Beddau'r Proffwydi

Ciw-restr ar gyfer Elin

(Robert) Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam?
 
(1, 0) 30 Beth sydd eisio?
(Robert) Dowch â thipyn o ola yma, neno'r taid; mae'r hen wraig i hun yn y fan yma fel pelican yr anialwch.
 
(1, 0) 38 Tewch â rhuo, Robert, am y menyn yna o hyd.
(1, 0) 39 Mae llawer mwy o hir hel wedi bod arno ar ol i roi ar y bwrdd na chynt, ddyliwn i.
(1, 0) 40 Ydi'r golau'n rhy gry i chi, nain?
(Mali) Mae'r golau'n rhy gry i mi bob amser, weldi.
 
(Mali) Rydw i jest a darfod hefog o.
(1, 0) 43 Peidiwch a chyboli wir, nain bach.
(1, 0) 44 Dydech chi ddim ond dechra byw eto.
(1, 0) 45 Ond oeddech chi'n deud, os ydech chi'n cofio, pan oedd Emrys yn mynd i ffwrdd i'r ysgol am y tro cynta na chaech chi byth i weld o wedyn,—a dyma fo wedi gorffen ac wedi cael i radd,—a chitha ddim blewyn gwaeth.
(Mali) Amal gnoc, y ngeneth i, dyrr yr hen garreg...
 
(Mali) Mae Emrys yn ymdroi'n hir iawn yn rhywle.
(1, 0) 48 Chware teg i'r hogyn; ceisio meddwl y mae o'n rhywle: fedar neb feddwl dim yn y tŷ yma,—a Robert yn clebran o hyd fel prep melin, ag Ann a finna'n clocsio o gwmpas hefo'r llaeth i'r lloiau.
(1, 0) 49 Ond marciwch chi fod gynno fo rywbeth mawr ar i feddwl; mae o'n sôn o hyd y mynn o wneud i ol ar y wlad yma,—a fynta wedi cael cyfle mor ardderchog.
(1, 0) 50 Ag mae eisio rhywun i ail-bobi tipin ar yr hen wlad, rhywun i ddysgu tipin arni, rhywun i roi tipin o gryfdwr yn asgwrn i chefn hi, a gewch chi weld mai Emrys ydi'r dyn.
(Robert) Wel, tawn i'n llwgu ar y fan yma, dyma'r hen Elin yn dechra'i gweld nhw eto.
 
(Robert) Pam na fasa fo'n mynd yn brygethwr ynte os ydi o mor awyddus am roi tro yng nghynffona pobol?
(1, 0) 57 Mi fasa Emrys yn gneud cystal prygethwr a'r un ohonyn nhw {yn pwyntio at y lluniau} o ran hynny.
(1, 0) 58 Does gen neb air i ddeud yn erbyn i gymeriad o,—ond mae o'n deud y gneith o well gwaith y tu allan i'r pulpud.
(Robert) {Yn datod ei esgidiau.}
 
(Robert) Waeth befo, o ran hynny, mae genni hi ddigonedd o arian.
(1, 0) 66 Twt, twt!—mae'n rhy fuan iddo fo feddwl am briodi am flynyddoedd eto,—ac mae'r hên Vaughan, welwch chi, yn disgwyl rhywbeth gwell i Miss Agnes na mab i ffarmwr...
(1, 0) 67 Ydech chi wedi gorffen, Ann?
(Ann) Do, 'r cwbwl.
 
(Mali) Mae Emrys yn hir iawn yn rhywle.
(1, 0) 82 Tewch wir, nain; rydech chi'n 'y ngneud i'n bur drwblus yn i gylch o.
 
(1, 0) 84 Mae hi'n dywydd garw heno, a mae nhw'n deud fod peth wmbreth o ryw hen boachers o'r dre o gwmpas y wlad.
(1, 0) 85 Mae'r sgweier wedi addo ar i beth mawr ynta mai'i cosbi hyd eitha'r gyfraith gân nhw.
(1, 0) 86 Mae o o'i gô lâs am i fod o'n methu a'i dal nhw.
 
