Deryn Dierth

Ciw-restr ar gyfer Walter

 
(1, 0) 23 O'r andras!
(1, 0) 24 A oedd yn rhaid i ti ddod i mewn i'r ystafell hon a minnau wedi cael tipyn o lonyddwch am dro?
(Geinor) Oeddech chi'n breuddwydio?
 
(Geinor) Oeddech chi'n breuddwydio?
(1, 0) 26 Nawr y cysgais i a dyna tithau...
(Geinor) Breuddwydio am y cornel clyd yna sydd yn y "Prince of Wales" yn Nhre-cyll.
 
(Geinor) Breuddwydio am y cornel clyd yna sydd yn y "Prince of Wales" yn Nhre-cyll.
(1, 0) 28 E!
(1, 0) 29 Beth ddwedaist ti?
(Geinor) A'r barmaid yna sy'n bowdwr a lipstic i gyd yn dod a pheth yfed i chi.
 
(Geinor) A'r barmaid yna sy'n bowdwr a lipstic i gyd yn dod a pheth yfed i chi.
(1, 0) 31 Dwn i ddim am beth yr wyt ti'n siarad.
(Geinor) Ydych chi'n drwm eich clyw y pnawn yma.
 
(Geinor) Am danoch chi'n llymeitian yn y "Prince...
(1, 0) 35 Geinor, Geinor, rwy'n dymuno arnat...
(Geinor) Rydw i wedi cael siom fawr ynoch chi, Nwncwl─fedrai i ddim dweud faint o siom.
 
(Geinor) Rydw i wedi cael siom fawr ynoch chi, Nwncwl─fedrai i ddim dweud faint o siom.
(1, 0) 37 Celwydd yw'r cwbl, dim ond celwydd.
(1, 0) 38 Pobl y lle yma'n llunio stori fy mod yn yfed oherwydd fy mod yn mynd i Dre-cyll ambell waith.
(Geinor) Wel, does dim gwahaniaeth gen i─fe ellwch droi i mewn i bob tafarn yn y lle o'm rhan i...
 
(Geinor) {Symud at y ffenestr frensh.}
(1, 0) 43 Geinor, aros, aros ferch.
 
(Geinor) Beth sy'n bod?
(1, 0) 46 Ond dwyt ti ddim yn credu'r storïau yma am dy Nwncwl, wyt ti?
(Geinor) Fe fyddai'n anodd iawn gen i eu chredu onibai i mi eich gweld trwy ffenestr y "Prince of Wales" neithiwr â'm llygaid fy hun.
 
(Geinor) Fe fyddai'n anodd iawn gen i eu chredu onibai i mi eich gweld trwy ffenestr y "Prince of Wales" neithiwr â'm llygaid fy hun.
(1, 0) 48 Fy ngweld i!
(1, 0) 49 Doeddwn i ddim yn agos i'r lle neithiwr.
(Geinor) O!
 
(Geinor) Dwedwch, ydy modryb yn yr ardd?
(1, 0) 55 Pa amser oedd hyn?
(Geinor) Beth?
 
(Geinor) O, rywbryd rhwng chwech a saith.
(1, 0) 59 Ond, doeddwn i ddim yno, rwy'n ei ddweud wrthyt.
(Geinor) Dyna ddiwedd arni ynte.
 
(Geinor) Dyna ddiwedd arni ynte.
(1, 0) 61 Wyt ti ddim yn fy nghredu?
(Geinor) Nac ydw, Nwncwl.
 
(Geinor) Dim ond fi ac Arthur sy'n gwybod.
(1, 0) 66 Oedd crwt Mari'r Siop gyda thi?
(Geinor) Oedd.
 
(Geinor) Oedd.
(1, 0) 68 Dyna ddiwedd arni, nawr.
(1, 0) 69 Mae Mari yn sicr o ddweud wrth dy fodryb.
(Geinor) Na ofidiwch, Nwncwl bach, ni ddywed Arthur air wrth neb.
 
