Castell Martin

Ciw-restr ar gyfer Isaac

 
(1, 0) 18 A shwt ych-chi heddy, Nathanial?
(Nathaniel) {Yn alarus.}
 
(Nathaniel) O, tewch sôn,─tewch sôn.
(1, 0) 21 Beth sy'n bod nawr?
(Nathaniel) Beth sy'n bod yn wir!
 
(Nathaniel) {Eistedd ym ddiymadferth mewn cadair freichiau.}
(1, 0) 25 Wel, beth sy 'ta?
(1, 0) 26 Dyw Marged Ann ddim yn teimlo'n dda?
(Nathaniel) Y chi a'ch Marged Ann!
 
(Nathaniel) Rwy'n synnu at hen lanc calon-galad fel chi, Isaac, yn clepran am 'i Farged Ann byth a hefyd.
(1, 0) 29 Gesoch-chi newydd drwg odd'wrth Riannon?
(Nathaniel) Dim mwy nag arfar.
 
(Nathaniel) Arian─mo'yn arian beunydd─het newydd bob yn ail ddydd, a gŵn shidan, am wn i, bob yn ail wthnos.
(1, 0) 32 Wel, 'rych-chi'n tynnu gwep ofnatw.
(1, 0) 33 Beth gynllwn sy'n bod?
(Nathaniel) Fe wyddoch am yr hen fuwch ddu 'na, honna â'r cyrn hir?
 
(Nathaniel) Fe wyddoch am yr hen fuwch ddu 'na, honna â'r cyrn hir?
(1, 0) 35 Honno gwmpws dros ben cwar Shon Ifan?
(Nathaniel) Wel am nace'r dyn; gwell buwch na honno, a Chastall Martin bob blewyn o heni.
 
(Nathaniel) Wel am nace'r dyn; gwell buwch na honno, a Chastall Martin bob blewyn o heni.
(1, 0) 37 O gwn; y hi ath â'r |first prize| yn Llantrisant flynydda'n ol.
(Nathaniel) Ia, ia; dyna hi.
 
(Nathaniel) Ia, ia; dyna hi.
(1, 0) 39 Beth sy arni?
(Nathaniel) O ma-hi'n dost─ma hi yn dost.
 
(Nathaniel) O ma-hi'n dost─ma hi yn dost.
(1, 0) 41 Pam na fynnwch chi |vet| idd 'i gweld hi?
(Nathaniel) |Vet!|
 
(Nathaniel) Rwy-i wedi bod yn trafod craduriad nawr ys deugan mlynadd, a dim ond teirgwaith yr etho-i at |vet| eriod.
(1, 0) 44 'Dôs gita-chi ddim llawar o ffydd miwn |vets|, Nathanial.
(Nathaniel) Nagos gen-i.
 
(Nathaniel) Fe ddath y cynta i weld ci, a fe fu'r ci farw; feddath yr ail i weld llo, a fe fu'r llo farw; feddath y trytydd i weld mochyn, a fe fysa'n llawar shepach i fi tsa'r mochyn wedi marw hefyd!
(1, 0) 47 Fe ddylsach gisho i châl hi i fyta rwpath.
(Nathaniel) 'Rwy wedi trio a thrio; |bran mash| a'r blawd cyrch gora, â'm llaw ym hunan─na, dim stumog!
 
(Nathaniel) 'Rwy wedi trio a thrio; |bran mash| a'r blawd cyrch gora, â'm llaw ym hunan─na, dim stumog!
(1, 0) 49 Wel, pitwch a gofitio Nathanial; 'ryn-ni i gyd yn llaw Ragluniath, a dyna fel ôdd hi i fod.
(1, 0) 50 Ma-hi wedi bod yn fuwch dda i chi.
(Nathaniel) Buwch dda digynnyg.
 
(Nathaniel) Buwch dda digynnyg.
(1, 0) 52 A fe gesoch loi ardderchog odd'wrthi.
(Nathaniel) Fuws eriod 'u tepyg nhw!
 
(Nathaniel) Fuws eriod 'u tepyg nhw!
(1, 0) 54 A faint o arian nethoch-chi o'i llath hi, yn gaws a menyn?
(Nathaniel) Ugeina ar ugeina o bunna.
 
