Deufor-Gyfarfod

Ciw-restr ar gyfer Price

 
(1, 0) 40 Wel, diolch i'r mawredd, dyna hwnna wedi 'i gwpla.
(1, 0) 41 Rwy'i wedi sgrifennu at Lizzie Ann.
(1, 0) 42 Fe fydd nol yma ddydd Llun.
(Gwen) Feddylias i ariod pan adewais iddi fynd lawr i Lantrisant y byswn yn gweld cymaint o'i hisha hi.
 
(Gwen) Wrth gwrs fysa ddim yn deg ifi 'i chatw hi a nwnta'n dishgwl babi yno cyn pen doufish.
(1, 0) 45 Wel, fe fydd nol ddydd Llun, ta beth.
(Gwen) Nid 'mod i'n teimlo'r gwaith yn ormodd ifi, cofia, ond mae'n od yn y tŷ yma hepthi rywsut.
 
(1, 0) 48 Dyna falch wy'i 'mod i wedi cwpla'r ddou lythyr yna.
(1, 0) 49 Dyna jobyn nad oes geni gynnig iddo─sgrifennu llythyron.
(1, 0) 50 Am na ches i fawr o ysgol ariod depig.
(Gwen) Wyt ti wedi cwpla'r llythyr at Myfanwy, John?
 
(1, 0) 53 Wel am otw, merchi.
(1, 0) 54 O'r diwadd!
(Gwen) {Yn gollwng ei hosan i'w harffed.}
 
(1, 0) 58 Do, merchi, fe wetas hynny.
(Gwen) Wn i ddim yn y byd shwd y galla' i fatal ag e.
 
(Gwen) Rwy'n ffaelu diall, John, pam mae'r Brenin Mawr yn doti dynon gita'i gilydd os yw E am 'u gwahanu nhw wetyn.
(1, 0) 62 Paid â becso, Gwen fach.
(1, 0) 63 Mynd fydd ora ar 'i les e.
(1, 0) 64 Roet ti dy hunan yn clwad Dr. Willie Jenkins yn gweyd pwy ddydd yma mai'r rhan yna o Australia yw'r man gora yn y byd i ddyn yn y |decline|.
(1, 0) 65 Lwc fawr oedd i Myfanwy gisho gita ni i hela fe mas yno, a hitha'n gwpod 'i fod e'n dost.
(Gwen) Wel, fe fydd yn lwc i Myfanwy idd 'i gal e hed.
 
(Gwen) Fe ddotast yn y llythyr am dano'n ennill y wobor yn Steddfod Mountain Ash, spo?
(1, 0) 69 Wel, am do, Gwen, wrth gwrs hynny!
(Gwen) A dim ond pump wthnos cyn y bydd e'n mynd.
 
(1, 0) 73 Ond meddwl, Gwen fach, beth fydd y canlyniad!
(1, 0) 74 Dim ond cwpwl bach o flynydda, yna wedi'r holl weddïo taer a cholli dagra, fe ddaw nol atom ni eto─yn ddyn cryf ac iach!
(Gwen) Ia, ia, John, fe wn i hynny!
 
(1, 0) 80 Shwd mae spelian "endeavouring," Gwen?
(Gwen) {Yn synfyfyriol.}
 
(Gwen) Bysa'n llawar rhwyddach iti sgrifennu yn Gymrag, John bach.
(1, 0) 87 Ho'n wir!
(1, 0) 88 A gatal i ŵr Myfanwy feddwl 'mod i'n ffaelu wilia Sisnag, a ninna ddim yn wilia â'n gilydd pan madawson' nhw â Aberpandy?
(1, 0) 89 Dim perig, wir!
 
(1, 0) 91 Wel, wel, tyswn i ddim ond wedi cal ticyn o ysgol!
(1, 0) 92 O'r cyfla mae'r plant yn 'i gal heddi─|Council School|, yr |Intermediate|, a'r |College|!
 
(Gwen) Sgwn i shwd bydd e'n dishgwl.
(1, 0) 96 Yn dishgwl?
(1, 0) 97 Pwy?
(Gwen) Gwilym ni, pan ddaw e nol yn gryf ac iach.
 
