Gormod o Bwdin

Ciw-restr ar gyfer PC

(Martha) {Hanner lleisio mewn temper.}
 
(Harri) Ie, wel, gwaith yn galw yw hi gyda finne hefyd.
(1, 0) 100 Bore da.
(1, 0) 101 Mr a Mrs. Huws, yntefe?
(John) O, ie.
 
(John) {Golwg ofidus ar John a Martha.}
(1, 0) 106 Wel, rwyn galw ynglŷn â'r digwyddiad yna ddigwyddodd bore 'ma ger siop Robert Huws.
(Harri) {Torri mewn.}
 
(Harri) Gwneud ymholiadau 'ife?
(1, 0) 109 Ie, dyna fe.
(1, 0) 110 Welsoch chi, Harri, ddim byd?
(Harri) Na, dim ond beth wedodd Dai Nymbar 2 wrthof fi.
 
(Harri) Na, dim ond beth wedodd Dai Nymbar 2 wrthof fi.
(1, 0) 112 Wel, beth wedodd Dai No.2 wrthoch chi 'te.
(Harri) Wel dim ond bod e wedi gweld rhyw gar glas yn mynd fel cath i gythrel a bod dou yn y car, a mai menyw odd yn dreifo, 'na gyd.
 
(Harri) Wel dim ond bod e wedi gweld rhyw gar glas yn mynd fel cath i gythrel a bod dou yn y car, a mai menyw odd yn dreifo, 'na gyd.
(1, 0) 114 Wel, mae Mrs. Jenkins, Sŵn yr Afon yn dweud yr un peth, dim ond bod hi wedi codi rhif y car: BBX 121M.
(1, 0) 115 A phwy sydd yn berchen Escort glas a'r rhif 'na yn y dre 'ma.
(Harri) Peidwch gweud mai un chi ych hunan yw e.
 
(Harri) Mae cnither i Martha 'ma wedi cael 'heart attack' yn Llunden, bore 'ma, a ma'n nhw wedi cael sioc ofnadŵ.
(1, 0) 128 Wel, mae'n ddrwg gen i glywed hynny, wrth gwrs, ond ma'n rhaid i fi atgoffa chi bod chi wedi torri'r gyfreth.
(1, 0) 129 Yn gynta am 'dangerous driving', ac yn waeth na hynny, dianc ar ôl cyflawni y drosedd, ac o'ch chi ddim yn siŵr beth oedd wedi digwydd i Huws y Siop.
(John) O na.
 
(Martha) Dele fe ddim bod fan yna.
(1, 0) 135 Diolchwch chi, Mrs. Huws, bod e yna.
(1, 0) 136 Onibai am y polyn fe alle chi fod wedi mynd lawr y dibyn yna ar ben y tai cownsil, a fyddech chi wedi lando mewn lot mwy o gawl wedyn.
(Harri) Ie, ne allech chi fod wedi lando yn cawl rhywun.
 
(Harri) Ha ha ha.
(1, 0) 139 Chi, Harri, ddim yn meddwl fod hi'n bryd i chi fynd at ych gwaith, achos y peth diwetha sydd eisie ar Mr. a Mrs. Huws heddi yw comedian yn y tŷ.
(Harri) Ie, reit te.
 
(Harri) Jiw erbyn meddwl falle gymrech chi, PC, ych llythyron nawr i arbed i fi fynd heibio, chi'n gwbod.
(1, 0) 142 Drychwch yma, Harri.
(1, 0) 143 Mae'r wladwriaeth yn fy nhalu i i fod yn blisman a chithe i fod yn bosman.
(1, 0) 144 Gwyliwch chi ar ôl ych busnes ac fe ofala i am 'y musnes inne.
(Harri) O, fel'na ych chi yn edrych ar bethe, ife?
 
(1, 0) 150 Wel cerwch i ganu i'ch Nain 'te, Harri bach.
(Harri) {Yn bryfoclyd.}
 
(Harri) Eitha da, e, beth ych chi'n 'weud?
(1, 0) 155 Esgusodwch fi funud tra bydda i yn mynd i'r car i mofyn ffurflenni i gael ysgrifennu ych statement chi.
 
(Harri) O cer, yr hen asyn gwyntog.
(1, 0) 159 Wedoch chi rywbeth Harri?
(Harri) Y... y... o... m... gweud wrth John bod hi yn wyntog neithiwr.
 
