Castell Martin

Ciw-restr ar gyfer Desc

(1, 0) 1 ADEG: Y presennol, prynhawnddydd haf.
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 LLE: Siop y Barbwr yn Llawybryn.
(1, 0) 4 ~
(1, 0) 5 Y mae ISAAC LEWIS, y barbwr, yn cyweirio glawlen ac mewn tipyn o helbul gyda'r gorchwyl.
(1, 0) 6 Gŵr tua thrigain oed ydyw ISAAC, cymharol dal, teneu, yn magu dwy locsen gochlyd, ei wallt yn britho ac yn tueddu i ddiflannu yng nghwmpas ei gorun.
(1, 0) 7 ~
(1, 0) 8 Saif y siop ar sgwâr y pentre, a thrwy ei ffenestr lydan, gwelir esgyn-faen neu garregfarch.
(1, 0) 9 Dyma areithfa gwleidyddwyr y pentref ers oesau, os nad eu pulpud hefyd.
(1, 0) 10 Yn wir, honnri gan rai i Hywel Harris, ac hyd yn oed Whitefield bregethu oddiarni yng nghyffroad mawr y ddeunawfed ganrif, er nad oes sicrwydd diymwad o hynwy.
(1, 0) 11 ~
(1, 0) 12 Parthed yr ystafell; cadair eillio yn agos i'r ffenestr, ac offer arferol barbwr ar fwrdd gerllaw; meinciau oddiamgylch, ac addurnir y muriau â gwahanol almanaciau, hysbysebau ynglŷn â ffeiriau, bwydydd a meddyginiaethau gwartheg, defaid, moch a cheffylau.
(1, 0) 13 Drws y siop yn y cefn ar y dde, ac un arall yn arwain i gorff y tŷ.
(1, 0) 14 ~
(1, 0) 15 Yn union, ymddengys NATHANIEL MORGAN o'r tu allan.
(1, 0) 16 Cymro byr, gwydn, a chryn led yn ei ysgwyddau ydyw NATHANIEL, tua hanner camt oed; ei ymadrodd yn gyflym, a'i symudiadau, fel rheol, ym chwim.
(1, 0) 17 Eithr cerdd yn awr braidd ym llesg, a golwg ofidus ar ei wynepryd.
(Isaac) A shwt ych-chi heddy, Nathanial?
 
(Isaac) O otw, 'rwy wedi bod yn meddwl a chysitro.
(1, 0) 79 NATHANIEL yn gollwng ei adenydd elo.
(Nathaniel) Ffolinab o'r mwya ôdd i chi f'enwi i ar gyfar lecshwn, Isaac.
 
(Isaac) Dewch miwn.
(1, 0) 105 Y FICER yn dod i mewn, a rhôl hir o bapurau dan ei gesail.
(1, 0) 106 Cardi cadarn iua'r canol oed ydyw'r FICER.
(1, 0) 107 Cenfydd NATHANIEL.
(Ficer) A─, shwd ych-chi heddy, Mr. Morgan?
 
(Ficer) O─enw pwy?
(1, 0) 134 Ysguba ISAAC ei fraich yn fawreddog i gyfeiriad NATHANIEL, yr hwn sydd wedi bod yn ddigon call i beidio lluddias dim ar waith da yr eilliwr drwy yngan gair.
(Isaac) Nathanial Morgan, |Esq|.
 
(Isaac a Nathaniel) Pnawn da.
(1, 0) 197 Erys ISAAC a NATHANIEL yn llowydd am dipyn.
(1, 0) 198 Saif ISAAC ar ganol y llawr, gan ledu es goesau yn falch a meistrolgar, a'i fodiau dan ey geseiliau.
(Isaac) {Yn rhodresgar.}
 
(Nathaniel) Fe arhoswn nes bo ni'n gweld beth yw teimlad gwŷr yr Eclws: os byddan-nhw'n depyg o ochri gita ni, wel, fe gewn weld.
(1, 0) 255 Dychwel ISAAC, ac yn union daw TOMOS JONES, RHYS PRITCHARD, a DAFYDD PETERS i mewn.
(1, 0) 256 Ar ol cyfarch gwell, eisieddant ar y meinciau.
(1, 0) 257 Gŵr tal, henaidd, sobr ei wedd ydyw PRITCHARD.
(1, 0) 258 Y mae PETERS yn iau,─tua deugain oed─yn fwy trwsiadus a bywiog.
(1, 0) 259 TOMOS JONES yn dew, ychydig yn hŷn na PHETERS; ac yn afler a diog ei olwg.)
(Nathaniel) Wel, ma'r un man i ni ddechra; 'dos 'na ddim amsar i golli.
 
