Cyfyng-Gyngor

Ciw-restr ar gyfer Awdur

 
(1, 0) 8 Pwy ar y ddaear...?
 
(1, 0) 11 Esgusodwch fi, ond beth ydy' ystyr hyn?
(1, 0) 12 'Chlywais i monoch chi'n cnocio.
(1, 0) 13 Pwy ydych chi?
 
(1, 0) 15 Wel?...
(1, 0) 16 Edrychwch yma.
(1, 0) 17 'Does gen' i ddim amser nac amynedd i wastraffu.
(1, 0) 18 Mae arna' i eisiau eglurhad.
(Ann) Gennych chi mae gwaith egluro, 'rwy'n credu.
 
(Ann) Gennych chi mae gwaith egluro, 'rwy'n credu.
(1, 0) 20 Fi?
(1, 0) 21 Beth ydych yn 'i feddwl?
(1, 0) 22 'Wn i yn y byd─
(Ann) Ystyriwch eto.
 
(Ann) Ystyriwch eto.
(1, 0) 24 O dowch, dowch!
(1, 0) 25 Llai o'r chware plant yma!
(Ann) Nid chware plant mono fo.
 
(Ann) 'Rwy' o ddifri'.
(1, 0) 28 O'r gora'.
(1, 0) 29 Mae yna ryw gamgymeriad yn amlwg.
(Ann) 'Does yna ddim camgymeriad o fath yn y byd.
 
(Ann) 'Does yna ddim camgymeriad o fath yn y byd.
(1, 0) 31 Yna'n enw rheswm, 'wnewch chi esbonio'r dirgelwch i mi?
(1, 0) 32 Beth ydy'ch meddwl chi'n dwad i'r tŷ yma mor ddiseremoni?
(Ann) 'Doedd gen'i ddim dewis.
 
(Ann) 'Roedd yn rhaid i mi ddwad yma.
(1, 0) 35 Ond—!
(Ann) Oeddech chi ddim yn fy nisgwyl?
 
(Ann) Oeddech chi ddim yn fy nisgwyl?
(1, 0) 37 Am y tro d'wetha', pwy ydych chi?
(Ann) 'Ddylech chi ddim gofyn hynna.
 
(Ann) 'Rydych yn fy 'nabod i'n well na neb.
(1, 0) 40 Beth!
(1, 0) 41 'Welais i 'rioed monoch chi o'r blaen.
(Ann) Edrychwch arna' i eto—yn fanwl.
 
(1, 0) 47 Ydw'... rydych yn hollol ddieithr i mi.
(Ann) 'Dydy' hynna ddim yn wir.
 
(Ann) Pam na wnewch chi gyfadde'?
(1, 0) 50 O, hwyrach i mi eich gweld yn rhywle, rywdro─yn un o'r dorf.
 
(1, 0) 52 Ond 'wn i ddim pwy ydych chi.
(1, 0) 53 'Ydy' hynna'n glir?
(Ann) Ac eto mae yna anesmwythyd yn eich meddwl.
 
(Ann) Ond ar yr un pryd, yn ofni beth fyddai hynny'n 'i olygu.
(1, 0) 57 'Rydych chi'n siarad mewn damhegion.
(1, 0) 58 'Dydw'i ddim yn eich deall.
(Ann) 'Fynnwch chi ddim deall, yn hytrach...
 
(Ann) 'Ydy' o'n wir mai Awdur ydych chi?
(1, 0) 62 Ydy'.
(Ann) A'r foment yma 'rydych wrthi'n sgrifennu drama?
 
(1, 0) 65 Sut y gwyddech chi hynna?
(Ann) 'Rwy'n gwybod cymaint â chwitha' pob tipyn,—mwy efallai.
 
(1, 0) 74 Na, 'dydy' o ddim yn bosibl!
(Ann) 'Ellwch chi ddim gwadu tystiolaeth eich llygaid eich hun.
 
(Ann) 'Wna'i ddim niwed i'r sawl a'm creodd!
(1, 0) 81 Beth... dd'wedsoch chi?
(Ann) 'Mod i'n un o gymeriadau eich drama, a fy mod i'n fyw.
 
(Ann) 'Mod i'n un o gymeriadau eich drama, a fy mod i'n fyw.
(1, 0) 83 Ann!
(Ann) Ann Morgan, ia.
 
(Ann) Dyna pam y daethom yma wyth mis yn ôl, i aros efo'i dad...
(1, 0) 88 Arhoswch!
(1, 0) 89 P'le dd'wedsoch chi mae'r hen ŵr yn byw?
(Ann) Yma, debyg iawn, yn hen blasty-fferm "Llwyn Bedw".
 