(Geinor) Beth petai modryb wedi digwydd edrych i mewn drwy ffenestr y bar neithiwr.
(1, 0) 74 Paid, paid a dychmygu'r fath beth.
(Geinor) Wel, meddyliwch chi am hynny y tro nesaf y trowch i mewn yno.
 
(Geinor) Fe fyddai'n ddigon o sioc i modryb ddod i wybod eich bod chi'n mynd i mewn i'r ""Prince of Wales" heblaw...
(1, 0) 77 Cadw di'r peth yn ddistaw, ac fe gofia i amdanat ti, Geinor.
(Geinor) Reit.
 
(Geinor) Ble mae modryb?
(1, 0) 82 Mae hi a dy fodryb Jane wedi mynd i weld Ann, Tŷ-gwyn─fe aethant â thipyn o gawl a rhyw lintach o gig iddi.
(1, 0) 83 Fe fyddai'n well gan Ann druan beidio â gweld eu hwynebau, ond y mae'n rhaid iddynt gael meddwl eu bod yn fenywod mawr yn y lle.
(Geinor) Ble mae'r Ianci?
 
(Geinor) Ble mae'r Ianci?
(1, 0) 85 Ust.
(1, 0) 86 Ddylet ti ddim galw hynna arno.
(1, 0) 87 Dydy e ddim yn leicio'r enw Ianci.
(Geinor) O'r gorau.
 
(Geinor) Ble mae Carnolyn R. Rees, Ysw., Chicago?
(1, 0) 90 Mae rhyw fusnes ymlaen ganddo yntau hefyd.
(1, 0) 91 Ddwedodd e'r un gair amdano, ond mae rhyw haearn ganddo yn y tân y pnawn yma.
(Geinor) Wel, gobeithio y gall e wneud y lle hwn yn debycach i Chicago, beth bynnag.
 
(Geinor) Mari Jones yn dweud bod Arthur wedi mynd am dro, chi yn cysgu yn nhraed eich sanau, Modryb Sara a Modryb Jane yn cario cawl ar hyd y lle, Carnolyn R. Rees yn meindio ei fusnes ei hun a neb yn barod i'm helpu i i dreulio'r pnawn braf yma.
(1, 0) 94 Ble mae Demetrius?
(1, 0) 95 Ydy e ddim yn y golwg yn rhywle?
(1, 0) 96 Fe dreuliai fe brynhawn yn dy gwmni gyda phleser.
(Geinor) Gwnâi, efallai, ond chaiff e mo'r cyfle.
 
(Geinor) Gwnâi, efallai, ond chaiff e mo'r cyfle.
(1, 0) 98 Fe wnait wraig dda i bregethwr, Geinor─Mrs. Demetrius Jones!
(Geinor) Os ydych chi yn mynd i siarad felna, fe af innau i sôn am y "Prince of Wales."
 
(Geinor) Os ydych chi yn mynd i siarad felna, fe af innau i sôn am y "Prince of Wales."
(1, 0) 100 Nawr, rwy'n begian arnat, Geinor.
(1, 0) 101 |Rhaid| i ti beidio â |meddwl| amdano.
(1, 0) 102 Mae clustiau gan y muriau.
(Geinor) Rhaid i chithau beidio â sôn am Demetrius bach hefyd.
 
(Geinor) Rwy'n fodlon i chi fy mhryfocio am bopeth arall, ond nid amdano ef.
(1, 0) 105 Dydw i ddim am dy wneud yn wraig pregethwr os nad wyt ti am fod.
(Geinor) Dydw i ddim am fod, a dyna ddigon ar y pwnc yna.
 
(Geinor) Mae'r cadoediad wed dechrau; ond i chi beidio â sôn am Demetrius fe gadwa innau oddi wrth bwnc y "barmaid."
(1, 0) 109 Diolch am hynny.
(Geinor) {Yn gweld drôr yn y ddesg ag allweddau ynddo]
 
(Geinor) {Yn symud at y drôr.}
(1, 0) 114 Hei!
 