(Nathaniel) Ugeina ar ugeina o bunna.
(1, 0) 56 Wel pam andras ych-chi'n cwyno cymant!
(1, 0) 57 Welas-i eriod o'ch bath chi: fe allsach ffwrdo colli deg buwch y funad 'ma yn well na allsa llawar i ffarmwr golli cyw giar, a dyma chi, a'ch wynab c'yd â 'mraich i, am fod cratur dicyn yn anhwylus yn 'i henant.
(1, 0) 58 'Rwy'n synnu atoch-chi, Nathanial, a chitha'n meddwl sefyll lecshwn fel |Rural District Councillor|.
(Nathaniel) |Rural District Councillor| yn wir: gadewch ych clepar da chi!
 
(Nathaniel) Wyddoch-chi faint gostws-hi iddo fe sefyll y lecshwn ddwetha?
(1, 0) 62 Na wn-i.
(Nathaniel) Petar punt, saith swllt, a thair cinog.
 
(Nathaniel) Petar punt, saith swllt, a thair cinog.
(1, 0) 64 O, 'dych-chi ddim am fod yn |Councillor| nawr, o herwydd ychytig o bunna raid i chi wario.
(1, 0) 65 'Rych-chi'n folon i Siencyn Bifan i gâl hewl glir ar ol i chi dyngu y bysach-chi yn 'i faeddu-fa?
(Nathaniel) Pwy wetws nag ôn-i'n folon!
 
(Nathaniel) Fe'i maedda-fa tsa hi'n costi deugan punt i fi.
(1, 0) 68 Petar punt, saith swllt, a thair cinog, a chitha'n werth ych pwysa!
(1, 0) 69 Dishgwlwch 'ma, os na faeddwch-chi Siencyn, fe fyddwn yn destun sport i gôr Carmel tra bo canu'n bod.
(Nathaniel) I faeddu-fa, gnaf, fe'i maedda-fa, tsa hi'n costi can punt i fi.
 
(Nathaniel) I faeddu-fa, gnaf, fe'i maedda-fa, tsa hi'n costi can punt i fi.
(1, 0) 71 Dyna chi'n sharad rwpath yn depyg i reswm nawr.
(Nathaniel) Ond 'dwy-i ddim am wario mwy na mwy.
 
(Nathaniel) O ia, sgrifensoch-chi'r |election address| eto?
(1, 0) 74 Naddo; ond 'rwy wedi bod yn meddwl.
(1, 0) 75 'Dych-chi damad gwell o fod miwn brys gita'r |address|, Nathanial.
(1, 0) 76 Ma'n rhaid i chi feddwl a meddwl.
(1, 0) 77 'Rwy wedi gofyn i Rhys Pritchard, Tomos Jones, a Dafydd Peters i ddod yma i'ch helpu chi, dynon o ddylanwad, bob un o honyn nhw.
(1, 0) 78 O otw, 'rwy wedi bod yn meddwl a chysitro.
(Nathaniel) Ffolinab o'r mwya ôdd i chi f'enwi i ar gyfar lecshwn, Isaac.
 
(Nathaniel) 'I faeddu-a, gnaf, fe'i maedda-fa!
(1, 0) 86 Gadewch y côr yn llonydd ar hyn o bryd, Nathanial.
(1, 0) 87 |Politics| yw-hi nawr, cofiwch, a nid cerddoriath.
(1, 0) 88 Ma'n rhaid i chi gisho meddwl fel fi.
(1, 0) 89 Fe fuas-i wrthi nithwr, ar asgwrn 'y ngefan yn y gwely, yn pondro a phondro, heb gysgu llygetyn nes bo'r wawr yn torri, a ma-hi'n dod i hyn: dôs 'na ddim llawar ynddi rhyngto chi a Siencyn yn y petwar capal, a felny, os gallwch-chi ennill fôts gwŷr yr Eclws, fe faeddwch Siencyn yn yffion.
(Nathaniel) Pitwch a sharad mor ffôl, Isaac; 'dos 'na ddim eglwyswr fotiff drosto i.
 
