Branwen

Ciw-restr ar gyfer Branwen

 
(1, 0) 5 Mi wyddost na fedr hyn ddim para.
(Efnisien) Wrth gwrs na fedr o ddim para.
 
(Efnisien) Mae cysgod y bedd droson-ni cyn inni golli cysgod y groth.
(1, 0) 10 Ffwlbri, frawd bach.
(Efnisien) Sut hynny?
 
(Efnisien) Sut hynny?
(1, 0) 12 Cysgod y groth!
(1, 0) 13 Cysgod y bedd!
(1, 0) 14 Welaist ti rioed na'r naill na'r llall.
(1, 0) 15 Roedd dy lygaid di wedi'u cau yn y groth, ac mi fyddan wedi'u cau cyn dy fedd.
(Efnisien) {Wedi chwerthin.}
 
(Efnisien) Mae gwell gwaith na hynny ar wely, on'd oes?
(1, 0) 21 Rwyt ti'n siarad mor rhwydd am angau am nad oes gen'ti ddim dychymyg.
(Efnisien) Rydw i wedi lladd dynion.
 
(Efnisien) Ias!
(1, 0) 25 Dydy angau pobl eraill ddim yn angau i neb.
(Efnisien) Un oer a chaled wyt ti, Branwen.
 
(Efnisien) Mae dy garu di fel croesi cleddau gyda gelyn.
(1, 0) 28 Rydw i flwyddyn yn hŷn na thi.
(Efnisien) Mae rhosyn yn dy wyneb di, ond craig ydy'r galon.
 
(Efnisien) Mae rhosyn yn dy wyneb di, ond craig ydy'r galon.
(1, 0) 30 Craig wedi'i hollti.
(Efnisien) Ei hollti?...
 
(Efnisien) Gan be?
(1, 0) 33 Paid â gofyn.
(1, 0) 34 Mi wyddost.
(1, 0) 35 Gan ein gwarth ni.
(Efnisien) {Wedi gafael yn ei throed hi a rhoi tro iddi.}
 
(Efnisien) Tyn y gair yna'n ôl.
(1, 0) 38 Rwyt ti'n brifo.
(1, 0) 39 Paid!
(Efnisien) {Tro gwaeth a hithaw'n sgrechian yn isel.}
 
(Efnisien) Tyn y gair yna'n ôl.
(1, 0) 42 Be ddweda i?
(Efnisien) Gan ein cariad ni.
 
(Efnisien) Gan ein cariad ni.
(1, 0) 44 Gan ein cariad ni.
(Efnisien) Mi allwn i dy ladd di.
 
(Efnisien) Mi allwn i dy ladd di.
(1, 0) 46 Dianc fyddai hynny.
(Efnisien) Dianc rhagof i?
 
(Efnisien) Dianc rhagof i?
(1, 0) 48 Wn i ddim.
(1, 0) 49 Ti ydy 'mhechod i.
(1, 0) 50 Mae'n well gan i 'mhechod na 'mywyd.
(Efnisien) {Gan ollwng ei throed hi.}
 
(Efnisien) Does dim rhaid dewis.
(1, 0) 53 Mi wyddost na fedr hyn ddim para.
(Efnisien) Ferch fach, ein cariad ni ydy'n bywyd ni.
 
(Efnisien) Mi ddwedais, fe bery tra bydd para i ti, tra bydd para i mi.
(1, 0) 56 Heb feddwl am farw?
(Efnisien) Rwyt ti yn llygad dy le.
 
(Efnisien) Nid marw ydy caru, ond byw, byw, byw.
(1, 0) 59 Fy nghariad i, paid â gwrthod 'y neall i.
(1, 0) 60 Yr unig farw sy'n anodd, sy'n boen, ydy'r marw y bydd dyn yn para'n fyw ar ei ôl o.
(1, 0) 61 Dyna'r unig wynebu angau nad ydy o ddim yn gelwydd.
(1, 0) 62 Cyn hir bydd yn rhaid i ti a minnau wneud hynny.
(Efnisien) Os ydw i'n dy ddilyn di, rwyt ti'n ymylu ar gablu.
 
(Efnisien) Os ydw i'n dy ddilyn di, rwyt ti'n ymylu ar gablu.
(1, 0) 64 Ti ddwedodd mai'n cariad ni ydy'n bywyd ni.
(1, 0) 65 Ein marw ni fydd tynnu'n cariad ni allan o'n bywyd ni... a mynd ymlaen i fyw ar ôl hynny.
(Efnisien) {Wedi saib.}
 
(Efnisien) Mewn gwaed oer, yn ei wrthod o'n bendant, am byth.
(1, 0) 70 Hanner brawd wyt ti; nid brawd.
(Efnisien) {Wedi chwerthin.}
 
(Efnisien) Fi piau ti gorff ac enaid.
(1, 0) 75 Na.
(1, 0) 76 Fi piau fi...
(1, 0) 77 Ond rydw i wedi rhoi nghalon i ti.
(Efnisien) Rhaid imi wrth hynny a rhagor.
 
