Castell Martin

Ciw-restr ar gyfer Nathaniel

(Isaac) A shwt ych-chi heddy, Nathanial?
 
(1, 0) 20 O, tewch sôn,─tewch sôn.
(Isaac) Beth sy'n bod nawr?
 
(Isaac) Beth sy'n bod nawr?
(1, 0) 22 Beth sy'n bod yn wir!
(1, 0) 23 Gofid a thrallod; dyn a anad o wraig... ia, ia... wn-i yn y byd ffordd wy-i wedi llwyddo i fyw c'yd, yn hercan fel hyn o helbul i helbul.
 
(Isaac) Dyw Marged Ann ddim yn teimlo'n dda?
(1, 0) 27 Y chi a'ch Marged Ann!
(1, 0) 28 Rwy'n synnu at hen lanc calon-galad fel chi, Isaac, yn clepran am 'i Farged Ann byth a hefyd.
(Isaac) Gesoch-chi newydd drwg odd'wrth Riannon?
 
(Isaac) Gesoch-chi newydd drwg odd'wrth Riannon?
(1, 0) 30 Dim mwy nag arfar.
(1, 0) 31 Arian─mo'yn arian beunydd─het newydd bob yn ail ddydd, a gŵn shidan, am wn i, bob yn ail wthnos.
(Isaac) Wel, 'rych-chi'n tynnu gwep ofnatw.
 
(Isaac) Beth gynllwn sy'n bod?
(1, 0) 34 Fe wyddoch am yr hen fuwch ddu 'na, honna â'r cyrn hir?
(Isaac) Honno gwmpws dros ben cwar Shon Ifan?
 
(Isaac) Honno gwmpws dros ben cwar Shon Ifan?
(1, 0) 36 Wel am nace'r dyn; gwell buwch na honno, a Chastall Martin bob blewyn o heni.
(Isaac) O gwn; y hi ath â'r |first prize| yn Llantrisant flynydda'n ol.
 
(Isaac) O gwn; y hi ath â'r |first prize| yn Llantrisant flynydda'n ol.
(1, 0) 38 Ia, ia; dyna hi.
(Isaac) Beth sy arni?
 
(Isaac) Beth sy arni?
(1, 0) 40 O ma-hi'n dost─ma hi yn dost.
(Isaac) Pam na fynnwch chi |vet| idd 'i gweld hi?
 
(Isaac) Pam na fynnwch chi |vet| idd 'i gweld hi?
(1, 0) 42 |Vet!|
(1, 0) 43 Rwy-i wedi bod yn trafod craduriad nawr ys deugan mlynadd, a dim ond teirgwaith yr etho-i at |vet| eriod.
(Isaac) 'Dôs gita-chi ddim llawar o ffydd miwn |vets|, Nathanial.
 
(Isaac) 'Dôs gita-chi ddim llawar o ffydd miwn |vets|, Nathanial.
(1, 0) 45 Nagos gen-i.
(1, 0) 46 Fe ddath y cynta i weld ci, a fe fu'r ci farw; feddath yr ail i weld llo, a fe fu'r llo farw; feddath y trytydd i weld mochyn, a fe fysa'n llawar shepach i fi tsa'r mochyn wedi marw hefyd!
(Isaac) Fe ddylsach gisho i châl hi i fyta rwpath.
 
(Isaac) Fe ddylsach gisho i châl hi i fyta rwpath.
(1, 0) 48 'Rwy wedi trio a thrio; |bran mash| a'r blawd cyrch gora, â'm llaw ym hunan─na, dim stumog!
(Isaac) Wel, pitwch a gofitio Nathanial; 'ryn-ni i gyd yn llaw Ragluniath, a dyna fel ôdd hi i fod.
 
(Isaac) Ma-hi wedi bod yn fuwch dda i chi.
(1, 0) 51 Buwch dda digynnyg.
(Isaac) A fe gesoch loi ardderchog odd'wrthi.
 
(Isaac) A fe gesoch loi ardderchog odd'wrthi.
(1, 0) 53 Fuws eriod 'u tepyg nhw!
(Isaac) A faint o arian nethoch-chi o'i llath hi, yn gaws a menyn?
 
