Cwm Glo

Ciw-restr ar gyfer Dic

(Dai) Hei, dere mlân, Dic.
 
(1, 1) 32 Mae hast arnat ti bore 'ma o's e ddim?
 
(1, 1) 34 Pum munud i naw yw hi nawr; am naw r'ŷm ni'n arfer brecwasta.
(1, 1) 35 Mwy o hast i lanw dy grombil, spo, nag i lanw glo heddi 'to.
 
(1, 1) 37 Ti, boi bach, sy'n codi glo i chi'ch dou, iefe?
 
(1, 1) 41 Dere, gofyn fendith, 'ngwas i.
(Bob) {yn syml}
 
(Dai) Dwy i na Idwal byth yn gofyn bendith, a dŷm ni ddim wedi trengi yto, e Id?
(1, 1) 51 Does dim llawer o wahaniaeth gen i beth ych chwi'ch dou yn gredu, ond mi all mwy o flas fod ar fara menyn dim ond gweud thenciw amdano fe, ond gall e, Bob?
(Bob) Shŵr o fod.
 
(1, 1) 61 Ond Idwal, yn shŵr iti...
(Idwal) {yn torri arno}
 
(Idwal) {Gyda'i gilydd.}
(1, 1) 97 Mi ddylai fod yn gas gan dy galon di, Dai.
(Dai) {yn fawreddog}
 
(Dai) Sure snip, 20 to 1.
(1, 1) 104 Os yw'r gêm yna'n talu cystal i ti, pam wyt ti mor ddwl â dod lawr fan hyn?
(1, 1) 105 Mae'n dda bod y bois ma'n gallach na thi.
 
(1, 1) 107 Ar y radio neithiwr roedd e'n dweud i'r llywodraeth gario, a bod y bil yn saff hyd y committee stage.
(Idwal) Good.
 
(Idwal) Cer mlaen â'th geffylau.
(1, 1) 150 Gad lonydd iddyn nhw, Dai.
(1, 1) 151 Mae Idwal eisiau'r pethau ma erbyn ei sertifficet.
(1, 1) 152 Wyt i'n gwybod ei fod e'n mynd i eiste ei ecsam yr haf'ma?
(1, 1) 153 Be' dda yw stwff felna, leiciwn i wybod.
(1, 1) 154 Dwli pen hewl.
(Idwal) Prove that the square on AG equals the sum of the squares on the other two sides.
 
(1, 1) 165 Gad na fe, Id, y mochyn dienaid sut ag yw e.
(1, 1) 166 Der, byta dy fwyd.
(1, 1) 167 Does gyda ni ddim gormod o amser i gael...
(1, 1) 168 Ac rwyt ti'n cael blas ar y taclau 'na!
(1, 1) 169 Fuodd gen i ddim diddordeb ynddyn nhw arioed...
(1, 1) 170 Na fe, {IDWAL wedi eistedd, mewn cywilydd at DAI, a rhyfeddod at ddoethineb DIC} cwpla dy fwyd.
(Bob) {yn torri'r tawelwch digysur}
 
(Bob) Wel, wir, brecwast go brin sy gen i heddi a ffido Dai a chwbwl.
(1, 1) 173 Hy, ie, wir, 'ngwasi; ond mi fydd bola Dai rhy dynn i blygu, mi alli fentro.
(1, 1) 174 Hwde {estyn gylffyn o fara cyrens iddo}, cymer y bara cyrens ma, alla i ddim ei gwpla fe.
(Dai) Be gythraul sy'n bod arnat ti?
 
(Dai) Oes pinshed fach gen ti, Dic?
(1, 1) 195 Oes thenciw.
 
(Dai) Wel der â blewyn te!
(1, 1) 199 O dyna gân arall nawr.
 
(1, 1) 201 Pryd prynaist ti faco ddiwetha, Dai?
(Dai) Y diawl, yn gwneud sport ar'y mhen i!
 
(Dai) Mi leiciwn i gael mwgyn bach o hon nawr.
(1, 1) 206 Ti yw'r diawl.
(1, 1) 207 Sut y dest ti â honna lawr?
(1, 1) 208 Ac rwyt ti mor wan â chath fach, ac yn ddigon dwl i'w thano hi.
 
(1, 1) 210 Dyna!
(Dai) O reit, o reit, rwyt ti'n barticlar iawn.
 
(Dai) O ca dy lol.
(1, 1) 220 Bob, faint o fwc sy'n dy dram di bore 'ma.
(1, 1) 221 Rwy'n siwr na ellit ti ddim llanw honna i gyd yn lân dy hunan; a ti llanwodd hi fwya, gynta.
(1, 1) 222 Os cewch chi'ch dal am lanw glo brwnt, maes cewch chi fynd yn bendramwnwgwl.
(Bob) {gan edrych ar DAI}
 
(Bob) Mae'r glo rwy i wedi roi ar y top yn iawn, ond... wni ddim be sy'n ei chanol hi.
(1, 1) 226 Petawn i'n ffeierman f'hunan, fydde gen i ddim byd i'w wneud ond gwneud hebddot ti, Dai.
(Dai) Petai ti'n ffeierman mai fyddai raid i fi gael rhyw ffordd arall falle.
 
