Cofia'n Gwlad

Ciw-restr ar gyfer Desc

(Emyn) 732 (Caneuon Ffydd)
 
(1, 1) 3 Golygfa 1
(1, 1) 4 ~
(1, 1) 5 Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn cyntaf...
(Emyn) 732 (Caneuon Ffydd)
 
(Emyn) [William Williams]
(1, 1) 36 Yn ystod yr emyn, araf-ddiffoddir y golau.
(1, 1) 37 O oleuni llachar yr 21ain ganrif dychwelwn at oleuni sy'n gydnaws â lampau olew ddechrau'r 20fed ganrif.
(1, 1) 38 Atgyfnerthir y siwrne hon yn ôl mewn amser wrth i organ gyfoes y cyfeiliant droi'n harmoniwm neu'n biano.
(1, 1) 39 ~
(1, 1) 40 Yn ystod yr ail bennill, daw gwraig (Mrs. Jones) i'r sêt fawr.
(1, 1) 41 Mae hi'n bresennol yn y capel ond nid yw'n ymddangos pe bai'n rhan o bresenoldeb y gynulleidfa.
(1, 1) 42 Mae parsel yn ei llaw.
(1, 1) 43 Yn ei phwysau, mae'n datod y parsel ac yn gwisgo'r dilladach sydd ynddo amdani.
(1, 1) 44 Dillad galar ydynt.
(1, 1) 45 Eto, yn ei phwysau, mae'n dringo i'r pwlpud.
(1, 1) 46 Yn araf, mae'n codi ac yn ymestyn ei breichiau tuag at holl blant colledig ei bro.
(1, 1) 47 Wrth fôn ei hystym y mae galar am ei phlentyn ei hun.
(1, 1) 48 Ei hunig blentyn.
(1, 1) 49 ~
(1, 1) 50 Wrth i'r emyn bennu dal i dyfu a chryfhau y mae ymestyniad y fam.
(Beibl) Jeremeia 51, Adnodau 35–45 + 58
 
(Emyn) [William Williams]
(1, 2) 52 Golygfa 2
(1, 2) 53 ~
(1, 2) 54 Ar ddiwedd yr emyn darllenir...
(Beibl) Jeremeia 51, Adnodau 35–45 + 58
 
(Beibl) 58 Dryllir i'r llawr furiau llydan Babilon; llosgir ei phyrth uchel â thân; yn ofer y llafuriodd y bobl, a bydd ymdrech y cenhedloedd yn gorffen mewn tân.
(1, 2) 81 Yn ystod y darlleniad datblygir cyfeiliant tympani.
(1, 2) 82 Wrth i'r cyfeiliant gryfhau, cryfhau hefyd a wna goslef y darllenwr.
(1, 2) 83 Yn y pen draw, nid darllenydd gwrthrychol mohono ond cennad 'dial cyfiawn'.
(1, 2) 84 ~
(1, 2) 85 Trwy gydol y darlleniad mae'r fam yn cynnal ei hystym gan wrthweithio pob ymgais ar ran y lladmerydd i'w gorchfygu.
(1, 3) 86 Golygfa 3
(1, 3) 87 ~
(1, 3) 88 Mae drws y capel yn agor.
(1, 3) 89 ~
(1, 3) 90 Clywir, o bell, pump o wŷr ifainc uchel eu hysbryd, os nad lled-feddw, yn agosau.
(1, 3) 91 Wrth iddynt ddod mewn trwy'r drws gwelir – o'u gwisg a'u hyder - mai boneddigions ydynt.
(1, 3) 92 Golygfa fyrfyfyr fydd hon i'w phrifio o'r hadau canlynol...
(1, 3) 93 ~
(1, 3) 94 Mae bob yr un ohonynt â photel siampên yn ei law.
(1, 3) 95 ~
(1, 3) 96 Mae pob potel wedi'i lapio â baner ymerodraethol, sef... Awstro-Hwngari, Rwsia, yr Almaen, Ffrainc a Phrydain.
(1, 3) 97 ~
(1, 3) 98 Eu hymateb cyntaf wrth 'ddarganfod' y gofod newydd yw hawlio eu cyfran yn enw eu hymerodraeth. cyflawnir hyn pe byddent yn chwarae gêm.
(1, 3) 99 ~
(1, 3) 100 Mae'r gêm yn datblygu yn ei sbri wrth i'r pump ruthro i 'feddiannu' mwy a mwy o 'diroedd'.
(1, 3) 101 ~
(1, 3) 102 Digwydd rhyw fath o anffawd.
(1, 3) 103 Ond nid yw'r sawl a anafwyd yn fodlon derbyn mai damwain ydoedd.
(1, 3) 104 Mae'r chwarae yn troi'n chwerw wrth i'r cwmni meddw ymrannu'n garfannau cecrus (yr Almaen ac Awstria-Hwngari yn erbyn Ffrainc, Prydain a Rwsia).
(1, 3) 105 ~
(1, 3) 106 Mae cyfeiliant y tympani yn dychwelyd.
(1, 3) 107 Yn frawychus o gyflym mae'r cyfeiliant hwn yn troi'r ymgecru yn ffieidd-dra gwirioneddol brawychus.
(1, 3) 108 Clywir y geiriau 'this means war'/ 'this is war'/ 'war' drosodd a throsodd.
(1, 3) 109 ~
(1, 3) 110 Wedi cyrraedd ei ben llanw...
(1, 3) 111 ~
(1, 3) 112 Tywyllwch dudew a thawelwch llethol am funud gyfan.
(1, 4) 113 Golygfa 4
(1, 4) 114 ~
(1, 4) 115 Clywir llais merch ifanc...
(Beibl) Jeremeia 31, 15
 
