Cofia'n Gwlad

Ciw-restr ar gyfer Ifan-John

(Emyn) 732 (Caneuon Ffydd)
 
(Emyn) [Elfed]
(1, 6) 162 Mam?
(Kitty) Ie?
 
(1, 6) 165 Fyn'na y'ch chi.
(Kitty) Ble wyt ti'n disgwyl i fi fod?
 
(Kitty) Ddô'i mewn 'wan.
(1, 6) 169 Sdim ise i chi – o'm rhan i, beth bynnag.
(Kitty) Beth!
 
(Kitty) Allu di ddim mynd heb fwyd.
(1, 6) 172 Dwi wedi b'yta.
(Kitty) Rhaid i ti f'yta.
 
(Kitty) Rhaid i ti f'yta.
(1, 6) 174 Dwi wedi, Mam.
(Kitty) Labro drw'r dydd.
 
(Kitty) Sdim mynd heb fwyd i fod.
(1, 6) 177 Mam – er mwyn popeth – dwi wedi b'yta.
(1, 6) 178 Iawn?
(Kitty) Pryd?
 
(Kitty) Pryd?
(1, 6) 180 Gynne.
(1, 6) 181 Oedd popeth ar y ford 'fo chi.
(Kitty) O.
 
(Kitty) A fe f'ytes di heb aros amdana'i.
(1, 6) 184 Ma' hast arna'i, Mam.
(1, 6) 185 Wedes i wrthoch chi bore 'ma.
(Kitty) Ie-ie.
 
(Kitty) Paid adel i fi fod yn fwy o rwystr i ti.
(1, 6) 191 Mam, chi'n gw'bod fel ma'r plas 'na.
(1, 6) 192 Dim ond heno s'da hi tan duw-a-ŵyr pryd.
(Kitty) Ie.
 
(Kitty) Fel wyt ti'n gw'bod yn iawn.
(1, 6) 196 Fi'n gw'bod, fi'n gw'bod.
(1, 6) 197 Ond...
(Kitty) O, cer er mwyn popeth.
 
(Kitty) Bydd raid i fi unwaith briodi di'r lodes 'na.
(1, 6) 203 Sdim sôn am briodi, Mam.
(Kitty) Ifan-John bach, sdim ise dim 'sôn' oes-e?
 
(Kitty) Pan fydd raid, bydd raid.
(1, 6) 206 S'o Mati'r fath hynny o ferch.
(Kitty) Nagyw.
 
(Kitty) Wrth gwrs nag yw hi.
(1, 6) 209 Dyw hi ddim!
(Kitty) Na. –
 
(Kitty) A ti?
(1, 6) 212 Mam?
(1, 6) 213 Be' sy'n bod heno nawr?
(Kitty) Dim.
 
(Kitty) Gofynnes di hanes y Gerlan wedyn?
(1, 6) 218 Naddo.
(Kitty) Ifan-John!
 
(Kitty) Ifan-John!
(1, 6) 220 Ges i ddim cyfle, Mam.
(1, 6) 221 'Sbyth cyfle.
(Kitty) Nagoes.
 
(Kitty) Wyt ti am sefyll yn was bach i Mister Hollbwysig Morris am weddill dy oes?
(1, 6) 228 Dwi'n was mawr, Mam.
(1, 6) 229 Ddim gwas bach.
(Kitty) Gwas mawr, gwas bach.
 
(Kitty) Gwas yw gwas a mistir yw mistir.
(1, 6) 233 Ie, a se'n i'n cael y'n ffarm y'n hunan 'run lle fydden i, ontife – gorfod codi 'nghap i fe Pryse y Plas.
(Kitty) Wyt ti'n gwneud 'ny 'wan, beth bynnag.
 
(Kitty) Wyt ti'n gwneud 'ny 'wan, beth bynnag.
(1, 6) 235 Dim os fedra'i osgoi.
(Kitty) Ie.
 
(Kitty) Bachan mawr – tu ôl 'i gefen!
(1, 6) 239 Dwi'n mynd.
(Kitty) Ie.
 
(Bachgen 3) 'Wel' 'wedodd e.
(1, 9) 343 Wel?
(Bachgen 4) Wel, Ifan-John, Tŷ Capel...
 
(Bachgen 1) Pryd? – Te?
(1, 9) 377 Cyn bo hir.
(Bachgen 4) Cyn bo hir!
 
(Y Pedwar) Yr eiliad hon?
(1, 9) 384 Cyn bo hir, wedes i.
(Bachgen 1) Cyn bo hir!
 
(Bachgen 1) Gw'bod yn iawn.
(1, 9) 406 Falch clywed.
(Bachgen 2) Gwed te...
 
(Bachgen 4) Sy'n...
(1, 9) 411 Y'n nala i 'nôl?
(Y Pedwar) Ie!
 
(Dafydd) Ifan-John!
(1, 10) 418 Dafydd.
(Dafydd) Dyw hi ddim yn dod.
 
(Dafydd) Swper a...
(1, 10) 423 Boi recriwtio?
(Dafydd) O, ie-ie.
 
