Gormod o Bwdin

Ciw-restr ar gyfer Martha

 
(1, 0) 5 Peidwch chi rhoi y bai i gyd arna i.
(1, 0) 6 Odd cyment o fai arnoch chi.
(John) A shwt wyt ti yn gallu gweud hynny?
 
(John) Faint o waed sydd arna i?
(1, 0) 12 O, peidwch â ffysan.
(1, 0) 13 Ma gyment o waed ar ych trwyn chi a sydd mewn gwmfedyn.
(1, 0) 14 Ac wrth roi ych comands fel ych chi yn 'u galw nhw, roisoch chi y fi yn y cawl.
(John) {Yn rhoi plastar ar ei drwyn.}
 
(John) Beth ti yn feddwl, fenyw?
(1, 0) 17 Wel, wedoch chi 'tro fan hyn'.
(1, 0) 18 Wedoch chi ddim i ble, na pwy ochr, a gofynes i ai i'r chwith, a ateboch chi "Right".
(John) {Yn gweiddi.}
 
(John) Wel i'r "Right" o'n i yn feddwl achos p'un bynnag 'dodd unman i gael i droi i'r whith, fenyw dwp.
(1, 0) 21 Pidwch chi gweiddi arna i.
(1, 0) 22 Own i'n meddwl mai gweud "Right, tro i'r chwith", o'ch chi yn feddwl a dim "Tro i'r dde",
(John) O, ca' dy geg, fenyw, wyt ti'n sylweddoli bod ni mewn trwbwl hyd yn llyged.
 
(John) O, Martha, Martha, ni mewn trwbwl hyd 'yn llyged.
(1, 0) 26 Wel, welodd neb, do fe, a p'un bynnag, ma Huws y Siop 'na mas yn clapan rownabout.
(1, 0) 27 Ma ise rhywbeth i gadw fe yn y siop.
(1, 0) 28 A ma'r postyn ffôn yna mewn lle twp.
(1, 0) 29 Ma' hwnna yn obstruction fan'na, John.
(John) Ma' mwy o hawl gyda Huws fod mas ar yr hewl, na sydd gyda chi i ddreifo fel maniac i dreio'i ladd e, a ma gyda nhw hawl i roi postys ffôn y lle mynna nhw.
 
(John) O'n i wedi bod yn dreifo am bum mlynedd ar hugain heb un scrap a 'no claim bonus' trwy'r blynydde.
(1, 0) 32 O, peidwch siarad fel bapa, ddyn.
(1, 0) 33 Allwch chi golbo y tamed tolc 'na mas â'r mwrthwl ych hunan ac os ffaelwch chi, prynwch wing arall, a fe dala i amdani, a fe gewch chi gadw ych 'no claim bonus' am byth, achos bydda i yn mynd i'r 'School of Motoring' rhagor.
(John) Wel, gobitho bod digon o geir gyda nhw.
 
(John) Chi'n sylweddoli bod bobl yn cael jâl am bethe llai na hyn.
(1, 0) 36 Wel gyda'ch holl wenwyn chi, fydde ni yn moyn cell 'yn hunan 'ta beth.
 
(1, 0) 40 O'n i ddim yn meddwl 'i neud e.
(John) O, rwy'n gwbod hynny, Martha fach.
 
(John) O, pam na fyddet ti wedi brêco.
(1, 0) 43 Wel o'ch chi'n gweiddi cyment, own ni wedi panico cyment, o'n i ddim yn gwbod p'un odd y brêc.
(John) Odd digon hawdd gweud hynny wrth y sbid o't ti yn mynd.
 
(1, 0) 68 O, y... beth sydd wedi digwydd 'te?
(Harri) O, achos o 'hit and run'.
 
(Harri) Dos gyda nhw ddim o'r beth ma'r sais yn i alw yn 'mental stability' fel ni y dynion.
(1, 0) 82 O, paid siarad trwy dy het.
(1, 0) 83 Dw i ddim yn credu bod ti yn gwbod beth yw 'mental stability' i ddechre.
(Harri) Wrth gwrs bo' fi.
 
(1, 0) 88 O, John, mae Mari yn dod adre o'r coleg dros y Sul, a ma' hi yn dod â ffrind gyda hi.
(1, 0) 89 O dier, odd rhaid iddi ddod heddi, a 'do's dim yn tŷ gen i ond ffish ffingers.
(Harri) O, paid becso.
 