(Beibl) mwy.
(1, 5) 125 Golygfa 5
(1, 5) 126 ~
(1, 5) 127 Cyhoeddir a chyd-gennir yr ail emyn.
(Emyn) 827 (Caneuon Ffydd)
 
(Emyn) [Elfed]
(1, 6) 152 Golygfa 6
(1, 6) 153 ~
(1, 6) 154 Mae'r wraig yn dod i mewn.
(1, 6) 155 ~
(1, 6) 156 Mae'n gosod y lamp wrth ei hymyl cyn mynd ati i bolisio gwaith coed y sêt fawr.
(1, 6) 157 Gwelwn ei bod yn rhoi o'i nerth i'r gwaith.
(1, 6) 158 ~
(1, 6) 159 Ymhen hir a hwyr mae'n syrthio i'w phengliniau er mwyn dechrau ar y gwaith o bolisio'r pwlpud.
(1, 6) 160 ~
(1, 6) 161 Gyda hyn, mae drws y capel yn agor – ei mab, Ifan-John, yn chwilio amdani.
(Ifan-John) Mam?
 
(Kitty) I gwrdd â'r lodes 'na.
(1, 6) 188 Ifan-John yn cnoi ei dafod.
(Kitty) Wel, ffwrdd â thi, te.
 
(Kitty) Gwylia di nag yw un o'i gynffonwyr yn gweud wrtho, 'na'i gyd.
(1, 6) 243 Ifan-John yn ymadael.
(Kitty) {Yn galw ar ei ôl.}
 
(Kitty) Fydd hi ar ben arnat ti'n cael lle dy hunan wedyn, 'machgen i, on-fydd-hi!
(1, 7) 246 Golygfa 7
(1, 7) 247 ~
(1, 7) 248 Canwr Gwerin...
(Canwr) 'I Blas Gogerddan heb dy dad!
 
(Canwr) [Ceiriog]
(1, 8) 277 Golygfa 8
(1, 8) 278 ~
(1, 8) 279 daw pump person i eistedd yn y sêt fawr.
(Arweinydd) {Codi, troi a chyhoeddi.}
 
(Gwas Bach) Ar ben y domen...
(1, 8) 299 Yr arweinydd yn esgyn i'r pwlpud...
(Arweinydd) Y Brenin.
 
(Gŵr y Plas) Y Sefydliad.
(1, 8) 305 Gŵr y Plas yn eistedd mewn cadair seml-urddasol. Yr Arweinydd, y Mistir, y Gwas Mawr a'r Gwas Bach yn ei godi yn ei gadair i'w hysgwyddau.
(Gŵr y Plas) For King and Country!
 
