Caradog

Ciw-restr ar gyfer Venutius

 
(1, 1) 4 Pa le mae byddin Rhufain wedi mynd?
(1, 1) 5 Dylasem erbyn hyn fod wedi dod
(1, 1) 6 At swn y brwydro, ddyliwn i.
(Vellocatus) Ond rhaid cael dau i frwydro! Dichon fod
 
(Vellocatus) Heb daro ergyd, a Cesar ar ei ol yn ymlid.
(1, 1) 10 Na! Na! Nid Cradog fyddai Cradog felly!
(1, 1) 11 Mae brwydro iddo ef yn anadl ffroen!
(1, 1) 12 Fel blysia baban yfed llaeth y fron
(1, 1) 13 Dyhea Cradog gael bod gledd ynghledd
(1, 1) 14 A'r balch Rufeiniwr sydd yn treisio Prydain!
(1, 1) 15 Dyheu wyf fìnnau am gael cym'ryd rhan.
(Vellocatus) Gwell f'asai iti aros yn dy lys dy hun
 
(Vellocatus) Na theithio'n mhell i ymladd Rhufain gref.
(1, 1) 18 Taw! Taw! Ynghwmni'r merched ddylet fod!
(1, 1) 19 Nid maes y gwaed yw'r dewis fan i ti.
(1, 1) 20 Gwell gennyt chwareu â merch nac ymladd dyn.
 
(1, 1) 22 Clyw! {Yn codi ei law, a gwrando.} Dacw swn y brwydro, Vellocatus.
(1, 1) 23 Tyr'd! Brysia! Gad i ninnau gym'ryd rhan! {Yn cychwyn myned tua R 3.}
(Vellocatus) Na! F'arglwydd! Aros! Gall gwŷr Cesar fod
 
(1, 1) 27 Pe gwypwn hynny rho'wn it' dynged llwfryn. {Yn tynnu ei gledd allan.}
(Vellocatus) {Yn cilio yn ol.} Ni fu erioed ar Vellocatus ofn
 
(Vellocatus) Yr un dyn byw—ond ti, fy Arglwydd dewr. {Yn moesgrymu'n wasaidd.}
(1, 1) 30 Paham yr oedi ynte, ddyn?
(Vellocatus) Wel, addaw wneuthum wrth dy wraig cyn dod
 
(1, 1) 34 O'm plegid i o'r blaen!
 
(1, 1) 36 Clyw swn y brwydro'r dyn! Gwŷr Prydain a
(1, 1) 37 Gwŷr Rhufain gledd ynghledd!
(1, 1) 38 Rhaid i Venutius gym'ryd rhan, a rhoi
(1, 1) 39 Ei gledd o blaid ei wlad! {Yn tynnu allan ei gledd.} Hwre dros Brydain!
(Vellocatus) {Yn esgus ei ganlyn, yna yn troi yn ol.} Dos! Ffolddyn! Dos i Annwn ddofn, os mynni!
 
(Vellocatus) Gymerwyd 'nawr gan Cesar! Ust! Venutius yw!
(1, 1) 80 le, Cesar ydoedd! Ond pa ffordd yr aeth? {Edrych o gwmpas.}
(1, 1) 81 Ha! Dyma olion traed ryw ffoedigion! Dowch! {Cyfeirio a'i fys at ol traed, ac yn cychwyn tua L 3.}
(Vellocatus) Ffordd yma yr aeth Cesar! {Cyfeirio ei gledd at L 1.} Nid yw'n mhell!
 
(Vellocatus) Dowch daliwn ef!
(1, 1) 85 A welaist ef! Hwre! Awn! Daliwn Cesar!
(Genwissa) Och fì! Pa beth, pa beth a wnaf!
 
(Afarwy) {Yn cyfarch yn ol.} Ac iti, Venutius ddewr. Pa hanes sydd?
(1, 1) 100 Diangodd Cesar ar ein gwaethaf oll!
(1, 1) 101 Mae bellach yn ei wersyll wrth y môr.
(Genwissa) {Yn codi ar ei gliniau a phlethu ei dwylaw mewn diolch.} I'r duwiau y bo'r diolch!
 
(Afarwy) Caradog ga ro'i diolch gwell iti.
(1, 1) 119 Nid wyf yn crefu unrhyw ddiolch gwell
(1, 1) 120 Na gwneud fy rhan dros ryddid Prydain gu.