(Dafydd) Wedes i weden i wrthot ti.
(1, 10) 428 O'dd hi ddim yn hapus, debyg.
(Dafydd) Na.
 
(Dafydd) Ond wedyn...
(1, 10) 431 Ie.
(1, 10) 432 Wi'n gwbod.
(Dafydd) Ryw neges i fynd 'nôl?
 
(Dafydd) Ryw neges i fynd 'nôl?
(1, 10) 435 Na.
(1, 10) 436 Dim.
(1, 10) 437 Ti'n mynd 'nôl 'wan?
(Dafydd) Na.
 
(Dafydd) Beth amdanat ti? Be'ti'n mynd i 'neud 'wan?
(1, 10) 444 Ddim yn gw'bod. Teg edrych tuag adre, siŵr o fod. Sypreis i Mam.
(Dafydd) O, ie. Siwt mae dy fam? Gwella?
 
(Dafydd) O, ie. Siwt mae dy fam? Gwella?
(1, 10) 446 Gwella?
(Dafydd) Oedd hi ddim yn rhy dda wythnos ddiwetha', oedd-hi?
 
(Dafydd) Oedd hi ddim yn rhy dda wythnos ddiwetha', oedd-hi?
(1, 10) 448 Nagoedd-hi?
(Dafydd) O – wel, falle mai galw ar ryw neges ambiti'r capel wna'th Dad te.
 
(Dafydd) Anghywir, fel arfer.
(1, 10) 452 Dafydd, mae'n bryd i ti stopio gwneud hynny.
 
(1, 10) 454 Ymddiheuro drwy'r amser.
(1, 10) 455 Am ddim rheswm.
(1, 10) 456 Dim fel arfer.
(Dafydd) Ie, wel.
 
(Dafydd) Ti yw'r cynta' i w'bod, ti'n gw'bod.
(1, 10) 460 Gw'bod beth, Dafydd?
(Dafydd) Dwi'n mynd i fynd.
 
(Dafydd) Dwi'n mynd i fynd.
(1, 10) 462 Mynd?
(Dafydd) Ti'n gw'bod ble.
 
(Dafydd) Ti'n gw'bod ble.
(1, 10) 464 Dafydd!
(1, 10) 465 Ti!
(Dafydd) Ie.
 
(Dafydd) Mister Gwerth-dim-byd-i-neb.
(1, 10) 469 Mister Gwerth-dim-byd-i...
(1, 10) 470 Wyt ti'n sgolor, 'chan.
(1, 10) 471 Yn y coleg.
(1, 10) 472 Mynd yn athro.
(1, 10) 473 Prifathro, siŵr o fod.
(1, 10) 474 'Sdim ise i ti fynd.
(1, 10) 475 'Sneb yn disgwyl i ti fynd.
(1, 10) 476 Ti ddim y teip i fynd.
(Dafydd) Nagw. Wi'n gw'bod.
 
(Dafydd) Nagw. Wi'n gw'bod.
(1, 10) 478 Wel pam gythrel!...
(Dafydd) O'n i'n gw'bod byddet ti'n grac.
 
(Dafydd) O'n i'n gw'bod byddet ti'n grac.
(1, 10) 480 Wi ddim yn grac.
(1, 10) 481 Wi'n...
(Dafydd) Wyt, Ifan-John.
 
(Dafydd) Wyt ti'n grac.
(1, 10) 484 Ie.
(1, 10) 485 O-reit.
(1, 10) 486 Falle mod i.
(1, 10) 487 Ond...
(1, 10) 488 Beth ma' hwn ambiti?
(1, 10) 489 Achos dy dad, ife?
(1, 10) 490 Fe sy'n pwyso?
(1, 10) 491 O'n i'n meddwl bod e ddim yn pwyso.
(Dafydd) Dyw e ddim.
 
(Dafydd) Dyw e ddim.
(1, 10) 495 Wel mae'n pwyso ar bawb arall.
(Dafydd) Odi.
 
(Dafydd) Hollol.
(1, 10) 501 O.
(1, 10) 502 Mi wela' i.
 
(1, 10) 504 Wyt ti wedi gweud wrtho 'to?
(Dafydd) Dad?
 
(Dafydd) Dad?
(1, 10) 506 Ie.
(Dafydd) Na.
 
(Dafydd) Naddo.
(1, 10) 509 Bydd hynny'n werth ei weld.
(1, 10) 510 Gweld ei ymateb.
 
(1, 10) 512 Beth am dy fam?
(Dafydd) Dwi heb weud wrth neb.
 
(Dafydd) Dim ond ti.
(1, 10) 515 Gwd.
(1, 10) 516 Paid.
(1, 10) 517 Weda'i ddim gair.
(1, 10) 518 Bydd neb ddim callach.
(Dafydd) Mi fydda' i.
 
(1, 10) 521 Dafydd, Dafydd...
(Dafydd) Taw pia hi, Ifan-John.
 
(Dafydd) Dwi wedi penderfynu.
(1, 10) 527 Wyt.
(1, 10) 528 Mi wyt ti, ond-wyt-ti.
 