(Y Pedwar) Dros ein brenin, dros ein gwlad!
(1, 9) 312 Golygfa 9
(1, 9) 313 ~
(1, 9) 314 Daw Ifan-John i bwyso ar flaen y sêt fawr – pe bai'n pwyso ar glwyd, neu fonyn coeden.
(1, 9) 315 Ar yr un pryd, mae'r pedwarawd yn gostwng gŵr y plas yn ofalus i'r llawr.
(1, 9) 316 Â'r Pedwar i gyfeiriadau gwahanol cyn sefyll a loetran, megis Ifan-John.
(Bachgen 1) Beth amdanat ti te, Ifan-John?
 
(Bachgen 3) Bro dy fam a dy...
(1, 9) 326 Amnaid sydyn a chynnil gan un o'r bechgyn. Bachgen 3 yn deall.
(Bachgen 3) {Yn wawdlyd.}
 
(Bachgen 2) Wel?
(1, 9) 336 Dim ymateb gan Ifan-John.
(1, 9) 337 ~
(1, 9) 338 Mae'r pedwar yn dechrau cau yn lled-fygythiol amdano.
(Bachgen 2) Wedes i 'Wel'!
 
(Bachgen 3) 'Wel' 'wedodd e.
(1, 9) 342 Â'r Pedwar ar ei war.
(Ifan-John) Wel?
 
(Ifan-John) Wel?
(1, 9) 344 Y Pedwar yn rhannu gwên fuddugoliaethus wedi tynnu ymateb oddi wrtho.
(Bachgen 4) Wel, Ifan-John, Tŷ Capel...
 
(Y Pedwar) Bydd gyda ni!
(1, 9) 359 Y Pedwar yn torri o fod yn berfformwyr coeglyd i fod yn bedwar ffrind, go iawn.
(Bachgen 3) Hei – gwed – pryd wyt ti'n dod?
 
(Bachgen 2) Mi wyt ti yn dod, ond-wyt-ti?
(1, 9) 362 Y perfformio'n dechrau ail-adeiladu...
(Bachgen 1) Wrth gwrs ei fod e...
 
(Y Pedwar) Wrth gwrs dy fod di!
(1, 9) 369 Tawelwch.
(1, 9) 370 ~
(1, 9) 371 Yn y pen draw...
(Bachgen 2) Wedes i 'Wel'.
 
(Bachgen 1) Pryd? – Te?
(1, 9) 376 Yn ei amser ei hun.
(Ifan-John) Cyn bo hir.
 
(Y Pedwar) Yr eiliad hon?
(1, 9) 383 Yn ei amser ei hun, eto.
(Ifan-John) Cyn bo hir, wedes i.
 
(Bachgen 2) ...gachgi!
(1, 9) 400 Ifan-John yn dechrau cerdded bant.
(Bachgen 3) Iawn.
 
(Bachgen 1) Gw'bod yn iawn.
(1, 9) 405 Ifan-John wedi sefyll â'u hwynebu eto.
(Ifan-John) Falch clywed.
 
(Ifan-John) Falch clywed.
(1, 9) 407 Ysbaid.
(Bachgen 2) Gwed te...
 
(Y Pedwar) Ie!
(1, 10) 413 Golygfa 10
(1, 10) 414 ~
(1, 10) 415 Yn torri ar draws yr olygfa flaenorol...
(Dafydd) Ifan-John!
 
(Dafydd) Ifan-John!
(1, 10) 417 Mae'r pedwar milwr yn diflannu.
(Ifan-John) Dafydd.
 
(Ifan-John) Wi'n gwbod.
(1, 10) 433 Ysbaid.
(Dafydd) Ryw neges i fynd 'nôl?
 
(Dafydd) Â'i nôl i hebrwng Dad gatre.
(1, 10) 442 Ysbaid.
(Dafydd) Beth amdanat ti? Be'ti'n mynd i 'neud 'wan?
 
(Ifan-John) Dafydd, mae'n bryd i ti stopio gwneud hynny.
(1, 10) 453 Amnaid yn unig gan Dafydd.
(Ifan-John) Ymddiheuro drwy'r amser.
 
(Dafydd) Hollol.
(1, 10) 500 Ysbaid.
(Ifan-John) O.
 
(Ifan-John) Mi wela' i.
(1, 10) 503 Ysbaid.
(Ifan-John) Wyt ti wedi gweud wrtho 'to?
 
(Ifan-John) Gweld ei ymateb.
(1, 10) 511 Ysbaid.
(Ifan-John) Beth am dy fam?
 