(1, 0) 116 Hei!
(1, 0) 117 Fy nrôr i ydy hwnna.
(1, 0) 118 Aros.
 
(1, 0) 120 Mae'n hercian i dynnu'r allweddau o'i dwylo gan gloi'r drôr ac yna yn codi'r droed sydd heb esgid gan dynnu tintac allan ohoni.}
(1, 0) 121 Pwy ddiawl adawodd hon...
 
(Mrs. Morgan) Rydw i wedi dweud digon wrthych am beidio ag iwsio iaith felna.
(1, 0) 129 Iaith!
(1, 0) 130 Fe fyddai unrhyw angel yn defnyddio'r un iaith petai e'n rhoi ei droed ar ben tintac.
(Mrs. Morgan) Beth oeddech chi'n ei wneud yn droednoeth?
 
(Mrs. Morgan) Beth oeddech chi'n ei wneud yn droednoeth?
(1, 0) 132 Beth ydych chi'n peidio ag edrych ar ôl y tŷ yma'n iawn yn lle cario cawl ar hyd y pentre?
(1, 0) 133 Colli tintacs ar hyd yr holl le gynnau!
(Mrs. Morgan) Does dim eisiau'r holl sŵn am rywbeth bach felna.
 
(Mrs. Morgan) Does dim eisiau'r holl sŵn am rywbeth bach felna.
(1, 0) 135 Peth bach, ddwetsoch chi!
(1, 0) 136 Mae blaen y tintac yna wedi mynd hanner modfedd i mewn i'n nhroed i.
(1, 0) 137 Synnwn i fawr na aeth hi a thipyn o'r hosan i mewn gyda hi a dyna "blood-poisoning."
(1, 0) 138 Ie, peth bach fydd e pan fydd fy nhroed i wedi chwyddo fel casgen.
(Mrs. Morgan) Tynnwch eich hosan.
 
(Mrs. Morgan) Rwyt yn gwybod lle...
(1, 0) 142 Dydych chi ddim yn mynd i gael rhoi ïodin arno.
(1, 0) 143 Beth gwell fyddwch chi?
(1, 0) 144 Mae'r drwg hanner modfedd i mewn, a faint o les fydd ïodin ar y croen.
(Geinor) A gaf i ymofyn yr ïodin, modryb?
 
(Geinor) A gaf i ymofyn yr ïodin, modryb?
(1, 0) 146 Na chei.
(1, 0) 147 Does arna i ddim o'i eisiau.
(Mrs. Morgan) O'r gorau.
 
(Mrs. Morgan) Walter, a fuoch chi yn Nhre-cyll, neithiwr?
(1, 0) 158 Fi!
(1, 0) 159 Fi!
(1, 0) 160 Yn Nhre-cyll!
(1, 0) 161 Ni fuais i'n agos i'r lle.
(1, 0) 162 Mae pwy bynnag a ddwedodd wrthych chi yn dweud celwydd.
(1, 0) 163 Celwydd noeth!
(Mrs. Morgan) Ni ddwedodd neb wrthyf.
 
(Mrs. Morgan) Gofyn oeddwn i?
(1, 0) 166 O, gofyn aie!
(1, 0) 167 Wel, beth oedd pwynt y gofyn?
(Mrs. Morgan) Eisiau cael gwybod a welsoch chi Geinor yno.
 
(Mrs. Morgan) Eisiau cael gwybod a welsoch chi Geinor yno.
(1, 0) 169 Na welais i ddim ohoni.
(1, 0) 170 Sut gallwn i?
(1, 0) 171 Doeddwn i ddim yno fy hunan.
(Mrs. Morgan) Fe glywais y pnawn yma bod Geinor yno gyda mab Mari Jones, y Siop.
 
