Deryn Dierth

Ciw-restr ar gyfer Geinor

(Walter) O'r andras!
 
(Walter) A oedd yn rhaid i ti ddod i mewn i'r ystafell hon a minnau wedi cael tipyn o lonyddwch am dro?
(1, 0) 25 Oeddech chi'n breuddwydio?
(Walter) Nawr y cysgais i a dyna tithau...
 
(Walter) Nawr y cysgais i a dyna tithau...
(1, 0) 27 Breuddwydio am y cornel clyd yna sydd yn y "Prince of Wales" yn Nhre-cyll.
(Walter) E!
 
(Walter) Beth ddwedaist ti?
(1, 0) 30 A'r barmaid yna sy'n bowdwr a lipstic i gyd yn dod a pheth yfed i chi.
(Walter) Dwn i ddim am beth yr wyt ti'n siarad.
 
(Walter) Dwn i ddim am beth yr wyt ti'n siarad.
(1, 0) 32 Ydych chi'n drwm eich clyw y pnawn yma.
 
(1, 0) 34 Am danoch chi'n llymeitian yn y "Prince...
(Walter) Geinor, Geinor, rwy'n dymuno arnat...
 
(Walter) Geinor, Geinor, rwy'n dymuno arnat...
(1, 0) 36 Rydw i wedi cael siom fawr ynoch chi, Nwncwl─fedrai i ddim dweud faint o siom.
(Walter) Celwydd yw'r cwbl, dim ond celwydd.
 
(Walter) Pobl y lle yma'n llunio stori fy mod yn yfed oherwydd fy mod yn mynd i Dre-cyll ambell waith.
(1, 0) 39 Wel, does dim gwahaniaeth gen i─fe ellwch droi i mewn i bob tafarn yn y lle o'm rhan i...
(1, 0) 40 Ble mae modryb?
(1, 0) 41 Allan yn yr ardd?
 
(Walter) {Chwilio am ei esgidiau.}
(1, 0) 45 Beth sy'n bod?
(Walter) Ond dwyt ti ddim yn credu'r storïau yma am dy Nwncwl, wyt ti?
 
(Walter) Ond dwyt ti ddim yn credu'r storïau yma am dy Nwncwl, wyt ti?
(1, 0) 47 Fe fyddai'n anodd iawn gen i eu chredu onibai i mi eich gweld trwy ffenestr y "Prince of Wales" neithiwr â'm llygaid fy hun.
(Walter) Fy ngweld i!
 
(Walter) Doeddwn i ddim yn agos i'r lle neithiwr.
(1, 0) 50 O!
(1, 0) 51 O'r gorau!
(1, 0) 52 Gwadwch chi.
(1, 0) 53 Fel y dywedais i, does dim gwahaniaeth gen i.
(1, 0) 54 Dwedwch, ydy modryb yn yr ardd?
(Walter) Pa amser oedd hyn?
 
(Walter) Pa amser oedd hyn?
(1, 0) 56 Beth?
(1, 0) 57 Pryd y gwelais i chi?
(1, 0) 58 O, rywbryd rhwng chwech a saith.
(Walter) Ond, doeddwn i ddim yno, rwy'n ei ddweud wrthyt.
 
(Walter) Ond, doeddwn i ddim yno, rwy'n ei ddweud wrthyt.
(1, 0) 60 Dyna ddiwedd arni ynte.
(Walter) Wyt ti ddim yn fy nghredu?
 
(Walter) Wyt ti ddim yn fy nghredu?
(1, 0) 62 Nac ydw, Nwncwl.
(1, 0) 63 Peidiwch ag edrych mor ofidus.
(1, 0) 64 Ddweda i ddim wrth modryb.
(1, 0) 65 Dim ond fi ac Arthur sy'n gwybod.
(Walter) Oedd crwt Mari'r Siop gyda thi?
 
(Walter) Oedd crwt Mari'r Siop gyda thi?
(1, 0) 67 Oedd.
(Walter) Dyna ddiwedd arni, nawr.
 
