Beddau'r Proffwydi

Ciw-restr ar gyfer Agnes

(Robert) Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam?
 
(Robert) Steddwch, Miss Vaughan.
(1, 0) 149 Sut yr ydech chi i gyd.
(1, 0) 150 Ydech chi'n weddol, Mr. Williams?
(1, 0) 151 A chithe, Mali Owen?
(Robert) Mae'r hen wraig yn i gweld nhw heno.
 
(Robert) Mae'r hen wraig yn i gweld nhw heno.
(1, 0) 153 Dydech chi ddim yn |superstitious|, ydech chi, Mali Owen?
(1, 0) 154 Does dim ond fflammau i gweld yn y tân.
(Mari) Mynd yn hen ag yn wirion rydw i.
 
(Mari) Welsoch chi mo Emrys ar y ffordd yna yn unlle?
(1, 0) 157 Naddo, wir.
(1, 0) 158 Lle mae o wedi mynd?
(Elin) Roedd o'n sôn i fod o'n mynd i weld ych tad i'r Hafod.
 
(Elin) Roedd o'n sôn i fod o'n mynd i weld ych tad i'r Hafod.
(1, 0) 160 Mae'n debig iddo gyrraedd wedi i mi gychwyn.
(1, 0) 161 Mi fum i'n ymdroi tipin tua'r siop, yn ol f'arfer.
(Elin) Roedd yno ddigon o straeon, mi wranta.
 
(Elin) Mae Mrs. Davies—a Dafydd Dafis hefyd o ran hynny—yn gwybod hanes y byd a'r Bettws.
(1, 0) 164 Chlywsoch chi rioed y fath beth; doedd dim eisio imi yngan gair, dim ond gwrando.
(1, 0) 165 Sôn am boachers yr oedden nhw—{Elin Williams yn edrych drwy'r ffenestr}—a deud fod y sgweier yn |just mad|—
(1, 0) 166 Mae gynno fo |suspicion| o'i |tenants| i hun.
(1, 0) 167 Mae o wedi bod hefo Mr. Evans y gweinidog yn rhoi |rating| iawn iddo am beidio pregethu yn erbyn |poachio|.
(Robert) Ho, felly wir!
 
(Elin) Ydech chi'n meddwl y dylid trin y |gentry|, chwedl chitha, yn wahanol i bobol erill?
(1, 0) 175 Wel, mae'n gwilydd i bobol gommon hel i dwylo hyd rai fel y Sgweier—a ninna'i gyd yn |tenants| iddo.
(1, 0) 176 Mae Pa-pa yn deud bob amser fod pob parch wedi marw o'r wlad ar ol '68, ag mai ar y gweinidogion roedd y bai.
(1, 0) 177 Mi fyddwn ni fel teulu bron a mynd i'r Eglwys weithia: os ydi'r personiaid yn pregethu'n sal, mae nhw'n wŷr bonheddig, beth bynnag.
(Mali) "Gorchest benna gŵr bonheddig
 
(Mali) Gwneud y tlawd yn llwm ag unig."
(1, 0) 180 Ydech chi ddim yn meddwl peth fel yna, Mali Owen?
(Mali) 'Dydw i'n meddwl dim byd, rwan.... Ydi hi'n dywyll o hyd?
 
(Robert) Dydi o'n credu dim yn y morfil, Miss Vaughan.
(1, 0) 187 Morfil? pa forfil?
(Robert) Morfil Jona, wrth gwrs—wn i ddim beth ddaw ohono fo.
 
(Elin) Hogyn da ydi'r hogyn.
(1, 0) 192 O ia, eisio bod dan ddylanwad rhywun |nice| sy arno fo, ynte?
(1, 0) 193 Pe bai o'n byw hefo rhywun gwir grefyddol—
 
(1, 0) 195 —buan iawn y basa fo yn dwad yn ol.
(Mali) Ydech chi'n grefyddol, Miss Vaughan?
 