(Mrs. Morgan) Fe glywais y pnawn yma bod Geinor yno gyda mab Mari Jones, y Siop.
(1, 0) 173 Oedd.
(1, 0) 174 Yr oedd hi hefyd.
(Mrs. Morgan) O!
 
(Mrs. Morgan) Sut gwyddech chi?
(1, 0) 177 E!
(1, 0) 178 O... y... fe'i gwelais yn cerdded ar hyd y ffordd tua Thre-cyll.
(Mrs. Morgan) Mae'n rhaid i ni roi stop ar y ffrenshibaeth yna.
 
(Mrs. Morgan) Rhaid i ni ofalu na wêl Mr. Jones hi yng nghwmni mab Mari Jones neu dyna ddiwedd ar y cwbl.
(1, 0) 181 Diwedd ar beth?
(Mrs. Morgan) Diwedd ar y matsh rhyngddi a Mr. Jones.
 
(1, 0) 184 Sara, dydw i ddim yn mynd i'ch gadael chi a Jane i wneud i Geinor briodi Demetrius Jones na neb arall os nad yw hi am.
(Mrs. Morgan) Gadewch chi i fi a Jane edrych ar ôl Geinor.
 
(Mrs. Morgan) Fe wna i yr hyn sydd orau er ei lles hi.
(1, 0) 189 A dydy fy marn i yn cyfri dim?
(Mrs. Morgan) Dim.
 
(Mrs. Morgan) Ond y mae'n rhaid i chi ein helpu ni.
(1, 0) 193 O! rwy'n ddigon da i helpu, hefyd.
(Mrs. Morgan) Rydych chi'n cael mwy o berswâd arni na neb arall.
 
(Mrs. Morgan) Fe wrendy arnoch chi lle na wrendy hi arna i na Jane.
(1, 0) 196 O, oes, y mae ganddi dipyn o olwg ar ei hen Nwncwl.
(Mrs. Morgan) Wel, ceisiwch ganddi fod yn neis i Mr. Jones pan fydd e'n galw a dwedwch wrthi nad yw hi damaid gwell o geisio cael mynd i Lundain i fod yn actres─na chaiff hi ddim─na fodlonwn i na Jane fyth i hynny.
 
(1, 0) 200 Ond beth gwell fydda i i ddweud hynny.
(1, 0) 201 Mae'n gwybod yn iawn nad oes gen i ddim hawl ar yr arian.
(1, 0) 202 Mae'r holl bentre yn gwybod.
(1, 0) 203 Fi wedi safio a chrafu i grynhoi arian yn Llundain a chithau wedi mynnu'r hawl iddynt bob dimai.
(1, 0) 204 Rwy'n sport y pentre.
(1, 0) 205 Dallaf i ddim seinio siec fy hunan.
(Mrs. Morgan) Nawr, Walter, dydyn ni ddim yn mynd ar ôl hen stori felna eto.
 
(Mrs. Morgan) Nawr, Walter, dydyn ni ddim yn mynd ar ôl hen stori felna eto.
(1, 0) 207 Digon hawdd i chi siarad.
(1, 0) 208 Fi sy'n gorfod dioddef.
(1, 0) 209 Fi sydd heb arian poced.
(1, 0) 210 A'r cwbwl oherwydd i mi gael un anlwc a cholli deucant ar y "Stock Exchange."
(Mrs. Morgan) Does yna'r un pwrpas i sôn am y'peth...
 
(Mrs. Morgan) Does yna'r un pwrpas i sôn am y'peth...
(1, 0) 212 Wyddoch chi nad oes gen i'r un geiniog yn fy mhoced nawr.
(1, 0) 213 Dyn yn werth ei filoedd yn gorfod dibynnu ar haelioni ei wraig am arian poced!
(Mrs. Morgan) Os cewch chi berswâd ar Geinor fe godaf eich lwans i chweugain yr wythnos.
 