(Nathaniel) Pitwch a sharad mor ffôl, Isaac; 'dos 'na ddim eglwyswr fotiff drosto i.
(1, 0) 91 Ma'n rhaid iddyn nhw foto drosto-chi, ryw-shap ne'i gilydd.
(1, 0) 92 Os, ma'n rhaid i ni gâl fôts yr Eclws.
 
(1, 0) 94 Wel, 'rw-i wedi câl dicon o draffarth gita'r Eclws y bora 'ma, ta pun.
(1, 0) 95 Rwy wedi bod dros ddwy awr yn cisho cwiro hwn.
(Nathaniel) Pwy pia fa?
 
(Nathaniel) Pwy pia fa?
(1, 0) 97 O! 'r Ficar; brelo ryfadd yw hwn; 'rwy wedi bod yn 'i gwiro fa, o bryd i bryd, am ddeng mlynadd ne fwy.
(Nathaniel) Rhaid mai brelo da ôdd-a i ddechra.
 
(Nathaniel) Rhaid mai brelo da ôdd-a i ddechra.
(1, 0) 99 Ma-fa wedi bod yn sawl brelo odd'ar hynny; 'dôs 'na ddim o'r hen un ar ol nawr ond y ddolan.
(1, 0) 100 Odd-a i fod yn barod amsar cino, hefyd; peth od na fysa'r Ficar wedi galw.
(Ficer) ym ymddangos wrth y drws.
 
(Ficer) Ydi'n umbrela i'n barod, Isaac?
(1, 0) 103 'Rwy'n 'i gwpla fa nawr, Mr. Jones.
(1, 0) 104 Dewch miwn.
(Ficer) A─, shwd ych-chi heddy, Mr. Morgan?
 
(Ficer) 'Rych chi'ch dau wedi cyd-gystadlu'n barod fel arweinwyr core, yn ddau Ryddfrydwr mor selog, ac hefyd yn Ymneilltuwyr i'r carn─|fight| yn iawn fydd hi, 'rwy'n siwr.
(1, 0) 113 Dyna beth wy inna'n wêd hefyd, Mr. Jones; y |fight| ora fuws yn Llanybryn eriod.
(1, 0) 114 Shwt ma'r |Bazaar| yn dod mlân?
(Ficer) Or'r gore, diolch i chi.
 
(Ficer) Welsoch chi un o'n |posters| mawr ni?
(1, 0) 118 Dim ond o bell, Mr. Jones.
 
(1, 0) 120 Wel, dyna beth yw postar, ontefa!
(1, 0) 121 Os dim un gita chi i spario, Mr. Jones?
(Ficer) 'Rych-chi'n garedig neilltuol, Isaac.
 
(Ficer) Fel y gwyddoch-chi, fydda-i byth yn aflonyddu dim ar y cyfeillion ymneilltuol, ond gan ych bod chi cystal a gofyn, fe gewch un gyda'r pleser mwya.
(1, 0) 124 Pitwch a sôn, Mr. Jones, pitwch a sôn; a diolch yn fawr i chitha.
(1, 0) 125 Os ôs 'na rwpath y galla-i neud yn fy ffordd fach i, 'dôs gita-chi ddim ond gwêd hannar gair.
 
(1, 0) 127 Cato'n pawb!
(1, 0) 128 Arglwyddas Llanharan yn dod i acor y |Bazaar|!
(1, 0) 129 |Bazaar| ardderchog fydd hwn, Mr. Jones.
(Ficer) Y mae yr Arglwyddes yn cymryd diddordeb mawr yn ein gwaith ni yma; fe gyfrannodd ugen punt.
 
(Ficer) 'Rwy'n bwriadu cyhoeddi enwau y cyfranwyr yn y |Gazette| yr wythnos nesa.
(1, 0) 132 Itha |right| hefyd: ond fe fydd 'na un enw'n isha, ddylsa fod ar y rhestar.
(Ficer) O─enw pwy?
 
(Ficer) O─enw pwy?
(1, 0) 135 Nathanial Morgan, |Esq|.
(1, 0) 136 Pam na ofynnwch-chi iddo fe gyfrannu rwpath?
(Ficer) Fel y dwedes-i, fydda-i nemor byth yn mynd at y gwahanol enwade i ofyn am arian, er mod-i wastad yn barod i dderbyn unrhyw gyfraniade.
 
