Atgofion

Ciw-restr ar gyfer Rachel

 
(1, 0) 12 Wyt ti wedi cael tê, Esther?
(Esther) Ydw.
 
(Esther) Cymer gadair; mae John yn gweithio 'mlaen.
(1, 0) 15 Dim ond am ychydig o funudau.
(1, 0) 16 Mae Sam ar fynd i'r steddfod.
(Esther) Wyt ti'n mynd hefyd?
 
(Esther) Wyt ti'n mynd hefyd?
(1, 0) 18 Fi?
(1, 0) 19 Dim perigl.
(1, 0) 20 Wfft iddi nhw a'u hên ganu ac adrodd.
(1, 0) 21 'Rwyf am fynd lawr i'r dre' i weld Mari, fy chwaer.
(Esther) 'Steddfod i'w chofio fydd hon.
 
(Esther) 'Steddfod i'w chofio fydd hon.
(1, 0) 23 'Dyw'r Genedlaethol yn ddim i'w chymharu â hi.
(1, 0) 24 Mi fyddai'n falch i weld yfory.
 
(1, 0) 26 Dim ond 'steddfod, a |male voice|, a |rallentando| glywir yn ein tŷ ni o fore tan nos.
(Esther) Synnwn i fawr, Rachel.
 
(Esther) Synnwn i fawr, Rachel.
(1, 0) 28 Wyddost ti, mae Sam fel pe bae wedi ynfydu.
(1, 0) 29 Wrth gwrs, y mae John yn mynd?
(Esther) {Yn dawel.}
 
(Esther) Ydi.
(1, 0) 32 A tithau hefyd, wrth gwrs.
(Esther) Na, nid wy'n mynd heno.
 
(Esther) Na, nid wy'n mynd heno.
(1, 0) 34 Beth?
(1, 0) 35 A'r fath gantores fuost ti erioed!
(1, 0) 36 A ti wyddost am gystadleuaeth y |male voice| heno; ni bu ei bath erioed!
(Esther) {Yn dawel iawn.}
 
(Esther) Na, Rachel, arhosaf gartref.
(1, 0) 39 Ond, Esther, fe fydd canu da yn y gystadleuaeth heno!
(Esther) Nid oes cân yn fy nghalon bellach.
 
(Esther) Torrwyd y tant.
(1, 0) 42 Wel, wel, dyna un ôd wyt ti, a dweyd y lleiaf.
(1, 0) 43 Gall'swn feddwl—.
 
(1, 0) 45 O, ie, wrth gwrs.
 
(1, 0) 47 Faint sy 'nawr oddiar y bu Neli fach farw?
(Esther) {Gydag ymdrech.}
 
(Esther) Blwyddyn—i heno.
(1, 0) 50 Blwyddyn i heno!
(1, 0) 51 Yr annwyl, annwyl.
(1, 0) 52 Druan fach!
(1, 0) 53 Fel mae'r amser yn mynd!
(Esther) Ydi.
 
(Esther) Ydi.
(1, 0) 55 Cannwyll llygad John oedd Neli fach.
(Esther) {Yn ddwys.}
 
(Esther) Eitha' gwir.
(1, 0) 58 Nid wyf yn cofio'n iawn—ai nid yn dy freichiau di y bu Neli fach farw?
(Esther) {Mewn cyffro.}
 
(Esther) Nage, ym mreichiau John.
(1, 0) 61 Wrth gwrs, wrth gwrs; nawr 'rwy'n cofio.
(1, 0) 62 Peth òd fod John yn mynd heno, Esther!
(Esther) {Yn frysiog.}
 
(Esther) Wedi anghofio'r date mae John, 'rwy'n siwr.
(1, 0) 65 Dd'wedi di rywbeth wrtho i'w atgofio, Esther?
(Esther) {Yn apelgar.}
 
(Esther) Gadewch i'r dynion gael eu dedwyddwch.
(1, 0) 69 Gâd i fi ddweyd wrtho.
(Esther) {Yn codi ei llaw ac yn siglo ei phen.}
 
(Esther) Na {megis murmur}—na.
(1, 0) 72 Hwyrach mai ti sy'n iawn, Esther.
(1, 0) 73 Nyni, y menywod, sy'n cofio ac yn hiraethu.
(1, 0) 74 Dyna yw'n tynged ni ar y ddaear yma.
(Esther) Hwyrach hynny, Rachel.
 