(1, 0) 88 Beth rydech chi'n ochneidio, deudwch?
(Mali) Gweld petha rhyfedd yn y tân yma.
 
(Mali) 'Dwyt ti ddim yn meddwl y bydd yr hen Vaughan yn fodlon i Emrys gael Agnes, wyt ti?
(1, 0) 91 Waeth gen i o gwbwl—ond dydi hi ddim hanner digon da iddo fo,—yr hen beth larts benchwiban iddi hi.
(1, 0) 92 Does genni ddim golwg o gwbwl ar y teulu,—cribddeilwyr a chrintachod ydyn nhw o hil gerdd.
(1, 0) 93 Ond mae Robert wedi cymryd rhyw chwilen yn i ben am fod yna arian yn yr Hafod, ag mae o'n meddwl—
(Robert) {O'r ty llaeth.}
 
(1, 0) 99 Gadael llonydd iddo fo wir!
(1, 0) 100 Gadael llonydd iddo fo!
(1, 0) 101 Os medra i 'i gadw fo rhag syrthio i ddwylo'r Ismaeliaid, mi wna hynny, mi ellwch chi fod yn ddigon siwr.
(1, 0) 102 Ymyrraeth wir?
(1, 0) 103 Gan bwy mae'r hawl i ymyrraeth os nad gen i?
(1, 0) 104 Pwy fu'n cynhilo pob dima i yrru o i'r coleg, pan oedd i dad o'n grwgnach fel costog bob dydd?
(1, 0) 105 Pwy fu'n mynd i'r capel bob Sul yn llwm ag yn dlawd er mwyn i gadw fo yno fel roedd o'n haeddu?
(1, 0) 106 Pwy oedd yn credu y basa fo'n gneud gwyrthia yno, a phwy sy'n credu y bydd o'n broffwyd ac yn efangylydd yng Nghymru eto?
(1, 0) 107 Pwy ond i fam o?
(1, 0) 108 Mi ellwch chi roi caead ar ych piser yn ddigon di-lol o ran hynny!
(Robert) {Yn y drws yn llewys ei grys, a sebon hyd ei wyneb.}
 
(1, 0) 132 Na fydd, Ann.
 
(1, 0) 134 Dydi Miss Vaughan ddim yn deall yn dull ni yn y Sgellog.
(1, 0) 135 Mae hi'n trin Ann fel y mae nhw'n trin morynion yr Hafod—fel tasa nhw'n faw dan draed.
(1, 0) 136 Dyna ffordd byddigions, debig gin i.
 
(1, 0) 141 Sut rydech chi, heno, Miss Vaughan?
(1, 0) 142 Dowch i fewn.
(1, 0) 143 Mae hi'n dywyll iawn, ond ydi hi?
(Robert) la, dowch i fewn Miss Vaughan, a steddwch wrth y tân.
 
(Agnes) Lle mae o wedi mynd?
(1, 0) 159 Roedd o'n sôn i fod o'n mynd i weld ych tad i'r Hafod.
(Agnes) Mae'n debig iddo gyrraedd wedi i mi gychwyn.
 
(Agnes) Mi fum i'n ymdroi tipin tua'r siop, yn ol f'arfer.
(1, 0) 162 Roedd yno ddigon o straeon, mi wranta.
(1, 0) 163 Mae Mrs. Davies—a Dafydd Dafis hefyd o ran hynny—yn gwybod hanes y byd a'r Bettws.
(Agnes) Chlywsoch chi rioed y fath beth; doedd dim eisio imi yngan gair, dim ond gwrando.
 
