Branwen

Ciw-restr ar gyfer Efnisien

(Branwen) Mi wyddost na fedr hyn ddim para.
 
(Branwen) Mi wyddost na fedr hyn ddim para.
(1, 0) 6 Wrth gwrs na fedr o ddim para.
(1, 0) 7 Fedrwn ni ddim para, ti na fi.
(1, 0) 8 Dynion ydyn-ni.
(1, 0) 9 Mae cysgod y bedd droson-ni cyn inni golli cysgod y groth.
(Branwen) Ffwlbri, frawd bach.
 
(Branwen) Ffwlbri, frawd bach.
(1, 0) 11 Sut hynny?
(Branwen) Cysgod y groth!
 
(1, 0) 17 A diolch am hynny.
(1, 0) 18 Rydw i'n mwynhau 'mywyd.
(1, 0) 19 Mi fwynhaf fy angau ond iddo beidio â bod mewn gwely.
(1, 0) 20 Mae gwell gwaith na hynny ar wely, on'd oes?
(Branwen) Rwyt ti'n siarad mor rhwydd am angau am nad oes gen'ti ddim dychymyg.
 
(Branwen) Rwyt ti'n siarad mor rhwydd am angau am nad oes gen'ti ddim dychymyg.
(1, 0) 22 Rydw i wedi lladd dynion.
(1, 0) 23 Mae'n bleser.
(1, 0) 24 Ias!
(Branwen) Dydy angau pobl eraill ddim yn angau i neb.
 
(Branwen) Dydy angau pobl eraill ddim yn angau i neb.
(1, 0) 26 Un oer a chaled wyt ti, Branwen.
(1, 0) 27 Mae dy garu di fel croesi cleddau gyda gelyn.
(Branwen) Rydw i flwyddyn yn hŷn na thi.
 
(Branwen) Rydw i flwyddyn yn hŷn na thi.
(1, 0) 29 Mae rhosyn yn dy wyneb di, ond craig ydy'r galon.
(Branwen) Craig wedi'i hollti.
 
(Branwen) Craig wedi'i hollti.
(1, 0) 31 Ei hollti?...
(1, 0) 32 Gan be?
(Branwen) Paid â gofyn.
 
(1, 0) 37 Tyn y gair yna'n ôl.
(Branwen) Rwyt ti'n brifo.
 
(1, 0) 41 Tyn y gair yna'n ôl.
(Branwen) Be ddweda i?
 
(Branwen) Be ddweda i?
(1, 0) 43 Gan ein cariad ni.
(Branwen) Gan ein cariad ni.
 
(Branwen) Gan ein cariad ni.
(1, 0) 45 Mi allwn i dy ladd di.
(Branwen) Dianc fyddai hynny.
 
(Branwen) Dianc fyddai hynny.
(1, 0) 47 Dianc rhagof i?
(Branwen) Wn i ddim.
 
(1, 0) 52 Does dim rhaid dewis.
(Branwen) Mi wyddost na fedr hyn ddim para.
 
(Branwen) Mi wyddost na fedr hyn ddim para.
(1, 0) 54 Ferch fach, ein cariad ni ydy'n bywyd ni.
(1, 0) 55 Mi ddwedais, fe bery tra bydd para i ti, tra bydd para i mi.
(Branwen) Heb feddwl am farw?
 
(Branwen) Heb feddwl am farw?
(1, 0) 57 Rwyt ti yn llygad dy le.
(1, 0) 58 Nid marw ydy caru, ond byw, byw, byw.
(Branwen) Fy nghariad i, paid â gwrthod 'y neall i.
 
(Branwen) Cyn hir bydd yn rhaid i ti a minnau wneud hynny.
(1, 0) 63 Os ydw i'n dy ddilyn di, rwyt ti'n ymylu ar gablu.
(Branwen) Ti ddwedodd mai'n cariad ni ydy'n bywyd ni.
 
(1, 0) 67 Ie, angau o fywyd.
(1, 0) 68 Rydw i'n ei wrthod o.
(1, 0) 69 Mewn gwaed oer, yn ei wrthod o'n bendant, am byth.
(Branwen) Hanner brawd wyt ti; nid brawd.
 
(1, 0) 72 Hanner brawd, ond priod cyfan.
(1, 0) 73 Fi piau ti.
(1, 0) 74 Fi piau ti gorff ac enaid.
(Branwen) Na.
 
