Y Dyn Drws Nesaf

Ciw-restr ar gyfer Efa

 
(1, 0) 20 Hst!
(Meurig) Bob tro y do' i adre, dim ond yr un sŵn o hyd!
 
(Meurig) {Mae MEURIG yn cerdded at yr offeryn ac yn rhoi iaw arno.}
(1, 0) 24 Paid!
(Meurig) 'Rwy' wedi blino.
 
(Meurig) 'Rwy' wedi blino.
(1, 0) 26 Ble'r wyt ti wedi bod?
(Meurig) Yn y labordy.
 
(Meurig) Ble arall!
(1, 0) 29 Rwyt ti'n hwyrach nag erioed...
(1, 0) 30 Ac yn awr, os gweli di fod yn dda, efallai y caf wrando ar y record.
(1, 0) 31 Mae hi'n wych.
(Meurig) 'Rwyf heb fwyta ers hanner dydd.
 
(1, 0) 35 Rhaid i ti gymryd pethau'n fwy hamddenol.
(Meurig) {Erys}
 
(Meurig) Yn yr un man y byddwn i.
(1, 0) 40 Os yw hyn'na'n wir, 'wela' i fawr iawn o synnwyr dy fod ti'n lladd dy hunan yn y labordy.
(1, 0) 41 Mi fyddet yn fwy cysurus o lawer gartre.
 
(1, 0) 43 A minnau.
(Meurig) Ond mae'r arbrofion yn galw!
 
(Meurig) Ond mae'r arbrofion yn galw!
(1, 0) 45 Ydyw dy waith di mor bwysig â hyn'na?
(Meurig) Yn aruthrol bwysig.
 
(1, 0) 48 'R wy'n ceisio dyfalu weithiau, Meurig, pam y priodaist ti o gwbl.
(Meurig) {Yn mynd ati.}
 
(Meurig) Ydyw pethau cynddrwg â hyn'na?
(1, 0) 51 Nid fel hyn oedd hi 'r blynyddoedd cyntaf.
(1, 0) 52 Yn yr amser hwnnw fe roddet sylw i mi, yn ogystal ag i'r labordy.
(Meurig) Rwy'n gorfod talu'n ddrud am y camgymeriad a wnes i bedair blynedd yn ôl.
 
(Meurig) Rwy'n gorfod talu'n ddrud am y camgymeriad a wnes i bedair blynedd yn ôl.
(1, 0) 54 Paid â gofidio cymaint.
(1, 0) 55 Mae'r Awdurdodau 'n siwr o roi dy hen swydd yn ôl i ti.
(1, 0) 56 Yr wyt ti'n rhy athrylithgar iddyn' nhw dy anwybyddu di o hyd.
(Meurig) Tybed?
 
(Meurig) Mae'r peth yn ynfyd.
(1, 0) 62 Yr wyt ti'n rhy ddiamynedd.
(1, 0) 63 Anghofia'r helynt.
(1, 0) 64 Anghofia bopeth... ond bod gen ti wraig.
 
(1, 0) 66 'Rwy' wedi bod yn unig trwy'r dydd.
(Meurig) Mae gen ti dy ddiddordebau.
 
(Meurig) Mae gen ti dy ddiddordebau.
(1, 0) 68 Efallai.
 
(1, 0) 70 Sut wyt ti'n teimlo'n nawr?
(Meurig) Yn well.
 
(Meurig) Mae problemau newydd yn codi, ac mae'n rhaid mynd ar ôl y rheiny.
(1, 0) 78 Dyna ti o hyd.
(1, 0) 79 Yn rhy uchelgeisiol!
(1, 0) 80 Fe all uchelgais ladd dyn gydag amser.
 
(1, 0) 82 'Rwy' i'n dy gael di'n ddigon, fel ag yr wyt ti.
(Meurig) Diolch.
 
(Meurig) Ond mae rhyw ysfa yn fy ngorfodi i i weithio ymlaen, a churo'r lleill.
(1, 0) 87 Ac ennill beth?
(Meurig) Yr hen glod.
 
