Cyfyng-Gyngor

Ciw-restr ar gyfer Lewis

(Awdur) Pwy ar y ddaear...?
 
(Ann) Lewis, mae o'n trio'n cadw ni allan!
(1, 0) 102 Mae'n rhy hwyr i hynny, wyddoch chi.
(1, 0) 103 Mae pethau wedi mynd yn rhy bell.
(Ann) Ond fyn o ddim coelio, Lewis.
 
(Ann) Ond fyn o ddim coelio, Lewis.
(1, 0) 105 Amser a ddengys.
(1, 0) 106 Fe ddaw'r lleill yma'n y man.
(Awdur) Y... lleill?
 
(Awdur) Y... lleill?
(1, 0) 108 Ia, y gweddill ohono' ni.
(1, 0) 109 Fy nhad, a Seth fy mrawd, Sioned y forwyn a Doctor Morus.
(1, 0) 110 'Rydych yn eu 'nabod i gyd...
(1, 0) 111 Maddeuwch i mi am eistedd i lawr.
 
(1, 0) 113 Fel y gwyddoch chi, 'dydy' fy iechyd i ddim fel y dyla' fo fod.
(1, 0) 114 'Wna' i ddim cweryla efo chi am hynny, er mai chi sy'n gyfrifol.
(1, 0) 115 Y dyfodol sy' gen' i dan sylw, nid y gorffennol.
(Awdur) {Codi ei lais}
 
(Awdur) 'Does yna 'run genedigaeth heb ei wewyr.
(1, 0) 136 Ond 'dydy'r gwewyr ddim yn gyfyngedig i chi.
(Ann) A pha fath ar enedigaeth ydy' o, os ydych yn gwadu bodolaeth y sawl a enir?
 
(Seth) Myn enaid, 'ydych chi'n meddwl mai hanner dwsin o erthylod ydy' ni?
(1, 0) 140 Gan bwyll, Seth.
(Seth) Gan bwyll, o ddiawl!
 
(Seth) 'Rwy' wedi diodde' digon oddiar ei law heb iddo goroni'r cyfan â'i sarhad!
(1, 0) 144 Gwranda arna' i am funud...
(Seth) Os wyt ti am awgrymu dwad i delerau, Lewis, cei arbed dy wynt.
 
(Seth) 'Does yna ddim cyfaddawd i fod.
(1, 0) 147 'Doeddwn i ddim yn bwriadu awgrymu'r fath beth.
(1, 0) 148 Ond 'setlwn ni mo'r broblem y naill ffordd na'r llall nes y bydd pawb wedi cyrraedd....
(1, 0) 149 P'le mae nhad?
(Seth) Fe fydd yma unrhyw funud 'rwan.
 
(Seth) 'Chaiff o ddim cam.
(1, 0) 154 Dyma nhw ar y gair 'rwy'n credu.
 
(1, 0) 157 Na, Doctor Morus ydy' hwn.
(Awdur) Doctor Morus!
 
(Morus) Sut ydych chi'n teimlo?
(1, 0) 163 O rhywbeth yn debyg, doctor.
(1, 0) 164 Ac wedi blino braidd wrth gwrs.
(Morus) Beth am y goes?
 
(Morus) {Rhoi ei fysedd ar arddwrn LEWIS.}
(1, 0) 168 Ydy' weithia.
(1, 0) 169 Ac yn ddiffrwyth bob yn ail.
(Morus) Hm! Fe all hynny fod yn arwydd da.
 
(Morus) 'Rwy'n gobeithio eich bod yn sylweddoli...
(1, 0) 175 Dyna'r drwg, gwaetha'r modd, doctor.
(1, 0) 176 'Dydy' o ddim.
(Morus) Beth...?
 
(Seth) Synnwyr cyffredin...!
(1, 0) 183 Hanner munud, Seth.
 
(1, 0) 185 'Ydych chi'n meddwl bod rheswm yn ddigon?
(Awdur) Mae o'n ddigon i mi.
 
(Morus) Ydy'—a dyna pam 'rydy' ni'n y picil truenus yma efo'n gilydd.
(1, 0) 188 Ystyriwch hyn; i fyny i dri mis yn ôl 'roeddech chi'n cael hwyl ar eich gwaith; yn sgrifennu'n rhwydd, a'r ddrama'n datblygu'n foddhaol...
(Awdur) Mae hynna'n wir.
 
(Awdur) Mae hynna'n wir.
(1, 0) 190 Ac yna, yn sydyn, dyma saib.
(1, 0) 191 'Fedrech chi symud 'run cam ymlaen ond troi yn eich unfan.
(1, 0) 192 Pam?
(Awdur) Colli'r Awen dros dro, dyna'r cyfan.
 
