Cyfyng-Gyngor

Ciw-restr ar gyfer Morus

(Awdur) Pwy ar y ddaear...?
 
(Awdur) Doctor Morus!
(1, 0) 159 Hanner munud, os gwelwch yn dda.
(1, 0) 160 Popeth yn ei dro.
 
(1, 0) 162 Sut ydych chi'n teimlo?
(Lewis) O rhywbeth yn debyg, doctor.
 
(Lewis) Ac wedi blino braidd wrth gwrs.
(1, 0) 165 Beth am y goes?
(1, 0) 166 Dal yn boenus?
 
(Lewis) Ac yn ddiffrwyth bob yn ail.
(1, 0) 170 Hm! Fe all hynny fod yn arwydd da.
(1, 0) 171 Y peth pwysica' rwan ydy' rhoi terfyn ar yr ansicrwydd yma.
 
(1, 0) 173 Ac y mae hynny'n dibynnu arnoch chi.
(1, 0) 174 'Rwy'n gobeithio eich bod yn sylweddoli...
(Lewis) Dyna'r drwg, gwaetha'r modd, doctor.
 
(Lewis) 'Dydy' o ddim.
(1, 0) 177 Beth...?
(Ann) Mae o'n wir.
 
(Awdur) Mae o'n ddigon i mi.
(1, 0) 187 Ydy'—a dyna pam 'rydy' ni'n y picil truenus yma efo'n gilydd.
(Lewis) Ystyriwch hyn; i fyny i dri mis yn ôl 'roeddech chi'n cael hwyl ar eich gwaith; yn sgrifennu'n rhwydd, a'r ddrama'n datblygu'n foddhaol...
 
(Awdur) Beth ydych yn 'i feddwl?
(1, 0) 200 Mae o'n berffaith syml.
(1, 0) 201 Anghofiwch bopeth am Awen ac ysbrydoliaeth.
(1, 0) 202 'Dydy'nhw'n golygu dim.
(1, 0) 203 'Rydych chi mewn penbleth am ein bod |ni|'n dal yn ôl.
(Awdur) {Chwerthin.}
 
(Seth) Pam na fedrwn ni?
(1, 0) 259 Mae Lewis yn iawn, Seth.
(1, 0) 260 Nid dyna'r ffordd.
(1, 0) 261 Ein hunig obaith ydyw iddo fynd o'i ewyllys ei hun.
(Awdur) A 'dydy' hynny, gysgodion annwyl, ddim yn debygol iawn o ddigwydd!
 
(Seth) Ar fy llw!
(1, 0) 265 Arhoswch Seth...!
(Abram) Mae'n ddrwg gen' i eich cadw.
 
(Seth) Mai chi ydy'r cysgod wedi'r cyfan!
(1, 0) 337 Ia, cofiwch mai ni sy'n y mwyafrif,—chwech yn erbyn un.
(Seth) Safwch yn y fan yna.
 
(Awdur) Gadewch i mi fynd heibio!
(1, 0) 344 I beth?
(Awdur) Mae yna rywun y tu allan i'r drws yna.
 
(Abram) Ond 'fynna' i ddim i ti ei rwystro.
(1, 0) 361 Pam 'rydych chi'n petruso?
(1, 0) 362 Agorwch y drws.
(Awdur) Mae'r AWDUR yn agor y drws yn sydyn, a daw MABLI i mewn.
 
(Abram) Diolch, Sioned.
(1, 0) 415 Maddeuwch i mi, ond 'ga' fi ofyn i rywun fy nghyflwyno?
(Lewis) Seth?
 
(Lewis) Gwraig Seth ydy' Mabli, Doctor.
(1, 0) 421 O? Mae'n ddrwg gen' i.
(1, 0) 422 'Wyddwn i ddim─
(Mabli) Popeth yn iawn, Doctor.
 
(Awdur) O, pa ddiben dadla'!
(1, 0) 454 Yn hollol.
(1, 0) 455 Mae'r amser wedi dwad i chi benderfynu.
(1, 0) 456 Rydych yn sylweddoli erbyn hyn fod gennym fodolaeth annibynnol.
(Lewis) Dyma'r dewis i chi, felly,—un ai aros mewn cyfyng-gyngor parhaus, neu adael i ni gyflawni'n tynged yn ein ffordd ein hunain.
 