(Meurig) Mi fyddi dithau ar dy ennill pan fydda' i ar fy nhraed unwaith eto.
(1, 0) 92 Tybed?
(1, 0) 93 Nid wyf i'n chwennych clod...
(1, 0) 94 Dim ond dy gwmni.
(Meurig) Fe ddaw hynny eto... ar ôl y llwyddiant.
 
(Meurig) Fe ddaw hynny eto... ar ôl y llwyddiant.
(1, 0) 96 Yfory yw hi o hyd.
 
(1, 0) 98 Gwell i mi fynd i'r gegin.
(Meurig) 'Does dim chwant bwyd arna' i erbyn hyn.
 
(Meurig) 'Does dim chwant bwyd arna' i erbyn hyn.
(1, 0) 100 Lol!
(1, 0) 101 A thra bydda' i'n paratoi'r swper 'rwyf am glywed y miwsig unwaith eto.
(1, 0) 102 Mi fydd Josef draw cyn hir yn gofyn fy marn i am y record.
(Meurig) {Ei lais yn caledu.}
 
(Meurig) 'Ddaw e' ddim draw heno?
(1, 0) 105 Mae e'n siwr o ddod.
(1, 0) 106 Fe wyddost yn burion fel mae e'n hoffi dod draw am sgwrs bob nos cyn mynd i'r gwely?
(Meurig) Mae e'n ddigon o farn!
 
(Meurig) Mae e'n ddigon o farn!
(1, 0) 108 Rwy'n teimlo trueni drosto.
 
(1, 0) 110 Mi fyddi di'n gwrtais os daw e'?
(Meurig) Mae dyn yn blino ar drafod yr un hen bethau o hyd.
 
(1, 0) 113 Yr wyf i'n hoffi'r dyn.
(Meurig) Fe ddylai fod cywilydd arnat ti dy fod ti'n barod i gyfaddef hynny!
 
(Meurig) Fe ddylai fod cywilydd arnat ti dy fod ti'n barod i gyfaddef hynny!
(1, 0) 115 Pam na all dau berson fod yn gyfeillgar?
(Meurig) Mae dynion yn siarad.
 
(Meurig) Tref fach yw hon.
(1, 0) 118 Gad iddyn' nhw siarad!
(1, 0) 119 Beth yw'r ots?
(1, 0) 120 Yr wyt ti'n deall yn iawn y berthynas sydd rhyngof i a Josef, a dim ond hynny sy'n cyfrif.
(Meurig) Ni hoffais i mo'th ffrindiau di erioed.
 
(Meurig) Ni hoffais i mo'th ffrindiau di erioed.
(1, 0) 122 Naddo.
(1, 0) 123 Mae nhw'n perthyn i'm byd i, ac yn anffodus mae hwnnw allan o'th gyrraedd di.
(Meurig) Am dy fod ti'n dymuno hynny.
 
(Meurig) Am dy fod ti'n dymuno hynny.
(1, 0) 125 Nage.
(1, 0) 126 Nid arnaf i mae'r bai.
(1, 0) 127 'Rwy' wedi ceisio deall dy ddiddordebau di, ond wedi methu.
(1, 0) 128 Oes syndod yn hynny?
(1, 0) 129 Ches i mo 'mreintio â'th allu di.
(1, 0) 130 Ond beth amdanat ti?
(1, 0) 131 Yr ŷm ni'n dau wedi bod yn briod wyth mlynedd... wyth mlynedd i heddi'.
(Meurig) Efa!
 
(Meurig) Y labordy 'na.
(1, 0) 137 Dyna oedd dy esgus di y llynedd hefyd.
(1, 0) 138 Ond paid â hidio.
(1, 0) 139 Fe ges un anrheg i'm hatgoffa i o'r diwrnod braf hwnnw, wyth mlynedd yn ôl.
(Meurig) Beth?
 
(Meurig) Beth?
(1, 0) 141 Y record.
(Meurig) Fe roddodd Josef anrheg i ti, i ddathlu dydd dy briodas!
 
(Meurig) Fe roddodd Josef anrheg i ti, i ddathlu dydd dy briodas!
(1, 0) 143 Anrheg i ni'n dau.
(Meurig) Fe ŵyr yn burion nad wyf i'n hoffi miwsig!
 