(1, 0) 145 Fe wyddoch o'r gora, Mr. Jones, shwt ma'r ffermwyr 'ma: fe gewch fencyd ceffyl a cart am wthnos ne' racor a chroeso, ac os bydd hi'n galad iawn arnoch-chi, 'dôs fawr gwaniath gan amball i ffarmwr i |roi| ceffyl a chart i chi, ond ma'r un man i chi gisho câl wech ne swllt odd'wrthyn-nhw, a chasglu ffigys odd'ar ysgall.
(1, 0) 146 Ma gen-i well syniad na roi pum punt, lawar gwell.
(Ficer) {Yn awyddus.}
 
(1, 0) 150 Fysa buwch o rhyw les i chi?
(Ficer) Beth ddwedsoch-chi?
 
(Ficer) Beth ddwedsoch-chi?
(1, 0) 152 Fysa buwch o ryw ddefnydd i chi?
(Ficer) Bobol annwl─buwch!
 
(Ficer) Bobol annwl─buwch!
(1, 0) 154 Ia, buwch.
(Ficer) Beth yn y byd wnaen-ni â buwch?
 
(Ficer) Beth yn y byd wnaen-ni â buwch?
(1, 0) 156 O ma 'na wmradd o betha y gallach-chi neud â buwch, Mr. Jones.
(Ficer) Wel, ffordd ynte?
 
(Ficer) Wel, ffordd ynte?
(1, 0) 158 Beth tsa-chi yn 'i rafflo-hi yn y |Bazaar|?
(Ficer) {Yn llawen.}
 
(Ficer) Dyna awgrym penigamp!
(1, 0) 161 Allwch-chi ddim doti buwch lawr yn y cyfraniata, falla, ond tsa chi ddim ond hysbysu yn y |Gazette| fod 'na fuwch, rial Castall Martin, yn gotro ucian cwart y dydd, idd 'i rafflo yn y |Bazaa|r, tocynna, wech chinog─na, beth wy'n sôn, tocynna, swllt yr un─fe fysa hynny'n ddicon gwell na phum punt i chi.
(Ficer) Ie'n well na phum punt─bydde o lawer!
 
(Ficer) Ond bid siwr, mae'n dibynnu ar Mr. Morgan: ydi e'n fodlon rhoi buwch?
(1, 0) 164 'Dos dim raid i chi ofni, Mr. Jones.
 
(1, 0) 166 'Rych-chi'n folon roi buwch, on'd ych-chi Nathanial?
(Nathaniel) {Yn beirusol.}
 
(Ficer) Diolch i chi o galon, Mr. Morgan, am ych haelfrydedd.
(1, 0) 170 A falla byddwch chi cystlad a chyhoeddi 'r un pryd, Mr. Jones, fod y cratur yn cal 'i rhoi gan Nathanial Morgan, |Esq.|, un o ymgeiswyr lecshwn y |Rural District Council|?
(Ficer) {Yn chwerthin.}
 
(Ficer) Gresyn na fyse ni wedi meddwl am hyn cyn argraffu'r |posters|.
(1, 0) 175 Ma'n rhaid i chi gal |handbills|, Mr. Jones,; a'u dosbarthu nhw ym mhobman.
(1, 0) 176 Chwalwch nhw i betwar cwr y byd.
(1, 0) 177 Sôn am |Fazaar|, hwn fydd y mwya fu eriod yng Nghymru; fe newch hannar can-punt o'r fuwch yn y man lleia─tocynna swllt yr un, ddim dima'n llai.
(Ficer) {Yn frwdfrydig.}
 
(Ficer) Rhaid argraffu y tocynne ar unwaith.
(1, 0) 180 A ma'r un man i chi hysbysu ar y tocynna a'r |handbills| mai rhodd Nathanial Morgan yw y fuwch.
(Ficer) Fe fydd yn ddigon hawdd gwneud hynny.
 