(Efnisien) Gwae i'r neb a ddêl rhyngon ni.
(1, 0) 81 Mae dy eiriau fel y gwin.
(Efnisien) Geiriau sobrwydd a gwirionedd.
 
(Efnisien) Geiriau sobrwydd a gwirionedd.
(1, 0) 83 Ddwedi di hynny wrth 'y mrawd?
(Efnisien) Brân?
 
(Efnisien) Brân?
(1, 0) 85 Y brenin.
(Efnisien) Wyt ti am imi ddweud wrtho?
 
(Efnisien) Wyt ti am imi ddweud wrtho?
(1, 0) 87 Go brin.
(1, 0) 88 Rhaid imi dy gadw di yma tra bydda i yma.
(Efnisien) Yma yr wyt ti.
 
(Efnisien) Gyda mi.
(1, 0) 92 O na bai eto ryfel.
(Efnisien) Pam wyt ti am ryfel?
 
(Efnisien) Pam wyt ti am ryfel?
(1, 0) 94 Ti ydy'r penteulu a'r gorau sy gennyn ni.
(1, 0) 95 Fedr Brân ddim mynd i ryfel hebot ti.
(1, 0) 96 Rwyt ti'n anhepgor.
(1, 0) 97 Ond pan mae hi'n heddwch rwyt ti'n boen i'r brenin.
(Efnisien) Fi ydy dy frenin di, nid Brân.
 
(Efnisien) Fi ydy dy frenin di, nid Brân.
(1, 0) 99 Ti yw fy mhlentyn i.
(1, 0) 100 Dyna'r pam rwyt ti'n frenin arna i, y ngwas mawr i.
(Efnisien) A Brân?
 
(Efnisien) A Brân?
(1, 0) 102 Brawd.
(1, 0) 103 Brawd cyfan.
(Efnisien) Ond?
 
(Efnisien) Ond?
(1, 0) 105 Ond brenin.
(1, 0) 106 Mae ganddo gariad arall.
(Efnisien) Nid ei chwaer?
 
(Efnisien) Nid ei wraig?
(1, 0) 109 Ei deyrnas.
(Efnisien) Oes ganddi hi hawliau?
 
(Efnisien) Oes ganddi hi hawliau?
(1, 0) 111 Arno fo.
(1, 0) 112 Arnaf innau.
(1, 0) 113 Nid arno fo mae'r bai mai rhywbeth i'w brynu a'i werthu ym marchnad y gwledydd ydy chwaer y brenin.
(1, 0) 114 I brynu heddwch neu selio cyfamod.
(1, 0) 115 Mae pob merch i frenin yn gwybod hynny'n ddeg oed.
(1, 0) 116 A gwae hi os na na bydd hi'n ddigon hardd ei gwedd i gostio gwlad.
(Efnisien) Paid â bod mor chwerw.
 
(Efnisien) All hynny ddim digwydd i ti.
(1, 0) 119 Rwyt ti yma yn y llys ddwy flynedd heb ddysgu dim.
(1, 0) 120 Yn anghyfrifol fel mellten.
(1, 0) 121 Cyfle i hwyl a miri yw rhyfel iti.
(1, 0) 122 Dyna yw'r llys iti.
(1, 0) 123 Dyna ydw innau iti.
(Efnisien) Paid â dweud pethau fel yna, ferch fach, rhag imi afael yn dy ben di fel yma, a'i wasgu nes bod fy modiau i'n cyffwrdd â'i gilydd yn y canol.
 
(Efnisien) Paid â dweud pethau fel yna, ferch fach, rhag imi afael yn dy ben di fel yma, a'i wasgu nes bod fy modiau i'n cyffwrdd â'i gilydd yn y canol.
(1, 0) 125 Fel plentyn gyda thegan.
(Efnisien) Nid tegan wyt ti i mi.
 
(Efnisien) Nid tegan wyt ti i mi.
(1, 0) 127 Profiad?
(Efnisien) Tynged...
 
(Efnisien) Terfyn y daith.
(1, 0) 130 Dwyt ti ddim yn frenin.
(Efnisien) Ac felly?
 
(Efnisien) Ac felly?
(1, 0) 132 Fedri di ddim gofyn i 'mrawd am fy llaw i.
(Efnisien) Mi ofynna i heddiw.
 
(Efnisien) Rydyn ni'n un cnawd eisoes ym mhob ystyr a modd.
(1, 0) 136 Act wleidyddol ydy priodi.
(1, 0) 137 Does a wnelo'r peth ddim oll â charu.
(1, 0) 138 Rhaid profi i'r brenin a'i gyngor fod y peth yn fantais i'r llywodraeth.
(Efnisien) {Yn syn.}
 
(Efnisien) I'n gwely ni.
(1, 0) 143 I hynny y'm magwyd i.
(1, 0) 144 I hynny y'm dysgwyd i a 'ngwisgo a 'nghynefino bob dydd o 'mywyd.
(1, 0) 145 Dydw i ddim yn cofio dim arall...
(1, 0) 146 Yr hyn ddrysodd y cwbl oedd i ti ddod i'r llys yn llanc.
(Efnisien) Ydy'n ddrwg gen ti?
 