(Meurig) Pwy ddywedodd wrtho mai heddi' oedd y dydd?
(1, 0) 147 Efallai mai fi.
(1, 0) 148 'Wn i ddim.
(1, 0) 149 Rhaid dy fod ti neu fi wedi cyfeirio at y dyddiad rywbryd neu'i gilydd yn ei gwmni.
(Meurig) Nid y fi.
 
(Meurig) Nid y fi.
(1, 0) 151 Beth yw'r ots pwy?
(Meurig) Yr wyt ti'n dweud popeth wrth Josef.
 
(Meurig) Yn cyfathrachu â rhyw grachach o estron sebonllyd.
(1, 0) 155 'Dyw hyn'na ddim yn wir!
(Meurig) Wyt ti'n gwadu mai estron yw e'?
 
(Meurig) Wyt ti'n gwadu mai estron yw e'?
(1, 0) 157 Nag wyf.
(1, 0) 158 Dim ond dy ddisgrifiad rhagfarnllyd di!
 
(1, 0) 160 Ble mae'r gwyddonydd wedi dianc heno?
(1, 0) 161 Ti sydd wedi bod yn pregethu gogoniant rhesymeg ar hyd dy oes!
(1, 0) 162 Yn awr yn condemnio dyn, a hynny dim ond achos dy anallu di i ffrwyno teimladau ynfyd.
(Meurig) Nage!
 
(1, 0) 165 Ond dyna hyfryd i feddwl fod gen ti deimladau o gwbl.
(1, 0) 166 Oes posibl fod yna galon wedi'r cyfan yn curo o dan darian blwm y gwyddonydd niwclar?
(1, 0) 167 Fe gredais hynny wyth mlynedd yn ôl.
(Meurig) Yr wyt ti fel plentyn o hyd, yn byw ym myd breuddwydion.
 
(Meurig) Yr wyt ti fel plentyn o hyd, yn byw ym myd breuddwydion.
(1, 0) 169 Yr unig fyd o werth.
(1, 0) 170 Byd sydd ymhell iawn o'th fyd di,... a'th fydoedd.
 
(1, 0) 172 A luchiwyd byd bach newydd i fyny i'r gwagle heddiw?
(1, 0) 173 Naddo?
(1, 0) 174 Wel, wel.
(1, 0) 175 Beth ych chi wedi bod yn ei wneud yn y labordy heddi'?
(1, 0) 176 Yn ceisio dod o hyd i ffordd newydd, fwy effeithiol o ddifetha'r byd hwn?
(1, 0) 177 Hynny efallai?
(Meurig) Mae Josef yn ddiweddar.
 
(Meurig) Mae Josef yn ddiweddar.
(1, 0) 179 Fe ddaw 'nawr.
(1, 0) 180 Paid â dweud dy fod ti'n awyddus i'w weld e'?
(Meurig) Ydwyf.
 
(Meurig) A hynny ers misoedd bellach.
(1, 0) 185 A hynny am nad ydym yn siarad yr un iaith.
(1, 0) 186 Yr wyt ti'n byw ym myd gwyddoniaeth a dinistr, a minnau ym myd celfyddyd,—y byd creadigol.
(Meurig) Ond heb lwyddo i greu dim.
 
(Meurig) Pe bai gennyt blentyn efallai na chawn glywed y siarad hwn.
(1, 0) 189 Meurig!
(Meurig) Wel?
 
(Meurig) Ac yr oedd yn rhaid i Josef Lobbock ddianc o'i wlad ei hun, a dod yma i freuddwydio.
(1, 0) 196 Dianc i chwilio am ryddid!
(Meurig) Stori ramantus... i ferch anwadal.
 
(Meurig) Mi ddylai Josef fod wedi dal ei dir.
(1, 0) 199 A chael ei ladd!
(1, 0) 200 Fe wyddost mai carchar neu farwolaeth sy'n aros Josef os aiff e 'nôl!
(Meurig) Efallai nad efe yw'r unig un sydd am ddianc.
 
(1, 0) 209 Beth... beth wyt ti'n feddwl?
(Meurig) Bûm yn gweithio'n hwyrach nag arfer heno.
 