(Ficer) Fe fydd yn ddigon hawdd gwneud hynny.
(1, 0) 182 Hannar can punt, yn wir, fe newch gan-punt o heni yn ddidraffarth; nid yn unig y plwyf, fe fydd yr oll shir yn y |Bazaar|.
(Ficer) 'Rwy'n sicr y bydd y fuwch yn atyniad cryf, a 'rwy'n dymuno eto i ddatgan fy niolchgarwch i chi, Mr. Morgan.
 
(1, 0) 192 Dim yn y byd, Mr. Jones, dim o gwbwl; fuas-i ddim tair munad wrtho-fa.
(Ficer) {Yn mynd.}
 
(1, 0) 200 Dyna ni wedi 'i gneud-hi, Nathanial: 'ryn-ni wedi ennill y lecshwn acha un ercyd!
(1, 0) 201 Be'chi'n feddwl amdano i nawr?
(1, 0) 202 Ond wetas-i wrthoch-chi─yn y byd politicadd, ma'n rhaid i ddyn feddwl a chysitro.
(Nathaniel) Dyn clefar iawn ych-chi, Isaac, clefar iawn hefyd, a fydda-i ddim yn fyr o dalu'n ol pan ddaw cyfla.
 
(Nathaniel) Dyn clefar iawn ych-chi, Isaac, clefar iawn hefyd, a fydda-i ddim yn fyr o dalu'n ol pan ddaw cyfla.
(1, 0) 204 Fe wyddoch o'r gora 'runig dalu'n ol wy-i'n moyn {yn dymer iawn} gwetwch air bach drosto-i wrth Marged Ann.
(Nathaniel) Os dim llawar o opath i chi man'na, Isaac.
 
(Nathaniel) Ma hi wedi gweld 'i hamsar gora ys blynydda; 'dos dim byd yn bert yndi; ma hi mor dew a mwtwl, a tsa chi ddim ond 'i gweld hi miwn pang o dymar─{yn codi ei ddwylo}.
(1, 0) 210 Alla-i ddim help, Nathanial.
(1, 0) 211 'Rwy'n gryf ymhob ffordd arall, ond os caiff cariad afal ar ddyn, 'dyw-a damad gwell, ys gwetws yr Ysgrythur, o wingo yn erbyn y symbyla.
(1, 0) 212 'Rwy wedi achub yn dda iawn ar hyd y blynydda, hyd yn hyn, ond 'nawr, dim ond i fi feddwl am Marged Ann, ne weld 'i shôl hi'n hongian ar y lein, 'rwy'n teimlo mod-i'n mynd yn yffion.
 
(1, 0) 214 Gwetwch air bach drosto-i, Nathanial, 'rwy wedi ennill y lecshwn i chi.
(Nathaniel) Am wn-i nag ych-chi'n wir.
 
(Nathaniel) Am wn-i nag ych-chi'n wir.
(1, 0) 216 'Rwy'n siwr o hynny.
(1, 0) 217 Pwy fuwch roiwch-chi?
(Nathaniel) Eh?
 
(Nathaniel) Eh?
(1, 0) 219 Pwy fuwch roiwch-chi?
(Nathaniel) {Yn synn.}
 
(Nathaniel) Ond wetsoch-chi wrth y Ficar ych hunan─yr hen fuwch ddu.
(1, 0) 222 Do, do; odd yn rhaid i fi wêd rwpath.
(1, 0) 223 Ond fysach chi byth o'r gydwypod i roi hen fuwch â thair côs iddi yn y bedd i |Fazaar| yr Eclws!
(Nathaniel) Fyswn-i byth o'r gydwypod i neud dim byd arall.
 
(Nathaniel) 'Drychwch 'ma, Isaac, gadewch i ni ddiall y'n gilydd: fuws 'na ddyn eriod yn gryfach Anghydffurfiwr na fi?
(1, 0) 226 Ddim eriod.
(Nathaniel) Ymladdws rywun yn y wlad yn gletach na fi dros Ddatgysylltiad a Dadwaddoliad?
 
(Nathaniel) Ymladdws rywun yn y wlad yn gletach na fi dros Ddatgysylltiad a Dadwaddoliad?
(1, 0) 228 Dim enad byw.
(Nathaniel) Ag eto, 'rych chi'n meddwl mod-i'n ddicon ffôl i roi buwch ifanc iach i Eclws Loegar!
 