(Ann) Yma, debyg iawn, yn hen blasty-fferm "Llwyn Bedw".
(1, 0) 91 Dyna ben ar eich chwedl!
(1, 0) 92 Ai hen blas 'rydych chi'n galw'r byngalo-brics yma?
(1, 0) 93 Edrychwch arno fo,—yn dŷ newydd sbon â'r cyfleustera modern i gyd; a'i rent, gwaetha'r modd, yn ddeuddeg punt y mis!
(1, 0) 94 Ewch yn ôl i fyd breuddwydion, Ann Morgan.
(1, 0) 95 Yno mae eich lle, nid yma...
(1, 0) 96 Ewch, ewch i mi gael deffro!
(Ann) Lewis, mae o'n trio'n cadw ni allan!
 
(Lewis) Fe ddaw'r lleill yma'n y man.
(1, 0) 107 Y... lleill?
(Lewis) Ia, y gweddill ohono' ni.
 
(1, 0) 117 Y presennol sy'n bwysig i mi.
(1, 0) 118 'Dydych chi ddim yn sôn am hwnnw.
(1, 0) 119 Feiddiwch chi ddim.
(1, 0) 120 Does gennych chi na bywyd na bodolaeth y tu allan i'm dychymyg i!
(1, 0) 121 SETH
 
(1, 0) 123 Celwydd!
(Ann) Seth—!
 
(Seth) Y presennol dd'wedsoch chi?
(1, 0) 129 Ia, 'rwy'n eich herio!
(Seth) Heriwch faint â fynnoch.
 
(Seth) Chi, sydd mewn poen meddwl ers misoedd.
(1, 0) 134 Poen creu ydy' hwnnw.
(1, 0) 135 'Does yna 'run genedigaeth heb ei wewyr.
(Lewis) Ond 'dydy'r gwewyr ddim yn gyfyngedig i chi.
 
(Lewis) Na, Doctor Morus ydy' hwn.
(1, 0) 158 Doctor Morus!
(Morus) Hanner munud, os gwelwch yn dda.
 
(Ann) Ychydig cyn i chi ddwad i mewn, 'roedd o'n gwadu'n bodolaeth ni.
(1, 0) 180 'Rwy'n dal i'w wadu.
(1, 0) 181 Beth bynnag sydd i' gyfri' am yr hunlle yma, mi ddaliaf fy ngafael ar reswm a synnwyr cyffredin.
(Seth) Synnwyr cyffredin...!
 
(Lewis) 'Ydych chi'n meddwl bod rheswm yn ddigon?
(1, 0) 186 Mae o'n ddigon i mi.
(Morus) Ydy'—a dyna pam 'rydy' ni'n y picil truenus yma efo'n gilydd.
 
(Lewis) Ystyriwch hyn; i fyny i dri mis yn ôl 'roeddech chi'n cael hwyl ar eich gwaith; yn sgrifennu'n rhwydd, a'r ddrama'n datblygu'n foddhaol...
(1, 0) 189 Mae hynna'n wir.
(Lewis) Ac yna, yn sydyn, dyma saib.
 
(Lewis) Pam?
(1, 0) 193 Colli'r Awen dros dro, dyna'r cyfan.
(Ann) Beth ydych chi'n 'i olygu wrth "Awen"?
 
(Ann) Beth ydych chi'n 'i olygu wrth "Awen"?
(1, 0) 195 Wel, ysbrydoliaeth,—yr ysfa i greu os mynnwch chi.
(1, 0) 196 'Fedrwch chi mo'i ddadansoddi.
(Lewis) Yn hollol,—am ei fod yn ddirgelwch y tu hwnt i ddeddfau rheswm.
 
(Lewis) 'Rydych yn dod yn nes ato' ni ar eich gwaetha'.
(1, 0) 199 Beth ydych yn 'i feddwl?
(Morus) Mae o'n berffaith syml.
 
(1, 0) 205 Dyna'r ora' eto!
(1, 0) 206 'Ydy'r ffasiwn o fynd ar streic wedi cyrraedd byd y cysgodion hefyd?
(1, 0) 207 Wel! Wel!
(Seth) Nid dyma'r amser i ffraethineb.
 
(1, 0) 210 Gwaith hawdd fydd datrys y broblem, felly.
(1, 0) 211 Dim ond cytuno ar gyflog,—yr un hen gân!
(1, 0) 212 Faint ga'i gynnig i chi—saith a chwech yr awr?
(Lewis) Peidiwch â chymryd y peth yn ysgafn.
 