(Isaac) A faint o arian nethoch-chi o'i llath hi, yn gaws a menyn?
(1, 0) 55 Ugeina ar ugeina o bunna.
(Isaac) Wel pam andras ych-chi'n cwyno cymant!
 
(Isaac) 'Rwy'n synnu atoch-chi, Nathanial, a chitha'n meddwl sefyll lecshwn fel |Rural District Councillor|.
(1, 0) 59 |Rural District Councillor| yn wir: gadewch ych clepar da chi!
(1, 0) 60 Fe geso'i newydd torcalonnus odd'wrth Tomos Griffith heddy.
(1, 0) 61 Wyddoch-chi faint gostws-hi iddo fe sefyll y lecshwn ddwetha?
(Isaac) Na wn-i.
 
(Isaac) Na wn-i.
(1, 0) 63 Petar punt, saith swllt, a thair cinog.
(Isaac) O, 'dych-chi ddim am fod yn |Councillor| nawr, o herwydd ychytig o bunna raid i chi wario.
 
(Isaac) 'Rych-chi'n folon i Siencyn Bifan i gâl hewl glir ar ol i chi dyngu y bysach-chi yn 'i faeddu-fa?
(1, 0) 66 Pwy wetws nag ôn-i'n folon!
(1, 0) 67 Fe'i maedda-fa tsa hi'n costi deugan punt i fi.
(Isaac) Petar punt, saith swllt, a thair cinog, a chitha'n werth ych pwysa!
 
(Isaac) Dishgwlwch 'ma, os na faeddwch-chi Siencyn, fe fyddwn yn destun sport i gôr Carmel tra bo canu'n bod.
(1, 0) 70 I faeddu-fa, gnaf, fe'i maedda-fa, tsa hi'n costi can punt i fi.
(Isaac) Dyna chi'n sharad rwpath yn depyg i reswm nawr.
 
(Isaac) Dyna chi'n sharad rwpath yn depyg i reswm nawr.
(1, 0) 72 Ond 'dwy-i ddim am wario mwy na mwy.
(1, 0) 73 O ia, sgrifensoch-chi'r |election address| eto?
(Isaac) Naddo; ond 'rwy wedi bod yn meddwl.
 
(Isaac) O otw, 'rwy wedi bod yn meddwl a chysitro.
(1, 0) 80 Ffolinab o'r mwya ôdd i chi f'enwi i ar gyfar lecshwn, Isaac.
(1, 0) 81 Fwriatws y Brenin Mawr eriod i fi fod yn |Rural District Councillor|, a fydda-i byth yn depyg i un chwaith.
 
(1, 0) 83 Ond ma'n rhaid i fi faeddu Siencyn.
(1, 0) 84 Y |coward|, ofan arno ddod â'i gôr yn erbyn 'y nghôr i unwaith yn racor, ofan arno roi cyfla arall i fi!
(1, 0) 85 'I faeddu-a, gnaf, fe'i maedda-fa!
(Isaac) Gadewch y côr yn llonydd ar hyn o bryd, Nathanial.
 
(Isaac) Fe fuas-i wrthi nithwr, ar asgwrn 'y ngefan yn y gwely, yn pondro a phondro, heb gysgu llygetyn nes bo'r wawr yn torri, a ma-hi'n dod i hyn: dôs 'na ddim llawar ynddi rhyngto chi a Siencyn yn y petwar capal, a felny, os gallwch-chi ennill fôts gwŷr yr Eclws, fe faeddwch Siencyn yn yffion.
(1, 0) 90 Pitwch a sharad mor ffôl, Isaac; 'dos 'na ddim eglwyswr fotiff drosto i.
(Isaac) Ma'n rhaid iddyn nhw foto drosto-chi, ryw-shap ne'i gilydd.
 
(Isaac) Rwy wedi bod dros ddwy awr yn cisho cwiro hwn.
(1, 0) 96 Pwy pia fa?
(Isaac) O! 'r Ficar; brelo ryfadd yw hwn; 'rwy wedi bod yn 'i gwiro fa, o bryd i bryd, am ddeng mlynadd ne fwy.
 
(Isaac) O! 'r Ficar; brelo ryfadd yw hwn; 'rwy wedi bod yn 'i gwiro fa, o bryd i bryd, am ddeng mlynadd ne fwy.
(1, 0) 98 Rhaid mai brelo da ôdd-a i ddechra.
(Isaac) Ma-fa wedi bod yn sawl brelo odd'ar hynny; 'dôs 'na ddim o'r hen un ar ol nawr ond y ddolan.
 
