Cyfyng-Gyngor

Ciw-restr ar gyfer Mabli

(Awdur) Pwy ar y ddaear...?
 
(1, 0) 367 Mae'n ddrwg gen' i mod i'n hwyr.
(1, 0) 368 Taith go bell, a bu bron i mi a cholli'r ffordd.
 
(Awdur) Beth ydy'ch neges chi?
(1, 0) 372 Neges?
(Awdur) Wel 'rwy'n cymryd yn ganiataol mai i'm gweld i y daethoch chi yma.
 
(Awdur) Oddi wrth y cyhoeddwyr efallai?
(1, 0) 376 Dim o gwbwl.
(Awdur) Ond 'rydych yma i ryw bwrpas.
 
(Awdur) Beth ydy' o?
(1, 0) 380 "Llwyn Bedw"! 'Run fath o hyd.
(1, 0) 381 'Dydy' o wedi newid dim.
(Awdur) Peidiwch â dweud mai un ohonyn' nhw 'rydych chi!
 
(Awdur) Peidiwch â dweud mai un ohonyn' nhw 'rydych chi!
(1, 0) 383 Mae'n well i chi ofyn hynna i Seth.
(Awdur) {Wrth SETH.}
 
(Awdur) 'Doeddwn i ddim yn bwriadu datblygu ei chymeriad.
(1, 0) 394 Ond datblygu wnes i heb yn wybod i chi.
(1, 0) 395 Os hauwch chi hedyn peidiwch â synnu ei weld o'n tyfu.
(Abram) Croeso i chi yma, merch i.
 
(Ann) Mae'n siŵr eich bod wedi blino.
(1, 0) 402 Ydw' braidd...
(1, 0) 403 Diolch i chi.
 
(Ann) Mae hi'n aros yma.
(1, 0) 409 Wel, Sioned.
(Sioned) Mabli! Dyma chi wedi cyrraedd.
 
(Morus) 'Wyddwn i ddim─
(1, 0) 423 Popeth yn iawn, Doctor.
(1, 0) 424 'Rwy'n deall.
(1, 0) 425 Peth digon naturiol ydy' celu sgandal mewn teulu—y sgerbwd yn y cwpwrdd chwedl y Sais.
(1, 0) 426 Ond mae'r sgerbwd yn mynnu dwad allan weithia'.
(1, 0) 427 'Hoffech chi wybod yr helynt?
(Seth) 'Does a wnelo Dr. Morus ddim â fo, Mabli.
 
(Seth) Gad iddo.
(1, 0) 430 'Does gen'i ddim achos i deimlo cywilydd, Seth.
(1, 0) 431 A pheth arall, fe dâl ei atgoffa fo {cyfeirio af yr AWDUR} o'i gyfrifoldeb am y trybini.
(Awdur) 'Does dim rhaid i chi.
 
(Awdur) Roedd eich sefyllfa'n un digon cyffredin—
(1, 0) 434 Rhy gyffredin efallai.
(1, 0) 435 Pâr ifanc yn cyfarfod yn ystod y rhyfel; carwriaeth wyllt ynghanol y tryblith; priodi a byw o ddydd i ddydd heb hidio am yfory.
(1, 0) 436 Yna corn heddwch yn eu deffro o freuddwyd rhamant i wynebu ffeithia'.
(1, 0) 437 A hwythau, wrth gwrs, yn methu.
(1, 0) 438 Yr hen, hen stori!
(Seth) 'Dydy' o ddim mor syml â hynna.
 
(Awdur) Nid chi'ch dau oedd y prif gymeriadau.
(1, 0) 445 'Roeddwn i, wrth gwrs, i fod i farw mewn damwain ar y ffordd.
(1, 0) 446 Hwylus dros ben!
(1, 0) 447 Er bod Seth, efallai, yn cytuno â chi yn hynna o beth.
(Seth) Paid!
 
(1, 0) 450 Wel, 'dderbynia' i mo'r fath ddiwedd ystrydebol.
(1, 0) 451 'Rwy'n mynnu byw.
(1, 0) 452 'Fynna'i ddim marw i siwtio plot dramodydd anghelfydd!
(Awdur) O, pa ddiben dadla'!
 
(Ann) {Rhoi gwydr iddi.}
(1, 0) 552 Diolch. Dyma'r tro cyntaf ers 'wn i ddim pa bryd.
(Morus) Gora' oll.
 
(Ann) 'Chwaneg o win, Mabli?
(1, 0) 577 Na, dim diolch.
(1, 0) 578 Rhaid i minna' feddwl am fynd.
(Ann) Mor fuan?
 
(Ann) Mor fuan?
(1, 0) 580 Wel, does dim diben aros yma rwan.
(Ann) Ond!
 
(Ann) Ond!
(1, 0) 582 Peidiwch â phryderu.
(1, 0) 583 Mi fydda' i'n iawn...
(1, 0) 584 Seth, mi hoffwn i gael gair efo ti cyn i mi fynd.
(Seth) I beth?
 
(Seth) I beth?
(1, 0) 586 Fe wyddost yn iawn i beth.
(Seth) Oes rhaid i ti ddifetha'r cyfan?
 
(Seth) Oes rhaid i ti ddifetha'r cyfan?
(1, 0) 588 Nac oes, ond i ti fod yn rhesymol.
(Seth) 'Fedra'i ddim bod yn rhesymol heno.
 
(Seth) 'Fedra'i ddim bod yn rhesymol heno.
(1, 0) 590 Dyna dd'wedi di fory a'r flwyddyn nesa'.
(1, 0) 591 Dyma fy unig gyfle.
(1, 0) 592 Mae gan ryddid ystyr ychwanegol i mi fel y gwyddost.
(Seth) O, o'r gora' os wyt ti'n mynnu.
 
(1, 0) 596 Mae'n debyg bod hyn yn ffarwel...
(Ann) Ond 'rydym yn siŵr o gyfarfod eto?
 
(Ann) Ond 'rydym yn siŵr o gyfarfod eto?
(1, 0) 598 Pwy a ŵyr?
(1, 0) 599 'Rwy'n gobeithio y gwnawn ni...
(1, 0) 600 Tan hynny, pob dymuniad da i chi...
(1, 0) 601 Brysiwch wella, Lewis.