Cofia'n Gwlad

Ciw-restr ar gyfer Beibl

(Emyn) 732 (Caneuon Ffydd)
 
(Emyn) [William Williams]
(1, 2) 55 Jeremeia 51, Adnodau 35–45 + 58
(1, 2) 56 ~
(1, 2) 57 ... Bydded ar Fabilon y trais a wnaed arnaf fi ac ar fy nghnawd!
(1, 2) 58 Dyweded Jerwsalem, 'Bydded fy ngwaed ar drigolion Caldea!'
(1, 2) 59 ~
(1, 2) 60 36 Am hynny, fel hyn y dywed yr {Arglwydd.}: Dyma fi'n dadlau dy achos, ac yn dial drosot; disbyddaf ei môr hi, a sychaf ei ffynhonnau.
(1, 2) 61 ~
(1, 2) 62 37 Bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa i siacaliaid; yn arswyd ac yn syndod, heb neb i breswylio ynddi.
(1, 2) 63 ~
(1, 2) 64 38 Rhuant ynghyd fel llewod, a chwyrnu fel cenawon llew.
(1, 2) 65 ~
(1, 2) 66 39 Paraf i'w llymeitian ddarfod mewn twymyn, meddwaf hwy nes y byddant yn chwil, ac yn syrthio i drymgwsg diderfyn, diddeffro, medd yr {Arglwydd.}.
(1, 2) 67 ~
(1, 2) 68 40 Dygaf hwy i waered, fel ŵyn i'r lladdfa, fel hyrddod neu fychod geifr.
(1, 2) 69 ~
(1, 2) 70 41 O fel y goresgynnwyd Babilon ac yr enillwyd balchder yr holl ddaear! O fel yr aeth Babilon yn syndod i'r cenhedloedd!
(1, 2) 71 ~
(1, 2) 72 42 Ymchwyddodd y môr yn erbyn Babilon, a'i gorchuddio â'i donnau terfysglyd.
(1, 2) 73 ~
(1, 2) 74 43 Aeth ei dinasoedd yn ddiffaith, yn grastir ac anialdir, heb neb yn trigo ynddynt nac unrhyw un yn ymdaith trwyddynt.
(1, 2) 75 ~
(1, 2) 76 44 Cosbaf Bel ym Mabilon, a thynnaf o'i safn yr hyn a lyncodd; ni ddylifa'r cenhedloedd ato ef mwyach, canys syrthiodd muriau Babilon.
(1, 2) 77 ~
(1, 2) 78 45 Ewch allan ohoni, fy mhobl; achubed pob un ei hunan rhag angerdd llid yr {Arglwydd.}.
(1, 2) 79 ~
(1, 2) 80 58 Dryllir i'r llawr furiau llydan Babilon; llosgir ei phyrth uchel â thân; yn ofer y llafuriodd y bobl, a bydd ymdrech y cenhedloedd yn gorffen mewn tân.
 
(1, 4) 116 Jeremeia 31, 15
(1, 4) 117 ~
(1, 4) 118 ... Clywir llef yn Rama,
(1, 4) 119 galarnad ac wylofain,
(1, 4) 120 Rachel yn wylo am ei phlant,
(1, 4) 121 yn gwrthod ei chysuro am ei phlant,
(1, 4) 122 oherwydd
(1, 4) 123 nad ydynt
(1, 4) 124 mwy.