(Ficer) Shwd ma'r lecshwn yn dod ymlân?
(1, 0) 110 Yn dda iawn, diolch i chi, yn dda iawn, yn wir.
(Ficer) 'Rwy'n disgwyl gweld |close fight| rhyngoch-chi a Mr. Bifan.
 
(1, 0) 140 Pum punt!
(1, 0) 141 Na chewch yn wir!
(Ficer) Dwy neu dair gini, ynte?
 
(Ficer) Dwy neu dair gini, ynte?
(1, 0) 143 Ona 'lla'n wir, na 'lla'n wir!
(Isaac) {Yn gyflym.}
 
(1, 0) 168 Wel─am wn-i {yn fwy pendanl}─otw, 'rwy'n folon roi buwch.
(Ficer) Diolch i chi o galon, Mr. Morgan, am ych haelfrydedd.
 
(1, 0) 185 Pob croeso i chi, Mr. Jones, pob croeso.
(Ficer) {Mewn brys.}
 
(Isaac) Ond wetas-i wrthoch-chi─yn y byd politicadd, ma'n rhaid i ddyn feddwl a chysitro.
(1, 0) 203 Dyn clefar iawn ych-chi, Isaac, clefar iawn hefyd, a fydda-i ddim yn fyr o dalu'n ol pan ddaw cyfla.
(Isaac) Fe wyddoch o'r gora 'runig dalu'n ol wy-i'n moyn {yn dymer iawn} gwetwch air bach drosto-i wrth Marged Ann.
 
(Isaac) Fe wyddoch o'r gora 'runig dalu'n ol wy-i'n moyn {yn dymer iawn} gwetwch air bach drosto-i wrth Marged Ann.
(1, 0) 205 Os dim llawar o opath i chi man'na, Isaac.
(1, 0) 206 Ych trin a'ch trafod chi ma Marged Ann wastod.
(1, 0) 207 A phwy isha i chi drafferthu ynglŷn â Marged Ann, hen fab fel chi, bron trician ôd?
(1, 0) 208 Ma-hi o'r gora i ofalu am y tŷ i fi, ama hi'n garetig iawn i Riannon, ond 'dwy-i ddim yn gweld llawar o rân arni fel gwraig i chi.
(1, 0) 209 Ma hi wedi gweld 'i hamsar gora ys blynydda; 'dos dim byd yn bert yndi; ma hi mor dew a mwtwl, a tsa chi ddim ond 'i gweld hi miwn pang o dymar─{yn codi ei ddwylo}.
(Isaac) Alla-i ddim help, Nathanial.
 
(Isaac) Gwetwch air bach drosto-i, Nathanial, 'rwy wedi ennill y lecshwn i chi.
(1, 0) 215 Am wn-i nag ych-chi'n wir.
(Isaac) 'Rwy'n siwr o hynny.
 
(Isaac) Pwy fuwch roiwch-chi?
(1, 0) 218 Eh?
(Isaac) Pwy fuwch roiwch-chi?
 
(1, 0) 221 Ond wetsoch-chi wrth y Ficar ych hunan─yr hen fuwch ddu.
(Isaac) Do, do; odd yn rhaid i fi wêd rwpath.
 
(Isaac) Ond fysach chi byth o'r gydwypod i roi hen fuwch â thair côs iddi yn y bedd i |Fazaar| yr Eclws!
(1, 0) 224 Fyswn-i byth o'r gydwypod i neud dim byd arall.
(1, 0) 225 'Drychwch 'ma, Isaac, gadewch i ni ddiall y'n gilydd: fuws 'na ddyn eriod yn gryfach Anghydffurfiwr na fi?
(Isaac) Ddim eriod.
 
(Isaac) Ddim eriod.
(1, 0) 227 Ymladdws rywun yn y wlad yn gletach na fi dros Ddatgysylltiad a Dadwaddoliad?
(Isaac) Dim enad byw.
 
(Isaac) Dim enad byw.
(1, 0) 229 Ag eto, 'rych chi'n meddwl mod-i'n ddicon ffôl i roi buwch ifanc iach i Eclws Loegar!
(Isaac) Aliwch chi byth a roi'r hen gratur 'na!
 