(Ifan-John) Dafydd, Dafydd...
(1, 10) 522 Ar ei draws...
(Dafydd) Taw pia hi, Ifan-John.
 
(Dafydd) Dwi wedi penderfynu.
(1, 10) 526 Ifan-John yn syllu'n ofalus arno. Wedi'r archwiliad...
(Ifan-John) Wyt.
 
(Ifan-John) Mi wyt ti, ond-wyt-ti.
(1, 10) 529 Ysbaid.
(Ifan-John) Pryd te?
 
(Dafydd) Yr... yr un pryd â thi?
(1, 10) 533 Amnaid yn unig o ddealltwriaeth gan Ifan-John.
(Dafydd) Pryd wyt ti'n mynd?
 
(Dafydd) Ond...wel... wyt ti'n dal...
(1, 10) 546 Ar ei draws.
(Ifan-John) Dafydd, wyt ti'n gw'bod mod i'n mynd.
 
(Dafydd) Am dy...
(1, 10) 557 Ar ei draws...
(Ifan-John) Am f'atgoffa o beth dwi wedi ffaelu 'wneud – ei chael hi mor anodd i wneud.
 
(Ifan-John) Mam fach!
(1, 10) 570 Ysbaid.
(Dafydd) Ond dim ond ti sydd gyda hi, Ifan-John.
 
(Ifan-John) Dim ond fi!
(1, 10) 575 Ysbaid.
(1, 10) 576 ~
(1, 10) 577 Ei lygaid yn codi ac yn edrych ar Dafydd.
(Ifan-John) A nawr - bydd raid i fi 'weud, on-fydd-e. – Oni bai bo' ti'n mynd i newid dy feddwl.
 
(Ifan-John) A nawr - bydd raid i fi 'weud, on-fydd-e. – Oni bai bo' ti'n mynd i newid dy feddwl.
(1, 10) 579 Dim symudiad o ran Dafydd ac amnaid yn unig gan Ifan-John.
(1, 11) 580 Golygfa 11
(1, 11) 581 ~
(1, 11) 582 Cyhoeddir a chyd-genir yr emyn...
(Emyn) 735 (Caneuon Ffydd)
 
(Emyn) [Norman Macleod / cyf. Ben Davies]
(1, 11) 604 Tra fod yr emyn yn cael ei ganu dechreua'r fam hulio'r ford swper.
(1, 12) 605 Golygfa 12
(1, 12) 606 ~
(1, 12) 607 Ar ddiwedd yr emyn clywir y drws mas yn agor a chau. Mae'r fam 'yn y gegin'.
(Mam) Ifan-John – ti sy' 'na?
 
(Ifan-John) Ma' rhywbeth 'da fi i 'weud!
(1, 12) 629 Y fam yn dod i'r amlwg.
(Ifan-John) {Yn dawelach.}
 
(Ifan-John) Ma' rhywbeth 'da fi i 'weud!
(1, 12) 632 Ymhen ennyd.
(1, 12) 633 ~
(1, 12) 634 Yn dawel, yn y cefndir, cenir yr hwiangerdd...
(Llais) Si hei lwli 'mabi,
 
(Llais) Mae'r llong yn mynd i ffwrdd.
(1, 12) 643 Mae'r golau'n araf wanhau nes ildio'r adeilad i dywyllwch llethol.
(1, 13) 644 Golygfa 13
(1, 13) 645 ~
(1, 13) 646 Wrth i'r golau ail-gynnau agorir drws y capel.
(1, 13) 647 ~
(1, 13) 648 Mae'r fam yn y capel, wrth y gwaith o olchi'r lloriau.
(1, 13) 649 ~
(1, 13) 650 Yn betrusgar braidd, daw merch ifanc i'r amlwg.
(Mati) Mrs. Jones?
 
(Kitty) Wyt ti'n gw'bod te.
(1, 13) 664 Mati'n oedi cyn ymateb.
(Kitty) O.
 
(Kitty) Gweud beth sydd ar ei feddwl.
(1, 13) 687 Ysbaid.
(Mati) Ma' sôn wedi bod bod Elgan yn dod gatre.
 
(Mati) Ddim ar y foment, beth bynnag.
(1, 13) 725 Ysbaid.
(Kitty) A mae Dafydd y Fagwyr yn mynd hefyd.
 
(Mati) Dwi'n gw'bod.
(1, 13) 730 Ysbaid.
(Mati) 'Na fe.
 
