Cyfyng-Gyngor

Ciw-restr ar gyfer Seth

(Awdur) Pwy ar y ddaear...?
 
(1, 0) 126 Celwydd meddaf eto!
(1, 0) 127 'Rydym mor fyw â chwithau pob tipyn.
(1, 0) 128 Y presennol dd'wedsoch chi?
(Awdur) Ia, 'rwy'n eich herio!
 
(Awdur) Ia, 'rwy'n eich herio!
(1, 0) 130 Heriwch faint â fynnoch.
(1, 0) 131 Beth am y presennol i chi?
(1, 0) 132 'Ydych chi'n fodlon arno fo?
(1, 0) 133 Chi, sydd mewn poen meddwl ers misoedd.
(Awdur) Poen creu ydy' hwnnw.
 
(Ann) A pha fath ar enedigaeth ydy' o, os ydych yn gwadu bodolaeth y sawl a enir?
(1, 0) 138 Yn hollol!
(1, 0) 139 Myn enaid, 'ydych chi'n meddwl mai hanner dwsin o erthylod ydy' ni?
(Lewis) Gan bwyll, Seth.
 
(Lewis) Gan bwyll, Seth.
(1, 0) 141 Gan bwyll, o ddiawl!
(1, 0) 142 'Rwy' wedi diodde' digon oddiar ei law heb iddo goroni'r cyfan â'i sarhad!
(Lewis) Gwranda arna' i am funud...
 
(Lewis) Gwranda arna' i am funud...
(1, 0) 145 Os wyt ti am awgrymu dwad i delerau, Lewis, cei arbed dy wynt.
(1, 0) 146 'Does yna ddim cyfaddawd i fod.
(Lewis) 'Doeddwn i ddim yn bwriadu awgrymu'r fath beth.
 
(Lewis) P'le mae nhad?
(1, 0) 150 Fe fydd yma unrhyw funud 'rwan.
(1, 0) 151 Paid â phryderu, mae o yng ngofal Sioned.
(1, 0) 152 'Chaiff o ddim cam.
(Lewis) Dyma nhw ar y gair 'rwy'n credu.
 
(Awdur) Beth bynnag sydd i' gyfri' am yr hunlle yma, mi ddaliaf fy ngafael ar reswm a synnwyr cyffredin.
(1, 0) 182 Synnwyr cyffredin...!
(Lewis) Hanner munud, Seth.
 
(Awdur) Wel! Wel!
(1, 0) 208 Nid dyma'r amser i ffraethineb.
(Awdur) {Ei anwybyddu.}
 
(Awdur) 'Ydych chi'n beiddio dweud na fedrwn i eich denu ar fy ôl?
(1, 0) 229 Na fedrwch byth!
(Awdur) Yna, fe fydd rhaid eich gorfodi.
 
(Awdur) Yna, fe fydd rhaid eich gorfodi.
(1, 0) 231 'Rydych wedi methu hyd yma.
(Awdur) Peidiwch â bod yn rhy siwr.
 
(1, 0) 247 Ai dyna'r cyfan sy' gennych i' ddweud?
(Lewis) Seth!
 
(Lewis) Seth!
(1, 0) 249 Mi fedra'i wneud heb dy ymyrryd parhaus, Lewis.
(1, 0) 250 Edrych ar dy wraig; 'wyt ti am adael i hwn ei gwawdio?
(1, 0) 251 'Oes gennyt ti ddim mymrun o asgwrn-cefn?
(Lewis) Nid mater o asgwrn-cefn ydy' o.
 
(Lewis) Beth wyt ti'n 'i ddisgwyl i mi 'i wneud.
(1, 0) 254 Gafael yn ei war a'i daflu allan.
(Lewis) Paid â siarad yn wirion, Seth.
 
(Lewis) 'Fedrwn ni ddim.
(1, 0) 258 Pam na fedrwn ni?
(Morus) Mae Lewis yn iawn, Seth.
 
(1, 0) 264 Ar fy llw!
(Morus) Arhoswch Seth...!
 
(Abram) Pam 'rydych chi'n gofyn?
(1, 0) 293 Am ei fod yn haeru mai rhywle arall ydy' o, 'nhad.
(Abram) O? Wel, 'rydych yn camsynied yn siŵr i chi.
 
(Abram) Naw oed oeddwn i ar y pryd, ond 'rwy'n ei gofio fel petai ddoe.
(1, 0) 304 Wel, 'goeliwch chi rwan?
(Awdur) Ond beth am y tu allan yna?
 
(1, 0) 325 'Dydych chi ddim yn edrych mor hyderus rwan.
(1, 0) 326 Dechra' gweld y gwirionedd hwyrach?
(Awdur) Beth wyddoch chi am wirionedd?
 
(Ann) 'Rydy' ni wedi trafod hynna'n barod.
(1, 0) 334 A pheidiwch â rhygnu ar y busnes creu yna.
(1, 0) 335 Oni fedre' ni haeru mai nyni a'ch dewisodd chi i'n dibenion ein hunain.
(1, 0) 336 Mai chi ydy'r cysgod wedi'r cyfan!
(Morus) Ia, cofiwch mai ni sy'n y mwyafrif,—chwech yn erbyn un.
 
(Morus) Ia, cofiwch mai ni sy'n y mwyafrif,—chwech yn erbyn un.
(1, 0) 340 Safwch yn y fan yna.
(Awdur) Ewch o'r ffordd.
 
(Awdur) Ewch o'r ffordd.
(1, 0) 342 'Rwy'n eich herio.
(Awdur) Gadewch i mi fynd heibio!
 
