Asgre Lân

Ciw-restr ar gyfer Mari

(Morus) Be di'r rhif lluosog o'r gair clo, nhad?
 
(Gruffydd) O, nag ydw; ond cofia di ma na rai tatws drwg yn sach Horeb heblaw Huw.
(1, 0) 76 Mi feddylis mod i'n clywad sŵn ych llais chi, Dafydd.
 
(1, 0) 78 Hylo, be di'r matar arnoch chi heno?
(1, 0) 79 Ma'ch gwynab chi cyn goched a chrib ceiliog; be sy wedi codi'ch gwrychyn chi rwan?
(Gruffydd) Dim, dim: ymresymu dipyn hefo Dafydd yr oeddwn i.
 
(Gruffydd) Dim, dim: ymresymu dipyn hefo Dafydd yr oeddwn i.
(1, 0) 81 Wel, yn wir, o'r holl greduriaid sydd ar y ffarm chi'r dynion ydi'r rhai rhyfedda!
(1, 0) 82 Chi ddynion yn fodau rhesymol─chi sy'n colli'ch tempar y funud yr ewch i drio ymresymu?
(Gruffydd) Doedd yma neb yn colli'i dempar cyn i ti ddwad i mewn beth bynnag.
 
(Dafydd) Na, fi oedd yn ceisio perswadio Gruffydd i ddod yn aelod o Horeb acw.
(1, 0) 85 Felly wir; mi fuoch, decini, yn deyd wrtho fo'r fath golled i'r eglwys ydi bod heb ddyn fel y fo?
(Dafydd) Wel ia─
 
(Dafydd) Wel ia─
(1, 0) 87 Mi fuoch yn dangos y fath fraint i'r eglwys fasa medru bachu samon mawr fel Gruffydd ni?
(1, 0) 88 Begera aeloda y galwa i beth fel na; fasa Paul byth yn plygu i gardota pobol i'r eglwys yn y ffordd yna; ac er bod Gruffydd ma'n burion dyn, nid wrth i gosi o a phorthi i falchtar o y medrwch chi i gael o i mewn i'r eglwys; y gwir plaen ydi─
(Gruffydd) {Ar ei draed.}
 
(Gruffydd) Hannar munud, Mari: ma dy wir cyffredin di'n ddigon crafog, os doi di a dy wir plaen allan, mi mlingi fi i'r asgwrn.
(1, 0) 91 Y gwir plaen ydi─ma Gruffydd yn credu i fod o'n ddigon o eglwys i hunan.
(Gruffydd) Ar y ngair i, os ydw i'n eglwys ti ydi'r person a'r clochydd arni hi; brensiach fawr, Dafydd, pam na rowch chi Mari ni yn y sêt fawr?
 
(Gruffydd) Ar y ngair i, os ydw i'n eglwys ti ydi'r person a'r clochydd arni hi; brensiach fawr, Dafydd, pam na rowch chi Mari ni yn y sêt fawr?
(1, 0) 93 Peidiwch a chellwar hefo petha na wyddoch chi ddim am danyn nhw; byddwch yn fodlon i fod yn awdurdod ar fenyn a chaws a ffowls.
 
(1, 0) 95 Dafydd, glywsoch chi fod Mr. Evans yn |agent| dros y cwmni na yn Llunden?
(Dafydd) Pa gwmni?
 
(Dafydd) Pa gwmni?
(1, 0) 97 Yn eno'r tad, y cwmni mawr sydd a chymin o sôn am dano'n talu'r llog arian uchel.
(Dafydd) O! 'r |Auxilary Society|?
 
(Dafydd) O! 'r |Auxilary Society|?
(1, 0) 99 Dyna fo.
(Dafydd) {Mewn syndod.}
 
(Dafydd) Mr. Evans, y gweinidog, yn |agent| iddyn nhw?
(1, 0) 102 Ia, pam lai?
(1, 0) 103 Does dim o le yn y swydd, oes yna?
(1, 0) 104 Mi wyddoch fod dega lawer o weinidogion y gwahanol enwada yn |agents| i'r |Auxiliary|.
(Dafydd) Eitha gwir; ond fedra i yn y myw rywsut feddwl am Mr. Evans yn |agent|: fel myfyriwr a phregethwr y bydda i'n arfar edrach arno fo.
 
(Gruffydd) Be di enw llyfr Tomos Binney hefyd─y llyfr na fuost ti'n ddarllen chydig yn ol, Mari?
(1, 0) 114 "Pa fodd i wneud y goreu o'r ddau fyd."
(Gruffydd) Dyna fo.
 
(Gruffydd) Wel, dyma deitl i lyfr Huw─"Pa fodd y ces i'r goreu ar y byd hwn," sef, arna i, Gruffydd Huws, wyddost.
(1, 0) 117 Peidiwch a boddro am Huw mor amal; mi rydw i wedi laru'ch clywad chi byth a hefyd yn barnu crefyddwyr wrth Huw, a chitha'n gwbod ma un o chwyn yr eglwys ydi o.
(Gruffydd) {Yn danllyd.}
 
(Dafydd) Gawsoch chi'r newydd o le go saff, Mari Huws?
(1, 0) 125 Morus, y bachgan ma, roth hum i mi.
(Dafydd) Ha, mi gwela hi rwan; Gwen Evans ddeydodd wrth Morus am i thad; ma Morus a hitha'n caru'n o glos, yn tydy nhw?
 