(Awdur) 'Fedrwch chi mo'i ddadansoddi.
(1, 0) 197 Yn hollol,—am ei fod yn ddirgelwch y tu hwnt i ddeddfau rheswm.
(1, 0) 198 'Rydych yn dod yn nes ato' ni ar eich gwaetha'.
(Awdur) Beth ydych yn 'i feddwl?
 
(Awdur) Faint ga'i gynnig i chi—saith a chwech yr awr?
(1, 0) 213 Peidiwch â chymryd y peth yn ysgafn.
(1, 0) 214 Mae'r hyn a ddywedodd Doctor Morus yn berffaith wir.
(1, 0) 215 'Roedde' ni'n ddigon bodlon cyd-gerdded â chi ar y cychwyn.
(1, 0) 216 Roedd popeth mewn cytgord, a datblygiad naturiol ymhob cymeriad.
(1, 0) 217 Ond yn y man, dyma ni'n cyrraedd y groesffordd.
(1, 0) 218 'Roedde' ni'n hollol sicr pa lwybr i' ddewis.
(1, 0) 219 Ond 'fynnech chi ddim gadael i ni fynd.
(1, 0) 220 Roeddech yn benderfynol o'n hudo ar eich ôl i gyfeiriad arall.
(1, 0) 221 O ganlyniad, ar y groesffordd 'rydy' ni o hyd, a chwithau efo ni.
(Awdur) {Dan wenu.}
 
(Seth) Ai dyna'r cyfan sy' gennych i' ddweud?
(1, 0) 248 Seth!
(Seth) Mi fedra'i wneud heb dy ymyrryd parhaus, Lewis.
 
(Seth) 'Oes gennyt ti ddim mymrun o asgwrn-cefn?
(1, 0) 252 Nid mater o asgwrn-cefn ydy' o.
(1, 0) 253 Beth wyt ti'n 'i ddisgwyl i mi 'i wneud.
(Seth) Gafael yn ei war a'i daflu allan.
 
(Seth) Gafael yn ei war a'i daflu allan.
(1, 0) 256 Paid â siarad yn wirion, Seth.
(1, 0) 257 'Fedrwn ni ddim.
(Seth) Pam na fedrwn ni?
 
(Abram) Ydy' pawb yma?... Lewis?
(1, 0) 275 Dyma fi, 'nhad.
(Abram) Na, mi ydw' i'n iawn 'rwan, Sioned.
 
(Awdur) Beth wyddoch chi am wirionedd?
(1, 0) 328 Cymaint â chwithau.
(1, 0) 329 'Does dim ystyr iddo y tu allan i brofiad unigol.
(Awdur) {Angerddol}
 
(Morus) Maddeuwch i mi, ond 'ga' fi ofyn i rywun fy nghyflwyno?
(1, 0) 416 Seth?
 
(1, 0) 418 O wel...
(1, 0) 419 Mabli, 'ga'i gyflwyno Dr. Morus?...
(1, 0) 420 Gwraig Seth ydy' Mabli, Doctor.
(Morus) O? Mae'n ddrwg gen' i.
 
(Morus) Rydych yn sylweddoli erbyn hyn fod gennym fodolaeth annibynnol.
(1, 0) 457 Dyma'r dewis i chi, felly,—un ai aros mewn cyfyng-gyngor parhaus, neu adael i ni gyflawni'n tynged yn ein ffordd ein hunain.
(Ann) P'run gymrwch chi i
 
(Seth) Yn rhydd, a'r dyfodol yn ein dwylo!
(1, 0) 495 'Ydy' o wedi mynd o ddifri'?
(1, 0) 496 Doctor, edrychwch rhag ofn.
(Morus) Na, 'does yna ddim golwg ohono fo.
 
(Sioned) Rhyddid ai peidio, 'fydd yna ddim newid yn fy mywyd i...
(1, 0) 535 Ond 'rydych yn falch 'i fod o wedi mynd, Sioned?
(Sioned) 'Wn i ddim beth i' ddweud...
 
(Pawb) {Maent yn yfed.}
(1, 0) 560 Beth am air gennych chi, 'nhad?
(Seth) Ia, gwell cael bendith yr hen batriarch!
 
(Abram) {Exit ABRAM.}
(1, 0) 574 'Dydy' hyn yn golygu fawr o ddim i 'nhad, mae arna'i ofn.
(Morus) Na, mae o'n agosau at ben 'i gŵys, 'rhen greadur.
 
(Morus) Poen eto?
(1, 0) 606 Ia,—pwl sydyn.
(Morus) Hidiwch befo, 'phery o ddim yn hir.
 
(Morus) {Exit.}
(1, 0) 612 'Does gen' i fawr o awydd eu cymryd nhw—y tabledi yna 'rwy'n 'i feddwl.
(Ann) Ond pam?
 
(Ann) 'Does yna ddim rhinwedd mewn diodde' poen ag ymgeledd wrth law.
(1, 0) 615 Hwyrach eich bod yn iawn.
(1, 0) 616 Ac eto, 'dyw poen ddim heb ei fantais.
(Ann) 'Dwy' i ddim yn deall.
 