(Mali) Ydech chi'n grefyddol, Miss Vaughan?
(1, 0) 197 Ydw, rwy'n gobeithio.
(Mali) {Fel un yn holi "Rhodd Mam".}
 
(Mali) Ydi'ch tad yn grefyddol?
(1, 0) 200 Ydi—o ydi—rwy'n ddigon siwr ohono.
(1, 0) 201 Chyffyrddodd o â dafn o ddiod erioed.
(Mali) {Fel pe wrthi'i hunan.}
 
(Elin) Ia, nain bach, ond rydech chi'n hên wraig go dda yn ol yr hen ffasiwn a'r newydd.
(1, 0) 209 Ia, ond rhaid cael gwared o'r hen |superstitions| a'r hen bechoda.
(1, 0) 210 Doedd pobol ystalwm ddim yn bobol |nice| iawn.
(Elin) Mae Emrys yn deud y basa'n well ini fod yn debycach iddyn nhw, ym mhob peth ond i hanwybodaeth.
 
(Emrys) Mi fum i acw yn yr Hafod hefo'ch tad drwy'r ddechreunos.
(1, 0) 229 Rydw i'n reit dda, |thank you|.
(1, 0) 230 Wedi bod yn y siop yr ydw i.
(Elin) Mae Miss Vaughan yn mynd i aros i gael tamaid o swper, a rhaid i titha fynd i danfon hi dros y gors.
 
(Mali) Beth sy gen ti, machgen i?
(1, 0) 238 |Brace of pheasants!|
(Emrys) Llonydd i mi gael gair i fewn, neno'r tad.
 
(Emrys.) Roedden nhw ar y ffordd fawr, ac mae gen i gystal hawl iddyn nhw a neb arall.
(1, 0) 247 le, ie,—ond pwy piau nhw?
(1, 0) 248 Rhaid cadw'r gydwybod yn lân beth bynnag.
(Emrys) Twt, twt,—cymrwch yr hyn y mae'r duwiau yn i anfon i chi heb holi gormod.
 
(Robert) Dydech chi ddim yn paratoi swper i Miss Vaughan, Elin?
(1, 0) 255 Na wir, 'rydw i wedi ymdroi gormod yn barod.
(1, 0) 256 Mi fydd |Ma-ma| yn bur anesmwyth am dana i.
(Robert) Taid annwyl, bedi'r brys?
 
(Robert) Dydech chi ddim wedi clywed Emrys yn pregethu eto ar yr hyn mae o'n mynd i neud yn y wlad yma.
(1, 0) 259 Rydw i'n gobeithio'n fawr nag ydech chi ddim yn mynd yn |agitator|, Mr. Williams?
(Emrys) |Agitator|?
 
(Emrys) Mynd i'ch gwely ydi gore i chi, nain bach.
(1, 0) 275 Wel dowch ynte, Mr. Williams.
(1, 0) 276 |It's getting so very late|.
(Mali) O!
 
(Robert) Nenor Rasmws mawr, os na cheith dyn tlawd godi dau dderyn wedi marw oddiar y clawdd mewn gwlad efengyl, mae hi wedi mynd,
(1, 0) 385 Dywedwch y gwir, Mr. Williams.
(1, 0) 386 Cyfaddefwch y gwir,—bydd yn haws i chi gael trugaredd.
(Elin) Miss Vaughan! ydech chi'n meddwl nad ydi Emrys yn deud y gwir?
 
(1, 0) 419 Wel, nos da.
(Emrys) Wel, dydi hyn ddim byd—mwy na dŵr ar gefn chwiaden.
 
(Emrys) Fedrwch chi ddim mynd adre'ch hun.
(1, 0) 422 |No, thanks.|
(1, 0) 423 Mi af yn iawn fy hunan.
(1, 0) 424 Does arnai ddim ofn |poachers| bellach; mi wn yn lle y mae nhw.