Gormod o Bwdin

Ciw-restr ar gyfer Roger

(Martha) {Hanner lleisio mewn temper.}
 
(Martha) Neis cwrdd â chi.
(1, 0) 333 O, helo, Mrs. Jones.
(1, 0) 334 Fi wedi clywed llawer am ti gyda Meri.
(1, 0) 335 Rhaid i ti esciwso Cymraeg fi achos nawr fi yn dysgu fe yn ysgol nos.
(1, 0) 336 Fi wedi bod yn dod lot i Tre yma blynydde nôl i aros ar gwylie ato uncle a auntie fi.
(Mari) Odi, mae PC Thomas yn wncwl i Roger, mam.
 
(Martha) O, dier, odi fe.
(1, 0) 340 Ti yn nabod Uncle Bill ac Auntie Patsy, Mrs. Huws?
(Martha) O, na, alla i ddim gweud bod fi yn 'u nabod nhw, dim ond 'u gweld nhw yn paso, ie, dim ond 'u gweld nhw yn paso.
 
(Mari) Ta, ta cariad.
(1, 0) 348 O, ta ta, Bubbles.
(Martha) Bubbles?
 
(Martha) Bubbles?
(1, 0) 350 Dyna yw pet name fi am Meri.
(Martha) O, ife, wel dewch i iste lawr, nawr te, i neud ych hunan yn gysurus.
 
(Martha) O, ife, wel dewch i iste lawr, nawr te, i neud ych hunan yn gysurus.
(1, 0) 352 Ni pobl heddi yn eistedd gormod ar 'yn pen ole, Mrs. Huws.
 
(Martha) Esgusodwch fi, odi ych trowsus chi yn gwasgu arnoch chi yn rhywle?
(1, 0) 356 O, no, exserseisus yw rhain.
(1, 0) 357 Fi yn neud rhain pob dydd i cadw yn ffit.
(1, 0) 358 Os na fydda i wedi cael amser y bore i neud routine i gyd, fi yn iwsho bob chance fi cael yn y dydd wedyn.
 
(Martha) Roger, dyma John y gŵr.
(1, 0) 363 Da iawn gyda fi gael cwrdd â ti, Mr Huws.
(Martha) Ma Roger yn dysgu Cymraeg yn ysgol nos, John.
 
(John) Chi'n eitha siŵr?
(1, 0) 374 O odw, fi yn arfer pan o'n i'n small dod ar holidays ato Uncle Bill a Aunty Patsy bob blwyddyn.
(Martha) Wel, shwt ma fe yn wncwl i chi te?
 
(Martha) Wel, shwt ma fe yn wncwl i chi te?
(1, 0) 376 Ti gweld mae tad fi yn brawd iddo fe a mae tad fi yn Chief Constable yn Birmingham, a mae mam yn Saesnes o Birmingham.
(1, 0) 377 Mae teulu fi yn od iawn a gweud y gwir.
(John) Rwy'n deall hynny.
 
(John) Rwy'n deall hynny.
(1, 0) 379 Mae gyda fi un tadcu odd wedi dod o Scotland a un mamgu yn dod o Ireland, tad o Gymru a mam o England.
(John) Bachan, ddyle nhw fod wedi ych galw chi yn United Nations.
 
(Martha) Mae Roger yn mynd i fod yn P.T. teacher, ac ma fe yn neud ecserseisus bob dydd, John.
(1, 0) 385 Pe bai mwy o pobl yn neud ecserseisus bob dydd bydde lot llai o pobl yn marw yn cwic o heart attacks a pethe felna.
(1, 0) 386 Odyt ti, Mr Huws, yn neud ecserseisus?
(1, 0) 387 Achos wyt ti wedi dod i 'funny age' nawr, cofia.
(John) O fi yn cered digon bob dydd, achan.
 
(John) O fi yn cered digon bob dydd, achan.
(1, 0) 389 A, Mr. Huws, dyw cered ddim digon.
(1, 0) 390 Dyle ti neud ecserseisus sydd yn hela calon ti i mynd yn ffast bob dydd achos pam bod calon ti yn mynd yn ffast mae gwaed ti yn cael i cadw yn thin.
(John) Weda i un peth sydd yn hela nghalon i fynd yn ffast.
 