(Kitty) A mae hynny i fod yn gysur, Mati?
(1, 14) 734 Golygfa 14
(1, 14) 735 ~
(1, 14) 736 Yn y sêt fawr, mae gweinidog yn ymarfer wrth ymwisgo.
(1, 14) 737 Mae ei goler gron yn amlwg, ond dim ond wrth eu gwisgo gwelwn mai siaced a chapan cyrnol sydd ganddo.
(1, 14) 738 ~
(1, 14) 739 Wrth i'r ymwisgo fynd rhagddo try'r ymarfer yn berfformiad – yn bererasiwn didwyll a dilyffethair.
(Llais) (Salm 24)
 
(Llais) Pwy yw Brenin y gogoniant hwn? Arglwydd y lluoedd. Efe yw Brenin y gogoniant.
(1, 15) 761 Golygfa 15
(1, 15) 762 ~
(1, 15) 763 Digwydd chwarae'r olygfa hon mewn dau le ar yr un pryd.
(1, 15) 764 Nid oes perthynas uniongyrchol rhwng y naill a'r llall.
(1, 15) 765 ~
(1, 15) 766 Yn y naill le, Mae kitty ifanc yn eistedd gan fagu plentyn yn ei chôl.
(1, 15) 767 ~
(1, 15) 768 Yn y llall mae Ifan-John yn gosod y pethau olaf yn ei fag teithio...
(Ifan-John) Mae popeth gen' i, Mam...
 
(Ifan-John) Ma' rhaid...
(1, 15) 783 Wedi'r cam petrus cyntaf, Mae Ifan-John yn troi ac yn brasgamu o'r adeilad.
(1, 15) 784 Nid yw'n mentro nag oedi na throi yn ei ôl o gwbl.
(1, 15) 785 ~
(1, 15) 786 Rai eiliadau'n ddiweddarach, daw rhywun/rhywrai at Kitty gan fynd a'r plentyn o'i gafael ac o'n golwg.
(1, 15) 787 ~
(1, 15) 788 O'r cysgodion daw ail bennill yr hwiangerdd...
(Llais) Si hei lwli 'mabi,
 
(Llais) Y gwynt o'r dwyrain chwyth.
(1, 16) 797 Golygfa 16
(1, 16) 798 ~
(1, 16) 799 Offrymir gweddi gyfoes o'r frest.
(1, 16) 800 ~
(1, 16) 801 Ar ddiwedd y weddi, gwahoddir pawb i gydadrodd gweddi'r arglwydd...
(Llais) Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
 
(Llais) [Matthew 6: 9-13]
(1, 17) 820 Golygfa 17
(1, 17) 821 ~
(1, 17) 822 Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn olaf...
(Emyn) 817 (Caneuon Ffydd) [Tôn: 265: Llwynbedw - J. T. Rees]
 
(Emyn) [D. E. Williams]
(1, 17) 847 Ar ddiwedd yr emyn, gwahoddir y gynulleidfa i gyd-adrodd y weddi apostolaidd...
(1, 17) 848 Gras ein Harglwydd Iesu Grist
(1, 17) 849 a chariad Duw
(1, 17) 850 a chymdeithas yr Ysbryd Glân
(1, 17) 851 a fyddo gyda ni oll.
(1, 17) 852 Amen.
(1, 17) 853 Diwedd Act 1.
(2, 1) 854 Act II
(2, 1) 855 Golygfa 1
(2, 1) 856 ~
(2, 1) 857 Cyhoeddir a chyd-genir yr emyn cyntaf...
(Emyn) 164 (Caneuon Ffydd)
 
(Emyn) [Eifion Wyn]
(2, 2) 881 Golygfa 2
(2, 2) 882 ~
(2, 2) 883 Wrth i'r gynulleidfa eistedd ar ddiwedd yr emyn daw dau berson i'r capel o'r tu fas.
(2, 2) 884 Mae'r naill yn ymwelydd o loegr.
(2, 2) 885 Cymro lleol yw'r llall.
(2, 2) 886 ~
(2, 2) 887 Mae'r ymwelydd yn gyfarwydd â phensaerniaeth eglwys.
(2, 2) 888 Mae pensaerniaeth capel yn gwbl ddieithr iddo.
(Ymwelydd) What did you call this place?
 