(Walter) Mae Mari yn sicr o ddweud wrth dy fodryb.
(1, 0) 70 Na ofidiwch, Nwncwl bach, ni ddywed Arthur air wrth neb.
(1, 0) 71 Rydych yn ddiogel eto.
(1, 0) 72 Ond gwyliwch chi eich camre o hyn allan.
(1, 0) 73 Beth petai modryb wedi digwydd edrych i mewn drwy ffenestr y bar neithiwr.
(Walter) Paid, paid a dychmygu'r fath beth.
 
(Walter) Paid, paid a dychmygu'r fath beth.
(1, 0) 75 Wel, meddyliwch chi am hynny y tro nesaf y trowch i mewn yno.
(1, 0) 76 Fe fyddai'n ddigon o sioc i modryb ddod i wybod eich bod chi'n mynd i mewn i'r ""Prince of Wales" heblaw...
(Walter) Cadw di'r peth yn ddistaw, ac fe gofia i amdanat ti, Geinor.
 
(Walter) Cadw di'r peth yn ddistaw, ac fe gofia i amdanat ti, Geinor.
(1, 0) 78 Reit.
(1, 0) 79 Fe'ch atgofia i chi am yr addewid yna eto.
(1, 0) 80 Ond, dwedwch, ble mae pawb?
(1, 0) 81 Ble mae modryb?
(Walter) Mae hi a dy fodryb Jane wedi mynd i weld Ann, Tŷ-gwyn─fe aethant â thipyn o gawl a rhyw lintach o gig iddi.
 
(Walter) Fe fyddai'n well gan Ann druan beidio â gweld eu hwynebau, ond y mae'n rhaid iddynt gael meddwl eu bod yn fenywod mawr yn y lle.
(1, 0) 84 Ble mae'r Ianci?
(Walter) Ust.
 
(Walter) Dydy e ddim yn leicio'r enw Ianci.
(1, 0) 88 O'r gorau.
(1, 0) 89 Ble mae Carnolyn R. Rees, Ysw., Chicago?
(Walter) Mae rhyw fusnes ymlaen ganddo yntau hefyd.
 
(Walter) Ddwedodd e'r un gair amdano, ond mae rhyw haearn ganddo yn y tân y pnawn yma.
(1, 0) 92 Wel, gobeithio y gall e wneud y lle hwn yn debycach i Chicago, beth bynnag.
(1, 0) 93 Mari Jones yn dweud bod Arthur wedi mynd am dro, chi yn cysgu yn nhraed eich sanau, Modryb Sara a Modryb Jane yn cario cawl ar hyd y lle, Carnolyn R. Rees yn meindio ei fusnes ei hun a neb yn barod i'm helpu i i dreulio'r pnawn braf yma.
(Walter) Ble mae Demetrius?
 
(Walter) Fe dreuliai fe brynhawn yn dy gwmni gyda phleser.
(1, 0) 97 Gwnâi, efallai, ond chaiff e mo'r cyfle.
(Walter) Fe wnait wraig dda i bregethwr, Geinor─Mrs. Demetrius Jones!
 
(Walter) Fe wnait wraig dda i bregethwr, Geinor─Mrs. Demetrius Jones!
(1, 0) 99 Os ydych chi yn mynd i siarad felna, fe af innau i sôn am y "Prince of Wales."
(Walter) Nawr, rwy'n begian arnat, Geinor.
 
(Walter) Mae clustiau gan y muriau.
(1, 0) 103 Rhaid i chithau beidio â sôn am Demetrius bach hefyd.
(1, 0) 104 Rwy'n fodlon i chi fy mhryfocio am bopeth arall, ond nid amdano ef.
(Walter) Dydw i ddim am dy wneud yn wraig pregethwr os nad wyt ti am fod.
 
(Walter) Dydw i ddim am dy wneud yn wraig pregethwr os nad wyt ti am fod.
(1, 0) 106 Dydw i ddim am fod, a dyna ddigon ar y pwnc yna.
(1, 0) 107 Nawr, dim gair yn rhagor.
(1, 0) 108 Mae'r cadoediad wed dechrau; ond i chi beidio â sôn am Demetrius fe gadwa innau oddi wrth bwnc y "barmaid."
(Walter) Diolch am hynny.
 
