Castell Martin

Ciw-restr ar gyfer Siencyn

(Isaac) A shwt ych-chi heddy, Nathanial?
 
(Isaac) Otw, Mr. Bifan, dewch miwn.
(1, 0) 447 Wel, wel {yn chwerthin yn iachus} dyma fi yng nghanol gwersyll y gelyn.
(1, 0) 448 Ha, ha, ha.
(1, 0) 449 Shwt ych-chi, Nathanial?
(Nathaniel) {Yn sychlyd.}
 
(Nathaniel) 'Rwy-i o'r gora.
(1, 0) 455 A shwt ma'r gwaithda yndod 'mlân?
(Nathaniel) Fyddwch chi fawr o dro cyn gweld a theimlo hynny.
 
(1, 0) 458 'Rwy'n synnu atoch chi, Nathanial.
(1, 0) 459 'Rych-chi wedi dod yn f'erbyn i yn y lecshwn 'ma o felltith a drygioni'ch calon.
(1, 0) 460 Ond druan o chi, 'dôs fawr gopath y llwyddwch-chi.
(Nathaniel) Dim gopath, iefa?
 
(Nathaniel) Ho, ho, fe gewn weld!
(1, 0) 464 Nagos, dim yfflyn o opath.
(1, 0) 465 Fuoch-chi eriod yn ddyn cyhoeddus, fel fi.
(Nathaniel) Naddo, diolch i'r mowradd, a 'dwy-i ddim am fod chwaith!
 
(Nathaniel) Naddo, diolch i'r mowradd, a 'dwy-i ddim am fod chwaith!
(1, 0) 467 Pam ych-chi'n sefyll y lecshwn 'ma, Nathanial?
(1, 0) 468 Jelosi─ha, ha, ha─jelosi; fe ffaelsoch gita'ch côr─
(Nathaniel) Ffaelu, do fa!
 
(Nathaniel) Ffaelu, do fa!
(1, 0) 470 Do.
(1, 0) 471 Côr pwy enillws ym Mhen-yr-Englyn?
(Nathaniel) Ych côr chi, ond pwy oedd y beirniad, a ble cysgws-a y noswath cyn y gystadleuath?
 
(Nathaniel) Ond sôn am ennill pwy enillws yng Ngraig-yr-Eos?
(1, 0) 474 Y chi─ond pwy enwad ôdd yn cynnal yr eisteddfod?
(1, 0) 475 Ond sôn am ganu, pwy gas y wopor yn Hendrefadog?
(Nathaniel) O, chi gas y wopor, ond pwy enillws?
 
(Tomos) A'r |bassers| led ca ar ol pawb arall.
(1, 0) 479 Ho, ho; dyna'ch barn chi.
(1, 0) 480 Ta pun, fe enillas-i ddwywaith o dair, a fe'ch maedda chi eto fel |Rural District Councillor|. {Yn estyn rhaglen i NATHANIEL.}
(1, 0) 481 Dyma'n |address| i.
(1, 0) 482 Fe benderfynas ddod â hi mâs cyn y gnelsa chi.
(1, 0) 483 Allwch chi ddim gwêd nawr mod-i wedi cymryd dim byd o'ch program chi, a wy-i am i chitha, os gwelwch chi'n dda, i bito efelychu dim o'n un inna {gyda gwên ddireidus} fel y gnithoch-chi gita'r canu.
(Nathaniel) Y fi yn ych efelychu chi, ys clwas-i shwt gownt eriod.
 
(Nathaniel) Allwch-chi brofi 'na Siencyn?
(1, 0) 486 Galla'n rhwydd, a dyma'r tyst {gan gyfeirio af ISAAC}.
(1, 0) 487 Isaac, nawr 'rwy-i am i chi gyfadda'r gwir, sawl gwaith y buoch chi'n gwrando ar y slei o dan ffenast Carmal ar 'y nghôr-i'n canu?
(Isaac) Y fi!
 
(Isaac) Gofalwch be 'chi'n wêd, Mr. Bifan, ne fe fynna'r gyfrath arnoch-chi, am slander a |damages|.
(1, 0) 490 Ddwseni o witha.
 
(1, 0) 492 O ble cesoch-chi'r syniad o ddwbwl |piano| yn "Worthy is the Lamb ─oddiwrtho-i, Nathanial, odd'wrtho i.
(Nathaniel) A ffordd cesoch chitha'r syniad i |portamento| yn "Thanks be lo God."
 
(Nathaniel) Wrth ddoti dyn i wrando o dan ffenast capal Sion!
(1, 0) 496 Ha, ha, ha─fe fuws 'na ddyn yn gwrando o dan ffenast ych capal chi, ond nid fi helws-a.
(1, 0) 497 Wyddoch-chi beth wetws-a ar ol dod 'nol?
(Nathaniel) Na wn-i a dos dim ots gen-i chwaith.
 
(Nathaniel) Na wn-i a dos dim ots gen-i chwaith.
(1, 0) 499 Wel, gofynnwch i Tomos Jones ych cefnocydd politicadd mwya chi.
(1, 0) 500 Dyna'r dyn fuws dan y ffenast.
(1, 0) 501 Beth wetsoch-chi, Tomos, otych-chi'n cofio?
(Tomos) A dyma'r diolch 'rwy'n gâl am gisho neud cymwynas â chi!
 
(Tomos) A dyma'r diolch 'rwy'n gâl am gisho neud cymwynas â chi!
(1, 0) 503 Wyddoch-chi beth wetws-a, Nathanial─nag odd 'na ddim byd yn ych hen ganu chi!
(Nathaniel) {Yn troi yn chwim at TOMOS JONES.}
 
(1, 0) 517 Sawl gwaith wy-inna wedi gofyn i ti atal y merched yn llonydd.
 
(1, 0) 519 Nawr, darllenwch yr |address| yna, a gofalwch na chymrwch-chi ddim |points| odd'wrthi.
(Tomos) 'Ryn-ni wedi'i darllan hi'n barod, a 'dos 'na ddim yndi'n werth cymryd.
 
(Nathaniel) Ma gen-i ddicon o |boints| i'ch maeddu chi'n rhwydd.
(1, 0) 522 Nagos, fyth yn ych bywyd, Nathanial.
(1, 0) 523 Ma 'mhwyllgor i wedi pwyso petha'n ofalus.
(1, 0) 524 Ma gen-i fantas o 30 o fôts, o leia, yn y petwar capal, a fe gaf y rhan fwya o fôts gwŷr yr eclws.
(Nathaniel) Ha, ha; fe gewn weld, fe gewn weld!
 
(Nathaniel) Ha, ha; fe gewn weld, fe gewn weld!
(1, 0) 527 Am wn-i na chaf-fi nhw i gyd, wâth ych-chi wedi bod mor afresymol ynglŷn â'r Datgysylltiad a'r Dadwaddoliad.
(Criwr) {Yn uchel.}
 
(1, 0) 537 Beth yw hyn, Nathanial!
(1, 0) 538 'R ych chi wedi bradychu egwyddorion mawr Rhyddid a Chydraddoldeb crefyddol, 'r ych-chi wedi gwerthu'ch henad am saig afiach o fôts.
(1, 0) 539 Ond fe'ch maedda chi, gnaf!
(1, 0) 540 Fe fydd ych hanas chi'n destun drewllyd ar bob aelwyd yn y plwyf, a fe'ch cospir chi'n dragwyddol am fargan yr hen fuwch ddu!