(Mrs. Morgan) Os cewch chi berswâd ar Geinor fe godaf eich lwans i chweugain yr wythnos.
(1, 0) 215 Beth yw chweugain?
(Mrs. Morgan) Mae'n fwy na hanner coron.
 
(Mrs. Morgan) Mae'n fwy na hanner coron.
(1, 0) 217 Hanner coron yr wythnos!
(1, 0) 218 Dyna i gyd rwy'n ei gael.
(1, 0) 219 Ac y mae Pensiwn Hen Bobol yn chweugain!
(Mrs. Morgan) Pwy sy'n talu am eich bwyd a'ch dillad?
 
(Mrs. Morgan) Pwy sy'n talu am eich bwyd a'ch dillad?
(1, 0) 221 Pwy safiodd yr arian?
(1, 0) 222 Dwedwch hynny.
(1, 0) 223 Pwy fu'n slafio ac yn meddwl am ddim ond am reteiro am flynydde.
(1, 0) 224 Ac i beth?
(1, 0) 225 I dreio byw ar hanner coron yr wythnos.
(Mrs. Morgan) Y chi achosodd y cwbl.
 
(Mrs. Morgan) Onibai am hynny buasech wedi colli'r cwbl.
(1, 0) 229 Ond feddyliais i erioed bod gen i wraig a fyddai mor annynol â rhoi dim ond hanner coron yr wythnos i mi.
(Mrs. Morgan) Rwy'n cynnig chweugain i chi os gwnewch chi'r hyn yr ydw i am.
 
(Mrs. Morgan) Rwy'n cynnig chweugain i chi os gwnewch chi'r hyn yr ydw i am.
(1, 0) 231 Wna i ddim ohono dan bunt.
(Mrs. Morgan) O'r gorau, os gwnewch chi addo siarad â hi y pnawn yma.
 
(Mrs. Morgan) O'r gorau, os gwnewch chi addo siarad â hi y pnawn yma.
(1, 0) 233 Pryd y mae'r codiad i ddechrau?
(Mrs. Morgan) Pan fydd Geinor wedi addo bod yn wraig i Mr. Jones.
 
(Mrs. Morgan) Pan fydd Geinor wedi addo bod yn wraig i Mr. Jones.
(1, 0) 235 A beth os na wnaiff hi addo?
(Mrs. Morgan) Yna fe fydd yn rhaid i chi fyw ar eich hanner coron.
 
(Geinor) Buwyd yn trafod y sefyllfa ariannol, do fe, Nwncwl?
(1, 0) 247 E!
(1, 0) 248 Sut gwyddost ti?
(Geinor) O, fe glywais y geiriau "hanner coron yr wythnos" yn fflotio allan drwy'r ffenestr.
 
(Geinor) O, fe glywais y geiriau "hanner coron yr wythnos" yn fflotio allan drwy'r ffenestr.
(1, 0) 250 Ydy pawb yn y pentre yn gwybod, Geinor?
(Geinor) Ydynt, bawb am wn i.
 
(Geinor) Pam nad ewch chi ar streic, Nwncwl?
(1, 0) 253 Haws dweud na gwneud.
(1, 0) 254 Fi wnaeth y cawl, weld di.
(Geinor) Ie, fe glywais; gamblo!
 
(Geinor) Ie, fe glywais; gamblo!
(1, 0) 256 Roeddwn ar y pryd yn ofni na wellwn i ddim o'r dwymyn ac ar awr wan fe seiniais y weithred yn rhoi pob hawl ar yr arian i'th fodryb, a dyma fi, hanner coron yr wythnos.
(Geinor) Wel, fe allai fod yn swllt, oni allai?
 
(Geinor) Byddai hynny yn fwy nag yr ydw i'n ei gael.
(1, 0) 259 Ond fe elli di wella pethau'n rhwydd.
(Geinor) O!
 