(Dafydd) Ha, mi gwela hi rwan; Gwen Evans ddeydodd wrth Morus am i thad; ma Morus a hitha'n caru'n o glos, yn tydy nhw?
(1, 0) 127 Felly ma nhw'n deyd.
(1, 0) 128 Mi fydd Morus yn lwcus i chael hi, achos mi ŵyr sut i gadw tŷ; dyma hi wedi cadw'r tŷ i'w thad byth er pan bu farw i mam.
(Gruffydd) Mi ddeydist rwan, Mari, ma Morus roth hum i ti; ddeydith yr hen walch yr un pwmp wrtho i; ond rwyt ti'n medru cocsio i secrats o i gyd.
 
(1, 0) 133 Cnafon twyllodrus, yn wir!
(1, 0) 134 Ma'r cwmni'r un mwya parchus yn y wlad, ac ma rhai o'r bobol ora ynglŷn a fo.
(1, 0) 135 Dyna'r pen dyn, Mr. Francis, yn aelod seneddol ac yn proffesu crefydd, a mawr o arian mae o'n gyfrannu o hyd at achosion crefydd.
(Gruffydd) Wyt ti dy hun, Mari, yn peidio bod yn |agent| ar y slei dywad?
 
(Gruffydd) Da i byth o'r fan ma, nid peth dwl fasa cael plat melyn ar y lidiart o flaen y tŷ: "|Mari Huws, Agent for the Auxiliary Society|."
(1, 0) 139 Wfft fawr i'ch coegni chi.
(1, 0) 140 Mi wn be ydw i'n ddeyd; ma'r papura newydd yn llawn o'r gymdeithas bob wsnos.
(1, 0) 141 Mi welis yn "Utgorn Cymru'' y dydd o'r blaen fod Mr. Francis yn rhoi pum mil o bunnau at wahanol gymdeithasa cenhadol, roedd o hefyd yn gosod carreg sylfaen dau ne dri o gapeli yn Llunden chydig yn ol.
(Gruffydd) {Dan wincio ar DAFYDD.}
 
(Gruffydd) Dyma'r dyn fedar sponio'r dirgelwch i ni; Mr. Evans, i ba enwad ma Francis, pen manijar yr |Auxiliary Society| yn perthyn?
(1, 0) 146 Da chi, Gruffydd, rhowch ben ar y gwawd annuwiol na; peidiwch a sylwi arno fo, Mr. Evans.
(Mr Evans) O, fe wnaf o'r goreu â Gruffydd Huws; does dim ofn i frathiad o arna i.
 
(Dafydd) Wel ia, hwyrach; ond rho di dy farn, Gruffydd.
(1, 0) 159 Dafydd, dydw i ddim o gwbl o'r un farn a chi.
(Gruffydd) Dyma ti eto, Mari, yn taflu dy gribin i mewn o mlaen i.
 
(Gruffydd) Huwcyn wedi credu yn sicrwydd y |six per cents|; mi fasa'n mynd i'r nefoedd yn i grynswrth tasa gyno fo chwarter cymin o grêd yn i grefydd, y lluman cyfrwys.
(1, 0) 179 Rhag cywilydd i chi Gruffydd!─yn siarad fel pagan yng ngŵydd Mr. Evans fel hyn.
(Gruffydd) Mae ceffyl castiog Huw yn y nghroen i o hyd, Mari bach; ond yn wirionadd i mi, fydd yn hwb da ymlaen i'r Gymdeithas yn yr ardal ma fod Huw wedi credu yni hi efo'i dafod ac hefo'i boced.
 
(Mr Evans) Be am danoch chi a Mari Huws, Gruffydd Huws?
(1, 0) 185 Rydw i wedi dilyn hanes y Gymdeithas ers misoedd, ymhell yn wir cyn bod sôn am dani yma hefo ni.
(1, 0) 186 Mae gen i frawd yn Lerpwl fentrodd arni'n bur ddwfn, ac mae'r lloga'n dwad i mewn yn gyson fel y cloc.
(1, 0) 187 A dydi Gruffydd ma chwaith wedi cael fawr o lonydd ers plwc byd, mi rydw i'n gneud y ngora i gael ganddo roi deucant ne dri i mewn yni hi.
(1, 0) 188 Pam y rhaid i ni golli petha gora'r byd a chrafu a chynhilo a phinsio'n hunain a dim uwch bawd troed yn y diwedd?
(Gruffydd) Wn i ddim yn iawn beth i ddeyd ar ol yr araith na─prun ai "Amen,'' ne "Clywch, clywch"; ond myn gafr, un dda oedd hi.
 
(1, 0) 198 Go lew wir, thenciw; newch chi ddim eista funud?
(Gwen) Na wir, rhaid mynd.
 
(1, 0) 211 Tewch, y Iolyn gwirion.
(1, 0) 212 Nos dawch, Miss Evans.
 
(Gruffydd) Ma'r gloch bach yn canu yn y nghlust inna fel Dafydd, gresyn fod Mr. Evans yn codlo efo'r Gymdeithas ma.
(1, 0) 216 Cloch bach yn canu yn ych clust chi, wir!
(1, 0) 217 Canu yn ych stumog chi y bydd hi amlaf.
(1, 0) 218 Wn i ar y ddaear fawr pam rydach chi'n petruso, achos ma'r Gymdeithas fel y Banc o Ingland, ac mi gewch weld y gnaiff Mr. Evans |agent| rhagorol.