i ddim o gwbl o'r un farn a chi.
(1, 0) 160 Dyma ti eto, Mari, yn taflu dy gribin i mewn o mlaen i.
(1, 0) 161 Mr. Evans, gofyn y marn i roedd Dafydd rwan, ac i ddeyd y gwir yn onest, mi rydw inna'n ofni'ch gweld chi'n gafael yn y swydd ma.
(Mr Evans) Mi wela wrth gwrs ma nid ameu'r Gymdeithas yr ydach chi ond ameu y nghymwyster i i'r swydd yntê?
 
(1, 0) 167 Dau'n barod!
(1, 0) 168 Go lew wir.
(1, 0) 169 Oes drwg gofyn pwy ydy nhw?
(Mr Evans) Pirs Davies, Rhyd y Fen, ydi un.
 
(Mr Evans) Pirs Davies, Rhyd y Fen, ydi un.
(1, 0) 171 Rhen Birs yn |shareholder|!
(1, 0) 172 Pirs sydd wedi cadw'i arian yn i sana drwy'r blynyddoedd, rhag ofn i'r bancia dorri!
(1, 0) 173 Da i byth o'r fan ma.
(Mr Evans) Huw Tomos y Ffridd ydi'r llall.
 
(1, 0) 176 Ar f'engoch i, Huw ffals wedi mentro!
(1, 0) 177 Wel, myn cebyst, dydi dydd y gwyrthia ddim ar ben.
(1, 0) 178 Huwcyn wedi credu yn sicrwydd y |six per cents|; mi fasa'n mynd i'r nefoedd yn i grynswrth tasa gyno fo chwarter cymin o grêd yn i grefydd, y lluman cyfrwys.
(Mari) Rhag cywilydd i chi Gruffydd!─yn siarad fel pagan yng ngŵydd Mr. Evans fel hyn.
 
(Mari) Rhag cywilydd i chi Gruffydd!─yn siarad fel pagan yng ngŵydd Mr. Evans fel hyn.
(1, 0) 180 Mae ceffyl castiog Huw yn y nghroen i o hyd, Mari bach; ond yn wirionadd i mi, fydd yn hwb da ymlaen i'r Gymdeithas yn yr ardal ma fod Huw wedi credu yni hi efo'i dafod ac hefo'i boced.
(Dafydd) Mi rowch chitha'ch arian yni hi, Mr. Evans?
 
(Mari) Pam y rhaid i ni golli petha gora'r byd a chrafu a chynhilo a phinsio'n hunain a dim uwch bawd troed yn y diwedd?
(1, 0) 189 Wn i ddim yn iawn beth i ddeyd ar ol yr araith na─prun ai "Amen,'' ne "Clywch, clywch"; ond myn gafr, un dda oedd hi.
(Gwen) Mi ddarum addo galw am y nhad wrth fyned heibio.
 
(1, 0) 194 Neno'r tad, dowch i mewn, Miss Evans, fytwn i mono chi, er ych bod chi'n ddigon da i'ch byta unrhyw ddiwrnod o'r wsnos.
(Gwen) Na wir, rhoswn ni ddim heno, mae hi'n mynd yn hwyr.
 
(1, 0) 209 Miss Evans, os gwelwch chi Morus ni ar y ffordd yn rhywle, gofynnwch iddo fo be ydi'r rhif lluosog o'r gair bygêjmant─bygêjmynt, ne bygêjmantiau.
(Mari) {Gan gydio yn ei fraich.}
 
(1, 0) 215 Ma'r gloch bach yn canu yn y nghlust inna fel Dafydd, gresyn fod Mr. Evans yn codlo efo'r Gymdeithas ma.