(Agnes.) Yr oedd Mrs. Davies yn gweld bai mawr arno am drin y |gentry| fel yna, ag yr |oedd| bai arno fo hefyd.
(1, 0) 173 Bai, Miss Vaughan?
(1, 0) 174 Ydech chi'n meddwl y dylid trin y |gentry|, chwedl chitha, yn wahanol i bobol erill?
(Agnes) Wel, mae'n gwilydd i bobol gommon hel i dwylo hyd rai fel y Sgweier—a ninna'i gyd yn |tenants| iddo.
 
(Robert) Mi ddaw Emrys toc.
(1, 0) 184 Hwyrach i fod o wedi mynd i gael sgwrs hefo'r gweinidog.
(Robert) Wn i ar y ddaear sut y mae'r ddau yn medru cyd-dynnu,—mae Emrys yn mynd yn anffyddiwr glân, mae arna'i ofn.
 
(Robert) Morfil Jona, wrth gwrs—wn i ddim beth ddaw ohono fo.
(1, 0) 189 Tewch, tewch, Robert.
(1, 0) 190 Rydech chi'n rhy bendew i wybod beth sy gan yr hogyn dan i fawd.
(1, 0) 191 Hogyn da ydi'r hogyn.
(Agnes) O ia, eisio bod dan ddylanwad rhywun |nice| sy arno fo, ynte?
 
(1, 0) 208 Ia, nain bach, ond rydech chi'n hên wraig go dda yn ol yr hen ffasiwn a'r newydd.
(Agnes) Ia, ond rhaid cael gwared o'r hen |superstitions| a'r hen bechoda.
 
(Agnes) Doedd pobol ystalwm ddim yn bobol |nice| iawn.
(1, 0) 211 Mae Emrys yn deud y basa'n well ini fod yn debycach iddyn nhw, ym mhob peth ond i hanwybodaeth.
(Mali) Lle mae Emrys, tybed?
 
(Agnes) Wedi bod yn y siop yr ydw i.
(1, 0) 231 Mae Miss Vaughan yn mynd i aros i gael tamaid o swper, a rhaid i titha fynd i danfon hi dros y gors.
(1, 0) 232 Tynn dy gôt, 'y machgen i.
(Emrys) {Yn tynnu ei gôt yn araf, ac yn rhoi dau ffesant ar y bwrdd.}
 
(Robert) Yr argian fawr!
(1, 0) 236 Lle cest ti rheina?
(Mali) Beth sy gen ti, machgen i?
 
(Robert) Pwy gaclwm sy'n tyrfu'r adeg yma o'r nos, tybed?
(1, 0) 281 Rhowch y ffesants yna o'r golwg, brysiwch!
 
(1, 0) 283 Rhowch nhw dan y glustog yma.
(Plisman) {Yn llygadu o gwmpas.}
 
(Robert) Fum i ddim allan ar ol swpera, yn naddo bobol?
(1, 0) 315 Naddo.
(Plisman) Wel, dyna ni wedi colli'n deryn eto, McLagan.
 
(Agnes) Cyfaddefwch y gwir,—bydd yn haws i chi gael trugaredd.
(1, 0) 387 Miss Vaughan! ydech chi'n meddwl nad ydi Emrys yn deud y gwir?
(Agnes.) Wel, y fo ac Un arall sy'n gwbod hynny.
 
(Agnes.) Wel, y fo ac Un arall sy'n gwbod hynny.
(1, 0) 389 Wel, os nag oes dim ond un heblaw fo'n gwbod—y fi ydi'r un hwnnw.
(1, 0) 390 Dydi Emrys ddim wedi gorfod arfer deud celwydd wrth gribddeilio, fel rhai pobol, Miss Vaughan.
(Plisman) Peidiwch a chynhennu, wragedd!
 
(Ann) Cariad... i mi... oedd o... gwâs fferm heb fod ymhell oddiyma, a mi rhoth nhw i mi gynted ag yr oeddech chi wedi troi'ch cefn.
(1, 0) 402 Ann!