Gormod o Bwdin

Ciw-restr ar gyfer Harri

(Martha) {Hanner lleisio mewn temper.}
 
(John) Sycha dy wep, gloi.
(1, 0) 50 Shwt mae heddi?
(1, 0) 51 Rarswyd mawr, chi yn edrych fel 'sech chi newydd ddod adre o angladd.
(John) O shwt wyt ti.
 
(John) Newydd gael newydd drwg, bachan.
(1, 0) 54 Beth sydd, bachan?
(John) {Rhaffo celwydd.}
 
(John) Ma' c'nither i Martha wedi cael 'heart attack' ar 'i chalon bore 'ma.
(1, 0) 58 O, ma'n ddrwg gen i glywed, Martha.
(1, 0) 59 Odi hi yn serious?
(John) Wrth gwrs bod hi'n serious.
 
(John) Ma hi wedi cael 'i rwsho mewn i'r Infestive Care.
(1, 0) 63 Wel, dim ond un llythyr i chi heddi.
(1, 0) 64 Ysgrifen Mari weden i, Martha.
(John) Wel, wyt ti wedi clywed rhyw newydd ar dy drafels heddi?
 
(John) Wel, wyt ti wedi clywed rhyw newydd ar dy drafels heddi?
(1, 0) 66 O, ma hi bant lawr y dre 'na heddi.
(Martha) { Yn ofidus.}
 
(Martha) O, y... beth sydd wedi digwydd 'te?
(1, 0) 69 O, achos o 'hit and run'.
(1, 0) 70 Rhyw idiot wedi mynd mas o gontrol ar dop Rhiw Fach.
(1, 0) 71 Buodd e bron lladd Huws Siop a bwrw polyn ffôn a wedi dianc.
(1, 0) 72 Rial dou idiot o'n nhw yn gweud.
(1, 0) 73 Ma Huws y Siop mewn stâd ofnadŵ, yn crynu fel jeli.
(John) Bachan, paid gweud.
 
(John) Wel, os rhyw syniad gyda nhw pwy o'n nhw?
(1, 0) 76 Wel, 'na'r unig beth wedodd Dai Nymbar 2 wrtha i odd bod car glas Escort gyda nhw ac odd e yn meddwl mai menyw odd yn dreifo.
(John) {Yn wyllt.}
 
(John) Ond odd e ddim yn siŵr wedes di.
(1, 0) 79 O na, odd e ddim yn siŵr ond greda i mai menyw odd yn dreifo.
(1, 0) 80 Fi yn gweud eriôd dyw menywod ddim fod i ddreifo.
(1, 0) 81 Dos gyda nhw ddim o'r beth ma'r sais yn i alw yn 'mental stability' fel ni y dynion.
(Martha) O, paid siarad trwy dy het.
 
(Martha) Dw i ddim yn credu bod ti yn gwbod beth yw 'mental stability' i ddechre.
(1, 0) 84 Wrth gwrs bo' fi.
(1, 0) 85 Gwed ti, pan welith menyw lygoden ma hi yn panico a sgrechen a jwmpo i ben stôl, ond fydden i yn mynd ar 'i hôl hi a rhoi cwpwl o gics iddi.
(1, 0) 86 'Na beth yw 'mental stability'.
(Martha) {Wedi darllen y llythyr.}
 
(Martha) O dier, odd rhaid iddi ddod heddi, a 'do's dim yn tŷ gen i ond ffish ffingers.
(1, 0) 90 O, paid becso.
(1, 0) 91 Jyst y peth ma student yn moyn.
(1, 0) 92 O'n i yn darllen yn rhywle pwy ddiwrnod bod students heddi yn byw ar ffish an' chips a chwrw, ac rwyn credu mai dyna beth sydd yn hela lot o nhw yn |extremists|.
(1, 0) 93 Ma'n nhw wedi profi ers blynydde cyn gallu di fod yn |balanced lan top| ma rhaid i ti fyta |balanced diet| lawr fan hyn 'twel.
(Martha) Wel, ma' rhaid i fi fynd i baratoi.
 