(Awdur) {Exit.}
(1, 0) 491 O'r diwedd!
(Ann) Yn rhydd!
 
(Lewis) Doctor, edrychwch rhag ofn.
(1, 0) 498 Na, 'does yna ddim golwg ohono fo.
(Abram) Gellwch fod yn dawel eich meddwl.
 
(Sioned) Mae'r dyn o'i go'n lân!
(1, 0) 515 Wel, mae hi'n achlysur go arbennig, wyddoch chi Sioned.
(Sioned) Ia, ond─
 
(Sioned) Os ydy' hynny'n eich gwneud chi'n hapusach, wel, dyna fo.
(1, 0) 539 Chware teg iddi!
(Seth) Ia, 'rhen Sioned druan!
 
(Mabli) Diolch. Dyma'r tro cyntaf ers 'wn i ddim pa bryd.
(1, 0) 553 Gora' oll.
(1, 0) 554 Fe gewch well blas arno fo.
(Seth) Wel, ydy' ni'n barod?
 
(Abram) {Mynd at y drws.}
(1, 0) 570 Mi ddof i fyny i'ch gweld mewn munud, Abram Morgan.
(Abram) O, o'r gora', Doctor.
 
(Lewis) 'Dydy' hyn yn golygu fawr o ddim i 'nhad, mae arna'i ofn.
(1, 0) 575 Na, mae o'n agosau at ben 'i gŵys, 'rhen greadur.
(Ann) 'Chwaneg o win, Mabli?
 
(Mabli) {Exit MABLI.}
(1, 0) 603 Wel, gair bach efo'r hen ŵr cyn iddo fo gysgu.
 
(1, 0) 605 Poen eto?
(Lewis) Ia,—pwl sydyn.
 
(Lewis) Ia,—pwl sydyn.
(1, 0) 607 Hidiwch befo, 'phery o ddim yn hir.
(1, 0) 608 Mi ro'i dabledi i chi fory i leddfu tipyn arno fo.
 
(1, 0) 610 Esgusodwch fi.
 
(Lewis) O,—'fuoch chi ddim yn hir iawn, Doctor.
(1, 0) 654 Na, mae o wedi blino, 'rhen greadur.
(1, 0) 655 'Rwy'n fodlon 'rwan ar ôl 'i weld o'n setlo i lawr am y noson...
(1, 0) 656 Mae'n amser i chitha' fynd i fyny hefyd, Lewis.
(1, 0) 657 Gorffwys ydy'r peth pwysica' 'rwan.
(Lewis) Ia, mi ydw' i ar gychwyn...
 
(Lewis) 'Fydda' i'n hir, ydych chi'n meddwl, cyn adfer fy iechyd?
(1, 0) 660 'Alla' i ddim ateb hynna.
(Lewis) Ond mae gennych ryw syniad?
 
(Lewis) Ond mae gennych ryw syniad?
(1, 0) 662 Wel, 'fyddwch chi ddim o gwmpas eich petha'n iawn am chwe' mis, beth bynnag.
(Lewis) Cymaint â hynny?
 
(Lewis) Dim gwrthwynebiad gobeithio?
(1, 0) 667 Dim o gwbl.
(1, 0) 668 Fe fydd yn llesol i chi.
(1, 0) 669 Peidio â gorweithio wrth gwrs.
(Lewis) Ia, rhaid i mi gofio.
 
(Lewis) Ia, rhaid i mi gofio.
(1, 0) 671 Beth ydy'r maes?
(Lewis) Hanes yr Eglwys Geltaidd.
 
(Lewis) Hanes yr Eglwys Geltaidd.
(1, 0) 673 O ia. 'Wn i ddim am dano fo, 'rwy'n ofni!
(Lewis) Mae o'n hynod o ddiddorol.
 
(Lewis) 'Hoffech chi gael benthyg llyfr?
(1, 0) 676 Na, mi arosa' i nes y bydd eich un chi wedi'i gyhoeddi!
(Lewis) Gweniaith!
 