(1, 0) 225 Wel, mae hi'n ddiddorol dros ben, rhaid cyfadde'!
(1, 0) 226 Yn wahanol iawn i'r helyw o freuddwydion.
(1, 0) 227 Ond am hwyl, gadewch i ni fynd ymlaen efo'r sgwrs.
(1, 0) 228 'Ydych chi'n beiddio dweud na fedrwn i eich denu ar fy ôl?
(Seth) Na fedrwch byth!
 
(Seth) Na fedrwch byth!
(1, 0) 230 Yna, fe fydd rhaid eich gorfodi.
(Seth) 'Rydych wedi methu hyd yma.
 
(Seth) 'Rydych wedi methu hyd yma.
(1, 0) 232 Peidiwch â bod yn rhy siwr.
(1, 0) 233 Hwyrach i mi anelu'n rhy uchel.
(1, 0) 234 Ond mae un peth yn sicr; mi fedrwn eich llusgo gerfydd eich gwalltiau i unrhyw gyfeiriad a fynwyf.
(Ann) {Angerddol.}
 
(Ann) Hwyrach y byddwch yn barotach wedyn i gydnabod a pharchu'n personoliaeth.
(1, 0) 244 Peidiwch â dweud ein bod am gael dagrau!
(1, 0) 245 Wel, mae pethau'n gwella bob munud.
(Seth) {Yn wyllt.}
 
(Morus) Ein hunig obaith ydyw iddo fynd o'i ewyllys ei hun.
(1, 0) 262 A 'dydy' hynny, gysgodion annwyl, ddim yn debygol iawn o ddigwydd!
(Seth) {Cam ymlaen.}
 
(1, 0) 284 Hanner munud, Abram Morgan.
(Abram) {Sefyll.}
 
(Abram) Ia?
(1, 0) 287 'Fyddwch chi gystal ag ateb un cwestiwn?
(1, 0) 288 Ym mhle dybiwch chi 'rydy' ni rwan?
(Abram) 'Does yna ddim amheuaeth ynglŷn â hynny.
 
(Seth) Wel, 'goeliwch chi rwan?
(1, 0) 306 Ond beth am y tu allan yna?
(1, 0) 307 Welwch chi mo'r stryd a'r ysgol a'r eglwys a'r ffatri?
(Abram) {Nid yw wedi symud.}
 
(Abram) A'r Cnicht yn codi fel dagr ar y gorwel.
(1, 0) 313 Beth!
(Abram) Clywch!...
 
(Seth) Dechra' gweld y gwirionedd hwyrach?
(1, 0) 327 Beth wyddoch chi am wirionedd?
(Lewis) Cymaint â chwithau.
 
(1, 0) 331 'Dydych chi ddim yn unigolion.
(1, 0) 332 'Does gennych chi ddim profiad ar wahan i mi, eich crewr!
(Ann) 'Rydy' ni wedi trafod hynna'n barod.
 
(Seth) Safwch yn y fan yna.
(1, 0) 341 Ewch o'r ffordd.
(Seth) 'Rwy'n eich herio.
 
(Seth) 'Rwy'n eich herio.
(1, 0) 343 Gadewch i mi fynd heibio!
(Morus) I beth?
 
(Morus) I beth?
(1, 0) 345 Mae yna rywun y tu allan i'r drws yna.
(1, 0) 346 A mi fynna'i wybod pwy ydy' o.
(Ann) Pa faint gwell fyddwch chi?
 
(Ann) 'Ellwch chi ddim dianc rwan, mae'n rhy hwyr.
(1, 0) 349 Wrth gwrs 'rydych yn ofni'n eich calon!
(1, 0) 350 Realiti ydy'r drws yna: man deffro.
(1, 0) 351 Cyn gynted ag yr agora'i o, fe fydd ar ben arnoch.
(1, 0) 352 Ewch o'r neilltu!
(Seth) Symuda' i 'run fodfedd.
 
(Morus) Agorwch y drws.
(1, 0) 363 Mae'r AWDUR yn agor y drws yn sydyn, a daw MABLI i mewn.
(1, 0) 364 Mae ei chot etc. amdani, a charia gas yn ei llaw fel petai wedi teithio o bell..
(1, 0) 365 Dengys SETH yn amlwg ei fod yn ei hadnabod, ond nid oes ryw lawer o groeso yn ei edrychiad.
(Mabli) {Wrth y drws.}
 
(1, 0) 371 Beth ydy'ch neges chi?
(Mabli) Neges?
 
(Mabli) Neges?
(1, 0) 373 Wel 'rwy'n cymryd yn ganiataol mai i'm gweld i y daethoch chi yma.
 
