Gormod o Bwdin

Ciw-restr ar gyfer John

(Martha) {Hanner lleisio mewn temper.}
 
(Martha) Odd cyment o fai arnoch chi.
(1, 0) 7 A shwt wyt ti yn gallu gweud hynny?
(1, 0) 8 Ti odd yn dreifo.
(1, 0) 9 Dim ond rhoi y comands o'n i yn 'neud.
(1, 0) 10 Rarswyd, gês i ergyd ar'yn nhrwyn.
(1, 0) 11 Faint o waed sydd arna i?
(Martha) O, peidwch â ffysan.
 
(1, 0) 16 Beth ti yn feddwl, fenyw?
(Martha) Wel, wedoch chi 'tro fan hyn'.
 
(1, 0) 20 Wel i'r "Right" o'n i yn feddwl achos p'un bynnag 'dodd unman i gael i droi i'r whith, fenyw dwp.
(Martha) Pidwch chi gweiddi arna i.
 
(Martha) Own i'n meddwl mai gweud "Right, tro i'r chwith", o'ch chi yn feddwl a dim "Tro i'r dde",
(1, 0) 23 O, ca' dy geg, fenyw, wyt ti'n sylweddoli bod ni mewn trwbwl hyd yn llyged.
(1, 0) 24 I ddechre, fuoch chi bron lladd Huws y Siop, wedyn bwrw postyn ffôn a dianc ar ôl y cwbwl.
(1, 0) 25 O, Martha, Martha, ni mewn trwbwl hyd 'yn llyged.
(Martha) Wel, welodd neb, do fe, a p'un bynnag, ma Huws y Siop 'na mas yn clapan rownabout.
 
(Martha) Ma' hwnna yn obstruction fan'na, John.
(1, 0) 30 Ma' mwy o hawl gyda Huws fod mas ar yr hewl, na sydd gyda chi i ddreifo fel maniac i dreio'i ladd e, a ma gyda nhw hawl i roi postys ffôn y lle mynna nhw.
(1, 0) 31 O'n i wedi bod yn dreifo am bum mlynedd ar hugain heb un scrap a 'no claim bonus' trwy'r blynydde.
(Martha) O, peidwch siarad fel bapa, ddyn.
 
(Martha) Allwch chi golbo y tamed tolc 'na mas â'r mwrthwl ych hunan ac os ffaelwch chi, prynwch wing arall, a fe dala i amdani, a fe gewch chi gadw ych 'no claim bonus' am byth, achos bydda i yn mynd i'r 'School of Motoring' rhagor.
(1, 0) 34 Wel, gobitho bod digon o geir gyda nhw.
(1, 0) 35 Chi'n sylweddoli bod bobl yn cael jâl am bethe llai na hyn.
(Martha) Wel gyda'ch holl wenwyn chi, fydde ni yn moyn cell 'yn hunan 'ta beth.
 
(Martha) {Martha yn dechre llefen yn uchel.}
(1, 0) 38 O, Martha fach, paid dechre llefen nawr.
(Martha) {Llefen yn uchel.}
 
(Martha) O'n i ddim yn meddwl 'i neud e.
(1, 0) 41 O, rwy'n gwbod hynny, Martha fach.
(1, 0) 42 O, pam na fyddet ti wedi brêco.
(Martha) Wel o'ch chi'n gweiddi cyment, own ni wedi panico cyment, o'n i ddim yn gwbod p'un odd y brêc.
 
(Martha) Wel o'ch chi'n gweiddi cyment, own ni wedi panico cyment, o'n i ddim yn gwbod p'un odd y brêc.
(1, 0) 44 Odd digon hawdd gweud hynny wrth y sbid o't ti yn mynd.
 
(1, 0) 47 O, Mari Mosus, odd rhaid i hwnna ddod heddi.
(1, 0) 48 Sycha dy wep, gloi.
(Harri) Shwt mae heddi?
 
(Harri) Rarswyd mawr, chi yn edrych fel 'sech chi newydd ddod adre o angladd.
(1, 0) 52 O shwt wyt ti.
(1, 0) 53 Newydd gael newydd drwg, bachan.
(Harri) Beth sydd, bachan?
 
