Cythraul y Canu

Ciw-restr ar gyfer Simon

(Gwyn) Gwell i chwi gydio yn îy mraich i, Simon Jones.
 
(Gwyn) Y mae hi dipyn yn dywyll a'r ffordd yn dolciog,
(0, 1) 9 Diolch, diolch.
(0, 1) 10 'Dyw'r hen ffenestri yma ddim cyn gliried ag y buont, frawd bach.
(0, 1) 11 Mae pedwar ugain mlynedd wedi tywyllu cryn dipyn arnynt.
(Gwyn) Posibl, posibl.
 
(Gwyn) 'Dyw oedran ddim yn dod wrtho ei hun.
(0, 1) 14 Nad yw, nad yw.
(0, 1) 15 Dipyn yn hwp-di-hap yw hi arna i yn awr.
(0, 1) 16 Ond bu gen i lygaid unwaith fel llygaid cath.
(0, 1) 17 Pe byddai y nos cyn ddued a bola buwch ddu, fe ffeindiwn y ffordd i'r Ysgol Gân ac i'r Cwrdd Gweddi.
(Gwyn) Wel, mae yna "Heading Caled," ys dywed y coliar, o'n blaen heno, Simon Jones.
 
(Gwyn) Mae rhyw derfysg rhyfedd ynglŷn â'r corau canu yma.
(0, 1) 20 Pup, pup.
(0, 1) 21 Welais i erioed ffashwn beth: erioed ffashwn beth.
(0, 1) 22 Mae y cyfan yn fflwch-di-fflach, ac yn higgle-di-pigledi.
(0, 1) 23 Ydyw, gwir ddyn byw.
(0, 1) 24 Bawo sut beth!
(Gwyn) Ydyw, mae yn dân o Dan i Beerseba.
 
(Gwyn) Ydyw, mae yn dân o Dan i Beerseba.
(0, 1) 26 Wn i ddim faint o gythreuliaid sydd yn rhydd ar y ddaear yma, ond rwy'n credu hyn, mai y gwaethaf o'r adar duon i gyd yw "Cythraul y Canu."
(0, 1) 27 Be wedwch chwi, syr?
(Gwyn) Un garw yw e.
 
(Gwyn) Mae e a'i gorn neu'i big yn rhywle o hyd.
(0, 1) 30 'E fu yma gôr canu yn y lle unwaith, o dan arweiniad Shanko'r teiliwr, oedd yn ddiguro bron.
(Gwyn) Gwir, gwir, a daeth y côr a'r lle hwn i enwogrwydd.
 
(Gwyn) Gwir, gwir, a daeth y côr a'r lle hwn i enwogrwydd.
(0, 1) 32 Ac yr oedd y teiliwr yn arweinydd, syr.
(0, 1) 33 Hynny yw, os y gallech chwi ddygymod â'i ystumiau ef.
(0, 1) 34 Y gwir ag e, fe dynnai'r hen deiliwr ganu allan o byst llydiard, ac fe'i tyn ef eto.
(0, 1) 35 Mae gweled y teiliwr yn arwain côr yn hala rhywbeth trwyddo chwi fel pe tae chwi mewn mashin wynegon.
(Gwyn) Ydi, Mae'n enaid i gyd.
 
(0, 1) 39 Mae'r hen frest yma'n gyfyng, fachgen.
(0, 1) 40 Gadewch i ni gael anadl, a mygyn cyn myned i mewn.
 
(Gwyn) Ie, mae'n gynnar i'r cyfarfod.
(0, 1) 43 Ie, ie, a piti garw; fe ddaeth cythraul y canu i fewn i'r côr, ac fe aeth yn ffrwgwd yma fel y gwyddoch.
(0, 1) 44 Ac fe gododd y côr "split" yna o dan arweiniad Telorydd, a byth oddiar cychwyniad y côr "split" mae wedi bod yn "civil war" yma.
(0, 1) 45 Ydi, gwir ddyn byw.
(Gwyn) Nid wyf yn gallu cysoni pethau.
 
(Gwyn) Mae arweinydd yr hên gôr ac arweinydd y cor newydd yn fechgyn rhagorol, a chyn belled ag y gwelaf fi, yn eithaf cyfeillgar â'i gilydd.
(0, 1) 48 Am Shanko'r Tilwr, arweinydd yr hen gôr, bu dim o'i well ef mewn crys erioed.
(0, 1) 49 Am Telorydd, arweinydd y côr newydd, mae fel y dur, yn ben cerddor ac yn ben arweinydd cor.
(Gwyn) Fy marn i yw y cytunai'r arweinyddion, onibai am y dynion sydd tu ôl iddynt.
 
(Gwyn) Fy marn i yw y cytunai'r arweinyddion, onibai am y dynion sydd tu ôl iddynt.
(0, 1) 51 Dynion!
(0, 1) 52 Pup, pup.
(0, 1) 53 Dywedwch 'menywod,' os daw cythraul y canu fewn i gôr, ellwch chwi fentro mai ymhlith y sopranos neu yr altos y dechreua â'i antics.
(Gwyn) Y nhw yw'r llestri gwannaf.
 
(Gwyn) Y nhw yw'r llestri gwannaf.
(0, 1) 55 Mae gennyf bob parch i fenyw, cofiwch chwi.
(0, 1) 56 Menyw oedd mam, a menyw oedd Nansi, fy ngwraig, ac ni fu erioed eu gwell, ond fe wnaeth menyw gawl o'r fusnes gyntaf hynny yn Eden, ac y mae'n gwneuthur cawl o bethau oddiar hynny.
(Gwyn) Ha! Ha!
 