(Lewis) Nos dawch.
(1, 0) 681 Nos dawch.
(1, 0) 682 Mi gaf eich gweld yfory.
(Ann) {Anesmwyth.}
 
(Ann) 'Ydych chi'n meddwl 'i fod o'n gwella?
(1, 0) 687 Wel... fe glywsoch be' dd'wedais i funud yn ôl.
(Ann) 'Oeddech chi'n dweud y gwir?
 
(Ann) 'Oeddech chi'n dweud y gwir?
(1, 0) 689 Oeddwn, hyd y gwyddwn i.
(1, 0) 690 Rhaid cofio, wrth gwrs, fod ei salwch o,—wel yn un braidd yn gymhleth.
(1, 0) 691 Ond ar ôl heno mae'r rhagolygon yn fwy calonogol, efallai.
(Ann) 'Gymrwch chi lymaid arall o win?
 
(Ann) 'Gymrwch chi lymaid arall o win?
(1, 0) 694 Diolch yn fawr.
(1, 0) 695 Mae'n anodd gwrthod.
(1, 0) 696 Beth ydy'o?
(Ann) {Tywallt gwin i ddau wydr.}
 
(Ann) {Rhoi gwydr â MORUS.}
(1, 0) 701 Diolch.
 
(1, 0) 703 Meddwl oeddwn i rwan...
(Ann) Ia?
 
(Ann) Ia?
(1, 0) 705 Am y tro cyntaf y dois i yma.
(1, 0) 706 Pa bryd oedd o,─ chwe mis yn ôl, ynte' chwe canrif?
(1, 0) 707 Mae amser wedi colli 'i ystyr rhywsut.
(1, 0) 708 P'run bynnag, 'roedd hi'n noson stormus—.
(Ann) A'r afon yn genlli'.
 
(Ann) Ac yn credu 'i fod o ar fin... marw.
(1, 0) 713 Ia, rwy'n eich gweld rwan,—eich llygaid yn llawn pryder, a'r gwynt yn datod modrwy fach o'ch gwallt─
 
(Ann) Gawn ni—?
(1, 0) 717 'Rydy' ni wedi yfed eisoes i Ryddid.
(1, 0) 718 Beth fydd o y tro yma?
(Ann) 'Wn i ddim.
 
(Ann) Hapusrwydd efallai,—na, gwell peidio.
(1, 0) 721 Pam?
(Ann) Ofn digio Ffawd, hwyrach.
 
(Ann) Ofn digio Ffawd, hwyrach.
(1, 0) 723 Ond 'dydy' o ddim gormod i' ofyn.
(1, 0) 724 Onid dyna'r rheswm i ni ddewis mynd ein ffordd ein hunain?
(Ann) Ia, ond mae hapusrwydd yn beth mor wibiog.
 
(Ann) Mae yna beryg' i ni fethu â chael gafael ynddo wedi'r cyfan.
(1, 0) 727 Ein bai ni fyddai hynny.
(1, 0) 728 Os oes unrhyw rwystr yn ein ffordd, mae modd i ni ei symud rwan.
(Ann) {Ceisio sirioli.}
 
(Ann) A 'dydw'i ddim wedi diolch i chi eto am eich caredigrwydd yn ystod y misoedd d'wetha' yma.
(1, 0) 734 'Does dim rhaid i chi ddiolch.
(1, 0) 735 Wnes i ddim ond fy nyletswydd.
(Ann) Fe wnaethoch lawer mwy na hynny.
 
(1, 0) 738 Os gwnes i, roedd yn waith agos iawn at fy nghalon i.
(Ann) {Cais guddio'i phenbleth.}
 
(1, 0) 746 Gwn,─ llun Sant Jerôm yn 'i guro'i hun â charreg i ddarostwng y cnawd.
(Ann) Mae Lewis yn meddwl y byd ohono fo.
 
(Ann) Mae Lewis yn meddwl y byd ohono fo.
(1, 0) 748 Ydy', mi greda'i hynny...
(Ann) 'Dydy' ni ddim wedi yfed ein gwin.
 