(Geinor) Sut?
(1, 0) 262 Dwed di'r gair ac fe fyddi'n Mrs. Demetrius Jones cyn gynted ag y gellir cyhoeddi'r gostegion.
(Geinor) Does gennych chi ddim cof da, oes e, Nwncwl?
 
(1, 0) 266 Oni ddwedais i wrthyt ti am beidio â sôn...
(Geinor) Do, ac fe addawsoch chithau beidio â son am Demetrius bach, hefyd.
 
(Geinor) Do, ac fe addawsoch chithau beidio â son am Demetrius bach, hefyd.
(1, 0) 268 Dy les di oedd gen i mewn golwg.
(Geinor) Ydych chwi yn dweud y gwir i gyd, Nwncwl?
 
(Geinor) Ydych chwi yn dweud y gwir i gyd, Nwncwl?
(1, 0) 270 Wel, nac ydw, efallai ond...
(Geinor) Onid dilyn ordors o H.Q. ydych chi?
 
(Geinor) Onid dilyn ordors o H.Q. ydych chi?
(1, 0) 272 Mae yn hen bryd i ti roi heibio'r syniad o fynd i Lundain.
(Geinor) Dyna un pwnc arall nad yw i gael ei drafod rhyngom.
 
(Geinor) Dyna un pwnc arall nad yw i gael ei drafod rhyngom.
(1, 0) 274 Os ei ymlaen fel hyn, ni fydd gennym yr un pwnc i sôn amdano─bydd yn rhaid i ni fod yn fud yng nghwmni'n gilydd.
(Geinor) Fe allwn bob amser sôn am y cwestiwn mawr y lwans wythnosol.
 
(Geinor) Meddyliwch beth fydd hynny yn ei olygu i chi yn lle ceisio fy mherswadio i aros yn y pentre hwn dan wab modryb a phriodi gwidman sydd wedi reteirio ar arian ei wraig gyntaf.
(1, 0) 279 Rwy'n gweld na fydda i damaid gwell o siarad â thi.
(Geinor) Dim un tamaid.
 
(Geinor) Dim un tamaid.
(1, 0) 281 Rwyt wedi etifeddu penstiffrwydd dy fam ac elfen dy dad am actio.
(1, 0) 282 Ond cofia, welodd e druan erioed mo'i enw mewn llythrennau llachar.
(1, 0) 283 Digon tenau fu eu bywyd hwy a'th un dithau nes i ti ddod i fyw at dy fodryb Jane.
(Geinor) Nid arian yw'r cwbl, Nwncwl.
 
(Geinor) Nid arian yw'r cwbl, Nwncwl.
(1, 0) 285 Nage, efallai.
(1, 0) 286 Ond y mae arian yn llawer.
(1, 0) 287 Petait yn gorfod byw ar hanner coron yr wythnos o arian poced...
(Geinor) Arian neu beidio, i Lundain i ddysgu bod yn actres yr wyf yn mynd beth bynnag a ddywed modryb a phawb arall.
 
(Geinor) Arian neu beidio, i Lundain i ddysgu bod yn actres yr wyf yn mynd beth bynnag a ddywed modryb a phawb arall.
(1, 0) 289 Rwyt yr un ffunud â'th fam; rwy'n cofio fel petai ddoe am dy fodryb yn pregethu wrthi cyn iddi briodi─roedd y cwbl fel dŵr ar gefn hwyad.
(Geinor) Y peth sy'n fy ngwneud yn ynfyd yw bod Dcmetrius bach yn gwneud i modryb garu drosto.
 
(Geinor) Buasech yn disgwyl bod gwidman fel efe, wedi cael profiad, yn gallu gwneud ei garu ei hunan.
(1, 0) 292 Fe wnâi ond i ti roi hanner cyfle iddo.
(Geinor) Rydw i wedi rhoi digon o gyfle iddo.
 