(1, 0) 56 Newydd cael ffôn o Lunden.
(1, 0) 57 Ma' c'nither i Martha wedi cael 'heart attack' ar 'i chalon bore 'ma.
(Harri) O, ma'n ddrwg gen i glywed, Martha.
 
(Harri) Odi hi yn serious?
(1, 0) 60 Wrth gwrs bod hi'n serious.
(1, 0) 61 Ma pawb sydd yn cael 'heart attack' ar 'i galon yn serious.
(1, 0) 62 Ma hi wedi cael 'i rwsho mewn i'r Infestive Care.
(Harri) Wel, dim ond un llythyr i chi heddi.
 
(Harri) Ysgrifen Mari weden i, Martha.
(1, 0) 65 Wel, wyt ti wedi clywed rhyw newydd ar dy drafels heddi?
(Harri) O, ma hi bant lawr y dre 'na heddi.
 
(Harri) Ma Huws y Siop mewn stâd ofnadŵ, yn crynu fel jeli.
(1, 0) 74 Bachan, paid gweud.
(1, 0) 75 Wel, os rhyw syniad gyda nhw pwy o'n nhw?
(Harri) Wel, 'na'r unig beth wedodd Dai Nymbar 2 wrtha i odd bod car glas Escort gyda nhw ac odd e yn meddwl mai menyw odd yn dreifo.
 
(1, 0) 78 Ond odd e ddim yn siŵr wedes di.
(Harri) O na, odd e ddim yn siŵr ond greda i mai menyw odd yn dreifo.
 
(PC) Mr a Mrs. Huws, yntefe?
(1, 0) 102 O, ie.
(1, 0) 103 Bore da.
(1, 0) 104 Dewch ymlaen.
 
(PC) Yn gynta am 'dangerous driving', ac yn waeth na hynny, dianc ar ôl cyflawni y drosedd, ac o'ch chi ddim yn siŵr beth oedd wedi digwydd i Huws y Siop.
(1, 0) 130 O na.
(1, 0) 131 O'n ni'n gwbod bod e'n olreit achos fe edryches i nôl trŵ y ffenest ôl a weles i e yn carlampo mewn i'r siop.
(Martha) A weda i beth arall wrtho chi.
 
(Harri) Nawr, Jack, rho di Mrs. Wilkins ar 'i blat, a chlywi di ddim rhagor am y trwbwl yma heddi.
(1, 0) 172 Bachan, bachan, ti ddim yn gweud wrtho fi am 'i flacmeilo fe.
(1, 0) 173 Alla i gael jâl am hyn'na.
(Harri) Dim blacmel yw e, bachan.
 
(Harri) {Harri'n mynd trwy ddrws y cefn.}
(1, 0) 183 Ie, ond, Martha, 'do's gyda fi ddim i'w golli nawr.
(Martha) O, John, pidwch.
 
(Martha) Meddyliwch beth all y canlyniade fod.
(1, 0) 186 Ma fe yn dod nôl, Martha, cer i'r cefn o'r golwg.
(1, 0) 187 Gad ti hyn rhyngto fi ag e.
 
(1, 0) 191 Eisteddwch, PC, a dyma gwshin i chi.
(1, 0) 192 Ma' fforms mowr gyda chi.
(PC) Ie, wel, nawr te, fydda i am weld trwydded yrru chi a Mrs. Huws.
 
(PC) Ie, wel, nawr te, fydda i am weld trwydded yrru chi a Mrs. Huws.
(1, 0) 195 Ie, reit, shwt ma Mrs. Thomas gyda chi.
(PC) O, mae hi yn iawn diolch.
 
(PC) Fydda i moyn gweld ych yswiriant chi hefyd.
(1, 0) 198 Gwedwch shwt mae'i nerves hi nawr, o'n i yn clywed bod hi yn cael pwle weithie.
(PC) Wel, dyw hi ddim yn dda ers echdoe.
 
(PC) Wel, dyw hi ddim yn dda ers echdoe.
(1, 0) 200 Bachgen, beth ddigwyddodd echdoe.
(PC) Chi'n gweld, odd hi yn cael 'i phenblwydd echdo ac o'n i yn gwybod bod hi am gael handbag.
 