(Ann) 'Dydy' ni ddim wedi yfed ein gwin.
(1, 0) 750 Naddo.
(1, 0) 751 'Dydw'i ddim yn bwriadu ei yfed nes...
(Ann) Nes beth?
 
(Ann) Nes beth?
(1, 0) 753 Nes y byddwn wedi dewis y llwnc-destun priodol.
(Ann) Digon hawdd tostio Rhyddid unwaith yn rhagor.
 
(Ann) Digon hawdd tostio Rhyddid unwaith yn rhagor.
(1, 0) 755 Ydy', rhy hawdd.
(1, 0) 756 Mae'n amser i ni gymryd cam ymlaen rwan.
(1, 0) 757 Wnaeth 'run ohono' ni hawlio Rhyddid er 'i fwyn ei hun.
(1, 0) 758 'Roedd yna amcan mwy pendant na hynny.
(1, 0) 759 Mae'n syn i'r Awdur beidio â gofyn—Rhyddid i beth?
(1, 0) 760 'Roedd o'n gwestiwn mor amlwg.
(1, 0) 761 A'r ateb i'r cwestiwn fydd ein llwnc-destun.
(Ann) Fedrwn ni ddim ateb dros y lleill.
 
(Ann) Fedrwn ni ddim ateb dros y lleill.
(1, 0) 763 'Does a wnelo' ni ddim â nhw rwan.
(Ann) Sut felly?
 
(Ann) Sut felly?
(1, 0) 765 Mae ganddyn' nhw eu rhesymau eu hunain.
(1, 0) 766 Seth yn ceisio rhedeg oddi wrth ei gyfrifoldeb, a Mabli oddi wrth ei phenbleth.
(1, 0) 767 A dyna Lewis,—wel, does dim angen dweud am dano fo.
(Ann) Abram Morgan a Sioned?
 
(Ann) Abram Morgan a Sioned?
(1, 0) 769 Mae nhw'n wahanol.
(1, 0) 770 'Roedden' nhw'n ddigon bodlon ar yr hen fywyd...
(1, 0) 771 Roeddwn innau'n fodlon hefyd, nes y gwelais i chi, Ann.
 
(1, 0) 773 Mae'n ddrwg gen'i os ydy' hynna'n eich digio.
(1, 0) 774 Maddeuwch i mi.
(Ann) 'Does yna ddim i' fadda'.
 
(Ann) 'Does yna ddim i' fadda'.
(1, 0) 776 'Ydych chi'n dweud...?
(1, 0) 777 Ann, beth wnaeth i chi ddyheu am ryddid?
(1, 0) 778 Beth oedd eich cymhelliad?
(Ann) Dianc.
 
(Ann) Dianc.
(1, 0) 780 Dianc oddi wrth beth?
(Ann) Oddi wrth fywyd oedd wedi troi'n ddiffaethwch...
 
(Ann) Oddi wrth fywyd oedd wedi troi'n ddiffaethwch...
(1, 0) 782 Ia, mi wyddwn i hynna.
(1, 0) 783 'Doedd dim rhaid i mi ofyn.
(Ann) O, mi driais ei wynebu, Duw a ŵyr.
 
(Ann) Ond yn y diwedd...
(1, 0) 786 'Rydych chi allan o'r diffaethwch 'rwan, Ann.
(1, 0) 787 Edrychwch i gyfeiriad arall.
(1, 0) 788 Hyd yma, 'rwy' wedi cuddio fy nheimladau, ond rwan...
 
(1, 0) 790 'Rwy'n eich caru, Ann.
(1, 0) 791 'Rwy'n eich caru, gorff ac enaid.
(Ann) Mi wn i hynny ers tro, John.
 
(Ann) 'Does dim rhaid i chi drio'i guddio rwan.
(1, 0) 795 Ann!
(Ann) 'Ydych chi'n cofio am y llwnc-destun?
 
(Ann) 'Ydych chi'n cofio am y llwnc-destun?
(1, 0) 798 Ydw'—ein serch!
 
(1, 0) 800 Ond 'dyw gwydriad o win Medoc ddim yn deilwng i'r achlysur.
 
(1, 0) 802 Mae gwin eich gwefus yn felysach, Ann!