(Branwen) Ond rydw i wedi rhoi nghalon i ti.
(1, 0) 78 Rhaid imi wrth hynny a rhagor.
(1, 0) 79 Mi wyddost nad edrychais i ddim erioed ar na gwas na merch, ond ti.
(1, 0) 80 Gwae i'r neb a ddêl rhyngon ni.
(Branwen) Mae dy eiriau fel y gwin.
 
(Branwen) Mae dy eiriau fel y gwin.
(1, 0) 82 Geiriau sobrwydd a gwirionedd.
(Branwen) Ddwedi di hynny wrth 'y mrawd?
 
(Branwen) Ddwedi di hynny wrth 'y mrawd?
(1, 0) 84 Brân?
(Branwen) Y brenin.
 
(Branwen) Y brenin.
(1, 0) 86 Wyt ti am imi ddweud wrtho?
(Branwen) Go brin.
 
(Branwen) Rhaid imi dy gadw di yma tra bydda i yma.
(1, 0) 89 Yma yr wyt ti.
(1, 0) 90 Yma y byddi di.
(1, 0) 91 Gyda mi.
(Branwen) O na bai eto ryfel.
 
(Branwen) O na bai eto ryfel.
(1, 0) 93 Pam wyt ti am ryfel?
(Branwen) Ti ydy'r penteulu a'r gorau sy gennyn ni.
 
(Branwen) Ond pan mae hi'n heddwch rwyt ti'n boen i'r brenin.
(1, 0) 98 Fi ydy dy frenin di, nid Brân.
(Branwen) Ti yw fy mhlentyn i.
 
(Branwen) Dyna'r pam rwyt ti'n frenin arna i, y ngwas mawr i.
(1, 0) 101 A Brân?
(Branwen) Brawd.
 
(Branwen) Brawd cyfan.
(1, 0) 104 Ond?
(Branwen) Ond brenin.
 
(Branwen) Mae ganddo gariad arall.
(1, 0) 107 Nid ei chwaer?
(1, 0) 108 Nid ei wraig?
(Branwen) Ei deyrnas.
 
(Branwen) Ei deyrnas.
(1, 0) 110 Oes ganddi hi hawliau?
(Branwen) Arno fo.
 
(Branwen) A gwae hi os na na bydd hi'n ddigon hardd ei gwedd i gostio gwlad.
(1, 0) 117 Paid â bod mor chwerw.
(1, 0) 118 All hynny ddim digwydd i ti.
(Branwen) Rwyt ti yma yn y llys ddwy flynedd heb ddysgu dim.
 
(Branwen) Dyna ydw innau iti.
(1, 0) 124 Paid â dweud pethau fel yna, ferch fach, rhag imi afael yn dy ben di fel yma, a'i wasgu nes bod fy modiau i'n cyffwrdd â'i gilydd yn y canol.
(Branwen) Fel plentyn gyda thegan.
 
(Branwen) Fel plentyn gyda thegan.
(1, 0) 126 Nid tegan wyt ti i mi.
(Branwen) Profiad?
 
(Branwen) Profiad?
(1, 0) 128 Tynged...
(1, 0) 129 Terfyn y daith.
(Branwen) Dwyt ti ddim yn frenin.
 
(Branwen) Dwyt ti ddim yn frenin.
(1, 0) 131 Ac felly?
(Branwen) Fedri di ddim gofyn i 'mrawd am fy llaw i.
 
(Branwen) Fedri di ddim gofyn i 'mrawd am fy llaw i.
(1, 0) 133 Mi ofynna i heddiw.
(1, 0) 134 Cytuno?
(1, 0) 135 Rydyn ni'n un cnawd eisoes ym mhob ystyr a modd.
(Branwen) Act wleidyddol ydy priodi.
 
(1, 0) 140 Ond fedri di ddim disgyn i hynny.
(1, 0) 141 Rwyt ti wedi troi oddi wrtho.
(1, 0) 142 I'n gwely ni.
(Branwen) I hynny y'm magwyd i.
 
(Branwen) Yr hyn ddrysodd y cwbl oedd i ti ddod i'r llys yn llanc.
(1, 0) 147 Ydy'n ddrwg gen ti?
(Branwen) Ydy.
 
(Branwen) {Mae hi'n trechu ei thagu.}
(1, 0) 151 Pam sôn am f'adael?
(1, 0) 152 Nid iâr yn gori allan wyt ti.
(Branwen) Bore heddiw mi welais longau'n hwylio tuag yma, llongau brenhinol.
 