(Efnisien) Ydy'n ddrwg gen ti?
(1, 0) 148 Ydy.
(1, 0) 149 Fe fydd madael...
 
(Efnisien) Nid iâr yn gori allan wyt ti.
(1, 0) 153 Bore heddiw mi welais longau'n hwylio tuag yma, llongau brenhinol.
(1, 0) 154 Welaist ti?
(Efnisien) Mi wyddost imi fynd i hela.
 
(Efnisien) Mi wyddost imi fynd i hela.
(1, 0) 156 Erbyn hyn maen nhw wedi glanio.
(Efnisien) O'r gogledd?
 
(Efnisien) O'r gogledd?
(1, 0) 158 O Iwerddon.
(Efnisien) Matholwch?
 
(Efnisien) Mi wnâi daid iawn iti.
(1, 0) 164 Oed eu teidiau yw gwŷr priod breninesau.
(Efnisien) Beth!
 
(Efnisien) Wyt ti eisoes yn gweld dy orsedd?
(1, 0) 168 Rydw i'n 'y ngweld fy hun fel un o'r caethion a werthaist ti.
(Efnisien) I'r gegin yr aeth y caethion, nid i'r orsedd.
 
(Efnisien) I'r gegin yr aeth y caethion, nid i'r orsedd.
(1, 0) 170 Pwy ŵyr?
(Efnisien) Os dyna'i neges o yma, mi ofala i yr aiff o oddi yma ar ei golled.
 
(Efnisien) Os dyna'i neges o yma, mi ofala i yr aiff o oddi yma ar ei golled.
(1, 0) 172 A pha les fydd hynny?
(Efnisien) Branwen, rydw i'n dy garu di'n enbyd, enbyd.
 
(Efnisien) Rwyt tithau'n paratoi i 'mradychu i.
(1, 0) 175 Rydw i'n edrych ar yr hyn sydd o'n blaen ni.
(1, 0) 176 Rydw i'n gwneud 'y ngore i'th gael dithau i wynebu'r peth.
(Efnisien) {Gan dynnu cyllell o'i wregys.}
 
(Efnisien) Rydw i'n barod i'w wynebu, yn barod gyda holl greulondeb 'y ngwaed.
(1, 0) 179 O'r gore, mi heria i di.
(Efnisien) Sut?
 
(Efnisien) Sut?
(1, 0) 181 Os dod yma mae Matholwch i ofyn amdana i'n wraig tyrd gyda mi i'r cyngor a dweud wrthyn nhw mai dy ordderch di, fy hanner-brawd, ydw i; mai ti fu gyda mi yn y gwely yma drwy'r nos neithiwr, ac nad oes gan neb arall hawl arna i.
(Efnisien) {Ymhen ysbaid.}
 
(Efnisien) Mi wyddost na fedra i ddim.
(1, 0) 184 Pam?
(Efnisien) Am mai ti, nid fi, a leddid yn y fan a'r lle.
 
(Efnisien) Am mai ti, nid fi, a leddid yn y fan a'r lle.
(1, 0) 186 Fedra innau ddim chwaith.
(Efnisien) A pham?
 
(Efnisien) A pham?
(1, 0) 188 Nid am ddim y medra i ymfalchïo ynddo.
(1, 0) 189 Ond nid dyna fy natur i.
(1, 0) 190 Fedrwn i ddim peidio â syrthio mewn cariad â thi pan ddest ti gynta i'r llys.
(1, 0) 191 Welais i monot ti'n blentyn.
(1, 0) 192 Damwain oedd inni'n dau fod yn yr un groth.
(1, 0) 193 Dydw i'n gofidio dim am hynny.
(1, 0) 194 Ti ydy unig gariad 'y mywyd i.
(1, 0) 195 Ond rydw i'n ferch i frenin; rydw i'n chwaer i frenin.
(1, 0) 196 Fy nhynged i ydy bod yn fam i frenin.
(1, 0) 197 Fedra i ddim wrth y peth.
(1, 0) 198 Mi wyddost fod gwrthod yn ymarferol amhosib.
(1, 0) 199 Ond heblaw hynny, brad fyddai gwrthod.
(Efnisien) Mae'n haws gen'ti 'mradychu i.
 
(Efnisien) Mae'n haws gen'ti 'mradychu i.
(1, 0) 201 Efnisien, paid â ffraeo.
(1, 0) 202 Bob tro yr ei di i frwydr rwyt tithau'n taflu'n serch ni i'r tân.
(1, 0) 203 Cwlwm nad ydy o ddim yn dal ydy cariad.
(1, 0) 204 Rhaid i gleddyf neu briodas ei dorri o neu ei ddatod.
(1, 0) 205 Mae'n well gen i dorri na datod.