(Isaac) Aliwch chi byth a roi'r hen gratur 'na!
(1, 0) 231 Pam lai?
(1, 0) 232 Dyna'r fuwch addewas i; y chi'ch hunan disgrifiws hi─Castall Martin, yn gotro ucian cwart y dydd.
(1, 0) 233 Ma'n rhaid i ni gatw at yn gair nawr.
(Isaac) Os gita-chi ddim un Castall Martin arall?
 
(Isaac) Os gita-chi ddim un Castall Martin arall?
(1, 0) 235 Nagos gen-i, a fe wyddach-chitha hynny o'r gora.
(Isaac) Na wyddwn-i.
 
(1, 0) 239 Marw!
(1, 0) 240 Be 'chi'n gisho wêd, Isaac?
(Isaac) Fe fydd rhaid i chi roi buwch arall wetyn.
 
(Isaac) Fe fydd rhaid i chi roi buwch arall wetyn.
(1, 0) 242 Bydd-a'n wir!
(1, 0) 243 'Rych-chi wedi neud rhyw gawl ryfadd wedi'r cwbwl, gita'ch meddwl, a'ch cysitro, a'ch pondro!
(Isaac) O'r gora, o'r gora; dim gair arall!
 
(Isaac) Y gwir ag e yw hyn: 'dych-chi ddim yn moyn maeddu Siencyn Bifan.
(1, 0) 248 Nagw-i'n wir!
(Isaac) Nagych; 'rych-chi'n folon i gôr Carmal i glochtar drosto-ni tra bo ni byw.
 
(Isaac) {Yn brysio tuag at y drws.}
(1, 0) 252 Hannar munad.
 
(1, 0) 254 Fe arhoswn nes bo ni'n gweld beth yw teimlad gwŷr yr Eclws: os byddan-nhw'n depyg o ochri gita ni, wel, fe gewn weld.
 
(1, 0) 260 Wel, ma'r un man i ni ddechra; 'dos 'na ddim amsar i golli.
(Isaac) Dyna chi eto, wastod miwn brys, yn poenia gofitio.
 
(Isaac) Fuas-i wthnos gyfan, ar dro, yn meddwl pwy i ddoti ar y pwyllgor, a 'rwy'n cretu mod-i wedi dewis y tri gora yn Llanybryn.
(1, 0) 266 Clywch, clywch.
(Tomos) {Yn fawreddog.}
 
(Tomos) Sgusotwch fi, Mr. Morgan, otych-chi wedi sgrifennu'ch |address|?
(1, 0) 269 O, nagw.
(Tomos) Ma'n dda iawn gen-i glwad, wath ma gen-i rwpath pwysig i ddoti yn ych |address| chi.
 
(1, 0) 284 Nawr, Isaac, cymrwch chi bwyll.
(1, 0) 285 'Dwy-i ddim am i anghredinwyr a gwrthgilwyr i foto drosto-i.
(Isaac) Ma nhw lawar mwy tepyg o foto drosto-chi na thros Siencyn.
 
(Tomos) Pitwch a bod mor siwr {yn taro ei fynwes}, dyma un fôt, beth bynnag, gewch-chi.
(1, 0) 290 O ia, ia; 'r yn-ni gyd yn gwpod 'ny.
(Tomos) 'Rwy'n mynd i ddangos i Siencyn Bifan na all a ddim troi dyn mâs o'i gôr am ddim!
 
(Tomos) 'Rwy'n mynd i ddangos i Siencyn Bifan na all a ddim troi dyn mâs o'i gôr am ddim!
(1, 0) 292 Clywch, clywch.
(Tomos) A dim ond achos i fi wêd 'i fod-a'n cymryd |rallentando| yn rhy gyflym yn Hendrefadog.
 
(Tomos) A dim ond achos i fi wêd 'i fod-a'n cymryd |rallentando| yn rhy gyflym yn Hendrefadog.
(1, 0) 294 Itha-right, Tomos; wydda Siencyn eriod ffordd i gymryd |rallentando|.
(Tomos) "Mâs â chi," mynta-fa wrtho i, wrtho i cofiwch, a 'nhad roiws y wers gynta eriod iddo-fa ar y |Modulator|.
 