(1, 10) 530 Pryd te?
(1, 10) 531 Pryd wyt ti'n mynd?
(Dafydd) Yr... yr un pryd â thi?
 
(Dafydd) Wyt ti wedi gweud 'tho hi 'to?
(1, 10) 536 Ddim 'to.
(Dafydd) O.
 
(Dafydd) Ow'n i'n meddwl bo' ti'n meddwl gweud 'tho hi wythnos ddiwetha'.
(1, 10) 539 Ie.
(1, 10) 540 Ow'n i wedi meddwl.
(Dafydd) O.
 
(Dafydd) Ond wnes di ddim.
(1, 10) 543 Naddo.
(1, 10) 544 Wnes i ddim.
(Dafydd) Ond...wel... wyt ti'n dal...
 
(Dafydd) Ond...wel... wyt ti'n dal...
(1, 10) 547 Dafydd, wyt ti'n gw'bod mod i'n mynd.
(1, 10) 548 Wi wedi gweud 'ny ers y cychwyn cynta'.
(1, 10) 549 Cyn i John Cwm Bach a Meical Fallon a'r bois 'na i gyd fwrw gered.
(1, 10) 550 'Mhell cyn 'ny.
(Dafydd) Sori, Ifan-John.
 
(Dafydd) Sori, Ifan-John.
(1, 10) 552 Mowredd y byd!
(1, 10) 553 Co ti 'to.
(1, 10) 554 Ymddiheuro.
(Dafydd) Odw.
 
(Dafydd) Am dy...
(1, 10) 558 Am f'atgoffa o beth dwi wedi ffaelu 'wneud – ei chael hi mor anodd i wneud.
(1, 10) 559 Amhosib.
(1, 10) 560 Bob tro dwi'n eistedd wrth y ford swper 'na.
(1, 10) 561 Bob tro.
(1, 10) 562 Meddwl: dwi'n mynd i weud heno.
(1, 10) 563 Dwi'n mynd i.
(1, 10) 564 A wedyn mae'n gweud rhywbeth.
(1, 10) 565 Rhyw stori ambiti hi'n ferch ifanc.
(1, 10) 566 Neu ryw hanner stori mae hi wedi clywed am ffarm fydd yn dod yn rhydd a bod Pryse yn whilo am fachgen ifanc, rhywun â syniadau yn ei ben – fydd yn gallu 'neud rhywbeth o'r lle.
(1, 10) 567 Rhywun 'nunion fel fi, wrth gwrs.
(1, 10) 568 Yn union fel fi!
(1, 10) 569 Mam fach!
(Dafydd) Ond dim ond ti sydd gyda hi, Ifan-John.
 
(Dafydd) Ontife.
(1, 10) 573 O ie.
(1, 10) 574 Dim ond fi!
 
(1, 10) 578 A nawr - bydd raid i fi 'weud, on-fydd-e. – Oni bai bo' ti'n mynd i newid dy feddwl.
(Emyn) 735 (Caneuon Ffydd)
 
(1, 12) 610 Ie, Mam.
 
(1, 12) 612 Mam...
(Mam) {Ar ei draws.}
 
(Mam) Y tato 'ma sydd ar ôl.
(1, 12) 617 Mam, dewch 'ma am funud.
(Mam) Fydda'i ddim yn hir nawr.
 
(Mam) Fydda'i ddim yn hir nawr.
(1, 12) 619 Na.
(1, 12) 620 Nawr, Mam – plîs.
(Mam) Be' sy'n bod arnat ti, grwt.
 
(Mam) Ma' popeth biti bod yn barod.
(1, 12) 623 Na-na-na.
(1, 12) 624 Nawr.
(Mam) Ifan-John!
 
(1, 12) 627 Er mwyn popeth!
(1, 12) 628 Ma' rhywbeth 'da fi i 'weud!
 
(1, 12) 631 Ma' rhywbeth 'da fi i 'weud!
(Llais) Si hei lwli 'mabi,
 
(Llais) Pwy yw Brenin y gogoniant hwn? Arglwydd y lluoedd. Efe yw Brenin y gogoniant.
(1, 15) 769 Mae popeth gen' i, Mam...
(1, 15) 770 Odw, dwi'n siŵr...
(1, 15) 771 Bydd inc yn y baracs...
(1, 15) 772 Oedd hi'n gweud yn y papurach ges i.
(1, 15) 773 Dangoses i chi...
(1, 15) 774 Odw, dwi'n siŵr...
(1, 15) 775 Ie, ond beth os torrith y botel – y caead yn dod yn rhydd...
(1, 15) 776 Odi ma'r ffownten pen gen i...
(1, 15) 777 Yr un ges i 'da Dad-cu...
(1, 15) 778 Yr un gore, ie...
(1, 15) 779 Gwnaf, Mam...
(1, 15) 780 Odw, dwi'n gw'bod...
(1, 15) 781 Drychwch, ma' rhaid i fi fynd.
(1, 15) 782 Ma' rhaid...