(Gwyn) Ac yn enwedig o gorau canu Simon Jones.
(0, 1) 59 Yn corddi y cyfan, syr.
(Gwyn) Wel, os oes côr i fynd oddiyma i'r Genedlaethol, mae'n rhaid cael trefn ar bethau'n well na hyn.
 
(Gwyn) Wel, os oes côr i fynd oddiyma i'r Genedlaethol, mae'n rhaid cael trefn ar bethau'n well na hyn.
(0, 1) 61 Rwy'n credu mod i wedi gweled y ffordd allan o'r dyryswch, syr.
(Gwyn) Da iawn; gŵr da ydych chwi, Simon Jones,
 
(Gwyn) Da iawn; gŵr da ydych chwi, Simon Jones,
(0, 1) 63 Mae Telorydd a Marged Elen yn caru, syr.
(Gwyn) Ha! Ha!
 
(Gwyn) Chwi ddwedsoch hi nawr, Simon Jones.
(0, 1) 69 Mae e mor wir â phader, syr.
(0, 1) 70 Mae'r hen Simon yn myned yn hen, ond dim yn rhy hen i sylwi ar y caru yma.
(0, 1) 71 Gwelais y ddau neithiwr ddiweddaf efo'i gilydd ar lwybr y Waun, ac yr oedd e yn ei chofleidio hi'n deidi.
(Gwyn) Chredaf fi byth.
 
(Gwyn) Efallai mai trefnu ynghylch y gymdeithas ddiwylliadol yr oeddynt.
(0, 1) 75 Pup, pup!
(0, 1) 76 Yn y fan yna 'rych chwì eto, y dyn!
(0, 1) 77 Pan welwch chwi fab a merch yn cerdded ym 'mreichiau ei gilydd, ac yn aros bob rhyw gan llath i gofleidio neu gusanu, mae yna rywbeth yn y gwynt heb law siarad am y Gymdeithas Ddiwylliadol.
(0, 1) 78 Chlywais i erioed sut beth.
(Gwyn) Ydyw'r hen bobl yn gwybod am y garwriaeth?
 
(Gwyn) Ydyw'r hen bobl yn gwybod am y garwriaeth?
(0, 1) 80 Dim gwec.
(0, 1) 81 Cyn belled ag y gwn i, na neb yn y lle ychwaith.
(0, 1) 82 Maent yn gyfrwys ofnadwy efo'u caru.
(Gwyn) Wel, efallai mai Marged Elen fydd yn offeryn i heddychu'r corau.
 
(Gwyn) Merch fach ragorol yw Marged Elen, onide?
(0, 1) 85 Un o'r goreuon, fachgen; un o'r goreuon.
(0, 1) 86 Mae Marged Elen yn meddwl yn gyntaf ac yn siarad wedyn.
(0, 1) 87 Mae llawer o'r rhocesi heddiw yn siarad yn gyntaf ac yn meddwl wedyn.
(Gwyn) Ydynt, ydynt, os yn meddwl o gwbl.
 
(Gwyn) Ydynt, ydynt, os yn meddwl o gwbl.
(0, 1) 89 Rhaid i ni ymddibynnu ar Marged Elen, ynte.
(0, 1) 90 Rhaid i ni dynnu ar y llinyn yna, fachgen.
(0, 1) 91 Cariad ni chwymp ymaith."
(Gwyn) Eithaf gwir.
 
(Gwyn) "Love never faileth."
(0, 1) 95 Ie, treiwn hi, treiwn hi.
(0, 1) 96 Pwy sy yna?
(0, 1) 97 Fe credais i mod i'n clywed swn.
(Gwyn) Do, Wil bach.
 
(Gwyn) Efe yw ceidwad y porth heno.
(0, 1) 100 O!
(0, 1) 101 Wil bach, ai ie fe?
(0, 1) 102 Gynneuaist ti y gole yn y festri?
(Wil) Do.
 
(Wil) Dewch i mewn.
(0, 1) 105 Wel, be sy gennyt ti i ddweud, Wil bach?
(0, 1) 106 Yr wyt yn ŵr da am glecs ynghylch y corau yma.
(Wil) Ma hi i fod off yma heno.
 
(Wil) Off yma heno.
(0, 1) 110 Be gest ti i feddwl hynny?
(0, 1) 111 Pup, pup.
(Wil) Wel, mae Mari Isaac a Martha Jenkins wedi bod yn cerdded o un tŷ i'r llall drwy y dydd, a ma gwallt nhw yn sefyll ar wrych er ys amser.
 
(Wil) Wel, mae Mari Isaac a Martha Jenkins wedi bod yn cerdded o un tŷ i'r llall drwy y dydd, a ma gwallt nhw yn sefyll ar wrych er ys amser.
(0, 1) 113 Be ti'n whalu, bachan?
(0, 1) 114 Glywais i erioed sut beth!
(0, 1) 115 Pup, pup.
(Wil) Mae Mari Isaac yn dweud os nad yw Telorydd yn cael arwain y Côr Cenedlaethol y bydd yma ddiain o row.
 
(Wil) Mae Mari Isaac yn dweud os nad yw Telorydd yn cael arwain y Côr Cenedlaethol y bydd yma ddiain o row.
(0, 1) 117 Pup, pup.
(0, 1) 118 Chlywais i erioed ffashwn beth.
(Wil) Martha Jenkins yn dweud os nad yw Shanko yn cael arwain y côr, y bydd "fireworks" yn y cyfarfod heno,
 
(Wil) Martha Jenkins yn dweud os nad yw Shanko yn cael arwain y côr, y bydd "fireworks" yn y cyfarfod heno,
(0, 1) 120 Pup, pup.
(0, 1) 121 Chlywais i erioed ffashwn beth.
(0, 1) 122 Erioed ffashiwn beth.