(1, 0) 104 Gwen fach, rwyt ti byth a hefyd yn meddwl am y bechgyn yma.
(Gwen) {Gydag arlliw o syndod.}
 
(1, 0) 112 Ia, dyna ti, y streic...
(1, 0) 113 Un ar ol y nall─streic, streic, streic!
(1, 0) 114 Allsat ti ddim cal ffowlyn ar hen gownt gan Parri'r Fish?
(Gwen) Dyw e ddim yn rhoi hen gownt i neb nawr.
 
(1, 0) 118 Ia, dyna ti!
 
(1, 0) 120 A dyna'r criw mae Lewis ni yn byw ac yn bod gita nhw.
(1, 0) 121 A dyn teidi fel fi sy wedi |Drill Hall| y funad yma yn dewish ymgeisydd Seneddol─a mae nhw'n siwr o ddewish un pert hed!
(Gwen) {Wedi dilyn ei meddyliau ei hun.}
 
(1, 0) 128 O, fe fydd yn ddicon |respectable| i Myfanwy ni, paid ti ofni hynny.
(Gwen) Crotan ryfadd oedd Myfanwy─'roedd hi'n llawn bywyd ac yn dân ac yn deimlad i gyd.
 
(Gwen) Rwy' i bron cretu bod John Henry ni'n tyfu yr un ffunud a'i fotryb Myfanwy.
(1, 0) 132 Mae fe rwpath yn depig, mae'n wir.
(1, 0) 133 Ag all neb ama nag oes ganto lais hyfryd.
(Gwen) A mae fe rwpath yn depig obeutu 'i drwyn a'i ên hed.
 
(Gwen) Ddotast ti air am dano yn y llythyr?
(1, 0) 136 Wel am do!
 
(1, 0) 138 "We are expecting our John Henry back from college─"
(Gwen) |University|, John, |University|!
 
(1, 0) 141 "From the University in Cardiff to-morrow or the day after.
(1, 0) 142 I think I told you before that he is preparing for the ministry.
(1, 0) 143 He is now in his second year, and next year he will be trying for the B.A."
(Gwen) {Wrthi ei hun gydag arddeliad mawr.}
 
(Gwen) Y Parch. John Henry Price, B.A.
(1, 0) 146 "Perhaps he will study for the B.D. afterwards, but that isn't quite settled yet.
(1, 0) 147 Fortunately─
 
(1, 0) 149 fortunately, he won a County Exhibition, so that we don't have to keep him altogether."
(Gwen) Allsem ni ddim gwneud, John, a Gwilym druan mor wannaidd.
 
(1, 0) 153 Dyna brecath grand roes e inni Nadolig dwetha─precath ardderchog oedd hi.
(1, 0) 154 Doedd Isaac Pugh ddim yn rhyw wresog iawn obeutu hi, ond roedd y diaconiaid erill yn 'i chanmol hi tuhwnt.
(Gwen) Wel, John, wyt ti'n gweld, mae 'i fab 'i hunan, William Ewart, yn paratoi i fod yn bregethwr hed, a falle na alla neb ddishgwl iddo fod yn rhyw wresog iawn.
 
(Gwen) Wel, John, wyt ti'n gweld, mae 'i fab 'i hunan, William Ewart, yn paratoi i fod yn bregethwr hed, a falle na alla neb ddishgwl iddo fod yn rhyw wresog iawn.
(1, 0) 156 A hefyd, mae fe mor gyndyn dros roi galwad i Jones Dowlais.
(Gwen) Fe wetast wrth Myfanwy am yr alwad i Horeb, spo?
 
(Gwen) Fe fydd hynny yn ddiddorol, a hitha wedi arfadd ishta yn y cornal wrth yr harmonium o'r dydd y bedyddiwyd hi.
(1, 0) 160 Wn i ddim, Gwen, os wyt ti wedi taro ar yr un syniad a finna obeutu'r alwad yma.
(Gwen) {Yn ddigyffro.}
 
(1, 0) 164 Wel, fe fyddai'n ardderchog o beth tysa John Henry wedi cwpla yn y Coleg ac yn gallu cymryd yr eclws, on' byddai, Gwen?
(Gwen) {Yn gollwng ei gwaith gwnïo i'w harffed.}
 
(Gwen) Pump wthnos, dim ond pump wthnos.
(1, 0) 171 Dere, Gwen fach, dere.
(1, 0) 172 Does dim iws iti fecso felna.
(Gwen) Alla' i ddim help, John bach.
 
