a1

Branwen (1975)

Saunders Lewis

Ⓗ 1975 Saunders Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


Ystafell wely Branwen. Mae hi'n gorwedd ar y gwely wedi ei gwisgo'n barod i'r llys. Mae Efnisien yn eistedd wrth ei thraed hi newydd ddychwelyd o hela. Mae hi'n gynnar brynhawn.

Branwen

Mi wyddost na fedr hyn ddim para.

Efnisien

Wrth gwrs na fedr o ddim para. Fedrwn ni ddim para, ti na fi. Dynion ydyn-ni. Mae cysgod y bedd droson-ni cyn inni golli cysgod y groth.

Branwen

Ffwlbri, frawd bach.

Efnisien

Sut hynny?

Branwen

Cysgod y groth! Cysgod y bedd! Welaist ti rioed na'r naill na'r llall. Roedd dy lygaid di wedi'u cau yn y groth, ac mi fyddan wedi'u cau cyn dy fedd.

Efnisien

(Wedi chwerthin.) A diolch am hynny. Rydw i'n mwynhau 'mywyd. Mi fwynhaf fy angau ond iddo beidio â bod mewn gwely. Mae gwell gwaith na hynny ar wely, on'd oes?

Branwen

Rwyt ti'n siarad mor rhwydd am angau am nad oes gen'ti ddim dychymyg.

Efnisien

Rydw i wedi lladd dynion. Mae'n bleser. Ias!

Branwen

Dydy angau pobl eraill ddim yn angau i neb.

Efnisien

Un oer a chaled wyt ti, Branwen. Mae dy garu di fel croesi cleddau gyda gelyn.

Branwen

Rydw i flwyddyn yn hŷn na thi.

Efnisien

Mae rhosyn yn dy wyneb di, ond craig ydy'r galon.

Branwen

Craig wedi'i hollti.

Efnisien

Ei hollti?... Gan be?

Branwen

Paid â gofyn. Mi wyddost. Gan ein gwarth ni.

Efnisien

(Wedi gafael yn ei throed hi a rhoi tro iddi.) Tyn y gair yna'n ôl.

Branwen

Rwyt ti'n brifo. Paid!

Efnisien

(Tro gwaeth a hithaw'n sgrechian yn isel.) Tyn y gair yna'n ôl.

Branwen

Be ddweda i?

Efnisien

Gan ein cariad ni.

Branwen

Gan ein cariad ni.

Efnisien

Mi allwn i dy ladd di.

Branwen

Dianc fyddai hynny.

Efnisien

Dianc rhagof i?

Branwen

Wn i ddim. Ti ydy 'mhechod i. Mae'n well gan i 'mhechod na 'mywyd.

Efnisien

(Gan ollwng ei throed hi.) Does dim rhaid dewis.

Branwen

Mi wyddost na fedr hyn ddim para.

Efnisien

Ferch fach, ein cariad ni ydy'n bywyd ni. Mi ddwedais, fe bery tra bydd para i ti, tra bydd para i mi.

Branwen

Heb feddwl am farw?

Efnisien

Rwyt ti yn llygad dy le. Nid marw ydy caru, ond byw, byw, byw.

Branwen

Fy nghariad i, paid â gwrthod 'y neall i. Yr unig farw sy'n anodd, sy'n boen, ydy'r marw y bydd dyn yn para'n fyw ar ei ôl o. Dyna'r unig wynebu angau nad ydy o ddim yn gelwydd. Cyn hir bydd yn rhaid i ti a minnau wneud hynny.

Efnisien

Os ydw i'n dy ddilyn di, rwyt ti'n ymylu ar gablu.

Branwen

Ti ddwedodd mai'n cariad ni ydy'n bywyd ni. Ein marw ni fydd tynnu'n cariad ni allan o'n bywyd ni... a mynd ymlaen i fyw ar ôl hynny.

Efnisien

(Wedi saib.) Ie, angau o fywyd. Rydw i'n ei wrthod o. Mewn gwaed oer, yn ei wrthod o'n bendant, am byth.

Branwen

Hanner brawd wyt ti; nid brawd.

Efnisien

(Wedi chwerthin.) Hanner brawd, ond priod cyfan. Fi piau ti. Fi piau ti gorff ac enaid.

Branwen

Na. Fi piau fi... Ond rydw i wedi rhoi nghalon i ti.

