Deryn Dierth

Ciw-restr ar gyfer Rees

(Walter) O'r andras!
 
(Mrs. Morgan) Rwy'n falch nad aethoch chi cyn iddo ddod, Mr. Jones.
(1, 0) 376 Wel, wel, dyma'r teulu bach yn gryno.
(1, 0) 377 Rwyf wedi bod am dro ar hyd llwybrau ieuenctid.
(Walter) Dwed wrthyf i, Rhys, ydy hi yn arfer yn America i gario morthwyl yn lle ffon wrth gerdded?
 
(Walter) Dwed wrthyf i, Rhys, ydy hi yn arfer yn America i gario morthwyl yn lle ffon wrth gerdded?
(1, 0) 379 Na, na, ond yr ydw i wedi cerdded llawer â hwn yn fy llaw─hwn ddaeth â ffortiwn i mi.
(Geinor) Ydych chi'n bwriadu gwneud ail ffortiwn y ffordd hyn eto?
 
(Geinor) Os ydych, yr wyf am fod yn bartner.
(1, 0) 382 Wel, efallai, pwy a ŵyr?
(Walter) Ond beth yw amcan y morthwyl?
 
(1, 0) 387 Falch iawn i gwrdd â chi.
(1, 0) 388 Mae llawer o fobl nad ydw i'n eu hadnabod yn y lle nawr.
(1, 0) 389 Mae'n rhyfedd faint o wahaniaeth a wna pum mlynedd ar hugain.
(Demetrius) Rwyf innau yn falch iawn o'r cyfle i'ch cyfarfod chi.
 
(Mrs. Morgan) Mae e'n mynd â nhw i'r Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos ar ôl y nesaf.
(1, 0) 394 Wel, nawr, dyna beth rhyfedd.
(1, 0) 395 Roeddwn i'n meddwl am yr Eisteddfod y pnawn yma.
(1, 0) 396 A oes yna ddim gorsedd neu ryw "syndicate" neu'i gilydd yn perthyn i'r Eisteddfod?
(Demetrius) Oes, siwr!
 
(Demetrius) Rwy'n aelod ohoni.
(1, 0) 400 Dyma fy mhrynhawn lwcus i!
(1, 0) 401 Chi yw'r dyn yr wyf am siarad ag ef.
(1, 0) 402 Beth yw'r "procedure" i ddod yn aelod?
(1, 0) 403 Faint mae'n gostio?
(Demetrius) Mae'n rhaid pasio arholiadau...
 
(Demetrius) Mae'n rhaid pasio arholiadau...
(1, 0) 405 Fe fu dyn o Chicago draw yma rai blynydde nôl ac fe'i gwnawd e'n aelod ac yr wyf yn siŵr na phasiodd e "exam" o unrhyw fath ond mewn gwybodaeth am sut i werthu "shares" di-werth.
(1, 0) 406 Roedd wedi tynnu ei lun mewn rhyw wisg laes fawr ynghanol lot o fobl eraill wedi'u gwisgo run fath a bu'r llun hwnnw ym mhob papur yn Chicago.
(1, 0) 407 Chredwch chi ddim faint o help a fu'r llun hwnnw iddo wrth werthu "shares" wedyn.
(1, 0) 408 Na, na, mae'n rhaid bod yna ryw ffordd heblaw pasio "exam."
(Demetrius) Mae rhai pobl yn cael eu hethol yn Aelodau.
 
(Demetrius) Mae rhai pobl yn cael eu hethol yn Aelodau.
(1, 0) 410 Dyna rywbeth nawr.
(1, 0) 411 Wel, faint mae hynny'n gostio?