(1, 0) 375 Oddi wrth y cyhoeddwyr efallai?
(Mabli) Dim o gwbwl.
 
(Mabli) Dim o gwbwl.
(1, 0) 377 Ond 'rydych yma i ryw bwrpas.
(1, 0) 378 Beth ydy' o?
(Mabli) "Llwyn Bedw"! 'Run fath o hyd.
 
(Mabli) 'Dydy' o wedi newid dim.
(1, 0) 382 Peidiwch â dweud mai un ohonyn' nhw 'rydych chi!
(Mabli) Mae'n well i chi ofyn hynna i Seth.
 
(1, 0) 385 'Dwy' i ddim yn deall.
(Seth) O peidiwch ag edrych mor hurt, da chi!
 
(Seth) 'Ydy'r enw Mabli yn golygu rhywbeth i chi?
(1, 0) 390 Mabli?
(1, 0) 391 Mabli... ond mae hyn yn wrthun!
(1, 0) 392 'Wnes i ddim ond ei chrybwyll ar ddechrau'r ddrama.
(1, 0) 393 'Doeddwn i ddim yn bwriadu datblygu ei chymeriad.
(Mabli) Ond datblygu wnes i heb yn wybod i chi.
 
(Mabli) {Eistedd.}
(1, 0) 405 'Dydych chi ddim yn sylweddoli.
(1, 0) 406 Yn enw popeth, ewch odd' yma rwan cyn iddi fynd yn rhy hwyr!
(Ann) Mae hi'n aros yma.
 
(Mabli) A pheth arall, fe dâl ei atgoffa fo {cyfeirio af yr AWDUR} o'i gyfrifoldeb am y trybini.
(1, 0) 432 'Does dim rhaid i chi.
(1, 0) 433 Roedd eich sefyllfa'n un digon cyffredin—
(Mabli) Rhy gyffredin efallai.
 
(Seth) 'Ydych chi'n meddwl y medrwch chi gronni pedair blynedd o uffern i hanner dwsin o eiriau?
(1, 0) 443 'Roedd o'n ddigon i bwrpas y plot.
(1, 0) 444 Nid chi'ch dau oedd y prif gymeriadau.
(Mabli) 'Roeddwn i, wrth gwrs, i fod i farw mewn damwain ar y ffordd.
 
(Mabli) 'Fynna'i ddim marw i siwtio plot dramodydd anghelfydd!
(1, 0) 453 O, pa ddiben dadla'!
(Morus) Yn hollol.
 
(Ann) P'run gymrwch chi i
(1, 0) 459 Cyn i mi ateb hynna, 'rwyf am awgrymu ffordd arall o'r dryswch.
(1, 0) 460 Rydych yn honni na allaf eich gwthio ymlaen yn erbyn eich ewyllys.
(1, 0) 461 O'r gora'.
(1, 0) 462 Ond pe bawn yn cynnig eich arwain, er eich lles, a fyddech chi'n fodlon fy nilyn?
(Seth) Nid plant diymgeledd ydy' ni.
 
(1, 0) 466 Er eich lles, ddywedais i.
(1, 0) 467 Da chi gwrandewch arna'i.
(1, 0) 468 'Ydych chi wedi meddwl beth all fod o'ch blaen?
(1, 0) 469 Nid gardd flodau ydy' bywyd, ond maes brwydr, â'i ofid a'i drallod a'i siomedigaeth.
(1, 0) 470 Rydych yn hawlio rhyddid heb sylweddoli ei bris.
(1, 0) 471 Rwy'n dweud hyn o dosturi ac o gariad tuag atoch.
(1, 0) 472 Ystyriwch eto, 'rwy'n erfyn arnoch.
(Ann) 'Rydym wedi ystyried popeth.
 
(Ann) Does arno' ni ddim ofn ei wynebu.
(1, 0) 476 'Fedrwch chi ddim gwneud hebof fi.
(1, 0) 477 Yn enw trugaredd, Abram Morgan, ceisiwch chi eu darbwyllo!
(Abram) Mae'n ddrwg gen' i, 'alla' i ddim ymyrryd rwan.
 
(Abram) 'Does gen'i ddim hawl i'w rhwystro.
(1, 0) 485 O'r gora.
(1, 0) 486 Cymrwch yr awenau yn eich dwylo, ac ewch y ffordd a fynnoch.
 
(1, 0) 488 Ond os digwydd i chi syrthio i'r gors, peidiwch â gweld bai arnaf fi...
(1, 0) 489 Duw a'ch helpo!