Efnisien

Rhaid imi wrth hynny a rhagor. Mi wyddost nad edrychais i ddim erioed ar na gwas na merch, ond ti. Gwae i'r neb a ddêl rhyngon ni.

Branwen

Mae dy eiriau fel y gwin.

Efnisien

Geiriau sobrwydd a gwirionedd.

Branwen

Ddwedi di hynny wrth 'y mrawd?

Efnisien

Brân?

Branwen

Y brenin.

Efnisien

Wyt ti am imi ddweud wrtho?

Branwen

Go brin. Rhaid imi dy gadw di yma tra bydda i yma.

Efnisien

Yma yr wyt ti. Yma y byddi di. Gyda mi.

Branwen

O na bai eto ryfel.

Efnisien

Pam wyt ti am ryfel?

Branwen

Ti ydy'r penteulu a'r gorau sy gennyn ni. Fedr Brân ddim mynd i ryfel hebot ti. Rwyt ti'n anhepgor. Ond pan mae hi'n heddwch rwyt ti'n boen i'r brenin.

Efnisien

Fi ydy dy frenin di, nid Brân.

Branwen

Ti yw fy mhlentyn i. Dyna'r pam rwyt ti'n frenin arna i, y ngwas mawr i.

Efnisien

A Brân?

Branwen

Brawd. Brawd cyfan.

Efnisien

Ond?

Branwen

Ond brenin. Mae ganddo gariad arall.

Efnisien

Nid ei chwaer? Nid ei wraig?

Branwen

Ei deyrnas.

Efnisien

Oes ganddi hi hawliau?

Branwen

Arno fo. Arnaf innau. Nid arno fo mae'r bai mai rhywbeth i'w brynu a'i werthu ym marchnad y gwledydd ydy chwaer y brenin. I brynu heddwch neu selio cyfamod. Mae pob merch i frenin yn gwybod hynny'n ddeg oed. A gwae hi os na na bydd hi'n ddigon hardd ei gwedd i gostio gwlad.

Efnisien

Paid â bod mor chwerw. All hynny ddim digwydd i ti.

Branwen

Rwyt ti yma yn y llys ddwy flynedd heb ddysgu dim. Yn anghyfrifol fel mellten. Cyfle i hwyl a miri yw rhyfel iti. Dyna yw'r llys iti. Dyna ydw innau iti.

Efnisien

Paid â dweud pethau fel yna, ferch fach, rhag imi afael yn dy ben di fel yma, a'i wasgu nes bod fy modiau i'n cyffwrdd â'i gilydd yn y canol.

Branwen

Fel plentyn gyda thegan.

Efnisien

Nid tegan wyt ti i mi.

Branwen

Profiad?

Efnisien

Tynged... Terfyn y daith.

Branwen

Dwyt ti ddim yn frenin.

Efnisien

Ac felly?

Branwen

Fedri di ddim gofyn i 'mrawd am fy llaw i.

Efnisien

Mi ofynna i heddiw. Cytuno? Rydyn ni'n un cnawd eisoes ym mhob ystyr a modd.

Branwen

Act wleidyddol ydy priodi. Does a wnelo'r peth ddim oll â charu. Rhaid profi i'r brenin a'i gyngor fod y peth yn fantais i'r llywodraeth.

Efnisien

(Yn syn.) Ond fedri di ddim disgyn i hynny. Rwyt ti wedi troi oddi wrtho. I'n gwely ni.

Branwen

I hynny y'm magwyd i. I hynny y'm dysgwyd i a 'ngwisgo a 'nghynefino bob dydd o 'mywyd. Dydw i ddim yn cofio dim arall... Yr hyn ddrysodd y cwbl oedd i ti ddod i'r llys yn llanc.

Efnisien

Ydy'n ddrwg gen ti?

Branwen

Ydy. Fe fydd madael... (Mae hi'n trechu ei thagu.)

Efnisien

Pam sôn am f'adael? Nid iâr yn gori allan wyt ti.

Branwen

Bore heddiw mi welais longau'n hwylio tuag yma, llongau brenhinol. Welaist ti?

Efnisien

Mi wyddost imi fynd i hela.

Branwen

Erbyn hyn maen nhw wedi glanio.

Efnisien

O'r gogledd?