(1, 0) 111 Hylo!
(1, 0) 112 Mae'r allweddau yn y drôr yna─rwyf wedi bod eisiau gwybod pa gyfrinach sydd gennych ynddo ers oesoedd a dyma gyfle.
 
(Walter) Mae'r drwg hanner modfedd i mewn, a faint o les fydd ïodin ar y croen.
(1, 0) 145 A gaf i ymofyn yr ïodin, modryb?
(Walter) Na chei.
 
(Mrs. Morgan) {Allan drwy'r ffenestr.}
(1, 0) 246 Buwyd yn trafod y sefyllfa ariannol, do fe, Nwncwl?
(Walter) E!
 
(Walter) Sut gwyddost ti?
(1, 0) 249 O, fe glywais y geiriau "hanner coron yr wythnos" yn fflotio allan drwy'r ffenestr.
(Walter) Ydy pawb yn y pentre yn gwybod, Geinor?
 
(Walter) Ydy pawb yn y pentre yn gwybod, Geinor?
(1, 0) 251 Ydynt, bawb am wn i.
(1, 0) 252 Pam nad ewch chi ar streic, Nwncwl?
(Walter) Haws dweud na gwneud.
 
(Walter) Fi wnaeth y cawl, weld di.
(1, 0) 255 Ie, fe glywais; gamblo!
(Walter) Roeddwn ar y pryd yn ofni na wellwn i ddim o'r dwymyn ac ar awr wan fe seiniais y weithred yn rhoi pob hawl ar yr arian i'th fodryb, a dyma fi, hanner coron yr wythnos.
 
(Walter) Roeddwn ar y pryd yn ofni na wellwn i ddim o'r dwymyn ac ar awr wan fe seiniais y weithred yn rhoi pob hawl ar yr arian i'th fodryb, a dyma fi, hanner coron yr wythnos.
(1, 0) 257 Wel, fe allai fod yn swllt, oni allai?
(1, 0) 258 Byddai hynny yn fwy nag yr ydw i'n ei gael.
(Walter) Ond fe elli di wella pethau'n rhwydd.
 
(Walter) Ond fe elli di wella pethau'n rhwydd.
(1, 0) 260 O!
(1, 0) 261 Sut?
(Walter) Dwed di'r gair ac fe fyddi'n Mrs. Demetrius Jones cyn gynted ag y gellir cyhoeddi'r gostegion.
 
(Walter) Dwed di'r gair ac fe fyddi'n Mrs. Demetrius Jones cyn gynted ag y gellir cyhoeddi'r gostegion.
(1, 0) 263 Does gennych chi ddim cof da, oes e, Nwncwl?
(1, 0) 264 Ydych chi wedi anghofio'r fargen ynglŷn â'r...
(Walter) {Yn gwneud arwyddion cyffrous iddi dewi ac yn gostwng ei lais.}
 
(Walter) Oni ddwedais i wrthyt ti am beidio â sôn...
(1, 0) 267 Do, ac fe addawsoch chithau beidio â son am Demetrius bach, hefyd.
(Walter) Dy les di oedd gen i mewn golwg.
 
(Walter) Dy les di oedd gen i mewn golwg.
(1, 0) 269 Ydych chwi yn dweud y gwir i gyd, Nwncwl?
(Walter) Wel, nac ydw, efallai ond...
 
(Walter) Wel, nac ydw, efallai ond...
(1, 0) 271 Onid dilyn ordors o H.Q. ydych chi?
(Walter) Mae yn hen bryd i ti roi heibio'r syniad o fynd i Lundain.
 
(Walter) Mae yn hen bryd i ti roi heibio'r syniad o fynd i Lundain.
(1, 0) 273 Dyna un pwnc arall nad yw i gael ei drafod rhyngom.
(Walter) Os ei ymlaen fel hyn, ni fydd gennym yr un pwnc i sôn amdano─bydd yn rhaid i ni fod yn fud yng nghwmni'n gilydd.
 