(Nathaniel) O ia, fuas-i bron ag anghofio: fe geso-i lythyr y bora 'ma odd'wrth Riannon, yn gofyn i fi bito argraffu'r |address| cyn y delsa hi sha thre, a fe fydd yma fory.
(1, 0) 341 Ymddengys ISAAC yn anfodlon.
(Tomos) Fe fydd Miss Morgan yn help mawr i ni.
 
(Isaac) Cymrwch chi bwyll gita'r mab, Nathanial; 'n ol dim glywa-i, fe fydd ych mab-yng-nghyfrath chi ryw ddwarnod.
(1, 0) 379 Tua'r fan yma, neu yn gynt os mynnir, gellir caniatâu i Isaac i ddechreu shafo Nathaniel.
(1, 0) 380 Os cedwir y gorchwyl o fewn terfynau rhesymol, gall fod yn achlysur llawer o ddifyrrwch diniwed.
(Nathaniel) Dim byth!
 
(Nathaniel) 'Rwy wedi sharso Riannon─
(1, 0) 383 Ymddengys merch ieuanc tua 22 oed wrth ddrws y siop.
(1, 0) 384 Cofier mai dynes ieuanc ydyw RHIANNON, yn credu'n ffyddiog 'y gellid gwella ac aildrefnu'r byd yn rhwydd mewn rhyw wythnos neu lai.
(Rhiannon) A beth 'nâth Riannon druan nawr?
 
(Isaac) Rwy'n ymddiswyddo!
(1, 0) 442 Clywir llais dwfn yn gofyn y tu allan, "Otych-chi wedi hoci y rasar, Isaac?"
(Isaac) Otw, Mr. Bifan, dewch miwn.
 
(Isaac) Otw, Mr. Bifan, dewch miwn.
(1, 0) 444 Ymddengys SIENCYN BIFAN, gŵr tal, corffol, hanner cant, llewyrchus a neilltuol o iach yr olwg.
(1, 0) 445 Gwelir ei fod yn dalp o hynawsedd a rhadlonrwydd pan y cerdd i mewn yn hamddenol â'i ddwylo yn llogelli ei lodrau.
(1, 0) 446 Saif yn syn pan wêl y cwmpeini.
(Siencyn) Wel, wel {yn chwerthin yn iachus} dyma fi yng nghanol gwersyll y gelyn.
 
(Siencyn) Shwt ych-chi, Nathanial?
(1, 0) 450 Dilynir SIENCYN gan eì fab, yr M.O.H., gŵr ieuanc tua 27.
(1, 0) 451 Sylwer ei fod ef a RHIANNON yn llawen iawn o weld ei gilydd.
(1, 0) 452 Ymgomiant yn fywiog, er drwy sisial, heb dynnu sylw y lleill.
(Nathaniel) {Yn sychlyd.}
 
(Siencyn) Ond druan o chi, 'dôs fawr gopath y llwyddwch-chi.
(1, 0) 461 Yn ystod y sgwrs ganlynol gyda SIENCYN mae NATHANIEL yn para i neidio i fyny ac i lawr yn ei gadair.}
(Nathaniel) Dim gopath, iefa?
 
(Siencyn) Ma gen-i fantas o 30 o fôts, o leia, yn y petwar capal, a fe gaf y rhan fwya o fôts gwŷr yr eclws.
(1, 0) 525 NATHANIEL a'i bwyllgor yn chwerthin.
(Nathaniel) Ha, ha; fe gewn weld, fe gewn weld!
 
(Siencyn) Am wn-i na chaf-fi nhw i gyd, wâth ych-chi wedi bod mor afresymol ynglŷn â'r Datgysylltiad a'r Dadwaddoliad.
(1, 0) 528 NATHANIEL a'i bwyllgor yn crechwenu a chwerthin.
(1, 0) 529 Clywir sŵn cloch criwr y tu allan.
(1, 0) 530 Pawb yn distewi ac yn talu sylw.
(Criwr) {Yn uchel.}
 
(Siencyn) Fe fydd ych hanas chi'n destun drewllyd ar bob aelwyd yn y plwyf, a fe'ch cospir chi'n dragwyddol am fargan yr hen fuwch ddu!
(1, 0) 541 LLEN