Cythraul y Canu

Ciw-restr ar gyfer Gwyn

 
(0, 1) 7 Gwell i chwi gydio yn îy mraich i, Simon Jones.
(0, 1) 8 Y mae hi dipyn yn dywyll a'r ffordd yn dolciog,
(Simon) Diolch, diolch.
 
(Simon) Mae pedwar ugain mlynedd wedi tywyllu cryn dipyn arnynt.
(0, 1) 12 Posibl, posibl.
(0, 1) 13 'Dyw oedran ddim yn dod wrtho ei hun.
(Simon) Nad yw, nad yw.
 
(Simon) Pe byddai y nos cyn ddued a bola buwch ddu, fe ffeindiwn y ffordd i'r Ysgol Gân ac i'r Cwrdd Gweddi.
(0, 1) 18 Wel, mae yna "Heading Caled," ys dywed y coliar, o'n blaen heno, Simon Jones.
(0, 1) 19 Mae rhyw derfysg rhyfedd ynglŷn â'r corau canu yma.
(Simon) Pup, pup.
 
(Simon) Bawo sut beth!
(0, 1) 25 Ydyw, mae yn dân o Dan i Beerseba.
(Simon) Wn i ddim faint o gythreuliaid sydd yn rhydd ar y ddaear yma, ond rwy'n credu hyn, mai y gwaethaf o'r adar duon i gyd yw "Cythraul y Canu."
 
(Simon) Be wedwch chwi, syr?
(0, 1) 28 Un garw yw e.
(0, 1) 29 Mae e a'i gorn neu'i big yn rhywle o hyd.
(Simon) 'E fu yma gôr canu yn y lle unwaith, o dan arweiniad Shanko'r teiliwr, oedd yn ddiguro bron.
 
(Simon) 'E fu yma gôr canu yn y lle unwaith, o dan arweiniad Shanko'r teiliwr, oedd yn ddiguro bron.
(0, 1) 31 Gwir, gwir, a daeth y côr a'r lle hwn i enwogrwydd.
(Simon) Ac yr oedd y teiliwr yn arweinydd, syr.
 
(Simon) Mae gweled y teiliwr yn arwain côr yn hala rhywbeth trwyddo chwi fel pe tae chwi mewn mashin wynegon.
(0, 1) 36 Ydi, Mae'n enaid i gyd.
(0, 1) 37 Dyna sydd eisiau mewn canu.
(Simon) {Yn peswch.}
 
(Simon) {Yn tanio'i bibell.}
(0, 1) 42 Ie, mae'n gynnar i'r cyfarfod.
(Simon) Ie, ie, a piti garw; fe ddaeth cythraul y canu i fewn i'r côr, ac fe aeth yn ffrwgwd yma fel y gwyddoch.
 
(Simon) Ydi, gwir ddyn byw.
(0, 1) 46 Nid wyf yn gallu cysoni pethau.
(0, 1) 47 Mae arweinydd yr hên gôr ac arweinydd y cor newydd yn fechgyn rhagorol, a chyn belled ag y gwelaf fi, yn eithaf cyfeillgar â'i gilydd.
(Simon) Am Shanko'r Tilwr, arweinydd yr hen gôr, bu dim o'i well ef mewn crys erioed.
 
(Simon) Am Telorydd, arweinydd y côr newydd, mae fel y dur, yn ben cerddor ac yn ben arweinydd cor.
(0, 1) 50 Fy marn i yw y cytunai'r arweinyddion, onibai am y dynion sydd tu ôl iddynt.
(Simon) Dynion!
 
(Simon) Dywedwch 'menywod,' os daw cythraul y canu fewn i gôr, ellwch chwi fentro mai ymhlith y sopranos neu yr altos y dechreua â'i antics.
(0, 1) 54 Y nhw yw'r llestri gwannaf.
(Simon) Mae gennyf bob parch i fenyw, cofiwch chwi.
 
(Simon) Menyw oedd mam, a menyw oedd Nansi, fy ngwraig, ac ni fu erioed eu gwell, ond fe wnaeth menyw gawl o'r fusnes gyntaf hynny yn Eden, ac y mae'n gwneuthur cawl o bethau oddiar hynny.
(0, 1) 57 Ha! Ha!
(0, 1) 58 Ac yn enwedig o gorau canu Simon Jones.
(Simon) Yn corddi y cyfan, syr.
 
(Simon) Yn corddi y cyfan, syr.
(0, 1) 60 Wel, os oes côr i fynd oddiyma i'r Genedlaethol, mae'n rhaid cael trefn ar bethau'n well na hyn.
(Simon) Rwy'n credu mod i wedi gweled y ffordd allan o'r dyryswch, syr.
 
(Simon) Rwy'n credu mod i wedi gweled y ffordd allan o'r dyryswch, syr.
(0, 1) 62 Da iawn; gŵr da ydych chwi, Simon Jones,
(Simon) Mae Telorydd a Marged Elen yn caru, syr.
 
(Simon) Mae Telorydd a Marged Elen yn caru, syr.
(0, 1) 64 Ha! Ha!
(0, 1) 65 Caru'n wir!
(0, 1) 66 Choelia i ddim.
(0, 1) 67 A'r holl elyniaeth sydd gan y ddau deulu, y naill tuag at y llall.
(0, 1) 68 Chwi ddwedsoch hi nawr, Simon Jones.
(Simon) Mae e mor wir â phader, syr.
 
(Simon) Gwelais y ddau neithiwr ddiweddaf efo'i gilydd ar lwybr y Waun, ac yr oedd e yn ei chofleidio hi'n deidi.
(0, 1) 72 Chredaf fi byth.
(0, 1) 73 Chredaf fi byth.
(0, 1) 74 Efallai mai trefnu ynghylch y gymdeithas ddiwylliadol yr oeddynt.
(Simon) Pup, pup!
 
(Simon) Chlywais i erioed sut beth.
(0, 1) 79 Ydyw'r hen bobl yn gwybod am y garwriaeth?
(Simon) Dim gwec.
 
(Simon) Maent yn gyfrwys ofnadwy efo'u caru.
(0, 1) 83 Wel, efallai mai Marged Elen fydd yn offeryn i heddychu'r corau.
(0, 1) 84 Merch fach ragorol yw Marged Elen, onide?
(Simon) Un o'r goreuon, fachgen; un o'r goreuon.
 
(Simon) Mae llawer o'r rhocesi heddiw yn siarad yn gyntaf ac yn meddwl wedyn.
(0, 1) 88 Ydynt, ydynt, os yn meddwl o gwbl.
(Simon) Rhaid i ni ymddibynnu ar Marged Elen, ynte.
 
(Simon) Cariad ni chwymp ymaith."
(0, 1) 92 Eithaf gwir.
(0, 1) 93 Cariad nid yw byth yn methu.
(0, 1) 94 "Love never faileth."
(Simon) Ie, treiwn hi, treiwn hi.
 
(Simon) Fe credais i mod i'n clywed swn.
(0, 1) 98 Do, Wil bach.
(0, 1) 99 Efe yw ceidwad y porth heno.