(Walter) Os ei ymlaen fel hyn, ni fydd gennym yr un pwnc i sôn amdano─bydd yn rhaid i ni fod yn fud yng nghwmni'n gilydd.
(1, 0) 275 Fe allwn bob amser sôn am y cwestiwn mawr y lwans wythnosol.
(1, 0) 276 Rwy'n addo un peth i chi, Nwncwl, pan fydda i wedi bod trwy'r "School of Dramatic Art" ac yn actres fawr a'm henw mewn goleuadau llachar uwchben drws theatr yn Llundain, rwy'n addo dwblu'ch lwans chi, o leiaf.
(1, 0) 277 Os bydda i'n cael deg punt yr wythnos, ac y mae llawer actres yn cael tipyn yn fwy na hynny, fe gewch chi bunt yr wythnos.
(1, 0) 278 Meddyliwch beth fydd hynny yn ei olygu i chi yn lle ceisio fy mherswadio i aros yn y pentre hwn dan wab modryb a phriodi gwidman sydd wedi reteirio ar arian ei wraig gyntaf.
(Walter) Rwy'n gweld na fydda i damaid gwell o siarad â thi.
 
(Walter) Rwy'n gweld na fydda i damaid gwell o siarad â thi.
(1, 0) 280 Dim un tamaid.
(Walter) Rwyt wedi etifeddu penstiffrwydd dy fam ac elfen dy dad am actio.
 
(Walter) Digon tenau fu eu bywyd hwy a'th un dithau nes i ti ddod i fyw at dy fodryb Jane.
(1, 0) 284 Nid arian yw'r cwbl, Nwncwl.
(Walter) Nage, efallai.
 
(Walter) Petait yn gorfod byw ar hanner coron yr wythnos o arian poced...
(1, 0) 288 Arian neu beidio, i Lundain i ddysgu bod yn actres yr wyf yn mynd beth bynnag a ddywed modryb a phawb arall.
(Walter) Rwyt yr un ffunud â'th fam; rwy'n cofio fel petai ddoe am dy fodryb yn pregethu wrthi cyn iddi briodi─roedd y cwbl fel dŵr ar gefn hwyad.
 
(Walter) Rwyt yr un ffunud â'th fam; rwy'n cofio fel petai ddoe am dy fodryb yn pregethu wrthi cyn iddi briodi─roedd y cwbl fel dŵr ar gefn hwyad.
(1, 0) 290 Y peth sy'n fy ngwneud yn ynfyd yw bod Dcmetrius bach yn gwneud i modryb garu drosto.
(1, 0) 291 Buasech yn disgwyl bod gwidman fel efe, wedi cael profiad, yn gallu gwneud ei garu ei hunan.
(Walter) Fe wnâi ond i ti roi hanner cyfle iddo.
 
(Walter) Fe wnâi ond i ti roi hanner cyfle iddo.
(1, 0) 293 Rydw i wedi rhoi digon o gyfle iddo.
(1, 0) 294 Rwyf am siawns i ddweud wrtho ble mae e'n sefyll i orffen y peth am byth.
(1, 0) 295 Ond wnaiff e ddim.
(1, 0) 296 Mae'n rhaid cael Modryb Jane fel rhyw fath o "chaperone" bob amser.
(1, 0) 297 Os mynd am dro yn ei gar rhaid mynd yn dri.
(1, 0) 298 Os mynd i'r sinema, ni'n tri.
(1, 0) 299 Rwyf wedi cael digon ar ei garu ac am gyfle i roi stop arno am byth.
(Walter) Ust, gwrando.
 
(1, 0) 304 Dim ond Modryb Jane.
(1, 0) 305 Na, mae Demetrius yna hefyd.
(1, 0) 306 Dwedwch wrthyf i, rydw i wedi meddwl gofyn i chwi sawl gwaith, a fu rhywbeth rhwng Modryb Jane a'r Ianci cyn iddo fynd i'r America.
(Walter) Da thi, paid â'i alw wrth yr enw yna.
 