(Meurig) Am fod fy ngwaith yn y labordy wedi gorffen.
(1, 0) 213 Yr wyt ti wedi colli dy swydd!
(Meurig) Pam wyt ti'n dweud hyn'na?
 
(Meurig) Ateb!
(1, 0) 217 Dim...
(1, 0) 218 Dim ond dy fod ti'n grwgnach weithiau, dy fod ti'n cael cam.
(Meurig) Ac mae hynny'n wir.
 
(Meurig) Ac mae hynny'n wir.
(1, 0) 220 Beth sydd yn mynd i ddigwydd i ti 'nawr?
(Meurig) 'Rwyf wedi ymddeol.
 
(Meurig) 'Rwyf wedi ymddeol.
(1, 0) 222 I ble'r ei di?
(Meurig) 'Rwyf heb benderfynu'n iawn.
 
(Meurig) 'Rwyf heb benderfynu'n iawn.
(1, 0) 224 A 'nawr 'rwy' i'n cael gwybod!
 
(1, 0) 226 Yr wy' i'n hapus 'ma.
(Meurig) Yn chwarae gyda'th deganau!
 
(Meurig) Yn chwarae gyda'th deganau!
(1, 0) 228 Bod gyda'n gilydd.
(Meurig) Na.
 
(Meurig) Cydwybod efallai?
(1, 0) 288 Beth am dy swper, Meurig?
 
(1, 0) 290 Newydd ddod adre mae e'.
(1, 0) 291 Efallai yr hoffech chithau rywbeth 'i fwyta?
(Josef) Dim, diolch yn fawr.
 
(Josef) Ond nes ymlaen... cwpanaid o goffi... E?
(1, 0) 294 Cewch siwr.
(Josef) {Try at MEURIG.}
 
(Josef) Peidiwch â dweud fy mod i wedi gwneud camsyniad?
(1, 0) 333 Naddo.
(1, 0) 334 Diolch... am yr anrheg.
(Josef) {Try at MEURIG }
 
(1, 0) 345 Mae e'n bechod mawr.
(Josef) {Yn gwenu ac yn troi at MEURIG.}
 
(Meurig) Beth wyt ti'n ddweud, Efa?
(1, 0) 352 Mae gen i ben tost.
(Meurig) Fe wellith hwn ben tost.
 
(1, 0) 362 Gadewch iddo chwarae.
(Josef) Ond 'd oeddech chi ddim yn gwrando.
 
(Josef) Ond 'd oeddech chi ddim yn gwrando.
(1, 0) 364 Oeddwn, rywle yn fy isymwybod.
(Josef) {Yn gwenu.}
 
(Josef) Fe fu yna adeg pan oeddech chi'n arfer gwrando â'ch holl feddwl.
(1, 0) 367 Y pen tost 'ma.
(Josef) Ydyw e'n ddrwg?
 
(Josef) Ydyw e'n ddrwg?
(1, 0) 369 Mae e' wedi bod gen i trwy'r dydd.
(Josef) Effaith y siom?
 
(Josef) Mae gwragedd yn disgwyl cael blodau i ddathlu dydd priodas.
(1, 0) 373 'Ches i ddim mo'r pen tost 'ma llynedd, a welais i ddim blodau y pryd hwnnw chwaith.
(Josef) 'Falle y carech chi i mi fynd.
 
(Josef) Mi ddof draw nos yfory.
(1, 0) 376 Efallai na fydd yfory.
(Josef) {Edrych arni'n syn.}
 
(1, 0) 380 Dim ond gofid.
(1, 0) 381 Hyd yn hyn 'rwyf wedi llwyddo i gadw 'ngofiadau o dan ddisgyblaeth,—diolch i chi a ddaeth â diddordebau newydd, pwysig i mi.
(1, 0) 382 Ond heno 'wnaiff y rheiny ddim mo'r tro.
(Josef) Oes rhywbeth y galla" i ei wneud?
 
(Josef) Oes rhywbeth y galla" i ei wneud?
(1, 0) 384 Dim, Josef.
 