(Harri) Ma'n nhw wedi profi ers blynydde cyn gallu di fod yn |balanced lan top| ma rhaid i ti fyta |balanced diet| lawr fan hyn 'twel.
(1, 0) 94 Wel, ma' rhaid i fi fynd i baratoi.
(1, 0) 95 Fyddan nhw yma cyn hir siŵr o fod.
(Harri) Ie, wel, gwaith yn galw yw hi gyda finne hefyd.
 
(Harri) Dim ond jôc fach, PC.
(1, 0) 119 O ca' dy lap, Harri.
(1, 0) 120 Wel 'run man i chi gael gwbod y gwir ─ ni o'n nhw.
(1, 0) 121 Fe banices i ac ath y car mas o gontrol a, wel, chi'n gwbod y rest.
(Harri) Jiw, Jiw.
 
(John) O'n ni'n gwbod bod e'n olreit achos fe edryches i nôl trŵ y ffenest ôl a weles i e yn carlampo mewn i'r siop.
(1, 0) 132 A weda i beth arall wrtho chi.
(1, 0) 133 Mae'r hen bolyn ffôn yna mewn lle peryglus.
(1, 0) 134 Dele fe ddim bod fan yna.
(PC) Diolchwch chi, Mrs. Huws, bod e yna.
 
(Harri) Edrychwch 'ma, John, mae ise hoelen ym malwn hwnna, a ma' 'da fi ffordd i ti 'neud hynny, a dod mas o dy drwbwl.
(1, 0) 164 Harri, am beth wyt ti'n siarad?
(Harri) Mrs. Wilkins 'na sydd yn byw yn Terrace Road.
 
(John) Ie, ond, Martha, 'do's gyda fi ddim i'w golli nawr.
(1, 0) 184 O, John, pidwch.
(1, 0) 185 Meddyliwch beth all y canlyniade fod.
(John) Ma fe yn dod nôl, Martha, cer i'r cefn o'r golwg.
 
(PC) ... 'chawswn i ddim byth fod yn Sarjant wedyn.
(1, 0) 234 O John, bachan, beth wyt ti wedi neud iddo fe.
(1, 0) 235 Edrych arno fe.
(1, 0) 236 O, dewch mlan nawr, ma' popeth yn iawn.
(1, 0) 237 'Wedith John ddim gair wrth neb, ofala i am hynny.
 
(John) Ie, a chi'n gwbod beth allwch chi neud a rheina.
(1, 0) 243 O, John, 'ddylet ti ddim fod wedi 'neud hyn'na.
(1, 0) 244 Weloch chi ei olwg e.
(1, 0) 245 Dw i ddim yn meddwl alla i wynebu fe byth eto.
(John) Paid ti dechre cadw'i bart e.
 
(Jên) Wel, mae hi bant yn tŷ ni heddi.
(1, 0) 260 Os rhywbeth yn bod 'te?
(Jên) O, cefen Dai wedi mynd eto.
 
(Jên) O, cefen Dai wedi mynd eto.
(1, 0) 262 Wel, wel, os dim llawer ers pan fuodd i gefen e o'r blaen.
(1, 0) 263 Wel, pryd aeth e nawr te?
(Jên) Neithiwr, a chredwch neu beidio, yn gwely ath e.
 
(Jên) Neithiwr, a chredwch neu beidio, yn gwely ath e.
(1, 0) 265 Wel, wel, na beth od yntefe.
(Jên) Wel, chi'n gweld, fel hyn odd hi.
 
(Jên) Hy, hy... ac wrth 'fod e yn estyn am y cordyn, cordyn y gole, fe aeth e, cloc felna, ─ nid y gole ond ei gefen e, a fuodd e mewn poen drwy'r nos.
(1, 0) 280 Wel, wel, mae'n rhaid iddo fe weld rhywun ynglŷn ag e nawr.
(Jên) Wel, rwy'i wedi ffono Dr. Jenkins a ma fe wedi addo galw mor gloi ag y gall e.
 
(Jên) Chi'n meddwl allech chi sbario jwged fach?
(1, 0) 284 O, sefwch fanna, allwch chi gael peint gyda fi nawr, ma digon gyda fi heddi.
 
(1, 0) 294 Wel, dyma'r llath i chi.
(1, 0) 295 Odi peint yn ddigon, neu fe allwch chi gael rhagor?
(Jên) O, na, fydd e'n hen ddigon gyda'r peth sydd gyda fi.
 
(1, 0) 303 Rarswyd mawr, mae'n rhaid i fi baratoi.
(1, 0) 304 Bydd Mari a'r ffrind yna yma chwap, a John, tynnwch y plaster 'na oddi ar ych trwyn, achos 'dyw e ddim ond yn hela pobol i holi o hyd.
(John) Ond falle eith e i waedu, Martha.
 