(1, 0) 301 O'n wir! a phwy yn-nhw, licswn i wpod.
(Isaac) Hugh Parry, dyna un; fe wrthodsoch iddo fa arwan y |Band of Hope|.
 
(Isaac) Hugh Parry, dyna un; fe wrthodsoch iddo fa arwan y |Band of Hope|.
(1, 0) 303 'Dôdd-a ddim yn deilwng i arwan y |Band of Hope|.
(Isaac) 'Dwy-i ddim yn gwêd 'i fod-a, ond fe 'llwch fentro hyn; yn ol barn Hugh Parry, fyddwch-chi ddim yn deilwng i fod yn |Rural District Councillor|.
 
(Isaac) Dyna un arall, Moses Griffith, fe'i troisoch-a mâs o'r Rechabiaid.
(1, 0) 306 Ond gwelas-i a'n sefyll ar ben drws y |Black Lion|.
(Isaac) 'Dwy-i ddim yn gwêd llai, ond fydd dim fôt i chi manna.
 
(Tomos) Bydd caniatâd i aelota'r capeli i brynnu ticats?
(1, 0) 334 O bydd, i bawb.
(Tomos) Wel dyna ddiwadd ar Siencyn Bifan; dyna'r lecshwn wedi'i setlo.
 
(Dafydd) |Stroke| anfarwol yw honna; 'rych-chi wedi maeddu Siencyn yn barod.
(1, 0) 337 I faeddu-a, gnaf, fe'i maedda-fa.
(1, 0) 338 Ofan arno-fa roi cyfla arall i fi gita-i gôr, ond fe gaiff e weld, caiff, caiff, fe gaiff e weld!
(Rhys) Nawr beth am yr |address|?
 
(Rhys) Nawr beth am yr |address|?
(1, 0) 340 O ia, fuas-i bron ag anghofio: fe geso-i lythyr y bora 'ma odd'wrth Riannon, yn gofyn i fi bito argraffu'r |address| cyn y delsa hi sha thre, a fe fydd yma fory.
(Tomos) Fe fydd Miss Morgan yn help mawr i ni.
 
(Tomos) Fe fydd Miss Morgan yn help mawr i ni.
(1, 0) 343 Mae hi wedi bod yn studio'r pwnc am betar mlynadd yn Aberystwyth.
(1, 0) 344 Be'chi'n 'i alw fa nawr, rwpath─rwpath |economy|─?
(Tomos) |Domestic Economy|.
 
(Isaac) |Political Economy|.
(1, 0) 349 Dyna fe; y peth gora allwch-chi gâl ar gyfar lecshwn.
(Rhys) 'Dos dim raid i ni gwpla'r address nawr, ond falla y gallwn-ni feddwl am rai o'r prif betha.
 
(Rhys) Ond ma'n rhaid i chi addo rwpath.
(1, 0) 357 Itha-right; nawr, beth gaf-fi addo?
(Dafydd) Wel; ma'r hewl sy'n arwan i Pisgah miwn cyflwr sopor, yn llawn twlla, a phwlla o ddŵr ar hyd-ddi.
 
(Dafydd) Dim ond i chi addo gwella honna fe gewch lawar o'n fôts ni.
(1, 0) 360 Dotwch yr hewl yn yr |address|, Isaac.
(Rhys) A beth amdanon |ni|?
 
(Rhys) Ma'n raid i aelota Nebo gerad milltir a hannar rownd i'r groesffordd cyn cyrradd y capal, a fe allsan fynd 'no miwn pum munad tsa 'na bont rwla'n nghymdocath y |Black Lion|.
(1, 0) 363 Dotwch y bont i lawr, Isaac.
 
(1, 0) 365 On-ni'n meddwl fod rwpath pwysig gita-chi, Tomos.
(Tomos) Os, y ma-fa; fe wyddoch fod gan Siencyn Bifan nifar o fwthynnod lawr wrth y nant.
 
(Tomos) Wel, ma'r |Sanitary Inspector| wedi reporto nhw fwy nag unwaith, |unfit for 'uman 'abitation|, dyna eiria'r |report|, |unfit for 'uman 'abitation|, ond ma'r |Medical Officer of Health| yn gwrthod 'u condemnio nhw.
(1, 0) 369 Dyna damad blasus, Tomos: gwrthod condemnio bwthynnod 'i dad, iefa?
(1, 0) 370 Dotwch yna lawr, Isaac.
(Dafydd) Allwch-chi ddim doti yna lawr yn yr |address|.
 