(Ymwelydd) Chapel.
(2, 2) 893 Amnaid gan y tywysydd.
(Ymwelydd) But you said 'church' didn't you – as we got in the car?
 
(Tywysydd) Sort of.
(2, 2) 916 Yr ymwelydd i'w weld mewn dryswch eto.
(Tywysydd) It is in that you wouldn't ever have seen Pryse Gogerddan here – the landowner.
 
(Tywysydd) For the sermon.
(2, 2) 982 Y tywysydd yn pwyntio at y pwlpud.
(Ymwelydd) Ah!
 
(Tywysydd) In a way.
(2, 2) 990 Ysbaid.
(Tywysydd) Actually, from what I can see, what was really going on was that whoever was up there {y pwlpud} was there to make you think.
 
(Tywysydd) Always has been.
(2, 2) 1008 Ennyd.
(Ymwelydd) Hundred years ago – 1914 - must have been... must have been quite fervent here.
 
(Ymwelydd) I don't understand.
(2, 2) 1019 Cwyd ysbryd bardd o ganol y gynulleidfa.
(Ysbryd y Bardd) Nag wyt, gyfaill.
 
(Ysbryd y Bardd) [Y Trydydd – T Gwynn Jones]
(2, 2) 1037 Mae ysbryd y bardd yn troi at y gynulleidfa...
(Ysbryd y Bardd) Esgusodwch fi. Lle anodd yw'r tŷ hwn. Lle anodd iawn.
 
(Ysbryd y Bardd) Esgusodwch fi. Lle anodd yw'r tŷ hwn. Lle anodd iawn.
(2, 2) 1039 Mae'r bardd yn ymadael â'r adeilad.
(2, 2) 1040 ~
(2, 2) 1041 Wedi i'r drws mas gau...
(Tywysydd) Come.
 
(Tywysydd) We'll go this way.
(2, 3) 1048 Golygfa 3
(2, 3) 1049 ~
(2, 3) 1050 Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn...
(Emyn) I bob un sy'n ffyddlon
 
(Emyn) [ap Hefin]
(2, 3) 1094 Yn ystod y pennill olaf gwelir y fam yn ail-afael yn ei theclynnau glanhau.
(2, 4) 1095 Golygfa 4
(2, 4) 1096 ~
(2, 4) 1097 Tra fod y fam wrth ei gwaith daw'r bardd (Mr. Jones) i'r capel.
(2, 4) 1098 Heb ei gwled, â tua'r sêt fawr i chwilio am rywbeth.
(2, 4) 1099 ~
(2, 4) 1100 Wedi'i wylio am eiliad neu ddwy...
(Kitty) Whilo rhein, syr - Mr. Jones?
 
(Kitty) Lwcus.
(2, 4) 1120 Yn sylweddoli iddo anghofio am ei gofid.
(Mr Jones) Mrs. Jones, mae'n ddrwg gin' i.
 
(Kitty) O gwbwl.
(2, 4) 1125 Ennyd.
(Mr Jones) Ryw air wythnos hon?
 
(Mr Jones) Da iawn. Da iawn.
(2, 4) 1132 Eiliad letwhith.
(2, 4) 1133 Dim rhagor i'w ddweud.
(2, 4) 1134 Yn y pen draw...
(Mr Jones) O'r gorau.
 
(Mr Jones) Adra.
(2, 4) 1137 Mr. Jones yn troi i fynd.
(Kitty) Mr. Jones...
 
(Kitty) Mr. Jones...
(2, 4) 1139 Yn cynnig ei nodiadau iddo.
(Mr Jones) Diar-diar.
 
(Kitty) Debyg iawn.
(2, 4) 1145 Kitty'n oedi, yna'n galw ar ei ôl...
(Kitty) Mr. Jones...
 
(Mr Jones) Da bo chi.
(2, 5) 1165 Golygfa 5
(2, 5) 1166 ~
(2, 5) 1167 Ffilm:
(2, 5) 1168 Caledfryn Evans, Tal-y-bont, yn siarad am ei brofiadau yn filwr yn y rhyfel byd cyntaf.
(2, 6) 1169 Golygfa 6
(2, 6) 1170 ~
(2, 6) 1171 Ar ddiwedd y ffilm, darganfyddir Mati yn y pwlpud...
(Mati) I le'r wyt ti'n myned, fy machgen ffein i?
 