(PC) Wel, fe brynes i handbag ─ un du ─ iddi, ond pan roddes i e iddi aeth hi yn hlics, chi'n gweld, odd hi eisie un glas a ma' hi wedi bod mewn temper ofnadŵ ers hynny.
(1, 0) 203 O ma ddrwg gen i glywed, a fyse handbag du llawer gwell iddi i fynd i angladde 'chwel.
(PC) Chi'n gwbod beth 'nath hi bore heddi amser brecwast?
 
(PC) Chi'n gwbod beth 'nath hi bore heddi amser brecwast?
(1, 0) 205 Dim syniad, PC bach.
(PC) Wel, wnes i ddim ond gofyn am wy wedi'i ferwi ac fe dowlodd hi ddwsin o wye ar 'y mhen i.
 
(PC) Wel, wnes i ddim ond gofyn am wy wedi'i ferwi ac fe dowlodd hi ddwsin o wye ar 'y mhen i.
(1, 0) 207 Bachgen, bachgen, ac o'ch chi ddim wedi gofyn am |sgrambled| eggs chi?
(PC) Beth sydd yn bod arna i.
 
(PC) Dylwn i ddim fod yn gweud y pethe hyn wrthoch chi.
(1, 0) 210 O ma fe yn help mowr.
(1, 0) 211 A gyda llaw gobeitho na ddaw hi byth i wybod bod chi'n dringad 'sgolion yn ystod y nos.
(PC) Dringad 'sgolion, beth ych chi'n feddwl ddyn?
 
(PC) Dringad 'sgolion, beth ych chi'n feddwl ddyn?
(1, 0) 213 O, dewch nawr, PC.
(1, 0) 214 Mrs. Wilkins, 'chi'n gwbod, ei gŵr hi yn |night watchman| yn y ffatri bylbs 'na, a PC Thomas yn watcho ar ôl 'i wraig gyda'i dorch.
(1, 0) 215 Dewch 'mlân, ni'n gwbod ych hanes chi.
(PC) {Yn codi ar 'i draed a cymryd cam yn ôl.}
 
(PC) Cofiwch chi fod y frenhines y tu ôl i fi.
(1, 0) 219 Wel, chi wedi damscin 'i thrad hi'n stwmps 'te, os yw hi.
(PC) Odych chi'n awgrymu fod gen i |fancy lady|, ac yn ceisio fy mlacmeilo i.
 
(PC) Odych chi'n awgrymu fod gen i |fancy lady|, ac yn ceisio fy mlacmeilo i.
(1, 0) 221 Bachan, dim awgrymu odw i, ond gweud wrthoch chi.
(1, 0) 222 Ma' digon wedi'ch gweld chi ac os ych chi am i MrsThomas beidio dod i wybod, chi'n gwbod beth 'yf fi am i chi 'neud.
(1, 0) 223 Fel oedd Harri Post yn gweud gynne fach, cân di gân fach fwyn i'th Nain ac fe gân dy Nain i chithe, fel 'na ni'n gwitho ffordd hyn.
(PC) {Yn mynd ar 'i benlinie o flaen John.}
 
(PC) O Mr. Huws, fe wna i unrhyw beth i Patsi fach beidio dod i wybod am hyn.
(1, 0) 226 Ie, wel, anghofiwch chi bopeth am yr hen drwbwl yma bore 'ma, a weda inne ddim un gair wrth neb.
(PC) {Yn dechre llefen ar 'i benlinie, a cydio yng nghoes John.}
 
(1, 0) 241 Ie, a chi'n gwbod beth allwch chi neud a rheina.
(Martha) O, John, 'ddylet ti ddim fod wedi 'neud hyn'na.
 
(Martha) Dw i ddim yn meddwl alla i wynebu fe byth eto.
(1, 0) 246 Paid ti dechre cadw'i bart e.
(1, 0) 247 Ti'n gwbod pam o'n i'n 'i 'neud e.
(1, 0) 248 Er mwyn achub dy groen di yn fwy na dim, ac eitha gwaith iddo fe, yr hen fwldog dau wynebog.
(Jên) O, shwt ych chi heddi?
 
(Jên) Wel, ych chi'n clywed cyment am hen bethe od yn digwydd yntefe.
(1, 0) 254 O na, ishe gweld fi ynglŷn â leisens y gwn o'dd e.
(Jên) Ond 'do's dim gwn i gael gyda chi, os e?
 