(Walter) Da thi, paid â'i alw wrth yr enw yna.
(1, 0) 308 Beth alwaf i arno?
(1, 0) 309 Mae Carnolyn R. Rees yn ormod o lond pen, a rywsut nid yw Rees Chicago, yn swnio'n reit.
(1, 0) 310 Ond, dwedwch, a fu rhywbeth rhyngddynt?
(Walter) Roeddent yn dipyn o gyfeillion.
 
(Walter) Roeddent yn dipyn o gyfeillion.
(1, 0) 312 Wel, os yw e wedi dod yn ôl yma i'w hymofyn, mae'n rhaid i mi edrych i mewn i'w "gredentials."
(1, 0) 313 Mae Modryb Jane yn llawer rhy neis i briodi pob un sydd wedi gwneud arian yn America.
(Walter) Gwylia di dy gamre.
 
(Walter) Un gwyllt iawn oedd e cyn mynd i America.
(1, 0) 317 A oedd e'n siarad ac yn bragio cymaint yr amser hwnnw?
(Walter) Ddim cymaint efallai, ond ni ellid ei alw yn grwt distaw, diymhongar o bell ffordd.
 
(Walter) Ddim cymaint efallai, ond ni ellid ei alw yn grwt distaw, diymhongar o bell ffordd.
(1, 0) 319 Dwedwch, Nwncwl, beth achosodd i Modryb Sara i ofyn iddo aros yma?
(Walter) Wel, roedd e'n eitha cyfeillgar â'i theulu hi pan oedd yn fachgen.
 
(Walter) Ac, wrth gwrs, mae dy fodryb yn hoffi cwmni dynion ariannog.
(1, 0) 322 Nid eisiau ei gadw yn weddol agos at Modryb Jane, ai e?
(Walter) Beth wn i?
 
(Mrs. Morgan) Mae Mr. Jones wedi galw i ddweud ei fod yn meddwl mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol pythefnos i ddydd Iau ac y mae am wybod a hoffit fynd gydag e.
(1, 0) 335 A fydd Modryb Jane yn dod hefyd?
(Demetrius) Wel, yr wyf am i chwi ddod eich dwy.
 
(Demetrius) Wel, yr wyf am i chwi ddod eich dwy.
(1, 0) 337 A ydych chi am fynd, modryb?
(Jane) Fe-hoffwn i fynd i'r Eisteddfod unwaith─chefais i ddim cyfle erioed o'r blaen.
 
(Mrs. Morgan) Rwyf am i chi gyfarfod â'r "visitor" enwog sydd gyda ni yma─bachgen o'r lle wedi gwneud arian yn America, Mr. Carnolyn Rees.
(1, 0) 350 Mr. Carnolyn R. Rees, Modryb─rhaid i chi beidio ag anghofio'r "R"; John D.
(1, 0) 351 Rockfeller, nid John Rockfeller.
(Walter) Bedyddiwyd ef yn Rhys Rees─yn America yn rhywle y cafodd e afael ar yr enw Carnolyn.
 
(Mrs. Morgan) Roeddwn yn gyfeillgar iawn ag e cyn iddo fynd i America.
(1, 0) 360 Wrth ei glywed yn siarad gellwch feddwl ei fod yn adnabod gangsters Chicago i gyd.
(Demetrius) "Dear me," mae'n rhaid i mi ddod i'w adnabod.
 
(1, 0) 368 Fu e ddim yn hir, beth bynnag.
(1, 0) 369 Dyma fe'n dod.
(Mrs. Morgan) Rwy'n falch nad aethoch chi cyn iddo ddod, Mr. Jones.
 
(Rees) Na, na, ond yr ydw i wedi cerdded llawer â hwn yn fy llaw─hwn ddaeth â ffortiwn i mi.
(1, 0) 380 Ydych chi'n bwriadu gwneud ail ffortiwn y ffordd hyn eto?
(1, 0) 381 Os ydych, yr wyf am fod yn bartner.