(1, 0) 386 Pa faint o amser ych chi wedi bod yn byw yn y pentre' 'ma erbyn hyn?
(Josef) Blwyddyn... na, deng mis.
 
(Josef) Rwy' wedi colli cyfri'.
(1, 0) 389 A minnau.
(1, 0) 390 Gallwn feddwl fy mod i wedi 'ch 'nabod chi erioed.
(1, 0) 391 Pam tybed?
(Josef) Am ein bod ni'n dau yn credu yn yr un pethau, y pethau tragwyddol.
 
(Josef) Am ein bod ni'n dau yn credu yn yr un pethau, y pethau tragwyddol.
(1, 0) 393 Ond eto i gyd fe wn i ond ychydig iawn amdanoch chi.
(1, 0) 394 Dim byd am 'ch hanes chi.
(Josef) 'Dyw fy ngorffennol yn cyfri' dim.
 
(Josef) 'Dyw fy ngorffennol yn cyfri' dim.
(1, 0) 396 Nid dyna farn y byd.
(1, 0) 397 Mae'r byd... yr Awdurdodau wedi ein cofrestru ni i gyd erbyn hyn, gyda llwyddiant ein dyfodol yn dibynnu ar burdeb ein gorffennol.
(1, 0) 398 'Does dim lle i neb sydd wedi pechu yn erbyn y Wladwriaeth.
(1, 0) 399 Rwy'n gwybod.
(1, 0) 400 Mae Meurig wedi gorfod dioddef am iddo siarad gormod.
(1, 0) 401 Dim ond unwaith.
(1, 0) 402 Ond yr oedd yn ddigon.—Ond beth am 'ch hanes chi?
 
(1, 0) 404 Yr ych chi'n gweld fel mae pethau wedi newid yn y tŷ hwn, a hynny mewn byr amser?
(Josef) Mae hawl gyda chi i'm holi i.
 
(Josef) Mae hawl gyda chi i'm holi i.
(1, 0) 406 Croesholi!
(1, 0) 407 Dyna fesur y ffordd yr ŷm ni wedi dod o'ch byd chi.
(1, 0) 408 Yr ŷm ni yn y byd sydd o'n cwmpas ni 'nawr, y byd lle mae pawb yn drwgdybio 'i gilydd.
(Josef) {Erys foment.}
 
(Josef) Mae pethau'n wahanol yma.
(1, 0) 417 'Wn i ddim.
(1, 0) 418 Mae'r labordy yma, a hwnnw yw duw mawr y gymdogaeth, yn rhoi gwaith ac yn addo'n dda.
(Josef) Sylwais i ddim.
 
(Josef) Rwyf wedi treulio yr holl oriau diddan yn yr ystafell hon.
(1, 0) 421 Bywyd unig.
(Josef) Pan ddes i 'ma flwyddyn yn ôl, dyna pryd yr oeddwn yn ddyn unig.
 
(Josef) Fy nghyfeillion yn Llundain wedi methu a'm cysuro ar ôl i mi golli fy ngwlad.
(1, 0) 424 Mi fyddai hynny'n ormod i'w ddisgwyl.
(Josef) {Ym dawel.}
 
(Josef) Efallai ryw ddiwrnod y caf y fraint o dalu peth o'r ddyled yn ôl.
(1, 0) 428 Ond fi sydd yn 'ch dyled chi!
(1, 0) 429 'Roeddwn innau'n unig.
(1, 0) 430 Chi agorodd fy llygaid i beth o ogoniant y byd 'ma.
(1, 0) 431 I'r celfyddydau.
(1, 0) 432 Cyn cwrdd â chi yr oeddwn yn ddall i bopeth o werth.
(Josef) Yr oedd y gallu i ddeall ynoch chi'n barod.
 
(1, 0) 437 Trist yw meddwl y daw'r dyddiau hyn i ben.
 
(1, 0) 439 Mae Meurig yn symud.
(1, 0) 440 Mae e' wedi gorffen â'i waith yn y labordy.
(Josef) Beth!
 
(Josef) 'Chlywais i ddim mohonoch chi'n sôn am hyn o'r blaen.
(1, 0) 443 'Wyddwn innau ddim tan heno.
(Josef) 'D... 'does dim o'i le?
 