Branwen

O Iwerddon.

Efnisien

Matholwch? Mi fûm i'n gwerthu llond llong o gaethion iddo fo y llynedd. Mae o'n hoff o arian. Canol oed. Mi wnâi daid iawn iti.

Branwen

Oed eu teidiau yw gwŷr priod breninesau.

Efnisien

Beth! Myn deryn! Wyt ti eisoes yn gweld dy orsedd?

Branwen

Rydw i'n 'y ngweld fy hun fel un o'r caethion a werthaist ti.

Efnisien

I'r gegin yr aeth y caethion, nid i'r orsedd.

Branwen

Pwy ŵyr?

Efnisien

Os dyna'i neges o yma, mi ofala i yr aiff o oddi yma ar ei golled.

Branwen

A pha les fydd hynny?

Efnisien

Branwen, rydw i'n dy garu di'n enbyd, enbyd. Rwyt tithau'n paratoi i 'mradychu i.

Branwen

Rydw i'n edrych ar yr hyn sydd o'n blaen ni. Rydw i'n gwneud 'y ngore i'th gael dithau i wynebu'r peth.

Efnisien

(Gan dynnu cyllell o'i wregys.) Rydw i'n barod i'w wynebu, yn barod gyda holl greulondeb 'y ngwaed.

Branwen

O'r gore, mi heria i di.

Efnisien

Sut?

Branwen

Os dod yma mae Matholwch i ofyn amdana i'n wraig tyrd gyda mi i'r cyngor a dweud wrthyn nhw mai dy ordderch di, fy hanner-brawd, ydw i; mai ti fu gyda mi yn y gwely yma drwy'r nos neithiwr, ac nad oes gan neb arall hawl arna i.

Efnisien

(Ymhen ysbaid.) Mi wyddost na fedra i ddim.

Branwen

Pam?

Efnisien

Am mai ti, nid fi, a leddid yn y fan a'r lle.

Branwen

Fedra innau ddim chwaith.

Efnisien

A pham?

Branwen

Nid am ddim y medra i ymfalchïo ynddo. Ond nid dyna fy natur i. Fedrwn i ddim peidio â syrthio mewn cariad â thi pan ddest ti gynta i'r llys. Welais i monot ti'n blentyn. Damwain oedd inni'n dau fod yn yr un groth. Dydw i'n gofidio dim am hynny. Ti ydy unig gariad 'y mywyd i. Ond rydw i'n ferch i frenin; rydw i'n chwaer i frenin. Fy nhynged i ydy bod yn fam i frenin. Fedra i ddim wrth y peth. Mi wyddost fod gwrthod yn ymarferol amhosib. Ond heblaw hynny, brad fyddai gwrthod.

Efnisien

Mae'n haws gen'ti 'mradychu i.

Branwen

Efnisien, paid â ffraeo. Bob tro yr ei di i frwydr rwyt tithau'n taflu'n serch ni i'r tân. Cwlwm nad ydy o ddim yn dal ydy cariad. Rhaid i gleddyf neu briodas ei dorri o neu ei ddatod. Mae'n well gen i dorri na datod.

Efnisien

Gwrando, 'ngeneth i. Rwyt ti'n dannod i mi nad ydw i ddim yn frenin nac yn fab i frenin, ac felly does gen i ddim rhan yng nghynllun dy fywyd di. Fod yn rhaid i ti rodio dy rych, eistedd ar orsedd gwlad a dysgu anghofio... Alla i ddim anghofio. Alla i ddim ffarwelio a maddau. Nid damwain dros dro yn 'y mywyd i wyt ti. Ond gwenwyn i'm lladd i; gwenwyn sy'n fy llosgi i'n fyw. Paid ti â meddwl y daw amser i bylu'r boen. Mi all cariad o'i dwyllo droi'n gas. Rwyt ti'n sôn am roi etifedd i orsedd Iwerddon. Rhoi Matholwch rhwng dy gluniau di ar f'ôl i. Os digwydd hynny myn y coblyn ulw, cymer di ofal na ddaw ffrwyth dy groth di fyth i'm hafflau i,─neu fe'i bwria i o wysg ei ben i'r gynnau dân.



Mae'r drws yn agor a saif Nisien yno.

Nisien

Branwen, fy chwaer, mae'r brenin yn galw amdanat.

a1