(Ann) 'Dwy' i ddim yn deall.
(1, 0) 618 Mae o wedi cryfhau fy ffydd i yn ystod y misoedd diwetha' yma, yn un peth.
(1, 0) 619 'Fedra'i ddim esbonio pam, ond mae'n ffaith.
 
(1, 0) 621 P'run bynnag, 'rwy'n hyderus y ca' fi ymwared o'r aflwydd ar ôl heno.
(Ann) {A'i chefn ato}
 
(Ann) Lewis?
(1, 0) 624 la?
(Ann) Ai dyna'r unig reswm pam 'roeddech chi'n dewis eich rhyddid?
 
(Ann) Ai dyna'r unig reswm pam 'roeddech chi'n dewis eich rhyddid?
(1, 0) 626 Dyna'r prif reswm, yn naturiol...
(1, 0) 627 Wrth gwrs 'dydw' i ddim yn disgwyl gwyrth.
(1, 0) 628 Mae o'n siŵr o gymryd tipyn o amser.
(1, 0) 629 Ond mae'r ansicrwydd wedi mynd rwan.
(1, 0) 630 'Roedd hwnnw'n waeth na'r poen os rhywbeth...
(1, 0) 631 Ar be 'rydych chi'n edrych.
(1, 0) 632 Ann?
(Ann) Ar ddim yn neilltuol...
 
(1, 0) 637 Dyna sy'n achosi poen yn fy nghoes, hwyrach...
(1, 0) 638 Ond mae hi'n 'stwythach 'rwan.
 
(1, 0) 640 Yr hen simdde fawr!...
(1, 0) 641 'Rwan 'rwy'n sylweddoli,─ 'dydw' i ddim wedi llosgi f'enw ar y pren yma eto.
(1, 0) 642 Wel, pa well achlysur na heno i ddathlu'n rhyddid?
(1, 0) 643 Ple mae'r procer?
 
(1, 0) 645 Mae'r hen ŵr wedi f'atgoffa fi lawer tro am hyn.
(1, 0) 646 Fe fydd yn falch pan glyw o fory...
(1, 0) 647 Mae Seth wedi gwneud ers talwm.
(Ann) Ple y rhowch chi o?
 
(Ann) Ple y rhowch chi o?
(1, 0) 649 'Does yna ond un lle,—yn y fan yma, o dan enw 'nhad.
 
(1, 0) 651 Dyna fo...
 
(1, 0) 653 O,—'fuoch chi ddim yn hir iawn, Doctor.
(Morus) Na, mae o wedi blino, 'rhen greadur.
 
(Morus) Gorffwys ydy'r peth pwysica' 'rwan.
(1, 0) 658 Ia, mi ydw' i ar gychwyn...
(1, 0) 659 'Fydda' i'n hir, ydych chi'n meddwl, cyn adfer fy iechyd?
(Morus) 'Alla' i ddim ateb hynna.
 
(Morus) 'Alla' i ddim ateb hynna.
(1, 0) 661 Ond mae gennych ryw syniad?
(Morus) Wel, 'fyddwch chi ddim o gwmpas eich petha'n iawn am chwe' mis, beth bynnag.
 
(Morus) Wel, 'fyddwch chi ddim o gwmpas eich petha'n iawn am chwe' mis, beth bynnag.
(1, 0) 663 Cymaint â hynny?
(1, 0) 664 O, wel, mae Adran Hanes y Brifysgol yn siŵr o fynd ymlaen heb un darlithydd!
(1, 0) 665 A mi fedra' i fanteisio ar y seibiant i orffen fy ngwaith ymchwil.
(1, 0) 666 Dim gwrthwynebiad gobeithio?
(Morus) Dim o gwbl.
 
(Morus) Peidio â gorweithio wrth gwrs.
(1, 0) 670 Ia, rhaid i mi gofio.
(Morus) Beth ydy'r maes?
 
(Morus) Beth ydy'r maes?
(1, 0) 672 Hanes yr Eglwys Geltaidd.
(Morus) O ia. 'Wn i ddim am dano fo, 'rwy'n ofni!
 
(Morus) O ia. 'Wn i ddim am dano fo, 'rwy'n ofni!
(1, 0) 674 Mae o'n hynod o ddiddorol.
(1, 0) 675 'Hoffech chi gael benthyg llyfr?
(Morus) Na, mi arosa' i nes y bydd eich un chi wedi'i gyhoeddi!
 
(Morus) Na, mi arosa' i nes y bydd eich un chi wedi'i gyhoeddi!
(1, 0) 677 Gweniaith!
 
(1, 0) 679 Diolch yn fawr i chi am bopeth, Doctor...
(1, 0) 680 Nos dawch.