(Mati) Ymhell, mor bell o gartre sydd gyda'r llu.
(2, 6) 1196 Yn ystod y gân dechreua Kitty hulio'r bwrdd ar gyfer swper.
(2, 6) 1197 Mae'n gosod cyllyll a ffyrc ar gyfer dau.
(2, 7) 1198 Golygfa 7
(2, 7) 1199 Ar ddiwedd y gân, daw Mati o'r pwlpud.
(2, 7) 1200 Caiff Kitty rywfaint o sioc o'i gweld.
(Kitty) O!
 
(Kitty) Nag wyt ynta.
(2, 7) 1213 Ysbaid fer.
(Kitty) Ma' cwpwl bach o dato'n berwi.
 
(Kitty) Fyddan nhw ddim yn hir 'wan.
(2, 7) 1216 Y sôn am dato yn ei hatgoffa...
(Mati) O!
 
(Kitty) Dwi'n amau dim.
(2, 7) 1229 Ennyd fer.
(Kitty) Ond ma' dwyn oddi wrthyn nhw'n iawn, odi-hi?
 
(Kitty) Wedi hen fynd.
(2, 7) 1253 Ennyd.
(Mati) A fi, Mrs. Jones.
 
(Mati) Ow'n i wedi bwriadu gweud wythnos ddiwetha', ond...
(2, 7) 1260 Ennyd.
(Kitty) I le ti'n mynd?
 
(Kitty) 'Sdim unman arall i fynd, heblaw...
(2, 7) 1272 Wrth iddi ddechrau ei ddweud, mae Kitty'n sylweddoli mai bwriad Mati yw mynd bant.
(2, 7) 1273 ~
(2, 7) 1274 Mati yn gweld y realiti yn taro kitty ac yn edrych yn ymddiheuriol tuag ati.
(Kitty) {Yn galed.}
 
(Mati) Ysbyty.
(2, 7) 1287 Kitty'n edrych arni'n syn.
(Mati) Y Southern General.
 
(Mati) Ble ma' nhw'n dod a'r milwyr.
(2, 7) 1290 Ennyd.
(Kitty) Ble byddan nhw'n dod ag Ifan-John.
 
(Mati) Os bydd e'n lwcus.
(2, 7) 1293 Ennyd.
(Kitty) Fydd e ddim.
 
(Kitty) Mati fach!
(2, 7) 1305 Ennyd.
(Kitty) Wyt ti heb gael ysgol.
 
(Mati) Dim, hyd-yn-hyn.
(2, 7) 1322 Edrychiad gan Kitty.
(2, 7) 1323 Mati'n ateb yr edrychiad...
(Mati) Dyw e ddim yn gw'bod.
 
(Mati) Oes-e?
(2, 7) 1329 Kitty yn edrych yn ddwys-ymchwilgar arni, unwaith eto.
(2, 7) 1330 Yn y pen draw, Mati'n ateb yr edrychiad...
(Mati) Mae e'n sgwennu atoch chi bob wythnos?
 
(Mati) O hyd?
(2, 7) 1333 Amnaid gan Kitty tra'i bod yn rhagdybio'r hyn sydd gan Mati i ddweud nesaf, sef...
(Mati) Os na ddaw rhywbeth gyda'r post fory fydd deufis wedi mynd ers ges i'r llythyr diwetha'.
 
(Mati) Deufis.
(2, 7) 1337 Ennyd.
(Kitty) Wedest ti...
 
(Mati) Chi a'ch breuddwyd.
(2, 7) 1345 Kitty yn edrych arni.
(2, 7) 1346 Mati'n ateb yr edrychiad...
(Mati) Ifan-John a fi a'r ffarm fach gysurus.
 
(Mati) Ddigon amlwg.
(2, 7) 1355 Mae Kitty'n fud am ba bynnag amser y cymer i ddarnau olaf ei breuddwyd gwympo a chwalu'n deilchion.
(2, 7) 1356 ~
(2, 7) 1357 Yn y pen draw...
(Kitty) Mati...
 