(Jên) Ond 'do's dim gwn i gael gyda chi, os e?
(1, 0) 256 Na, ond rwy'n meddwl cael un.
(Jên) Ych a fi, i beth ych chi ishe gwn, ddyn?
 
(Jên) Ych a fi, i beth ych chi ishe gwn, ddyn?
(1, 0) 258 Wel, dwn i ddim, yn meddwl mynd mas i bysgota ag e odw i.
(Jên) Wel, mae hi bant yn tŷ ni heddi.
 
(Jên) Mae hi yn sôn am y bachan golygus yma yn cwrdd â'r ferch yma ar wylie a ma'n nhw yn cwmpo dros eu pennau a'u clustie mewn cariad, a ma'n nhw yn rhedeg bant a phriodi ganol nos.
(1, 0) 273 Gyda rhyw offeirad sy'n ffaelu cysgu, siŵr o fod.
(1, 0) 274 Ha ha.
(Jên) Ie, ie, siŵr o fod, ha, ha.
 
(Jên) Wel, ta beth, 'dyw hi ddim wedi gweud wrtho fe'i bod hi yn briod yn barod a dyw e ddim wedi gweud wrthi hi 'fod e yn briod, ac wrth gwrs, dyw 'i gŵr hi ddim yn gwbod bod hi wedi priodi a hwn, a dyw 'i wraig e ddim yn gwbod 'fod e wedi priodi â hi, y fenyw, chi'n gwbod.
(1, 0) 277 Esgusodwch fi funud, ond beth sydd gyda hyn i neud â cefen Dai yn mynd o'i le, Jen.
(Jên) Wel nawr, chi'n gweld, pan 'benes i'r bedwaredd bennod, 'wedes i wrth Dai, galle fe switcho bant... y gole rwy'n feddwl...
 
(Martha) {Martha'n mynd i moyn y llaeth.}
(1, 0) 286 Dim un newydd arall gyda chi 'te, Jên.
(Jên) Na, dim byd.
 
(Jên) O, ie, rwy'i wedi clywed bod gwraig Jack y Siop 'Ffish an Chips' wedi rhedeg bant gyda rhyw ddyn tân o Gaerfyrddin.
(1, 0) 289 Wel, allwn ni weud bod honna wedi mynd o'r ffreipan i'r tân, Jen.
(1, 0) 290 Ha, ha.
(Jên) Ha, ha.
 
(Jên) Gyda llaw, beth ych chi wedi gael ar ych trwyn 'te, John?
(1, 0) 298 O, dim byd, dim ond cered mewn i ddrws wnes i.
(Jên) {Yn mynd.}
 
(Martha) Bydd Mari a'r ffrind yna yma chwap, a John, tynnwch y plaster 'na oddi ar ych trwyn, achos 'dyw e ddim ond yn hela pobol i holi o hyd.
(1, 0) 305 Ond falle eith e i waedu, Martha.
(Martha) Pwy waedu neith e, achos dim ond lliw gwaed oedd yna i ddechre.
 
(1, 0) 309 Hei, ma'fe yn rhy sownd, Martha, ma' fe'n pinsho.
(Martha) Pwy binsho, ddyn, chi fel babi odych.
 
(Martha) {Martha yn rhoi plwc sydyn i'r plastar.}
(1, 0) 313 Aw, aw.
(1, 0) 314 O, fenyw gythrel, chi wedi tynnu croen 'y nhrwyn i bant.
(1, 0) 315 Dodd dim ise bod mor ryff â 'na, odd e?
(Martha) Wrth gwrs bod e, ne fyddech chi yn chware fel plentyn trwy'r dydd i gael e off.
 
(Martha) Wrth gwrs bod e, ne fyddech chi yn chware fel plentyn trwy'r dydd i gael e off.
(1, 0) 317 Wel, rwy'n mynd lan i gael wash cyn don nhw, achos 'w i wedi cael llond bola, odw.
(Martha) Wel, pidwch bod yn hir, a pidwch dechre darllen y llyfr 'na yn y bathrwm 'na heddi fel y diwrnod o'r blaen.
 
(Martha) Wel, pidwch bod yn hir, a pidwch dechre darllen y llyfr 'na yn y bathrwm 'na heddi fel y diwrnod o'r blaen.
(1, 0) 319 O, byddwch dawel, fydda'i lawr nawr.
(Martha) Helo.
 