(Esther) Hwyrach hynny, Rachel.
(1, 0) 76 Mae yna lawer o lawenydd yn ddyledus i ni yn y byd arall, gall'swn feddwl.
(1, 0) 77 Oes, sicr o fod.
(Esther) Mae hiraeth yn well na bod yn ddi-brofiad, Rachel.
 
(Esther) Bydd y lle yn orlawn heno, Rachel.
(1, 0) 82 Maent yn dod o bobman; weles i ddim o'r fath beth erioed.
(1, 0) 83 Mae'r ddau gôr lleol wedi rhoddi'r goron ar y cyfan.
(Esther) 'Rwy'n falch nad yw John yn y côr y tro hwn.
 
(Esther) Amhosibl iddo weithio gyda'r contract newydd 'ma a mynychu'r |rehearsals|.
(1, 0) 86 Byddai'n dân goleu 'ma rhwng Sam a John, pe bae un ohonynt ym |Male Voice| Dwynant, a'r llall yng Nghôr Pentwyn.
(Esther) Eitha' gwir, Rachel.
 
(Esther) Eitha' gwir, Rachel.
(1, 0) 88 Hyd yn oed fel y mae pethau, dim ond sôn am roddi "whiff" i hên gôr John y mae Sam, nos a dydd.
(1, 0) 89 Ydi John yn siarad rhywbeth am y corau?
(Esther) Y mae ambell i frawddeg yn dod allan 'nawr ac yn y man.
 
(Esther) Weithiau clywaf ef yn mwmian |Comrades in Arms|.
(1, 0) 92 Dyna fe!
(1, 0) 93 |Comrades in Arms| sydd yn fy nghlustiau innau byth ac hefyd.
(1, 0) 94 Gwyn fyd na buasai'r gân heb ei chyfansoddi erioed.
(Esther) Ychydig o wahaniaeth wnelai hynny.
 
(Esther) Mi fyddai'r |Martyrs of the Arena| yn codi tô ein tai ni wedyn.
(1, 0) 97 |Martyrs of the Arena| yn wir!
(1, 0) 98 Mae'n bryd i ryw fenyw gyfansoddi darn o'r enw |Martyrs of the Kitchen|!
(1, 0) 99 Ydi'n wir.
(Esther) Ond, Rachel, gwell fod ein dynion yn sobr ac yn dilyn y canu, na pe baent yn...
 
(1, 0) 102 Wrth gwrs, wrth gwrs.
(1, 0) 103 Ond trueni fod dynion yn cweryla â'u gilydd am ychydig o hên ganu.
(1, 0) 104 'Nawr...
(Sam) {O'r tuallan.}
 
(1, 0) 108 Os daw Sam i mewn, ar dy fywyd paid a sôn am |Comrades in Arms|.
(Sam) {Yn agor y drws.}
 
(Sam) Ydi—O, 'rwyt yma, Rachel?
(1, 0) 112 Cael sgwrs fach gydag Esther 'roedd i cyn mynd i'r dref.
(Esther) Dewch ymlaen, ac eisteddwch,
 
(Sam) Y dyn, bydd y 'steddfod hanner drosodd, a'r |male voice|...
(1, 0) 120 Rho lonydd i'r |male voice|, da ti.
(1, 0) 121 'Rwyf bron a gwirioni wrth glywed y tragwyddol |Comrades in Arms|.
 
(1, 0) 123 Dyna fi wedi'i gwneud hi!
(Sam) Fe rown ni |Comrades in Arms| i'r sêt.
 
(1, 0) 128 Gloiaist ti ddrws y ffrynt cyn dod allan?
(Sam) {Yn chwilio yn ei logell, ac yn tynnu allan allwedd.}
 
(1, 0) 136 O'r nefoedd!
(1, 0) 137 Dôs i'r 'steddfod, er mwyn popeth, a phaid â phoeni Esther â dy lol.
(1, 0) 138 'Rwy'n mynd i'r dre, Esther, allan o sŵn |Comrades in Arms|.
(1, 0) 139 Noswaith dda, Esther.