(John) Ma' fforms mowr gyda chi.
(1, 0) 193 Ie, wel, nawr te, fydda i am weld trwydded yrru chi a Mrs. Huws.
(John) Ie, reit, shwt ma Mrs. Thomas gyda chi.
 
(John) Ie, reit, shwt ma Mrs. Thomas gyda chi.
(1, 0) 196 O, mae hi yn iawn diolch.
(1, 0) 197 Fydda i moyn gweld ych yswiriant chi hefyd.
(John) Gwedwch shwt mae'i nerves hi nawr, o'n i yn clywed bod hi yn cael pwle weithie.
 
(John) Gwedwch shwt mae'i nerves hi nawr, o'n i yn clywed bod hi yn cael pwle weithie.
(1, 0) 199 Wel, dyw hi ddim yn dda ers echdoe.
(John) Bachgen, beth ddigwyddodd echdoe.
 
(John) Bachgen, beth ddigwyddodd echdoe.
(1, 0) 201 Chi'n gweld, odd hi yn cael 'i phenblwydd echdo ac o'n i yn gwybod bod hi am gael handbag.
(1, 0) 202 Wel, fe brynes i handbag ─ un du ─ iddi, ond pan roddes i e iddi aeth hi yn hlics, chi'n gweld, odd hi eisie un glas a ma' hi wedi bod mewn temper ofnadŵ ers hynny.
(John) O ma ddrwg gen i glywed, a fyse handbag du llawer gwell iddi i fynd i angladde 'chwel.
 
(John) O ma ddrwg gen i glywed, a fyse handbag du llawer gwell iddi i fynd i angladde 'chwel.
(1, 0) 204 Chi'n gwbod beth 'nath hi bore heddi amser brecwast?
(John) Dim syniad, PC bach.
 
(John) Dim syniad, PC bach.
(1, 0) 206 Wel, wnes i ddim ond gofyn am wy wedi'i ferwi ac fe dowlodd hi ddwsin o wye ar 'y mhen i.
(John) Bachgen, bachgen, ac o'ch chi ddim wedi gofyn am |sgrambled| eggs chi?
 
(John) Bachgen, bachgen, ac o'ch chi ddim wedi gofyn am |sgrambled| eggs chi?
(1, 0) 208 Beth sydd yn bod arna i.
(1, 0) 209 Dylwn i ddim fod yn gweud y pethe hyn wrthoch chi.
(John) O ma fe yn help mowr.
 
(John) A gyda llaw gobeitho na ddaw hi byth i wybod bod chi'n dringad 'sgolion yn ystod y nos.
(1, 0) 212 Dringad 'sgolion, beth ych chi'n feddwl ddyn?
(John) O, dewch nawr, PC.
 
(1, 0) 217 Mr. Huws, cymrwch ofal beth chi'n 'weud.
(1, 0) 218 Cofiwch chi fod y frenhines y tu ôl i fi.
(John) Wel, chi wedi damscin 'i thrad hi'n stwmps 'te, os yw hi.
 
(John) Wel, chi wedi damscin 'i thrad hi'n stwmps 'te, os yw hi.
(1, 0) 220 Odych chi'n awgrymu fod gen i |fancy lady|, ac yn ceisio fy mlacmeilo i.
(John) Bachan, dim awgrymu odw i, ond gweud wrthoch chi.
 
(1, 0) 225 O Mr. Huws, fe wna i unrhyw beth i Patsi fach beidio dod i wybod am hyn.
(John) Ie, wel, anghofiwch chi bopeth am yr hen drwbwl yma bore 'ma, a weda inne ddim un gair wrth neb.
 
(1, 0) 228 O, odych chi yn addo peidio gweud.
(1, 0) 229 O plîs, plîs, peidiwch gweud wrth Patsi, achos pe bai hi yn dod i wybod, falle yr ele hi bant, a wedyn...
 
(1, 0) 231 ... 'chawswn i ddim byth fod yn Sarjant wedyn.
(Martha) O John, bachan, beth wyt ti wedi neud iddo fe.
 
(Martha) {Martha yn ei helpu fe ar 'i draed.}
(1, 0) 239 A chlywch chi ddim byth rhagor o' wrtho i.