(Martha) Fyddan nhw yma cyn hir siŵr o fod.
(1, 0) 96 Ie, wel, gwaith yn galw yw hi gyda finne hefyd.
(PC) Bore da.
 
(1, 0) 108 Gwneud ymholiadau 'ife?
(PC) Ie, dyna fe.
 
(PC) Welsoch chi, Harri, ddim byd?
(1, 0) 111 Na, dim ond beth wedodd Dai Nymbar 2 wrthof fi.
(PC) Wel, beth wedodd Dai No.2 wrthoch chi 'te.
 
(PC) Wel, beth wedodd Dai No.2 wrthoch chi 'te.
(1, 0) 113 Wel dim ond bod e wedi gweld rhyw gar glas yn mynd fel cath i gythrel a bod dou yn y car, a mai menyw odd yn dreifo, 'na gyd.
(PC) Wel, mae Mrs. Jenkins, Sŵn yr Afon yn dweud yr un peth, dim ond bod hi wedi codi rhif y car: BBX 121M.
 
(PC) A phwy sydd yn berchen Escort glas a'r rhif 'na yn y dre 'ma.
(1, 0) 116 Peidwch gweud mai un chi ych hunan yw e.
(1, 0) 117 Ha ha.
(1, 0) 118 Dim ond jôc fach, PC.
(Martha) O ca' dy lap, Harri.
 
(Martha) Fe banices i ac ath y car mas o gontrol a, wel, chi'n gwbod y rest.
(1, 0) 122 Jiw, Jiw.
(1, 0) 123 Chi yn eitha reit.
(1, 0) 124 Ych car chi yw e.
(1, 0) 125 Pam na 'sech chi wedi gweud wrtho i.
(1, 0) 126 Ond ma'n rhaid i chi gofio un peth.
(1, 0) 127 Mae cnither i Martha 'ma wedi cael 'heart attack' yn Llunden, bore 'ma, a ma'n nhw wedi cael sioc ofnadŵ.
(PC) Wel, mae'n ddrwg gen i glywed hynny, wrth gwrs, ond ma'n rhaid i fi atgoffa chi bod chi wedi torri'r gyfreth.
 
(PC) Onibai am y polyn fe alle chi fod wedi mynd lawr y dibyn yna ar ben y tai cownsil, a fyddech chi wedi lando mewn lot mwy o gawl wedyn.
(1, 0) 137 Ie, ne allech chi fod wedi lando yn cawl rhywun.
(1, 0) 138 Ha ha ha.
(PC) Chi, Harri, ddim yn meddwl fod hi'n bryd i chi fynd at ych gwaith, achos y peth diwetha sydd eisie ar Mr. a Mrs. Huws heddi yw comedian yn y tŷ.
 
(PC) Chi, Harri, ddim yn meddwl fod hi'n bryd i chi fynd at ych gwaith, achos y peth diwetha sydd eisie ar Mr. a Mrs. Huws heddi yw comedian yn y tŷ.
(1, 0) 140 Ie, reit te.
(1, 0) 141 Jiw erbyn meddwl falle gymrech chi, PC, ych llythyron nawr i arbed i fi fynd heibio, chi'n gwbod.
(PC) Drychwch yma, Harri.
 
(PC) Gwyliwch chi ar ôl ych busnes ac fe ofala i am 'y musnes inne.
(1, 0) 145 O, fel'na ych chi yn edrych ar bethe, ife?
(1, 0) 146 Chi'n gweld, PC, 'yn ni wedi arfer helpu 'yn gilydd ffordd hyn.
(1, 0) 147 Cân di gân fach fwyn i'th Nain ac fe gan dy Nain i tithe.
(1, 0) 148 Fel'na 'yn ni yn gweithio ffordd hyn erioed.
(PC) {Yn bwysig.}
 
(1, 0) 152 Mae hi wedi marw llynedd, PC.
(1, 0) 153 Ha ha ha.
(1, 0) 154 Eitha da, e, beth ych chi'n 'weud?
(PC) Esgusodwch fi funud tra bydda i yn mynd i'r car i mofyn ffurflenni i gael ysgrifennu ych statement chi.
 