(John) Ond falle eith e i waedu, Martha.
(1, 0) 306 Pwy waedu neith e, achos dim ond lliw gwaed oedd yna i ddechre.
(1, 0) 307 Tynnwch e bant.
(John) {Yn ceisio gael e i ffwrdd gan bwyll, a gneud stumie ofnadw.}
 
(John) Hei, ma'fe yn rhy sownd, Martha, ma' fe'n pinsho.
(1, 0) 310 Pwy binsho, ddyn, chi fel babi odych.
(1, 0) 311 Dewch 'ma i fi weld.
 
(John) Dodd dim ise bod mor ryff â 'na, odd e?
(1, 0) 316 Wrth gwrs bod e, ne fyddech chi yn chware fel plentyn trwy'r dydd i gael e off.
(John) Wel, rwy'n mynd lan i gael wash cyn don nhw, achos 'w i wedi cael llond bola, odw.
 
(John) Wel, rwy'n mynd lan i gael wash cyn don nhw, achos 'w i wedi cael llond bola, odw.
(1, 0) 318 Wel, pidwch bod yn hir, a pidwch dechre darllen y llyfr 'na yn y bathrwm 'na heddi fel y diwrnod o'r blaen.
(John) O, byddwch dawel, fydda'i lawr nawr.
 
(John) O, byddwch dawel, fydda'i lawr nawr.
(1, 0) 322 Helo.
 
(1, 0) 324 John ─ ma'n nhw 'ma.
(Mari) O, helo, mam, shwt ych chi?
 
(Mari) Roger ─ Mam.
(1, 0) 331 Helo, Roger, shwt ych chi.
(1, 0) 332 Neis cwrdd â chi.
(Roger) O, helo, Mrs. Jones.
 
(1, 0) 339 O, dier, odi fe.
(Roger) Ti yn nabod Uncle Bill ac Auntie Patsy, Mrs. Huws?
 
(Roger) Ti yn nabod Uncle Bill ac Auntie Patsy, Mrs. Huws?
(1, 0) 341 O, na, alla i ddim gweud bod fi yn 'u nabod nhw, dim ond 'u gweld nhw yn paso, ie, dim ond 'u gweld nhw yn paso.
(Mari) Mam, dw i bownd o fynd lawr i'r Swyddfa Bost i moyn archeb bost i bosto y llythyr yma, achos ma' fe yn cau heddi am hanner dydd, on' dyw e?
 
(Mari) Gyda llaw, ble mae dad, te?
(1, 0) 345 O, ma fe wedi mynd i'r bathrwm, fydd e lawr nawr.
(Mari) Reit, fydda i nôl cyn bo hir.
 
(Roger) O, ta ta, Bubbles.
(1, 0) 349 Bubbles?
(Roger) Dyna yw pet name fi am Meri.
 
(Roger) Dyna yw pet name fi am Meri.
(1, 0) 351 O, ife, wel dewch i iste lawr, nawr te, i neud ych hunan yn gysurus.
(Roger) Ni pobl heddi yn eistedd gormod ar 'yn pen ole, Mrs. Huws.
 
(1, 0) 355 Esgusodwch fi, odi ych trowsus chi yn gwasgu arnoch chi yn rhywle?
(Roger) O, no, exserseisus yw rhain.
 
(Roger) {Roger yn neud sgwat arall a John yn 'i weld e o'r tu ôl i ddrws y stâr.}
(1, 0) 361 O, John, dewch 'ma i chi gael cwrdd a ffrind Meri ni.
(1, 0) 362 Roger, dyma John y gŵr.
(Roger) Da iawn gyda fi gael cwrdd â ti, Mr Huws.
 
(Roger) Da iawn gyda fi gael cwrdd â ti, Mr Huws.
(1, 0) 364 Ma Roger yn dysgu Cymraeg yn ysgol nos, John.
(John) O'n i'n meddwl bod e yn swno bach yn dywyll.
 
(John) Neis cwrdd â chi.
(1, 0) 368 A John, chi'n gwbod PC Thomas, ma fe yn wncwl i Roger.
(John) {Wedi cael sioc. Cwmpo y bibell o'i geg.}
 
(John) Y... y... PC Thomas yn wncwl i chi.
(1, 0) 371 Odi, odi, wncwl iddo fe, John.
(John) Bachgen, bachgen, a fe yn wncwl i chi.
 
(Roger) O odw, fi yn arfer pan o'n i'n small dod ar holidays ato Uncle Bill a Aunty Patsy bob blwyddyn.
(1, 0) 375 Wel, shwt ma fe yn wncwl i chi te?
(Roger) Ti gweld mae tad fi yn brawd iddo fe a mae tad fi yn Chief Constable yn Birmingham, a mae mam yn Saesnes o Birmingham.
 