(Josef) 'D... 'does dim o'i le?
(1, 0) 445 Dim... mor bell ag y mae'r Awdurdodau yn y cwestiwn.
(Josef) Mae rhywbeth arall?
 
(Josef) Mae rhywbeth arall?
(1, 0) 447 Oes.
 
(1, 0) 449 Nid yw Meurig yn gallu deall... y gall dyn a merch fod yn... gyfeillion diniwed.
(Josef) Ni'n dau?
 
(Josef) Ai dyna'r rheswm mae e'n mynd odd'ma?
(1, 0) 453 Beth arall?
(Josef) Mae hyn yn sydyn iawn.
 
(Josef) Mae'n rhaid fod y peth ar i feddwl e' ers llawer dydd.
(1, 0) 457 Dyma'r tro cyntaf iddo ddweud yn blaen.
(1, 0) 458 Nid yw ef erioed wedi bod yn rhy hoff o'm ffrindiau i.
(1, 0) 459 Mae e'n ystyried pob math o artist yn ffŵl sentimental.
(1, 0) 460 'Roedd hynny'n peri difyrrwch i mi ar y dechrau, ond fe aeth chwerthin yn fwy anodd gydag amser.
(Josef) I ble'r ych chi'ch dau yn meddwl symud?
 
(Josef) I ble'r ych chi'ch dau yn meddwl symud?
(1, 0) 462 Nid dau.
(1, 0) 463 Dim ond Meurig.
(1, 0) 464 Mae e' wedi penderfynu ei bod hi'n bryd i ni'n dau ymwahanu.
(1, 0) 465 Onid yw'r peth yn anhygoel!
(1, 0) 466 Gwallgofrwydd!
(Josef) O'm hachos i?
 
(1, 0) 469 Nage.
(1, 0) 470 Mae Meurig yn credu mai chi yw ei elyn... ond ei elyn pennaf yw ef ei hun.
(Josef) {Yn oedi.}
 
(Josef) Pam wy' i wedi cael croeso gyda chi i ddod i'r tŷ 'ma 'n ystod y misoedd diwetha'?
(1, 0) 473 Am ein bod ni'n dau wedi digwydd dod ar draws ein gilydd, ac yn cael ein gilydd yn caru'r un pethau.
(Josef) Beth amdanoch chi'n ceisio deall diddordebau Meurig?
 
(Josef) Beth amdanoch chi'n ceisio deall diddordebau Meurig?
(1, 0) 475 Maent y tu hwnt i'm hamgyffred.
(Josef) Felly, yr ych chi'n falch fod heno wedi dod?
 
(Josef) Felly, yr ych chi'n falch fod heno wedi dod?
(1, 0) 477 Nagwyf!
(1, 0) 478 Heb gydymdeimlad â Meurig fel gwyddonydd wyf i... nid fel dyn.
 
(1, 0) 480 A fuoch chi, Josef, erioed mewn cariad?
(Josef) {Wedi oedi.}
 
(Josef) Rwyf mewn cariad o hyd.
(1, 0) 483 Ble mae hi?
(1, 0) 484 Dyma'r tro cyntaf i mi 'ch clywed chi'n sôn amdani!
(Josef) Mae clo wedi bod ar fy nhafod i tan heno.
 
(Josef) Mae clo wedi bod ar fy nhafod i tan heno.
(1, 0) 486 Heno?
(Josef) {Yn oedi.}
 
(Josef) Rwyf wedi bod yn ymladd yn i erbyn e' ers misoedd, ond heno mae'n rhaid i mi siarad.
(1, 0) 494 Na!
(Josef) Ni fwriedais ddweud fy nghyfrinach wrth neb fyth.
 
(Josef) Rwyf am i chithau ddod i ffwrdd gyda fi.
(1, 0) 499 Peidiwch!
(Josef) Mae'n bryd i ni gyd wynebu'r ffeithiau!
 
(Josef) Mae Meurig wedi cydnabod hynny heno.
(1, 0) 503 Nid oes ddyfodol i Meurig yn unman heb rywun y tu cefn iddo.
(Josef) Nid oes 'ch angen chi ar Meurig!
 