(Martha) Ma Roger yn dysgu Cymraeg yn ysgol nos, John.
(1, 0) 365 O'n i'n meddwl bod e yn swno bach yn dywyll.
(1, 0) 366 Ha, ha.
(1, 0) 367 Neis cwrdd â chi.
(Martha) A John, chi'n gwbod PC Thomas, ma fe yn wncwl i Roger.
 
(1, 0) 370 Y... y... PC Thomas yn wncwl i chi.
(Martha) Odi, odi, wncwl iddo fe, John.
 
(Martha) Odi, odi, wncwl iddo fe, John.
(1, 0) 372 Bachgen, bachgen, a fe yn wncwl i chi.
(1, 0) 373 Chi'n eitha siŵr?
(Roger) O odw, fi yn arfer pan o'n i'n small dod ar holidays ato Uncle Bill a Aunty Patsy bob blwyddyn.
 
(Roger) Mae teulu fi yn od iawn a gweud y gwir.
(1, 0) 378 Rwy'n deall hynny.
(Roger) Mae gyda fi un tadcu odd wedi dod o Scotland a un mamgu yn dod o Ireland, tad o Gymru a mam o England.
 
(Roger) Mae gyda fi un tadcu odd wedi dod o Scotland a un mamgu yn dod o Ireland, tad o Gymru a mam o England.
(1, 0) 380 Bachan, ddyle nhw fod wedi ych galw chi yn United Nations.
(1, 0) 381 Ha, ha, ha.
(1, 0) 382 United Nations, chi'n 'i chael hi?
(Martha) Byddwch dawel, bachan.
 
(Roger) Achos wyt ti wedi dod i 'funny age' nawr, cofia.
(1, 0) 388 O fi yn cered digon bob dydd, achan.
(Roger) A, Mr. Huws, dyw cered ddim digon.
 
(Roger) Dyle ti neud ecserseisus sydd yn hela calon ti i mynd yn ffast bob dydd achos pam bod calon ti yn mynd yn ffast mae gwaed ti yn cael i cadw yn thin.
(1, 0) 391 Weda i un peth sydd yn hela nghalon i fynd yn ffast.
(1, 0) 392 Mynd gyda Martha ni yn y car.
(Roger) Mae lot o dynion fel ti ar ôl dod i middle age yn gollwng 'u hunen i fynd yn fflabby.
 
(Martha) O chi'n iawn, mae John ni wedi gollwng 'i hunan i fynd yn ofnadŵ o fflabi.
(1, 0) 395 Beth wyt ti'n feddwl mod i'n fflabi?
(Martha) O, chi ddim hanner mor egniol nawr â phan briodes i chi gynta'.
 
(Martha) O, chi ddim hanner mor egniol nawr â phan briodes i chi gynta'.
(1, 0) 397 Beth wyt ti'n feddwl odw i, cangarŵ?
(1, 0) 398 Os arna i ddim ofan gweud mod i mor ffit nawr a fues i eriod.
 
(Martha) Ie, i gael gweld pa mor ffit ych chi.
(1, 0) 402 O rwy i yn rhy hen i neud rhyw hen bethe fel'na.
(Martha) Pwy rhy hen, chi newydd weud bod chi mwy ffit nawr nag erioed.
 
(Martha) Penliniwch lawr fel mae Roger yn 'i neud.
(1, 0) 410 Dych chi ddim hanner call, fenyw, a gobitho na ddaw Huws y ffeirad heibio nawr neu fe all gredu 'mod i wedi troi yn fwslim.
(Roger) Nawr te, Mr. Huws, coese a pen ôl yn stret.
 
(1, 0) 417 Wel, rwy i wedi mynd lawr yn iawn ta beth.
(Martha) Nawr te, lan â ti.
 
(1, 0) 431 Na fi'n eitha reit, 'sen i'n cael llonydd.
(Martha) O, odd e wedi bod yn trio gneud ecserseisus gyda Roger, a dim shap o gwbwl ac...
 
(1, 0) 448 Ha ha ha ha.
(1, 0) 449 Ew, ych chi Jên yn gymeriad.
(1, 0) 450 Shwt mae Dai gyda chi erbyn hyn?
(Jên) O jyst yr un peth yn 'i ddwbwl o hyd, a fuodd Dr. Jenkins acw gynne fach ac mae fe am iddo fe fynd i gael X-Ray fory achos ma fe yn credu mai slipping discus sydd arno fe.
 