(Isaac) Wath yn y byd am y trethi, dim ond i ni gâl cyfla i faclu Siencyn ynglŷn â'i dai.
(1, 0) 375 Ia, a baclu 'i fab hefyd.
(1, 0) 376 Wfft shwt |Fedical Officer of Health| weta-i.
(1, 0) 377 Arhoswch, nes caf fi fynd ar y |Council|!
(Isaac) Cymrwch chi bwyll gita'r mab, Nathanial; 'n ol dim glywa-i, fe fydd ych mab-yng-nghyfrath chi ryw ddwarnod.
 
(Isaac) Cymrwch chi bwyll gita'r mab, Nathanial; 'n ol dim glywa-i, fe fydd ych mab-yng-nghyfrath chi ryw ddwarnod.
(1, 0) 381 Dim byth!
(1, 0) 382 'Rwy wedi sharso Riannon─
(Rhiannon) A beth 'nâth Riannon druan nawr?
 
(1, 0) 387 Riannon!
(Rhiannon) {Yn dod i mewn.}
 
(Rhiannon) {Yn cyfarch y lleill.}
(1, 0) 391 Beth ar wynab y ddaear ddath a ti yma heddy?
(Rhiannon) Allwn-i ddim aros dwarnod arall yn Aberystwyth, a chitha yng nghanol lecshwn.
 
(Tomos) Wel, tawn-i byth heb gyffro o'r fan!
(1, 0) 399 Welsoch-chi shwt beth eriod, air am air 'run fath a'n |address| i!
(Rhiannon) Ych |address chi|! Ble ma honno?
 
(Rhiannon) Ych |address chi|! Ble ma honno?
(1, 0) 401 'Ryn-ni yn 'i chyfansoddi hi nawr.
(1, 0) 402 Y fi yw Cyfall y Gwithwr.
(Rhiannon) Y chi, iefa?
 
(1, 0) 408 Dyna fe ar 'i drôd, dyna Siencyn Bifan, miwn |politics| 'run fath a cherddoriath!
(1, 0) 409 Os caf fi syniad gynta, fe fydd e'n siwr o 'neud defnydd ohono o mlân-i!
(Rhiannon) Pob croeso iddo gatw'r syniad yna, 'nhad.
 
(1, 0) 415 Ia, ia, Riannon; itha iawn, y merch-i.
 
(1, 0) 417 Beth wetas-i, Isaac?
(Rhys) Sgusotwch fi, Miss Morgan, oti Siencyn yn sôn rwpath am bont wrth y Black Lion, er mwyn aelota Nebo?
 
(Rhiannon) 'Nhad, gofalwch na lywch-chi scitsha'r werinos, na blygwch chi glun o flân y dorf er mwyn dwy ne dair o fôts.
(1, 0) 424 Dim byth ym merch-i.
 
(1, 0) 426 Chi'n sôn am feddwl a phondro, beth wetas-i Isaac?
(Dafydd) Oti Siencyn yn crypwll rwpath am wella'r hewl ar y ffordd i Pisgah?
 
(Rhiannon) 'Nhad; cyn y cewch-chi ennill yr un fôt drwy apelio at gynneddfa gwaela'r etholwyr─
(1, 0) 431 Itha right, Riannon.
(Isaac) {Yn anniddig}
 
(Isaac) Y chi a'ch "itha right"; enillwch chi byth os na newch-chi.
(1, 0) 434 Beth wyddoch chi am lecshwn, Isaac?
(1, 0) 435 Fuoch chi miwn coleg eriod yn studio |Political Domestics|!
(Isaac) {Yn ffromllyd.}
 
(1, 0) 454 'Rwy-i o'r gora.
(Siencyn) A shwt ma'r gwaithda yndod 'mlân?
 
(Siencyn) A shwt ma'r gwaithda yndod 'mlân?
(1, 0) 456 Fyddwch chi fawr o dro cyn gweld a theimlo hynny.
(Siencyn) {Yn gellweirus.}
 
(Siencyn) Ond druan o chi, 'dôs fawr gopath y llwyddwch-chi.
(1, 0) 462 Dim gopath, iefa?
(1, 0) 463 Ho, ho, fe gewn weld!
(Siencyn) Nagos, dim yfflyn o opath.
 