(Nathaniel) Ag eto, 'rych chi'n meddwl mod-i'n ddicon ffôl i roi buwch ifanc iach i Eclws Loegar!
(1, 0) 230 Aliwch chi byth a roi'r hen gratur 'na!
(Nathaniel) Pam lai?
 
(Nathaniel) Ma'n rhaid i ni gatw at yn gair nawr.
(1, 0) 234 Os gita-chi ddim un Castall Martin arall?
(Nathaniel) Nagos gen-i, a fe wyddach-chitha hynny o'r gora.
 
(Nathaniel) Nagos gen-i, a fe wyddach-chitha hynny o'r gora.
(1, 0) 236 Na wyddwn-i.
(1, 0) 237 Beth os bydd hon farw?
(Nathaniel) {Yn ofidus.}
 
(Nathaniel) Be 'chi'n gisho wêd, Isaac?
(1, 0) 241 Fe fydd rhaid i chi roi buwch arall wetyn.
(Nathaniel) Bydd-a'n wir!
 
(Nathaniel) 'Rych-chi wedi neud rhyw gawl ryfadd wedi'r cwbwl, gita'ch meddwl, a'ch cysitro, a'ch pondro!
(1, 0) 244 O'r gora, o'r gora; dim gair arall!
(1, 0) 245 Fe af-fi ar ol y Ficar nawr cyn cyraeddiff-a'r printar, a fe esbonia-i bopath wrtho-fa.
(1, 0) 246 Fe gaiff ynta esbonio wrth wŷr yr Eclws, shwt o'ch-chi'n bwriatu roi hen fuwch afiach iddyn-nhw, a wetyn, fe gewn weld faint o fôts gewch chi.
(1, 0) 247 Y gwir ag e yw hyn: 'dych-chi ddim yn moyn maeddu Siencyn Bifan.
(Nathaniel) Nagw-i'n wir!
 
(Nathaniel) Nagw-i'n wir!
(1, 0) 249 Nagych; 'rych-chi'n folon i gôr Carmal i glochtar drosto-ni tra bo ni byw.
(1, 0) 250 Dyma fi'n mynd!
 
(Nathaniel) Wel, ma'r un man i ni ddechra; 'dos 'na ddim amsar i golli.
(1, 0) 261 Dyna chi eto, wastod miwn brys, yn poenia gofitio.
(1, 0) 262 Ma 'na ddicon o amsar, llawn dicon.
(1, 0) 263 Wel, gyfeillion, 'rwy wedi gofyn i chi ddod yma i fod yn bwyllgor i Nathanial Morgan.
(1, 0) 264 Y fi yw 'i agant-a, chi'n gweld.
(1, 0) 265 Fuas-i wthnos gyfan, ar dro, yn meddwl pwy i ddoti ar y pwyllgor, a 'rwy'n cretu mod-i wedi dewis y tri gora yn Llanybryn.
(Nathaniel) Clywch, clywch.
 
(1, 0) 274 Dynon o farn a syniata, 'lwch-chi.
 
(1, 0) 276 Dyma restar y pleidleiswyr: fuas-i oria maith nithwr yn 'u rannu a'u dethol nhw: a ma-hi'n dod i hyn: ma 'na 372 o bleidleiswyr ar y restar, yn mynychu capeli fel y canlyn: Seion, capal Nathanial a finna, 94; Carmal, capal Siencyn Bifan, a wth gwrs, ych capal chitha, Tomos Jones, 87; Nebo, ych capal chi, Rhys Pritchard, 62; Pisgah, ych capal chi, Dafydd Peters, 57; 61 yn mynd i'r Eclws; cyfanswm 361.
(Dafydd) Faint wetsoch-chi ôn-nhw i gyd?
 
(Dafydd) Faint wetsoch-chi ôn-nhw i gyd?
(1, 0) 278 372.
(Dafydd) Beth am yr un ar ddeg arall?
 
(Dafydd) Beth am yr un ar ddeg arall?
(1, 0) 280 Pump gwrthgiliwr, petwar ddim yn cretu, a ma 'na ddou, wn-i ddim beth i wêd am danyn-nhw.
(Tomos) Rwpath hifyr-di-hafar, na bwch na gafar.
 
