Caradog

Ciw-restr ar gyfer Afarwy

(Venutius) Pa le mae byddin Rhufain wedi mynd?
 
(Genwissa) {Yn codi ar ei gliniau a phlethu ei dwylaw mewn diolch.} I'r duwiau y bo'r diolch!
(1, 1) 103 Ha! Pwy yma sy'n ymguddio!
 
(1, 1) 105 Y duwiau drugarhaont! Genwissa yw!
(1, 1) 106 Rhaid imi ffugio fel na'm hadwaen i!
 
(1, 1) 108 Wel! Dyma 'sglyfaeth ryfel, onide!
(Genwissa) {Mewn llais crynedig ofnus.} Ai ti yw Pennaeth y Prydeinwyr hyn?
 
(Genwissa) Gan Cesar am i'w ferch gael mynd yn rhydd.
(1, 1) 115 Cawn weled yn y man. {Yn troi oddiwrthi at Venutius.}
 
(1, 1) 117 Rwy'n diolch iti am yr hyn a wnest.
(1, 1) 118 Caradog ga ro'i diolch gwell iti.
(Venutius) Nid wyf yn crefu unrhyw ddiolch gwell
 
(Venutius) Na gwneud fy rhan dros ryddid Prydain gu.
(1, 1) 121 A gwnaethost hynny heddyw'n ddewr fel cynt.
(1, 1) 122 Urddasol gennad ddylai fyn'd ar frys
(1, 1) 123 A'r newydd i Caradog ddarfod i
(1, 1) 124 Ni heddyw daro llengoedd Cesar falch
(1, 1) 125 Yn glîn a borddwyd. Yntau wedi ffoi.
(Genwissa) Gwae fi! O dywell ddydd!
 
(Genwissa) Gwae fi! O dywell ddydd!
(1, 1) 127 Fod Cesar yn ei wersyll yn ddiogel.
(Genwissa) {Yn plethu ei dwylaw a chodi ei gwyneb tua'r nef.} I'r duwiau y bo'r diolch!
 
(Genwissa) Yn peri braw i'm calon wan... O! dwg fì at fy nhad!
(1, 1) 143 'Rwyt ti'n anghofìo mai carchares wyt!
(Genwissa) O! Bennaeth mwyn ——
 
(Genwissa) O! Bennaeth mwyn ——
(1, 1) 145 Na ddwed y gair! Nid oes 'run pennaeth mwyn
(1, 1) 146 Ymhlith penaethiad Prydain heddyw!
(1, 1) 147 Mae gormes creulawn Rhufain wedi gwneud
(1, 1) 148 I fwynder ffoi o galon pob Prydeiniwr!
(Genwissa) {Yn codi.} Na! Na! Nid felly chwaith! Can's gwn fod un
 
(Genwissa) Pe gallwn gyrraedd ato, fyddai'n fwyn imi! {Yn troi ymaith dan wylo.}
(1, 1) 151 Yn fwyn i ti! Rufeines! Gelyn Prydain!
(Genwissa) {Yn troi yn ol gan estyn allan ei dwylaw yn ymbilgar.} Ond ti wnei am bridwerth fy rhyddhau yn wir!
 
(Genwissa) {Yn troi yn ol gan estyn allan ei dwylaw yn ymbilgar.} Ond ti wnei am bridwerth fy rhyddhau yn wir!
(1, 1) 153 Na! Na wnaf byth! Rhy werthfawr wyt imi.
(Genwissa) Cei bridwerth mawr os dygi fi yn ol
 
(Genwissa) I freichiau'm tad!
(1, 1) 156 Beth am fy mreichiau i? {Yn dal ei freichiau allan ati; hithau'n cilio'n ol.}
(1, 1) 157 Yw Cesar yn gyfoethog? Mi yn fwy!
(1, 1) 158 Rhy fach holl gyfoeth Rhufain i dy brynu di.
(Genwissa) Yr adyn! Feiddi di fy nghadw i,
 
(1, 1) 162 'Run Cesar sydd ym Mhrydain heddyw.
(Genwissa) {Yn fygythiol.} Ond mae ym Mhrydain un a wna iti
 
(Genwissa) Ofìdio it' erioed wneud cam â mi!
(1, 1) 165 Pwy ydyw ef, atolwg?
(Genwissa) Afarwy D'wysog, Brawd Caradog yw,
 
(Genwissa) A chyfaill gynt imi yn Rhufain draw.
(1, 1) 168 Afarwy? Twt! Nid wyf yn malio clec fy mawd {yn clecian ei fysedd}
(1, 1) 169 Am dano ef! Rhyw goegyn llys, a llwfryn gwael——
(Genwissa) {Yn torri ar ei draws, gan daro ei throed ar lawr.} Afarwy'n llwfr! Dewraf, urddasolaf un
 