(John) United Nations, chi'n 'i chael hi?
(1, 0) 383 Byddwch dawel, bachan.
(1, 0) 384 Mae Roger yn mynd i fod yn P.T. teacher, ac ma fe yn neud ecserseisus bob dydd, John.
(Roger) Pe bai mwy o pobl yn neud ecserseisus bob dydd bydde lot llai o pobl yn marw yn cwic o heart attacks a pethe felna.
 
(Roger) Mae lot o dynion fel ti ar ôl dod i middle age yn gollwng 'u hunen i fynd yn fflabby.
(1, 0) 394 O chi'n iawn, mae John ni wedi gollwng 'i hunan i fynd yn ofnadŵ o fflabi.
(John) Beth wyt ti'n feddwl mod i'n fflabi?
 
(John) Beth wyt ti'n feddwl mod i'n fflabi?
(1, 0) 396 O, chi ddim hanner mor egniol nawr â phan briodes i chi gynta'.
(John) Beth wyt ti'n feddwl odw i, cangarŵ?
 
(Roger) Reit te, Mr. Huws, dewch i ti gael profi ych geirie, dewch i ti cael neud cwpwl bach o ecserseisus gyda fi.
(1, 0) 401 Ie, i gael gweld pa mor ffit ych chi.
(John) O rwy i yn rhy hen i neud rhyw hen bethe fel'na.
 
(John) O rwy i yn rhy hen i neud rhyw hen bethe fel'na.
(1, 0) 403 Pwy rhy hen, chi newydd weud bod chi mwy ffit nawr nag erioed.
(Roger) Ie, dewch, dewch i wneud cwpwl bach o pres-yps gyda fi ar y llawr, Mr. Huws.
 
(Roger) Ie, dewch, dewch i wneud cwpwl bach o pres-yps gyda fi ar y llawr, Mr. Huws.
(1, 0) 407 Dewch mlân nawr.
(1, 0) 408 Penliniwch lawr fel mae Roger yn 'i neud.
(John) Dych chi ddim hanner call, fenyw, a gobitho na ddaw Huws y ffeirad heibio nawr neu fe all gredu 'mod i wedi troi yn fwslim.
 
(Roger) Pwyso ar y breichie a wedyn i lawr ac i fyny, i lawr ac i fyny.
(1, 0) 413 Dewch ymlaen, bachan.
(Roger) I lawr ac i fyny, shwt wyt ti'n dod ymlaen, Mr. Huws?
 
(John) Wel, rwy i wedi mynd lawr yn iawn ta beth.
(1, 0) 418 Nawr te, lan â ti.
(Roger) Ti'n tsheto nawr, Mr. Huws, dim pen ôl fod i dod lan o gwbwl.
 
(Roger) Dyna shwt mae gneud pres-yps, ti'n gweld, Mr. Huws.
(1, 0) 425 Odd Roger yn iawn eich bod chi wedi gollwng ych hunan, fyse eliffant ddim mwy stiff.
(Jên) O, John bach, os rhywbeth yn bod arnoch chi?
 
(John) Na fi'n eitha reit, 'sen i'n cael llonydd.
(1, 0) 432 O, odd e wedi bod yn trio gneud ecserseisus gyda Roger, a dim shap o gwbwl ac...
(1, 0) 433 O... ych chi, Jen, ddim wedi cwrdd a Roger wrth gwrs.
(1, 0) 434 Roger dyma Mrs. Williams drws nesa.
(Roger) Neis i cwrdd â ti.
 
(Jên) Mae e'n olygus iawn, ond yw e te?
(1, 0) 439 Mae Roger yn mynd i fod yn P.T. teacher, ac mae'i dad e yn Brif Gwnstabl yn Birmingham a mae Roger wedi dysgu Cymraeg.
(1, 0) 440 Saesnes yw ei fam e, chi'n gweld.
(Jên) O neis iawn.
 
(Jên) O jyst yr un peth yn 'i ddwbwl o hyd, a fuodd Dr. Jenkins acw gynne fach ac mae fe am iddo fe fynd i gael X-Ray fory achos ma fe yn credu mai slipping discus sydd arno fe.
(1, 0) 452 O hen beth cas yw slip disc.
(1, 0) 453 Rwy'n cofio cath 'yn chwaer i e blynydde 'nôl.
(1, 0) 454 O, peth poenus ofnadŵ.
(Roger) Ti'n gwbod ─ lack of ecserseisus yn amal yn achosi slip discs oherwydd bod mysyls y cefen dim yn rhoi digon o syport i'r spine.
 
