Cwm Glo

Ciw-restr ar gyfer Lewis

(Dai) Hei, dere mlân, Dic.
 
(Dai) {Hawdd canfod ei fod mewn penbleth a gwylltineb.}
(1, 1) 332 Bore da, Dai.
(Dai) Bore da, syr.
 
(Dai) Mae hi'n fore ffein.
(1, 1) 335 Sut mae pethau'n mynd?
(Dai) Gweddol.
 
(Dai) Talcen go galed.
(1, 1) 338 Ie, fel arfer, mae'n debyg.
 
(1, 1) 340 Pam wyt ti'n colli cymaint o amser nawr yn ddiweddar?
(Dai) Dyw'r wraig yco ddim hanner iach, syr.
 
(Dai) Dyw'r wraig yco ddim hanner iach, syr.
(1, 1) 342 Dai bach, wyt ti wedi anghofio eich bod chwi'n byw o fewn ergyd carreg i'n tŷ ni?
(1, 1) 343 Mi glywais dy fod wedi meddwi'n garn echnos.
(1, 1) 344 Ym mhle wyt ti'n cael arian i dorri peth o'r syched ofnadwy 'na sy'n dy flino di?
 
(1, 1) 346 Rwyt ti ar y bŵs bob tro daw ceffyl adre mae'n debyg.
(1, 1) 347 Mae gen ti ffitach gwaith i'th geiniogau, siwr o fod.
 
(1, 1) 349 Sut wyt ti, boi bach?
(1, 1) 350 Wyt ti'n cael digon o waith...
(1, 1) 351 Gofala am y lamp yna.
(Bob) Reit, syr.
 
(1, 1) 361 Arnat ti neu Dai mae'r bai am yr holl lo mân yma sy tan draed?
(1, 1) 362 Rych chi braidd yn anniben gyda'ch gwaith.
(1, 1) 363 Bydd yn fwy cryno, machgen i.
 
(1, 1) 366 Dysg y crwtyn yna i fod yn fwy cryno Dai, neu fydd e dda i ddim byth; mae'r lle 'na yn ddychrynllyd.
 
(1, 1) 370 Dere yma Dai... ar unwaith!
(Dai) {o'r tu mewn}
 
(1, 1) 376 Rwy i wedi sylwi bod lot o fwc yn cael ei dipio'r diwrnodau diwetha 'ma.
(Dai) {yn ansicr a ddisgwylir iddo ef ddywedyd dim}
 
(Dai) Oes e? O...?
(1, 1) 379 Ac y mae lot o slag yn hon.
 
(1, 1) 381 Dyw hyn ddim yn ddigon da.
 
(1, 1) 384 Does dim rhyfedd nad ŷm ni'n gallu gwerthu glo.
(1, 1) 385 Beth wyt ti'n ddisgwyl ond colli marchnadoedd â glo fel hyn!
 
(1, 1) 387 A thi a'th short fydd y cynta i achwyn pan fydd y pyllau yma wedi eu cau.
(Dai) {fel llechgi}
 
(Dai) Bob... Bob, dere ma.
(1, 1) 391 Rwy i'n dy dalu di am ddysgu'r crwtyn na'n iawn.
(1, 1) 392 Sawl tram wyt ti wedi'i lanw heddi?
(Dai) Hon yw'r gynta bore ma...
 
(Bob) Oet ti'n galw, Dai?
(1, 1) 397 Does dim o'th eisiau di.
(1, 1) 398 Cer nôl at dy waith machan bach i...
(1, 1) 399 Na, ateb...
(1, 1) 400 Ti lanwodd y dram yma?
(Bob) Fi rasodd ei thop hi, syr.
 
(Bob) Fi rasodd ei thop hi, syr.
(1, 1) 402 A dim ond hon sydd wedi ei llanw gyda chwi'r bore ma?
(1, 1) 403 Pam hynny?
(Bob) Rwy i wedi bod wrthi â'm holl egni syr.
 
(Dai) Crwtyn eiddil yw e, a dyw e ddim yn credu mewn gweithio'n rhy galed.
(1, 1) 407 Bydd ddistaw.
(1, 1) 408 Paid â dweud dim rhagor o gelwyddau, da ti.
 
(1, 1) 410 O'r gorau, machgen i...
 
(1, 1) 412 Dowch yma am funud.
 
(1, 1) 414 Rwy'n ofni y bydd raid iti fynd, Dai.
(Dic) Hylo, bore da, syr.
 
(Dic) Hylo, bore da, syr.
(1, 1) 416 Bore da, Dic.
(1, 1) 417 Mae yna le go lew fan hyn, oes e ddim?
(1, 1) 418 Faint ych chwi wedi'i wneud bore ma?
(Dic) Newydd hela'r ail maes.
 
(Dic) Rŷm ni'n gallu dod i ben ag e'n weddol nawr.
(1, 1) 423 Dyna oeddwn innau'n feddwl.
(1, 1) 424 A dim ond hon mae Dai wedi'i llanw.
(1, 1) 425 A mae hi'n ddychrynllyd.
 
(1, 1) 427 Mae'n ddrwg gen i am Mrs. Davies, ac am Marged fach, ond dyna fe, beth sy gen i i'w wneud?
(1, 1) 428 Gwisg dy got!
(Dic) O! Mr. Lewis!
 
(Dic) O! Mr. Lewis!
(1, 1) 430 Beth arall alla i wneud?
(1, 1) 431 Mae Dai yn colli yn agos hanner ei amser—ceffylau a chwrw; mae e'n anniben, dyw e ddim gwerth ei halen; a mae'r hyn mae e'n ei wneud yn fwy o golled na dim arall.
(1, 1) 432 Glywaist ti Dai, casgla dy dŵls.
(Dai) O, fel na, iefe.
 
(Dic) Rhowch un cyfle arall iddo fe, Mr. Lewis.
(1, 1) 439 Beth well fydda i.
(1, 1) 440 Run peth yn union fydd e.
(1, 1) 441 Na, alla i ddim rhoi cynnig arall iddo fe.
(Dai) Does dim eisiau i ti, Dic, fegian trosto i.
 
(Dai) Mae gwinoedd a...
(1, 1) 446 O'r gorau, cer nawr cyn digwydd gwaeth iti.
(1, 1) 447 Galw am dy gardiau yn yr offis.
(Dai) Gobeithio y daw'r un lwc i chwithau bob enaid!
 
(Dai) Mi fydd y cwmni ma wedi cael y gorau maes ohonoch chwi cyn hir... a mi fyddwch chwi'n cael eich tipio maes i ben y tip yna—rhy hen a rhy stiff i blygu.
(1, 1) 451 A glywaist ti fi'n dweud wrthyt ti am fynd?
(1, 1) 452 Nawr te!