(Jên) Ie, a ych chi siŵr o fod yn ffaelu deall beth fi neud â'r basn yma.
(1, 0) 469 Chi wedi mynd yn brin o reis, Jên.
(Jên) Na, dyw hi ddim mor ddrwg â hynny chwaith, 'os dim sultanas gyda fi a mae Dai ni'n dwli ar sultanas, chi'n gweld.
 
(Jên) |
(1, 0) 483 M m... odi, neis iawn.
(Jên) Rwy'n nabod eich Auntie Patsy chi yn iawn, ma' hi yn y W.I. gyda ni.
 
(Jên) Wel, hwyl nawr te.
(1, 0) 493 Reit o, Jên, os fyddwch chi ishe cwcer, chi'n gwbod ble ma hi.
(Martha) O, ti wedi dod 'te.
 
(Martha) O, wel, fi ddim yn gwbod.
(1, 0) 505 Na, na, mae'n well i chi fynd lawr i'w gweld nhw... odi...
(1, 0) 506 Cewch chi lawr i'w gweld nhw, achos fi ddim yn credu fydden nhw ishe dod lan yma.
(Mari) {Yn bwdlyd.}
 
(1, 0) 511 Achos, wel fi'n gwbod, a p'un bynnag fydda'i yn gorfod mynd mas cyn bo hir.
(Martha) Mas i ble, bachan?
 
(Martha) Mas i ble, bachan?
(1, 0) 513 Wel... wel... mas, fenyw.
(Mari) Wel mae e yn bell i gered lawr yr holl ffordd i'r Police Station.
 
(Mari) Wel mae e yn bell i gered lawr yr holl ffordd i'r Police Station.
(1, 0) 515 O, gewch chi fenthyg y car gyda fi nawr.
(Mari) Ych chi'n teimlo yn reit, Dadi?
 
(Mari) Ych chi'n teimlo yn reit, Dadi?
(1, 0) 517 Wrth gwrs 'mod i, groten, cerwch â'r car, cerwch ag e nawr.
(Mari) O'n i byth yn arfer cael edrych arno fe.
 
(Martha) O na fe te, bydd bwyd yn barod gyda fi erbyn dewch chi'n ôl.
(1, 0) 525 Bant â chi te, a falle na fydda i ddim yma pan ddowch chi nôl.
 
(1, 0) 527 O, Martha, 'roedd hynna'n agos.
(1, 0) 528 Weles i eriod shwd ddydd â heddi.
(1, 0) 529 Weles i eriod shwd gawl.
(Martha) O peidwch becso, ma'r gwaetha drosodd nawr, a ma' Roger i'w weld i bob golwg yn fachgen hyfryd.
 
(Harri) Wel, ollyngodd e'i charges gwed?
(1, 0) 538 O, do, a fe ollyngodd 'i hunan, bachgen.
(1, 0) 539 Weles i eriod shwd beth.
(1, 0) 540 Fuodd e ar hyd llawr ffor hyn ag yn llefen dros y lle a begian i fi bido gweud.
(1, 0) 541 Weles ti eriod shwd beth.
(Harri) Na fe, wedes i wrthot ti.
 
(Harri) Wel, wyt ti'n ddyn rhydd nawr te.
(1, 0) 546 Cofia, fydden ni ddim wedi neud shwd beth onibai i ti weud bod ti wedi ei weld e a llyged dy hunan.
(Harri) Wel, a gweud y gwir wrthot ti, o'n i ddim wedi'i weld e 'yn hunan.
 
(1, 0) 549 Bachan, beth wyt ti'n feddwl, ti ddim yn gweud bod ti wedi hela fi i'w flacmeilo e heb fod yn siŵr dy hunan.
(Harri) Wel, Dai No. 2 wedodd wrtho i, ond odd e ddim wedi'i weld e'i hunan.
 
