Atgofion

Ciw-restr ar gyfer Desc

(1, 0) 1 GOLYGFA: Cegin JOHN GRIFFITHS.
(1, 0) 2 Mae popeth yn daclus a glân.
(1, 0) 3 Mae drws i'r gegin fach ar y dde i'r gynulleidfa, a drws arall (yn amlwg) i'r ystryd ar y chwith.
(1, 0) 4 Ar y wâl, yn amlwg i bawb, mae almanac.
(1, 0) 5 Mae llestri tê yn barod ar y ford.
(1, 0) 6 ~
(1, 0) 7 Cyfyd y llên ar ESTHER mewn ffedog fawr, neu "overall" â llewysau, yn dod i mewn o'r gegin fach gan gario bara, etc.
(1, 0) 8 Un bruddaidd ei gwedd yw ESTHER.
(1, 0) 9 Saif wrth y ford am ychydig, yna sych ddeigryn, a rhydd ochenaid.
(1, 0) 10 Yna daw curiad ar y drws ac ymddengys RACHEL, gwraig SAMUEL REES, drws nesaf.
(1, 0) 11 Ceisia ESTHER guddio ei gofid.
(Rachel) Wyt ti wedi cael tê, Esther?
 
(Esther) Fy eiddo i ydyw'r atgofion, wedi'r cyfan.
(1, 0) 80 Clywir lleisiau dynion tuallan yn pasio y drws.
(Esther) Bydd y lle yn orlawn heno, Rachel.
 
(Sam) Hylo!
(1, 0) 176 Agorir y drws a chlywir llais John.
(1, 0) 177 Edrychant i gyfeiriad y drws, heb ddweyd gair.
(John) Cewch eich dodi yn eich lle heno!
 
(Esther) Do.
(1, 0) 280 Ychydig seibiant.
(Sam) Bu John bron a mynd yn wallgof yr adeg hynny, Esther.
 
(Esther) Noswaith dda, Sam.
(1, 0) 426 SAM yn hanner mynd allan, ond yn troi yn ol eto.
(Sam) O, ie, John, sylwa di fan hyn heno.
 
(Sam) Wel, noswaith dda, Esther.
(1, 0) 433 Y drws yn cau.
(1, 0) 434 Clywir ef yn canu, "Love for our dear country we cherish."
(John) {Yn mynd i'r drws, yn ei agor, ac yn galw ar ol SAM.}
 
(Sam) Lol i gyd!
(1, 0) 444 JOHN yn cau y drws dan chwerthin.
(Esther) Yr ydych eich dau fel plant bach.
 
(John) {Yn eistedd wrth y bwrdd gan wynebu'r dorf.}
(1, 0) 450 O hyn i ddiwedd yr Act rhaid i ysgogiadau JOHN arddangos brys mawr.
(1, 0) 451 Hefyd, ni ddylai'r ddialog fod yn rhy gyflym.
(1, 0) 452 Byddai yn fantais i'r chwarae i JOHN fwyta banana neu afal.
(Esther) Mae clebran yn mynd â'r amser.
 
(John) Reit—i olchi hwn i lawr.
(1, 0) 478 A ESTHER allan.
(John) Esther!
 
(John) Diferyn bach.
(1, 0) 499 ESTHER yn mynd.
(John) Ac Esther!
 
(John) 'Does dim |attack| gyda nhw.
(1, 0) 506 Esteher yn ymddangos.
(1, 0) 507 Mae hi yn awr wedi diosg ei "overall," ac ymddengys yn ei gwisg ddu.
(Esther) Fe gei di |attack| yn'u lle nhw os na chymeri fwy o amser.
 
(John) Mae llaw Cantwr Bach yn symud yn chwim fel hyn...
(1, 0) 548 Syrth cwpan i'r llawr ar ei dde yn ddarnau mân.
(1, 0) 549 Edrych y ddau ar y darnau am eiliad, heb symud dim.
(Esther) Wel, rwy'n dechreu gwan-galonni.
 
(John) Wel, wel, y menywod 'ma!
(1, 0) 631 Rhydd ddatganiad o linell neu ddwy o'r "Comrades in Arms," yna cydia yn yr esgid arall, gan ddechreu datod y lasen.
(1, 0) 632 Yn ei frys tŷr y lasen.
(John) Daro shwd beth!
 
(Esther) Beth 'nawr?
(1, 0) 636 O'r gegin fach clywir sŵn y llestri.
(John) B'le câf i lasen newydd?
 
(John) O, dyma hi!
(1, 0) 647 Tŷn allan lasen, ond wrth wneud hynny syrth doli fach i'r llawr.
(1, 0) 648 Saif JOHN heb symud am ychydig, â'i lygaid yn craffu ar y ddoli.
(1, 0) 649 Gweddnewidia, a chyda chyffro dwfn yn argraffedig ar ei wyneb, plyg yn araf a chwyd y ddoli i fyny.
(1, 0) 650 Saif felly am ysbaid, ac yna cerdda yn araf at yr almanac.
(1, 0) 651 Âr ol syllu arno rhydd "start" sydyn, ac yna daw yn ol yn ben-isel at y ford.
(1, 0) 652 Eistedda yn yr un gadair, ei holl ymddygiad yn arddangos dwyster.
(1, 0) 653 Gesyd y ddoli ar y ford.
(1, 0) 654 Yna, yn araf, "Tyn Yr Esgid Oddiam Ei Droed".
(1, 0) 655 Deil y ddoli yn ei law chwith, gesyd ei freichiau ar y ford â'i ben yn pwyso arnynt, ac wyla'n dawel.
(1, 0) 656 Ymddengys ESTHER, gan gario hêt JOHN yn ei llaw chwith, heb weld yn union fod dim o'i le; yna saif yn llonydd gan sylweddoli.
(1, 0) 657 Daw cyffro iw hwyneb.
(1, 0) 658 Neshâ yn araf y tu ol i JOHN, gan sychu ymaith ddeigryn.
(1, 0) 659 Gesyd yr hêt ar y ford, ac yna ei llaw chwith yn dyner ar y llaw sy'n dâl y ddoli.
(1, 0) 660 Cwyd JOHN ei law dde, heb godi ei ben, cydia ESTHER ynddo â'i llaw dde hithau, a chan ei gofleidio plyg ei phen nes pwyso ar JOHN.
(1, 0) 661 Yna, a'r ddau yn wylo yn dawel, disgyn, yn araf, y
(1, 0) 662 ~
(1, 0) 663 LLEN