(Branwen) Welaist ti?
(1, 0) 155 Mi wyddost imi fynd i hela.
(Branwen) Erbyn hyn maen nhw wedi glanio.
 
(Branwen) Erbyn hyn maen nhw wedi glanio.
(1, 0) 157 O'r gogledd?
(Branwen) O Iwerddon.
 
(Branwen) O Iwerddon.
(1, 0) 159 Matholwch?
(1, 0) 160 Mi fûm i'n gwerthu llond llong o gaethion iddo fo y llynedd.
(1, 0) 161 Mae o'n hoff o arian.
(1, 0) 162 Canol oed.
(1, 0) 163 Mi wnâi daid iawn iti.
(Branwen) Oed eu teidiau yw gwŷr priod breninesau.
 
(Branwen) Oed eu teidiau yw gwŷr priod breninesau.
(1, 0) 165 Beth!
(1, 0) 166 Myn deryn!
(1, 0) 167 Wyt ti eisoes yn gweld dy orsedd?
(Branwen) Rydw i'n 'y ngweld fy hun fel un o'r caethion a werthaist ti.
 
(Branwen) Rydw i'n 'y ngweld fy hun fel un o'r caethion a werthaist ti.
(1, 0) 169 I'r gegin yr aeth y caethion, nid i'r orsedd.
(Branwen) Pwy ŵyr?
 
(Branwen) Pwy ŵyr?
(1, 0) 171 Os dyna'i neges o yma, mi ofala i yr aiff o oddi yma ar ei golled.
(Branwen) A pha les fydd hynny?
 
(Branwen) A pha les fydd hynny?
(1, 0) 173 Branwen, rydw i'n dy garu di'n enbyd, enbyd.
(1, 0) 174 Rwyt tithau'n paratoi i 'mradychu i.
(Branwen) Rydw i'n edrych ar yr hyn sydd o'n blaen ni.
 
(1, 0) 178 Rydw i'n barod i'w wynebu, yn barod gyda holl greulondeb 'y ngwaed.
(Branwen) O'r gore, mi heria i di.
 
(Branwen) O'r gore, mi heria i di.
(1, 0) 180 Sut?
(Branwen) Os dod yma mae Matholwch i ofyn amdana i'n wraig tyrd gyda mi i'r cyngor a dweud wrthyn nhw mai dy ordderch di, fy hanner-brawd, ydw i; mai ti fu gyda mi yn y gwely yma drwy'r nos neithiwr, ac nad oes gan neb arall hawl arna i.
 
(1, 0) 183 Mi wyddost na fedra i ddim.
(Branwen) Pam?
 
(Branwen) Pam?
(1, 0) 185 Am mai ti, nid fi, a leddid yn y fan a'r lle.
(Branwen) Fedra innau ddim chwaith.
 
(Branwen) Fedra innau ddim chwaith.
(1, 0) 187 A pham?
(Branwen) Nid am ddim y medra i ymfalchïo ynddo.
 
(Branwen) Ond heblaw hynny, brad fyddai gwrthod.
(1, 0) 200 Mae'n haws gen'ti 'mradychu i.
(Branwen) Efnisien, paid â ffraeo.
 
(Branwen) Mae'n well gen i dorri na datod.
(1, 0) 206 Gwrando, 'ngeneth i.
(1, 0) 207 Rwyt ti'n dannod i mi nad ydw i ddim yn frenin nac yn fab i frenin, ac felly does gen i ddim rhan yng nghynllun dy fywyd di.
(1, 0) 208 Fod yn rhaid i ti rodio dy rych, eistedd ar orsedd gwlad a dysgu anghofio...
(1, 0) 209 Alla i ddim anghofio.
(1, 0) 210 Alla i ddim ffarwelio a maddau.
(1, 0) 211 Nid damwain dros dro yn 'y mywyd i wyt ti.
(1, 0) 212 Ond gwenwyn i'm lladd i; gwenwyn sy'n fy llosgi i'n fyw.
(1, 0) 213 Paid ti â meddwl y daw amser i bylu'r boen.
(1, 0) 214 Mi all cariad o'i dwyllo droi'n gas.
(1, 0) 215 Rwyt ti'n sôn am roi etifedd i orsedd Iwerddon.
(1, 0) 216 Rhoi Matholwch rhwng dy gluniau di ar f'ôl i.
(1, 0) 217 Os digwydd hynny myn y coblyn ulw, cymer di ofal na ddaw ffrwyth dy groth di fyth i'm hafflau i,─neu fe'i bwria i o wysg ei ben i'r gynnau dân.