(1, 1) 174 Iti'th ddymuniad! Gwel! Edrych ar Afarwy. {Yn gwthio ei helm yn ol oddiar ei ben.}
(Genwissa) {Yn troi i edrych yn ei wyneb.} Afarwy! Diolch fyth i'r duwiau da am hyn. {Yn hanner llewygu; yntau yn ei dal.}
 
(Genwissa) {Yn troi i edrych yn ei wyneb.} Afarwy! Diolch fyth i'r duwiau da am hyn. {Yn hanner llewygu; yntau yn ei dal.}
(1, 1) 176 A b'le, atolwg, oedd dy lygaid di
(1, 1) 177 Na fuaset yn fy adwaen? Neu, a yw
(1, 1) 178 Afarwy wedi mynd yn llwyr o'th gof?
(Genwissa) {Yn pwyso ei phen ar ei fynwes.} O! Na! Afarwy! Na! Ti wyddost well! {Yn ymryddhau o'i freichiau gan nesu gam yn ol a throi ato.}
 
(Genwissa) A minnau'n ddall gan ofn!
(1, 1) 183 A minnau'n anystyriol yn parhau
(1, 1) 184 Dy ofn mor hir! O maddeu im'! {Yn estyn ei ddwylaw allan yn ymbilgar tuag ati; ymaflyd yn, a chusanu ei llaw.}
(Genwissa) Gwna'r hyn a geisiaf gennyt, ynte.
 
(1, 1) 189 Yn fwy difrifol nag yw Afarwy—bob amser.
(Genwissa) {Yn chwerthin.} Ti ddwedaist! 'Run wyt o hyd, mi welaf.
 
(Genwissa) {Yn chwerthin.} Ti ddwedaist! 'Run wyt o hyd, mi welaf.
(1, 1) 191 Wel, ïe'n siwr! A fynnet imi fod yn rhywun arall?
(Genwissa) Na ato'r duwiau! Er mae'n anhawdd dweyd
 
(Genwissa) Beth ydwyt mewn gwirionedd!
(1, 1) 194 A gaf fì ddweyd?
(Genwissa) Wel, dwed, ynte.
 
(Genwissa) Beth, eto?
(1, 1) 198 Eto? ïe, ac eto ddengwaith wed'yn!
(1, 1) 199 Ddoe, heddyw, foru, eleni, a'r flwyddyn nesaf,
(1, 1) 200 A phob ryw awr, a dydd, a blwydd o'm hoes!
(Genwissa) {Yn troi ei gwyneb ymaith.} Pe gallwn gredu hyn!
 
(1, 1) 209 Yn ol i wersyll Cesar.
(Genwissa) {Yn edrych lawr.} A raid it' wneud?
 
(Genwissa) {Yn edrych lawr.} A raid it' wneud?
(1, 1) 211 Rhaid! Rhaid! Er mwyn anrhydedd Prydain rhaid im' wneud!
(Genwissa) {Yn codi ei phen ac edrych yn ei lygaid.} A rhwydd yw gennyt fy rhoi 'nol i'm tad?
 
(1, 1) 218 Mor oludog Rhufain, nis gallai'r ddau yn un
(1, 1) 219 Ro'i pris cyfartal im' am danat ti!
(Genwissa) Ac eto'm rhoddi fyny wnei am ddim.
 
(Genwissa) Ac eto'm rhoddi fyny wnei am ddim.
(1, 1) 221 F'anrhydedd a'm gorfoda i wneud hyn.
(1, 1) 222 Cha'r un Rhufeiniwr balch droi bys mewn gwawd
(1, 1) 223 At frawd Caradog! Ond y rhyfel sydd
(1, 1) 224 Yn gwneud im' dynnu cledd yn erbyn Cesar
(1, 1) 225 A glodd fy nhafod rhag i hwnnw ddweyd
(1, 1) 226 Yr hyn a leinw'm calon 'nawr a byth,
(1, 1) 227 A'r peth na weddai im' ei ddweyd tra mi
(1, 1) 228 Yn ymladd fel yr wyf, ac fel y gwnaf,
(1, 1) 229 Yn erbyn Cesar. Tyr'd, Dywysoges fwyn.
(1, 1) 230 Genwissa anwyl gynt—Merch Cesar 'nawr,
(1, 1) 231 Dy arwain wnaf yn ol i law dy dad.
(1, 1) 232 Merch Cesar farna 'rhyn ddymunwn ddweyd,
(1, 1) 233 A'r hyn a ddywedaswn, ïe'n hyf
(1, 1) 234 Ynghlust Genwissa, ac i'w chalon hi,
(1, 1) 235 Pe na bae'r rhyfel yn ei chadw hi
(1, 1) 236 Yngwersyll gelyn Prydain.
(Genwissa) {Yn rhoi ei llaw ar ei fraich.} Afarwy! O! Afarwy! Mi a wn!
 
(Genwissa) Yr ateb fynnai'm calon 'nawr ei ro'i!
(1, 1) 246 Wel, tyred! Awn i wersyll Cesar!