(Dai) Pwy eisiau iti deimlo sy?
(1, 1) 245 Mae rheswm ar bopeth.
(1, 1) 246 Rwyt ti wrth dy fodd yn chwilio popeth gwael am bawb.
(1, 1) 247 Dim ond celwyddau dynion o dy deip di sy am Morgan Lewis.
(1, 1) 248 Mae'n well i chi ofalu neu fe gewch chi'ch hunan mewn twll y gŵr drwg maes o law.
(Dai) O'r sant, sut ag wyt ti.
 
(Dai) Fallai bod hi rywbeth yn debyg i Moc ei brawd.
(1, 1) 257 Er mwyn y Nefoedd, dal dy dafod, Dai.
(Idwal) Gedwch na fe, mi ddwed rywbeth heb fod yn hir y bydd raid imi roi whelpen iddo fe.
 
(Bob) Nawr te, dere mlaen.
(1, 1) 275 Gad lonydd iddo, Idwal.
(1, 1) 276 Paid â gwneud sylw ohono.
(1, 1) 277 Dim ond dy bryfocio di mae e, i'th hela di'n grac.
 
(1, 1) 279 Ond wyddost ti Dai, rwyt ti'n haeddu'r goten orau gest ti erioed am siarad felna.
(Dai) {yn chwerthin}
 
(1, 1) 290 Ddylet ti ddim siarad felna o flaen y bois 'ma.
(Dai) Arnyn nhw mae'r bai, nhw ddechreuodd.
 
(Dai) A mae Bob yn gwybod cymaint â finnau llawn.
(1, 1) 293 Mae gen ti ferch fach dy hunan cofia.
(1, 1) 294 Pa ddylanwad wyt ti'n ddisgwyl gael arni hi?
(1, 1) 295 Druan fach o Mrs. Davies!
(Dai) Does dim eisiau iti foddrach amdanyn nhw.
 
(Dai) Does neb wedi rhoi hawl iti i fesan yn 'y musnes i, oes e, er dy fod ti'n esgus bod mor dduwiol ac yn gweddïo rownd abowt.
(1, 1) 298 Nagoes, nagoes.
(1, 1) 299 Ond druain bach ddweda i, yn dy ofal di.
(Dai) Pait di â becso dim amdanyn nhw.
 
(Dai) Ca di dy geg amdanyn nhw.
(1, 1) 303 A dyw Mrs. Davies ddim yn gryf iawn, ond nagyw hi?
(Dai) Mae'r hen groten yn burion, does dim eisiau iti ffysan lot amdani hi.
 
(Dai) Mae lot o anal ynddi hi eto.
(1, 1) 306 A Marged fach, der weld, pedair ar ddeg yw hi nawr?
(Dai) Nage, pymtheg.
 
(Dai) Nage, pymtheg.
(1, 1) 308 Mae'n ddrwg gen i amdani hi.
(Dai) Mae hi'n dda ddigon.
 
(Dai) Diawst i, mae hi'n dod yn hen groten fach lân, hefyd, my boi.
(1, 1) 314 Edrych ar ei hôl hi, er mwyn Duw, os nad oes gen ti ddim byd arall i fod yn falch ohono.
 
(1, 1) 316 Dai, pob lwc iti.
(1, 1) 317 Mi ddylet ddod i benshwn am beidio â gweithio, neu am hau celwyddau.
(1, 1) 318 Yr unig biti yw fod y bois bach 'ma yn dy ofal di.
(1, 1) 319 Os na ofeli di mi fyddi wedi dwyn ei job oddi ar Bob a'i roi e ar yr hewl heb na dôl na dim.
(1, 1) 320 Ac os bydd e gyda thi'n hir mi fydd heb ei gymeriad hefyd mae arnai ofan.
 
(Lewis) Rwy'n ofni y bydd raid iti fynd, Dai.
(1, 1) 415 Hylo, bore da, syr.
(Lewis) Bore da, Dic.
 
(Lewis) Faint ych chwi wedi'i wneud bore ma?
(1, 1) 419 Newydd hela'r ail maes.
(1, 1) 420 Mae'r drydedd bron yn wag mewn yna.
(1, 1) 421 Dyw'r lle ddim yn ffôl.
(1, 1) 422 Rŷm ni'n gallu dod i ben ag e'n weddol nawr.
(Lewis) Dyna oeddwn innau'n feddwl.
 
(Lewis) Gwisg dy got!
(1, 1) 429 O! Mr. Lewis!
(Lewis) Beth arall alla i wneud?
 
(Dai) Rwy i'n hen barod...
(1, 1) 438 Rhowch un cyfle arall iddo fe, Mr. Lewis.
(Lewis) Beth well fydda i.
 
(1, 1) 464 Wel, wel... Mae byd pert o'i flaen e, druan; a'i deulu hefyd... Wel, wel.