(Jên) Ma digon o gurrens 'da fi, ond ma currens yn dueddol o hela Dai ni i redeg, a dyw Dai ni ddim mewn stâd i redeg i unman heddi yn enwedig lan stâr.
(1, 0) 472 O dewch 'ma, a i 'mofyn tipyn o sultanas i chi nawr, Jên.
(Jên) O, diolch, gewch chi nhw nôl bob un.
 
(John) Reit o, Jên, os fyddwch chi ishe cwcer, chi'n gwbod ble ma hi.
(1, 0) 497 O, ti wedi dod 'te.
(Mari) Do, yn y diwedd, dim diwedd ar holi menyw y Post 'na.
 
(1, 0) 504 O, wel, fi ddim yn gwbod.
(John) Na, na, mae'n well i chi fynd lawr i'w gweld nhw... odi...
 
(John) Achos, wel fi'n gwbod, a p'un bynnag fydda'i yn gorfod mynd mas cyn bo hir.
(1, 0) 512 Mas i ble, bachan?
(John) Wel... wel... mas, fenyw.
 
(Mari) O'n i byth yn arfer cael edrych arno fe.
(1, 0) 519 O, dyw dy dad ddim yn ffysi am y car ers pan gath e bwmp ar y wing rhyw fis yn ôl yn erbyn clawdd.
(Mari) {Yn cydio yn llaw Roger.}
 
(Mari) {Y ddau ar eu trâd yn barod i fynd.}
(1, 0) 524 O na fe te, bydd bwyd yn barod gyda fi erbyn dewch chi'n ôl.
(John) Bant â chi te, a falle na fydda i ddim yma pan ddowch chi nôl.
 
(John) Weles i eriod shwd gawl.
(1, 0) 530 O peidwch becso, ma'r gwaetha drosodd nawr, a ma' Roger i'w weld i bob golwg yn fachgen hyfryd.
(1, 0) 531 Wel dw i ddim wedi golchi llestri brecwast eto, ma'n rhaid i fi fynd ati.
(Harri) Odi'r coast yn glir.
 
(Harri) Lwcus i fi roi yr hint fach 'na i chi.
(1, 0) 565 O, Harri bach, weles i erioed shwd beth.
(1, 0) 566 Dw i ddim yn credu alla i edrych yn i wyneb e byth eto.
(1, 0) 567 Gobitho y ceith e bromoshon gloi iddo fe fynd o'r dre yma.
(John) Ti'n gweld, wyt ti ddim yn gwbod y cwbwl.
 
(John) Wel maen nhw wedi cyrraedd a mae'r idiot yma sydd gyda hi yn nai i PC Thomas.
(1, 0) 572 O, paid gwrando ar John i gyd.
(1, 0) 573 Mae e yn fachan neis iawn a gall neb help bod e yn digwydd perthyn i PC Thomas, a maen nhw wedi mynd lawr nawr i weld e a'i wraig yn 'yn car ni.
(Harri) Ho, ho... o... jiw, jiw...
 
(1, 0) 591 O, Harri, beth sydd wedi digwydd?
(Harri) {Mynd ato.}
 
(Harri) Treia 'i gal e rownd.
(1, 0) 600 O, John, John bachan, dewch mlan.
(John) {Yn dechre dod at 'i hunan a siarad.}
 
(Harri) Ew, Martha, ma fe yn credu bod e yn car gyda ti nawr.
(1, 0) 606 O, John, dewch chi, chi wedi cael sioc ofnadŵ.
(1, 0) 607 Bydd popeth yn iawn.
(Jên) Helo, fi sydd yma to.
 
(Jên) O dier, beth sy'n bod yma?
(1, 0) 613 O, ni newydd cael newydd bod Mari a Roger wedi cael smash a roedd e'n ormod i John.
(1, 0) 614 Gath e lewyg bach.
(Jên) Wel, wel, ma ddrwg gen i glywed.
 
(Jên) Wel, wel, ma ddrwg gen i glywed.
(1, 0) 616 Gwed, wyt ti'n gwbod rhywbeth a o's rhywun wedi cael dolur?
(Emrys) Wel, 'sa i'n credu, o'n nhw i gyd yn gorfod mynd lawr i Swyddfa'r Heddlu nawr, ond odd y... y... Roger i'w weld yn gloff.
 
(Harri) Gwisgwch got gloi.
(1, 0) 626 Olreit te, chi John yn siŵr bod chi'n iawn nawr?