(Siencyn) Fuoch-chi eriod yn ddyn cyhoeddus, fel fi.
(1, 0) 466 Naddo, diolch i'r mowradd, a 'dwy-i ddim am fod chwaith!
(Siencyn) Pam ych-chi'n sefyll y lecshwn 'ma, Nathanial?
 
(Siencyn) Jelosi─ha, ha, ha─jelosi; fe ffaelsoch gita'ch côr─
(1, 0) 469 Ffaelu, do fa!
(Siencyn) Do.
 
(Siencyn) Côr pwy enillws ym Mhen-yr-Englyn?
(1, 0) 472 Ych côr chi, ond pwy oedd y beirniad, a ble cysgws-a y noswath cyn y gystadleuath?
(1, 0) 473 Ond sôn am ennill pwy enillws yng Ngraig-yr-Eos?
(Siencyn) Y chi─ond pwy enwad ôdd yn cynnal yr eisteddfod?
 
(Siencyn) Ond sôn am ganu, pwy gas y wopor yn Hendrefadog?
(1, 0) 476 O, chi gas y wopor, ond pwy enillws?
(1, 0) 477 Rodd ych côr chi mâs o diwn am un bar ar bymthag, y |sopranos| yn |sharp|, y |tenors| yn y niwl─
(Tomos) A'r |bassers| led ca ar ol pawb arall.
 
(Siencyn) Allwch chi ddim gwêd nawr mod-i wedi cymryd dim byd o'ch program chi, a wy-i am i chitha, os gwelwch chi'n dda, i bito efelychu dim o'n un inna {gyda gwên ddireidus} fel y gnithoch-chi gita'r canu.
(1, 0) 484 Y fi yn ych efelychu chi, ys clwas-i shwt gownt eriod.
(1, 0) 485 Allwch-chi brofi 'na Siencyn?
(Siencyn) Galla'n rhwydd, a dyma'r tyst {gan gyfeirio af ISAAC}.
 
(Siencyn) O ble cesoch-chi'r syniad o ddwbwl |piano| yn "Worthy is the Lamb ─oddiwrtho-i, Nathanial, odd'wrtho i.
(1, 0) 493 A ffordd cesoch chitha'r syniad i |portamento| yn "Thanks be lo God."
(1, 0) 494 Ffordd Siencyn?
(1, 0) 495 Wrth ddoti dyn i wrando o dan ffenast capal Sion!
(Siencyn) Ha, ha, ha─fe fuws 'na ddyn yn gwrando o dan ffenast ych capal chi, ond nid fi helws-a.
 
(Siencyn) Wyddoch-chi beth wetws-a ar ol dod 'nol?
(1, 0) 498 Na wn-i a dos dim ots gen-i chwaith.
(Siencyn) Wel, gofynnwch i Tomos Jones ych cefnocydd politicadd mwya chi.
 
(1, 0) 505 Wetsoch-chi 'na am 'y nghanu i!
(Tomos) {Yn ddryslyd.}
 
(Tomos) Torchwch chi'ch llewys, Mr. Morgan, a fe'i maeddwch a'n rhwydd, er fod 'i fab-a'n |Fedical Officer of Health|.
(1, 0) 511 Wfft shwt |Fedical Officer of Health|, weta-i.
 
(1, 0) 513 O'n wir.
 
(1, 0) 515 Sawl gwaith wy-i wedi gofyn i ti gatw draw odd'wrth y gwalch 'na!
(Siencyn) {Yn gellweirus wrth ei fab.}
 
(Tomos) 'Ryn-ni wedi'i darllan hi'n barod, a 'dos 'na ddim yndi'n werth cymryd.
(1, 0) 521 Ma gen-i ddicon o |boints| i'ch maeddu chi'n rhwydd.
(Siencyn) Nagos, fyth yn ych bywyd, Nathanial.
 
(Siencyn) Ma gen-i fantas o 30 o fôts, o leia, yn y petwar capal, a fe gaf y rhan fwya o fôts gwŷr yr eclws.
(1, 0) 526 Ha, ha; fe gewn weld, fe gewn weld!