(Harri) Wil Mecanic odd wedi gweud wrtho fe, a gwraig hwnnw odd wedi digwydd 'i weld e wrth ddod adre o'r W.I.
(1, 0) 552 Bachan, wedest ti bod ti wedi'i weld dy hunan, bachan.
(1, 0) 553 Ma gwraig Wil Mecanic y geg gwya sydd yn y dre.
(1, 0) 554 Sdim gair i gredu o honna.
(1, 0) 555 Pam na fyddet ti wedi gweud y gwir wrtho i?
(Harri) Wel, 'sen i yn gweud y stori i gyd wrthot ti, fyddet ti ddim wedi'i gael e ar 'i benlinie wedyn.
 
(Harri) Wel, 'sen i yn gweud y stori i gyd wrthot ti, fyddet ti ddim wedi'i gael e ar 'i benlinie wedyn.
(1, 0) 557 O, jiw, jiw, allen ni fod ar y ffordd i'r jâl nawr.
(1, 0) 558 Ti'n sylweddoli hynny!
(Harri) Bachan, paid becso rhagor.
 
(Martha) Gobitho y ceith e bromoshon gloi iddo fe fynd o'r dre yma.
(1, 0) 568 Ti'n gweld, wyt ti ddim yn gwbod y cwbwl.
(1, 0) 569 Mae pethe wedi gwaethygu.
(1, 0) 570 Ti'n gwbod y ffrind odd Mari ni yn sôn amdano.
(1, 0) 571 Wel maen nhw wedi cyrraedd a mae'r idiot yma sydd gyda hi yn nai i PC Thomas.
(Martha) O, paid gwrando ar John i gyd.
 
(1, 0) 578 Ti, Harri, ddim yn cymryd pethe yn seriws o gwbwl, bachan, 'dos dim diwedd i rhywbeth fel hyn.
(Emrys) Mr. Jones, Mr. Jones, Mr. Jones.
 
(Emrys) Dewch gloi, ma' damwain mowr wedi digwydd.
(1, 0) 585 Damwain, pa ddamwain?
(Emrys) O, mae Mari chi wedi smasho car yn yfflon yn erbyn car Mrs. Wilkins, a ma PC Thomas a chwbwl 'na, a helodd e fi i ddweud wrthoch chi.
 
(1, 0) 588 Smash â Mrs. Wilkins.
 
(1, 0) 603 Brêca, fenyw.
(1, 0) 604 Brêca, fenyw.
(Harri) Ew, Martha, ma fe yn credu bod e yn car gyda ti nawr.
 
(Emrys) Wel, 'sa i'n credu, o'n nhw i gyd yn gorfod mynd lawr i Swyddfa'r Heddlu nawr, ond odd y... y... Roger i'w weld yn gloff.
(1, 0) 618 O, wel, neith e ddim pres-yps am sbel 'te ─ hy...
(1, 0) 619 Ma well i chi Martha fynd lawr i weld.
(Jên) Ie, ie, cewch chi.
 
(Martha) Olreit te, chi John yn siŵr bod chi'n iawn nawr?
(1, 0) 627 Odw, odw, cer di ymlaen, bydd Jên gyda fi.
(Harri) Reit te, barod, Martha.
 
(Emrys) Ma'n ddrwg dâ fi, Mr. Huws, 'mod i wedi hela chi i gal shwt ofan.
(1, 0) 630 O, paid â becso dim, diolch i ti am ddod.
(Harri) Ie, paid ti becso dim nawr, ofala i bod cyfiawnder yn cael ei neud.
 
(Jên) Shwt ych chi yn teimlo nawr 'te John, gwell?
(1, 0) 634 O fe fydda' i byw, paid ti becso.
(1, 0) 635 Weles i eriôd shwd beth a heddi, Jen fach, mae popeth fel 'se fe wedi 'i ribo yma heddi'r bore.
(Jên) Weda i wrthoch chi, ma gen i syniad da.
 
(Jên) Dewch draw 'da fi i gael disgled gyda Dai ni.
(1, 0) 639 Wel ma rhaid gweud, dw i ddim wedi byta dim ers brecwast ac erbyn i chi weud ma' whant pwdin reis arna i.
 
(Jên) Ie, ie, dewch mlân, achos yn y diwedd rwyf i wedi gwneud gormod o lawer o bwdin.
(1, 0) 642 O peidiwch â becso dim, Jên fach, nid chi yw'r unig un i neud gormod o bwdin ffordd hyn,
(1, 0) 643 heddi!