Caradog

Ciw-restr ar gyfer Vellocatus

(Venutius) Pa le mae byddin Rhufain wedi mynd?
 
(Venutius) At swn y brwydro, ddyliwn i.
(1, 1) 7 Ond rhaid cael dau i frwydro! Dichon fod
(1, 1) 8 Caradog, er ei ymffrost, wedi ffoi
(1, 1) 9 Heb daro ergyd, a Cesar ar ei ol yn ymlid.
(Venutius) Na! Na! Nid Cradog fyddai Cradog felly!
 
(Venutius) Dyheu wyf fìnnau am gael cym'ryd rhan.
(1, 1) 16 Gwell f'asai iti aros yn dy lys dy hun
(1, 1) 17 Na theithio'n mhell i ymladd Rhufain gref.
(Venutius) Taw! Taw! Ynghwmni'r merched ddylet fod!
 
(Venutius) Tyr'd! Brysia! Gad i ninnau gym'ryd rhan! {Yn cychwyn myned tua R 3.}
(1, 1) 24 Na! F'arglwydd! Aros! Gall gwŷr Cesar fod
(1, 1) 25 O'n blaen! A beth wnawn ni ein dau yn erbyn llu?
(Venutius) {Yn troi ar Vellocatus.} Ai ofn sydd arnat, dwed? Y llwfryn gwael!
 
(1, 1) 29 Yr un dyn byw—ond ti, fy Arglwydd dewr. {Yn moesgrymu'n wasaidd.}
(Venutius) Paham yr oedi ynte, ddyn?
 
(Venutius) Paham yr oedi ynte, ddyn?
(1, 1) 31 Wel, addaw wneuthum wrth dy wraig cyn dod
(1, 1) 32 Na chaffet ruthro yn ddiraid i berygl.
(Venutius) {Yn sychlyd a gwawdlyd.} Ni welais arni gymaint arwydd ofn
 
(1, 1) 42 Da fyddai gennyf beidio'th weled mwy.
(1, 1) 43 Mae gwên dy wraig, Aregwedd, yn fwy swyn
(1, 1) 44 Na cholli'm gwaed dros Brydain na Venutius. {Yn rhodio ol a blaen.}
(1, 1) 45 Pe caffai Rhufain fuddugoliaeth fawr,
(1, 1) 46 Caradog ei orchfygu, Venutius ei ladd,
(1, 1) 47 Cysurwn i Aregwedd. {Yn rhwbio ei ddwylaw mewn mwynhad.} Codai'm seren
(1, 1) 48 Fry i'r entrych—a byddwn ben, nid gwas!
 
(1, 1) 50 Daw'r rhyfel tuag yma! Ymguddio raid!
(Cesar) Gwaefì! A raid i Cesar ffoi!
 
(Cesar) A'r gwarth ar Cesar daflwyd heddyw!
(1, 1) 73 Caradog yn fuddugol! Cesar ffodd!
(1, 1) 74 Os delir ef, ffarwel i bob rhyw obaith
(1, 1) 75 I'm gael bod yn rhywbeth gwell na chludydd arfau
(1, 1) 76 I Venutius falch! Rhaid gwylio'r cyfle,
(1, 1) 77 Troi'r erlidwyr ffwrdd o'r llwybr hwn {yn cyfeirio ei law y ffordd yr aeth Cesar}
(1, 1) 78 Gymerwyd 'nawr gan Cesar! Ust! Venutius yw!
(Venutius) le, Cesar ydoedd! Ond pa ffordd yr aeth? {Edrych o gwmpas.}
 
(Venutius) Ha! Dyma olion traed ryw ffoedigion! Dowch! {Cyfeirio a'i fys at ol traed, ac yn cychwyn tua L 3.}
(1, 1) 83 Ffordd yma yr aeth Cesar! {Cyfeirio ei gledd at L 1.} Nid yw'n mhell!
(1, 1) 84 Dowch daliwn ef!