(PC) {PC yn mynd trwy y drws.}
(1, 0) 157 O cer, yr hen asyn gwyntog.
(PC) Wedoch chi rywbeth Harri?
 
(PC) Wedoch chi rywbeth Harri?
(1, 0) 160 Y... y... o... m... gweud wrth John bod hi yn wyntog neithiwr.
(1, 0) 161 Odd gwyntog iawn.
 
(1, 0) 163 Edrychwch 'ma, John, mae ise hoelen ym malwn hwnna, a ma' 'da fi ffordd i ti 'neud hynny, a dod mas o dy drwbwl.
(Martha) Harri, am beth wyt ti'n siarad?
 
(Martha) Harri, am beth wyt ti'n siarad?
(1, 0) 165 Mrs. Wilkins 'na sydd yn byw yn Terrace Road.
(1, 0) 166 Ma gwr honna yn |night watchman| yn y ffatri 'na yng ngwaelod y dre tair nosweth bob wythnos, a ma fe PC yn cwato'i fan yn yr hen gwar 'na ac yn mynd at 'i wraig e.
(1, 0) 167 Rwy wedi'i weld e a'm llyged 'yn hunan.
(1, 0) 168 Ma fe yn mynd lan ysgol a mewn i'r box room.
(1, 0) 169 |Fancy woman|, chi'n gweld.
(1, 0) 170 Nawr ma'i wraig e yn nervous wreck ─ cael pwle o sterics a ma fe yn cael amser caled 'da hi, a'r peth diwetha fydde fe moyn yw bod hi yn dod i wybod hyna.
(1, 0) 171 Nawr, Jack, rho di Mrs. Wilkins ar 'i blat, a chlywi di ddim rhagor am y trwbwl yma heddi.
(John) Bachan, bachan, ti ddim yn gweud wrtho fi am 'i flacmeilo fe.
 
(John) Alla i gael jâl am hyn'na.
(1, 0) 174 Dim blacmel yw e, bachan.
(1, 0) 175 Ffeithie.
(1, 0) 176 Ffeithie.
(1, 0) 177 Rhoi ffeithie ar 'i blât e a chi ych dau mewn trwbwl lan i fanna nawr.
(1, 0) 178 Run man i chi fynd yr holl ffordd, rhagor.
(1, 0) 179 Gwna di fel fi'n gweud a fyddi di yn ddyn rhydd mewn deng munud.
(1, 0) 180 Rwy'n mynd nawr.
(1, 0) 181 Alwa i nôl nes ymlaen.
 
(Martha) Wel dw i ddim wedi golchi llestri brecwast eto, ma'n rhaid i fi fynd ati.
(1, 0) 535 Odi'r coast yn glir.
(1, 0) 536 Ti yn edrych yn wath nawr nag o't ti bore 'ma.
(1, 0) 537 Wel, ollyngodd e'i charges gwed?
(John) O, do, a fe ollyngodd 'i hunan, bachgen.
 
(John) Weles ti eriod shwd beth.
(1, 0) 542 Na fe, wedes i wrthot ti.
(1, 0) 543 Todde fe fel jelly.
(1, 0) 544 Dim ond i ti roi Mrs. Wilkins ar 'i blat e.
(1, 0) 545 Wel, wyt ti'n ddyn rhydd nawr te.
(John) Cofia, fydden ni ddim wedi neud shwd beth onibai i ti weud bod ti wedi ei weld e a llyged dy hunan.
 