(Awdur) Ewch o'r neilltu!
(1, 0) 353 Symuda' i 'run fodfedd.
(Abram) {Yn dawel.}
 
(Abram) Gad iddo fynd, Seth.
(1, 0) 356 Ond 'nhad, 'dydych chi ddim yn deall!
(Abram) Ydw' 'machgen i, 'rwy'n deall.
 
(Awdur) 'Dwy' i ddim yn deall.
(1, 0) 386 O peidiwch ag edrych mor hurt, da chi!
(1, 0) 387 Os ydych yn holl-wybodol pam 'rydych chi'n gofyn?
(1, 0) 388 Chi ydy'r Awdur: fe ddylech wybod pwy ydy' hi...
(1, 0) 389 'Ydy'r enw Mabli yn golygu rhywbeth i chi?
(Awdur) Mabli?
 
(Mabli) 'Hoffech chi wybod yr helynt?
(1, 0) 428 'Does a wnelo Dr. Morus ddim â fo, Mabli.
(1, 0) 429 Gad iddo.
(Mabli) 'Does gen'i ddim achos i deimlo cywilydd, Seth.
 
(Mabli) Yr hen, hen stori!
(1, 0) 439 'Dydy' o ddim mor syml â hynna.
 
(1, 0) 441 Un cyfeiriad bach sy'n eich drama am f'amser i yn y fyddin.
(1, 0) 442 'Ydych chi'n meddwl y medrwch chi gronni pedair blynedd o uffern i hanner dwsin o eiriau?
(Awdur) 'Roedd o'n ddigon i bwrpas y plot.
 
(Mabli) Er bod Seth, efallai, yn cytuno â chi yn hynna o beth.
(1, 0) 448 Paid!
(Mabli) {Ei anwybyddu.}
 
(Awdur) Ond pe bawn yn cynnig eich arwain, er eich lles, a fyddech chi'n fodlon fy nilyn?
(1, 0) 463 Nid plant diymgeledd ydy' ni.
(1, 0) 464 'Thâl y tric yna ddim chwaith.
(Awdur) {Gydag angerdd}
 
(Ann) Yn rhydd!
(1, 0) 493 Yn rhydd, a'r dyfodol yn ein dwylo!
(Lewis) 'Ydy' o wedi mynd o ddifri'?
 
(Abram) 'Ddaw o ddim yn ôl heb i ni alw arno.
(1, 0) 502 A 'does dim peryg' i hynny ddigwydd.
(1, 0) 503 Pa garcharor fynnai fynd yn ôl i'w gell a'i gyffion?
(1, 0) 504 O'r nefoedd, prin y galla' i goelio!
(1, 0) 505 Rwy'n teimlo fel dawnsio,—dowch Sioned!
(Sioned) Seth! Be' sy' wedi dwad drosoch chi!
 
(Sioned) Seth! Be' sy' wedi dwad drosoch chi!
(1, 0) 508 Bywyd, 'rhen chwaer, bywyd!
 
(Sioned) Ia, ond─
(1, 0) 517 Dim "ond" o gwbwl.
(1, 0) 518 Mae hyn yn haeddu ei ddathlu â gwin.
 
(1, 0) 520 Dowch, Sioned, helpwch fi efo'r gwydrau yma.
(Sioned) Ond 'roeddwn i'n meddwl gwneud 'panaid o de i chi.
 
(Sioned) Ond 'roeddwn i'n meddwl gwneud 'panaid o de i chi.
(1, 0) 522 Te ar adeg fel hyn?
(1, 0) 523 Dim o'r fath beth!
(1, 0) 524 Cadwch de i gyn'ebrwn'.
(1, 0) 525 Mae yna fflam i mewn yn y botel yma, Sioned, a mi ydw' i'n dyheu am 'i gwres.
(1, 0) 526 "Gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn."
(1, 0) 527 Gwaed y grawnwin a heulwen y de!
(Ann) Hidiwch befo, Sioned.
 
(Morus) Chware teg iddi!
(1, 0) 540 Ia, 'rhen Sioned druan!
 
(1, 0) 542 Pan ddaw ei hamser, fe fydd yn cyrraedd y Porth Aur yn 'i siwt Ysgol Sul a'i sana' duon gwlan...
(1, 0) 543 Dyma chi, Ann.
 
(1, 0) 548 Na, 'waeth i chi heb na chynnig dim i 'nhad, chwaith.
(1, 0) 549 Tipyn o hen Biwritan ydy' ynta' hefyd.
(Ann) O wel... Mabli?
 
(Morus) Fe gewch well blas arno fo.
(1, 0) 555 Wel, ydy' ni'n barod?
(1, 0) 556 Mi ydw' i am gynnig llwnc-destun i Ryddid!
(Pawb) {Ag eithrio ABRAM.}
 
(Lewis) Beth am air gennych chi, 'nhad?
(1, 0) 561 Ia, gwell cael bendith yr hen batriarch!
(Abram) 'Does gen' i ddim ond hyn i'ddweud: ymddiriedaeth cysegredig ydy' Rhyddid.
 
(Mabli) Seth, mi hoffwn i gael gair efo ti cyn i mi fynd.
(1, 0) 585 I beth?
(Mabli) Fe wyddost yn iawn i beth.
 
(Mabli) Fe wyddost yn iawn i beth.
(1, 0) 587 Oes rhaid i ti ddifetha'r cyfan?
(Mabli) Nac oes, ond i ti fod yn rhesymol.
 
(Mabli) Nac oes, ond i ti fod yn rhesymol.
(1, 0) 589 'Fedra'i ddim bod yn rhesymol heno.
(Mabli) Dyna dd'wedi di fory a'r flwyddyn nesa'.
 
(Mabli) Mae gan ryddid ystyr ychwanegol i mi fel y gwyddost.
(1, 0) 593 O, o'r gora' os wyt ti'n mynnu.