(Kitty) Ddaw e nôl, ti'n meddwl?
(2, 8) 1361 Golygfa 8
(2, 8) 1362 ~
(2, 8) 1363 Cyhoeddir a chyd-gennir y trydydd emyn...
(Emyn) 167 (Caneuon ffydd)
 
(Emyn) [Ieuan Glan Geirionydd]
(2, 8) 1397 Yn ystod ail hanner yr emyn dechreua Kitty ar ei gwaith glanhau, unwaith eto.
(2, 9) 1398 Golygfa 9
(2, 9) 1399 ~
(2, 9) 1400 Wrth i Kitty weithio, gwelwn fod blinder mawr yn gwasgu arni.
(2, 9) 1401 Gwelwn hefyd ei bod yn gweithio â phenderfyniad i beidio ildio.
(2, 9) 1402 ~
(2, 9) 1403 Am gyfnod da, y tyndra mewnol hwn yw canolbwynt y ddrama.
(2, 9) 1404 ~
(2, 9) 1405 Yna, clywir darllenwr nad ydym yn ei weld, er ei fod yn bresennol (nid tâp) yn darllen...
(Darllenwr) Geirau y Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem.
 
(Ysbryd y Bardd a Kitty) ... yw y cwbl.
(2, 9) 1430 Ennyd.
(Llais Ifan-John.) Nid oes daioni mwy i ddyn, nag iddo fwyta ac yfed, a pheri i'w enaid gael daioni o'i lafur.
 
(Kitty) Ifan-John!
(2, 9) 1433 Ennyd.
(Darllenwr ffyddlon) Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd.
 
(Darllenwr sur iawn) Mai o law Duw yr oedd.
(2, 10) 1439 Golygfa 10
(2, 10) 1440 ~
(2, 10) 1441 Daw'r ymwelydd yn ei ôl.
(2, 10) 1442 Mae ganddo gamera neu ffôn-gamera yn ei law ac â ati i dynnu lluniau'r capel.
(2, 10) 1443 ~
(2, 10) 1444 Wedi ysbaid daw'r tywysydd o'i ôl.
(Ymwelydd) Did you get hold of her?
 
(Tywysydd) Although...
(2, 10) 1461 Ennyd.
(Ymwelydd) Nervous of strangers?
 
(Ymwelydd) Yes. Well, that's just it, you see.
(2, 10) 1468 Ennyd.
(Tywysydd) Look, how do you know...
 
(Tywysydd) Sort of.
(2, 10) 1524 Ennyd.
(Ymwelydd) So gra'ma wasn't Mrs. Jones' daughter.
 
(Ymwelydd) That's... well...
(2, 10) 1530 Ennyd.
(Ymwelydd) D'you think we could call by Mrs. Williams – would you mind?
 
(Tywysydd) Of course.
(2, 10) 1536 Y ddau yn symud i fynd.
(2, 10) 1537 ~
(2, 10) 1538 Yn ymyl y drws, mae'r ymwelydd yn sefyll yn sydyn.
(Ymwelydd) This Evan John – what happened to him?
 
(Tywysydd) She'll know – if anyone knows.
(2, 10) 1545 Y ddau yn ymadael.
(2, 11) 1546 Golygfa 11
(2, 11) 1547 ~
(2, 11) 1548 Offrymir gweddi gyfoes o'r frest.
(2, 11) 1549 ~
(2, 11) 1550 Ar ddiwedd y weddi, gwahoddir pawb i gydadrodd gweddi'r arglwydd...
(Llais) Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
 
(Llais) [Matthew 6: 9-13]
(2, 12) 1569 Golygfa 12
(2, 12) 1570 ~
(2, 12) 1571 Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn olaf...
(Emyn) 856 (Caneuon Ffydd)
 
(Emyn) [J. T. Job]
(2, 12) 1595 Yn ystod y canu gwelir ar y sgrîn ddyfyniadau archif Hansard / newyddion...
(2, 12) 1596 ~
(2, 12) 1597 Gwleidyddion Senedd Prydain yn cyfiawnhau mynd i ryfel, 1914
(2, 12) 1598 ~
(2, 12) 1599 Gwleidyddion senedd prydain yn cyfiawnhau rhyfel Irac, 2003, a chyrchoedd awyr, 2014
(2, 12) 1600 ~
(2, 12) 1601 Ar ddiwedd yr emyn, gwahoddir y gynulleidfa i gyd-adrodd y weddi apostolaidd...
(Llais) Gras ein Harglwydd Iesu Grist
 
(Llais) a fyddo gyda ni oll. Amen.
(2, 12) 1606 Y Diwedd