(John) Cofia, fydden ni ddim wedi neud shwd beth onibai i ti weud bod ti wedi ei weld e a llyged dy hunan.
(1, 0) 547 Wel, a gweud y gwir wrthot ti, o'n i ddim wedi'i weld e 'yn hunan.
(John) {Wedi cael sioc arall.}
 
(John) Bachan, beth wyt ti'n feddwl, ti ddim yn gweud bod ti wedi hela fi i'w flacmeilo e heb fod yn siŵr dy hunan.
(1, 0) 550 Wel, Dai No. 2 wedodd wrtho i, ond odd e ddim wedi'i weld e'i hunan.
(1, 0) 551 Wil Mecanic odd wedi gweud wrtho fe, a gwraig hwnnw odd wedi digwydd 'i weld e wrth ddod adre o'r W.I.
(John) Bachan, wedest ti bod ti wedi'i weld dy hunan, bachan.
 
(John) Pam na fyddet ti wedi gweud y gwir wrtho i?
(1, 0) 556 Wel, 'sen i yn gweud y stori i gyd wrthot ti, fyddet ti ddim wedi'i gael e ar 'i benlinie wedyn.
(John) O, jiw, jiw, allen ni fod ar y ffordd i'r jâl nawr.
 
(John) Ti'n sylweddoli hynny!
(1, 0) 559 Bachan, paid becso rhagor.
(1, 0) 560 Mae e wedi dangos 'i bod hi yn gweud y gwir.
(1, 0) 561 Fuest ti yn lwcus ohona i heddi.
 
(1, 0) 563 Wel, Martha, ti siŵr o fod yn teimlo'n well nawr na gynne, fach.
(1, 0) 564 Lwcus i fi roi yr hint fach 'na i chi.
(Martha) O, Harri bach, weles i erioed shwd beth.
 
(Martha) Mae e yn fachan neis iawn a gall neb help bod e yn digwydd perthyn i PC Thomas, a maen nhw wedi mynd lawr nawr i weld e a'i wraig yn 'yn car ni.
(1, 0) 574 Ho, ho... o... jiw, jiw...
(1, 0) 575 Hei, Martha, bydd hi off 'ma os ddaw y diwrnod mowr a bod nhw yn priodi.
(1, 0) 576 Bydd werth gweld John a PC Thomas yn yfed shampers gyda'i gilydd, e?
(John) {Yn grac.}
 
(1, 0) 593 Mae e wedi cael shwgfa, siŵr o fod.
(1, 0) 594 Datod 'i grys e, Martha.
(1, 0) 595 Bachan, ddylet ti ddim fod wedi gweud mor ddisymwyth.
(1, 0) 596 Af i moyn dŵr nawr.
(1, 0) 597 Treia 'i gal e rownd.
(Martha) O, John, John bachan, dewch mlan.
 
(John) Brêca, fenyw.
(1, 0) 605 Ew, Martha, ma fe yn credu bod e yn car gyda ti nawr.
(Martha) O, John, dewch chi, chi wedi cael sioc ofnadŵ.
 
(Emrys) Allwch chi ddod lawr gyda fi ar y moped os hoffech chi.
(1, 0) 623 Pwy fynd ar moped, bachan.
(1, 0) 624 Na, ma'r fan bost gyda fi, af i lawr â chi, Martha fach.
(1, 0) 625 Gwisgwch got gloi.
(Martha) Olreit te, chi John yn siŵr bod chi'n iawn nawr?
 
(John) Odw, odw, cer di ymlaen, bydd Jên gyda fi.
(1, 0) 628 Reit te, barod, Martha.
(Emrys) Ma'n ddrwg dâ fi, Mr. Huws, 'mod i wedi hela chi i gal shwt ofan.
 
(John) O, paid â becso dim, diolch i ti am ddod.
(1, 0) 631 Ie, paid ti becso dim nawr, ofala i bod cyfiawnder yn cael ei neud.