(Tomos) Rwpath hifyr-di-hafar, na bwch na gafar.
(1, 0) 282 Ia, ia, ond cofiwch fod gan bob un ohonyn nhw fôt.
(Nathaniel) {Yn dambaid.}
 
(Nathaniel) 'Dwy-i ddim am i anghredinwyr a gwrthgilwyr i foto drosto-i.
(1, 0) 286 Ma nhw lawar mwy tepyg o foto drosto-chi na thros Siencyn.
(1, 0) 287 Ta pun, fe gymrwn y capeli nawr bob yn un: Carmal gynta, capal Siencyn Bifan.
(1, 0) 288 Chewn-ni fawr os dim fôts o Garmal.
(Tomos) Pitwch a bod mor siwr {yn taro ei fynwes}, dyma un fôt, beth bynnag, gewch-chi.
 
(Tomos) Na, chaiff Siencyn ddim fôt gen-i, a ma 'na naw ne ddeg o fôts arall na chaiff-a chwaith, ôs, ôs, o leia naw ne ddeg.
(1, 0) 297 Da iawn.
(1, 0) 298 Capal ni nesa, Seion, 94 o fôts.
(1, 0) 299 Fe ddylsan gal rheina i gyd ond rhyw ddwy ne dair.
(Nathaniel) {A'i wrych yn codi.}
 
(Nathaniel) O'n wir! a phwy yn-nhw, licswn i wpod.
(1, 0) 302 Hugh Parry, dyna un; fe wrthodsoch iddo fa arwan y |Band of Hope|.
(Nathaniel) 'Dôdd-a ddim yn deilwng i arwan y |Band of Hope|.
 
(Nathaniel) 'Dôdd-a ddim yn deilwng i arwan y |Band of Hope|.
(1, 0) 304 'Dwy-i ddim yn gwêd 'i fod-a, ond fe 'llwch fentro hyn; yn ol barn Hugh Parry, fyddwch-chi ddim yn deilwng i fod yn |Rural District Councillor|.
(1, 0) 305 Dyna un arall, Moses Griffith, fe'i troisoch-a mâs o'r Rechabiaid.
(Nathaniel) Ond gwelas-i a'n sefyll ar ben drws y |Black Lion|.
 
(Nathaniel) Ond gwelas-i a'n sefyll ar ben drws y |Black Lion|.
(1, 0) 307 'Dwy-i ddim yn gwêd llai, ond fydd dim fôt i chi manna.
(1, 0) 308 Nawr, os dotwn-i Seion a Charmal gita'i gilydd, 'rwy'n barnu fod 'na fajority o ryw ucian ar ochor Nathanial.
(Dafydd) Os ucian yn rhwydd.
 
(Tomos) A racor.
(1, 0) 311 Beth am ych capal chi, Rhys─Nebo, 62 o fôts?
(Rhys) Fe ddylsa Nathanial gâl 40 o leia, wath ma fa'n roi mentig ca bob blwyddyn i de-parti'r plant.
 
(Rhys) Fe ddylsa Nathanial gâl 40 o leia, wath ma fa'n roi mentig ca bob blwyddyn i de-parti'r plant.
(1, 0) 313 'Dwy-i ddim yn meddwl y caiff-a 40, gwetwch 35.
(1, 0) 314 Chi nesa, Dafydd─Pisgah, 57 o fôts.
(1, 0) 315 DAFYDD
 
(1, 0) 317 Wel a gwêd y gwir, ma hi dicyn yn lletwith.
(1, 0) 318 Chi'n gweld, ma-hi'n sefyll fel hyn: ma gwraig Siencyn Bifan yn gnithar i fam-yng-nghyfraith whâr gwraig yn gwinitog ni.
(1, 0) 319 Ia, dyna'r gwaetha o-heni.
(1, 0) 320 Otych-chi'n cretu y caiff-a ddeg o fôts?
(Dafydd) O caiff; synnwn-i ddim na chelsa-fa bymthag ne falla ucian.
 