(John) Mynd gyda Martha ni yn y car.
(1, 0) 393 Mae lot o dynion fel ti ar ôl dod i middle age yn gollwng 'u hunen i fynd yn fflabby.
(Martha) O chi'n iawn, mae John ni wedi gollwng 'i hunan i fynd yn ofnadŵ o fflabi.
 
(John) {Rhoi un besychan.}
(1, 0) 400 Reit te, Mr. Huws, dewch i ti gael profi ych geirie, dewch i ti cael neud cwpwl bach o ecserseisus gyda fi.
(Martha) Ie, i gael gweld pa mor ffit ych chi.
 
(Martha) Pwy rhy hen, chi newydd weud bod chi mwy ffit nawr nag erioed.
(1, 0) 404 Ie, dewch, dewch i wneud cwpwl bach o pres-yps gyda fi ar y llawr, Mr. Huws.
(Martha) Dewch mlân nawr.
 
(John) Dych chi ddim hanner call, fenyw, a gobitho na ddaw Huws y ffeirad heibio nawr neu fe all gredu 'mod i wedi troi yn fwslim.
(1, 0) 411 Nawr te, Mr. Huws, coese a pen ôl yn stret.
(1, 0) 412 Pwyso ar y breichie a wedyn i lawr ac i fyny, i lawr ac i fyny.
(Martha) Dewch ymlaen, bachan.
 
(Martha) Dewch ymlaen, bachan.
(1, 0) 415 I lawr ac i fyny, shwt wyt ti'n dod ymlaen, Mr. Huws?
(John) {Yn edrych yn boenus.}
 
(Martha) Nawr te, lan â ti.
(1, 0) 422 Ti'n tsheto nawr, Mr. Huws, dim pen ôl fod i dod lan o gwbwl.
 
(1, 0) 424 Dyna shwt mae gneud pres-yps, ti'n gweld, Mr. Huws.
(Martha) Odd Roger yn iawn eich bod chi wedi gollwng ych hunan, fyse eliffant ddim mwy stiff.
 
(Martha) Roger dyma Mrs. Williams drws nesa.
(1, 0) 435 Neis i cwrdd â ti.
(Jên) Neis cwrdd a chithe hefyd.
 
(Jên) Chi'n gwbod, Roger, mae nai i fi yn blisman yn Coventry ac odd e yn gweud bod Saeson ofnadŵ yn byw yn fan'ny.
(1, 0) 443 O, mae gyda fe panda, siŵr o bod.
(Jên) Wel 'wi ddim yn siŵr.
 
(Martha) O, peth poenus ofnadŵ.
(1, 0) 455 Ti'n gwbod ─ lack of ecserseisus yn amal yn achosi slip discs oherwydd bod mysyls y cefen dim yn rhoi digon o syport i'r spine.
(Jên) {Yn troi at Martha.}
 
(Jên) Wel pa ecserseisus fydde hi yn 'u cynnig 'te i Dai ni?
(1, 0) 459 O dim byd yn well i'r cefen na digon o nofio.
(Jên) O wel, sgen i ddim gobeth, achos rwy'n gorfod cwmpo mas â Dai am orie cyn ca'i e i gymryd bath, ac aros ar ei drâd ma fe yn cymryd hwnnw.
 
(Jên) O wel, sgen i ddim gobeth, achos rwy'n gorfod cwmpo mas â Dai am orie cyn ca'i e i gymryd bath, ac aros ar ei drâd ma fe yn cymryd hwnnw.
(1, 0) 461 A peth arall sydd yn dda i ôl-rownd ffitnes yw squash.
(Jên) Jiw, jiw, dim ond Barley Water yfith Dai ni ─ mae fe yn well i'r blader, mynte fe.
 
(1, 0) 464 Dim yfed Squash fi'n meddwl ond chware squash.
(1, 0) 465 Ma hi yn sport.
(Jên) {Yn chwerthin ar ben 'i hunan.}
 
(Jên) Rwy'i fel 'sen ni yn meddwl 'mod i wedi gweld chi yn rhywle o'r blân.
(1, 0) 477 Falle bod ti wedi gweld fi pan o fi yn dod ar holidays blynydde nôl at Uncle Bill a Auntie Patsy.
(1, 0) 478 Falle bod ti nabod e yn well fel PC Thomas.