(1, 0) 212 Wel, Gwilym, ffordd mae hi nawr, machan i?
(Gwen) Ble buast ti mas yna'r holl amsar, boi bach, a hitha mor dwym yn yr houl?
 
(Gwen) Ble buast ti mas yna'r holl amsar, boi bach, a hitha mor dwym yn yr houl?
(1, 0) 214 Rown i'n gweyd wrth dy fam ar ol cino y dylat ti fynd i orffws am spel bob diwetydd.
(Gwilym) Rwy'n olreit, nhad!
 
(Gwilym) Wel, fe fuas am dro at yr |Institute|, ac yna meddyliais y byswn yn aros i glywad pwy gas 'i ethol fel yr ymgeisydd newydd.
(1, 0) 235 Yr hen Binkerton yna, spo.
(Sam) |Right, boss, right, the very first time|!
 
(Pugh) Fe glywsoch y newydd, spo?
(1, 0) 266 Do, fe glywas.
(Pugh) Wel, feddylias i ariod y byswn i byw i weld shwd ddyn a'r hen Binkerton yn M.P. dros y Cwm─naddo'n wir!
 
(Gwilym) Mae' nhw'n gweyd 'i fod e'n ddyn galluog iawn, Mr. Pugh.
(1, 0) 269 Dynon fel fe sy'n felldith i'r wlad yma heddi.
(1, 0) 270 Pwy yw e, sgwn i, i gal 'i hannar addoli?
(1, 0) 271 Rwy' i wedi byw yn y cwm yma nawr am drician mlynadd.
(1, 0) 272 Rwy' i'n cofio Aberpandy cyn byth i'r Powel Griffiths shinco'r pwll cynta.
(1, 0) 273 Rwy'n cofio defid y Pandy'n pori'n dawal lle mae Pwll Bryndu nawr.
(1, 0) 274 A chlywas i ariod sôn am y Pinkerton yma tan ryw ddwy ne dair blynadd yn ol.
(Pugh) Wel, rown i'n meddwl fod pawb yn diall 'slawar dydd taw Evan Davies oedd i ddilyn George Llewelyn.
 
(Gwilym) Ond mae'r cwbwl wedi newid yn y cwm erbyn heddi.
(1, 0) 278 Eitha gwir, Gwilym, y cwbwl wedi newid, a newid er gwath hed, mae'n flin gen i weyd.
(1, 0) 279 Dyn da, stydi yw Evan Davies, dyn teidi, respectable, ac yn ddiacon ers ucian mlynedd.
(1, 0) 280 Rwy'n cofio'r diwarnod pan ethom ni'n dou i lawr y cwm i weld Gladstone.
 
(1, 0) 282 Ia, yr hen Gladstone!
(1, 0) 283 Dyna ddyn i chi!
(1, 0) 284 A drychwch ar yr hen Binkerton yma.
(1, 0) 285 Glywsoch chi son iddo ariod dywyllu drws capal ne hyd yn oed eclws tysa fatar o hynny?
(1, 0) 286 Pam na wnaiff e gynnal 'i hen gyfarfotydd ar ryw ddiwarnod arall heblaw'r Saboth?
(1, 0) 287 Mae'n ddicon calad i gal pobol i'r capal ar ddydd Sul heb iddo fe gatw 'i hen gyfarfotydd.
(1, 0) 288 "Chwe diwrnod y gweithi," medda'r Gair.
(1, 0) 289 Ond dyna, mae petha felly mas o ddate heddi.
(Gwen) {Yn arllwys cwpanaid o dê.}
 
(1, 0) 306 Clywas fod William Ewart chi wedi cal hwyl dda arni lan yn Treherbert pwy ddydd Sul 'ma.