(Dafydd) Dim ond yr wthnos ddwetha y ceson-ni fentig gambo i moyn yr |harmomium| newydd.
(1, 0) 324 Fe wetwn bymthag.
(1, 0) 325 Nawr, a chymryd y petwar capal gita'i gilydd, 'dos 'na fawr o waniath rhwng un a'r llall; falla fod gen Nathanial fantas o rhyw ddeg ne racor o fôts.
(1, 0) 326 Fe welwch felny fod y lecshwn yn troi ar fôts yr Eclws, a ma'n hyfrydwch mawr gen-i i hysbysu i chi fel pwyligor y bydd gwŷr yr Eclws o'n hochor ni bron bob un.
(1, 0) 327 Ma Nathanial wedi addo buwch i'r Ficar, idd 'i rafflo yr wthnos nesa.
(Dafydd) |Raffle|!
 
(Rhys) Buwch!
(1, 0) 330 Ia, buwch, rial Castall Martin, yn gotro ucian cwart y dydd.
(1, 0) 331 Dyna 'ngwaith i 'lwchi, tocynna swllt yr un.
(Tomos) {Yn wyliadwrus.}
 
(Dafydd) Fe wn-i o'r gora beth ma Mr. Morgan yn feddwl─er─
(1, 0) 348 |Political Economy|.
(Nathaniel) Dyna fe; y peth gora allwch-chi gâl ar gyfar lecshwn.
 
(1, 0) 352 Gallwn, yn enw'r bendith.
(1, 0) 353 'Ryn-ni wedi ennill y lecshwn; fe ddylsan ofalu i bito 'i cholli hi eto.
(1, 0) 354 Os gen un o chi awgrym?
(Tomos) Dyma'm syniad i: os ych-chi am ennill fôts, pitwch a doti dim byd pendant yn yr address, dim byd y gall yr ochor arall gymryd gafal yndo-fa, ond gwaeddwch "Lawr â'r Trethi," a tystiwch ta chi yw "Cyfaill y Gwithwr."
 
(Tomos) Os, y ma-fa; fe wyddoch fod gan Siencyn Bifan nifar o fwthynnod lawr wrth y nant.
(1, 0) 367 Os.
(Tomos) Wel, ma'r |Sanitary Inspector| wedi reporto nhw fwy nag unwaith, |unfit for 'uman 'abitation|, dyna eiria'r |report|, |unfit for 'uman 'abitation|, ond ma'r |Medical Officer of Health| yn gwrthod 'u condemnio nhw.
 
(Tomos) A dyna'r trethi lan ar unwaith.
(1, 0) 374 Wath yn y byd am y trethi, dim ond i ni gâl cyfla i faclu Siencyn ynglŷn â'i dai.
(Nathaniel) Ia, a baclu 'i fab hefyd.
 
(Nathaniel) Arhoswch, nes caf fi fynd ar y |Council|!
(1, 0) 378 Cymrwch chi bwyll gita'r mab, Nathanial; 'n ol dim glywa-i, fe fydd ych mab-yng-nghyfrath chi ryw ddwarnod.
(Nathaniel) Dim byth!
 
(Rhiannon) Welsoch-chi |address| Siencyn Bifan?
(1, 0) 394 Naddo; 'dyw hi ddim mas eto.
(Rhiannon) Nag-yw-hi!
 
(1, 0) 433 Y chi a'ch "itha right"; enillwch chi byth os na newch-chi.
(Nathaniel) Beth wyddoch chi am lecshwn, Isaac?
 
(1, 0) 437 O'r gora ta!
(1, 0) 438 Dyma fi yn ymddiswyddo.
 
(1, 0) 440 Dyna'ch agant-chi o hyn i mâs.
(1, 0) 441 Rwy'n ymddiswyddo!
 
(1, 0) 443 Otw, Mr. Bifan, dewch miwn.
(Siencyn) Wel, wel {yn chwerthin yn iachus} dyma fi yng nghanol gwersyll y gelyn.
 
(Siencyn) Isaac, nawr 'rwy-i am i chi gyfadda'r gwir, sawl gwaith y buoch chi'n gwrando ar y slei o dan ffenast Carmal ar 'y nghôr-i'n canu?
(1, 0) 488 Y fi!
(1, 0) 489 Gofalwch be 'chi'n wêd, Mr. Bifan, ne fe fynna'r gyfrath arnoch-chi, am slander a |damages|.