(Geinor) Rwyf wedi cael digon ar ei garu ac am gyfle i roi stop arno am byth.
(1, 0) 300 Ust, gwrando.
(1, 0) 301 Mae rhywun yn siarad â'th fodryb.
(1, 0) 302 Pwy sydd yna?
(Geinor) {Yn mynd i'r ffenestr i edrych.}
 
(Geinor) Dwedwch wrthyf i, rydw i wedi meddwl gofyn i chwi sawl gwaith, a fu rhywbeth rhwng Modryb Jane a'r Ianci cyn iddo fynd i'r America.
(1, 0) 307 Da thi, paid â'i alw wrth yr enw yna.
(Geinor) Beth alwaf i arno?
 
(Geinor) Ond, dwedwch, a fu rhywbeth rhyngddynt?
(1, 0) 311 Roeddent yn dipyn o gyfeillion.
(Geinor) Wel, os yw e wedi dod yn ôl yma i'w hymofyn, mae'n rhaid i mi edrych i mewn i'w "gredentials."
 
(Geinor) Mae Modryb Jane yn llawer rhy neis i briodi pob un sydd wedi gwneud arian yn America.
(1, 0) 314 Gwylia di dy gamre.
(1, 0) 315 Nid dyn i chwarae ag ef yw Rhys.
(1, 0) 316 Un gwyllt iawn oedd e cyn mynd i America.
(Geinor) A oedd e'n siarad ac yn bragio cymaint yr amser hwnnw?
 
(Geinor) A oedd e'n siarad ac yn bragio cymaint yr amser hwnnw?
(1, 0) 318 Ddim cymaint efallai, ond ni ellid ei alw yn grwt distaw, diymhongar o bell ffordd.
(Geinor) Dwedwch, Nwncwl, beth achosodd i Modryb Sara i ofyn iddo aros yma?
 
(Geinor) Dwedwch, Nwncwl, beth achosodd i Modryb Sara i ofyn iddo aros yma?
(1, 0) 320 Wel, roedd e'n eitha cyfeillgar â'i theulu hi pan oedd yn fachgen.
(1, 0) 321 Ac, wrth gwrs, mae dy fodryb yn hoffi cwmni dynion ariannog.
(Geinor) Nid eisiau ei gadw yn weddol agos at Modryb Jane, ai e?
 
(Geinor) Nid eisiau ei gadw yn weddol agos at Modryb Jane, ai e?
(1, 0) 323 Beth wn i?
(1, 0) 324 Dydw i ddim yn gwybod ei chyfrinachau.
(1, 0) 325 Gofyn iddi─dyma hi'n dod.
(Mrs. Morgan) {Wrth ddod î mewn.}
 
(Geinor) Rockfeller, nid John Rockfeller.
(1, 0) 352 Bedyddiwyd ef yn Rhys Rees─yn America yn rhywle y cafodd e afael ar yr enw Carnolyn.
(Mrs. Morgan) Beth bynnag, mae'n fachgen sydd wedi gwneud yn dda iawn yno.
 
(Mrs. Morgan) Chi'n gweld, mae e'n ddyn â digon o arian ac y mae amser ei hunan ganddo.
(1, 0) 365 Mae rhyw fusnes neu'i gilydd ymlaen ganddo y pnawn yma.
(1, 0) 366 Fe wrthododd ddweud ble'r oedd yn mynd?
(Geinor) {Wrth y ffenestr.}
 
(Rees) Rwyf wedi bod am dro ar hyd llwybrau ieuenctid.
(1, 0) 378 Dwed wrthyf i, Rhys, ydy hi yn arfer yn America i gario morthwyl yn lle ffon wrth gerdded?
(Rees) Na, na, ond yr ydw i wedi cerdded llawer â hwn yn fy llaw─hwn ddaeth â ffortiwn i mi.
 
(Rees) Wel, efallai, pwy a ŵyr?
(1, 0) 383 Ond beth yw amcan y morthwyl?