(Josef) Wn i ddim ar y ddaear sut y llwyddais i'm hatal fy hun rhag ymyrryd.
(1, 0) 508 Fe ddylech fod wedi dweud y pethau hyn o'r blaen!
(Josef) 'Doedd gen i mo'r hawl.
 
(Josef) 'Doedd gen i mo'r hawl.
(1, 0) 510 Rhaid fy mod i'n ddall...
(1, 0) 511 Ond fe welodd Meurig trwy'r cyfan!
(Josef) Naddo!
 
(Josef) 'Roeddech chi a Meurig yn ymbellhau oddiwrth 'ch gilydd ymhell cyn i mi ddod i'r pentref.
(1, 0) 514 Mawr fy nghywilydd i!
(Josef) Beth amdano fe?
 
(Josef) Beth amdano fe?
(1, 0) 516 Gwyddonydd disglair yn 'i faes cyfyng... ond plentyn, y tu allan i'r maes hwnnw.
(Josef) Chi sy'n siarad fel plentyn 'nawr!
 
(Josef) Chi sy'n siarad fel plentyn 'nawr!
(1, 0) 518 Beth amdanoch chi, Josef?
(1, 0) 519 Fe luniasoch fyd newydd ar fy nghyfer i... y byd perffaith... ond yr ych chi 'ch hunan wedi colli ffydd yn y byd hwnnw heno.
(1, 0) 520 Fy chwennych i yr ych chi!
(Josef) I ni gael cyfrannu o'r byd hwnnw gyda'n gilydd.
 
(Josef) I ni gael cyfrannu o'r byd hwnnw gyda'n gilydd.
(1, 0) 522 Mae 'ch cynllun yn rhy syml.
(Josef) Dyna ei ogoniant.
 
(Josef) Dyna ei ogoniant.
(1, 0) 524 Nage.
(1, 0) 525 'Roedd anawsterau yn 'ch gwlad.
(1, 0) 526 Fe ddihangsoch.
(1, 0) 527 Mae gen innau anawsterau yn fy nghartref.
(1, 0) 528 Yr ych chi'n cynghori dianc eto!
(Josef) Efa!
 
(Josef) Nid oes ystyr i fywyd, os nad i chwilio am nefoedd fach yn rhywle.
(1, 0) 532 Yn anffodus, nid ynys i ddianc iddi mo'r nefoedd.
(Josef) Felly, yr ych chi'n gwrthod?
 
(Josef) Felly, yr ych chi'n gwrthod?
(1, 0) 534 Mae'n rhaid i fi.
(1, 0) 535 Petawn i'n dianc gyda chi, mi fyddai'r misoedd diwetha' 'ma'n ddiystyr.
(1, 0) 536 Ni fyddent ond llwybr i lwfrdra, a fyddai mor ddinistriol â'r gwaith sydd yn mynd ymlaen yn labordy Meurig.
(1, 0) 537 Mae'n cyfeillgarwch ni'n dau yn golygu llawer mwy na hynny.
(Josef) {Yn dawel.}
 
(Josef) Fe gawn ffarwelio heno.
(1, 0) 544 Nid ffarwelio!
(Josef) Cyn daw'r chwerw.
 
(1, 0) 548 Ie.
(1, 0) 549 Nid wyf am golli'r breuddwyd hwn.
(Meurig) {Edrych arnynt am foment.}
 
(Meurig) Byd braf!
(1, 0) 559 M... mae brys ar Josef.
(Meurig) Amhosibl!
 
(Meurig) Dim ond pan ffodd allan o'i wlad... ac o berygl!
(1, 0) 563 Paid, Meurig!
(Meurig) Oes gen i ddim hawl i'm barn?
 
(Josef) Mae'r aelwyd 'ma'n barod i'ch croesawu chi bob amser.
(1, 0) 574 Yr wyt ti allan mor amal.
(Meurig) Duw Mawr!
 
(Meurig) Mae gen ti a'r crachach hwn y wyneb i gyfathrachu â'ch gilydd, ac yna fwrw'r bai arna' i.
(1, 0) 577 Nid hynny, Meurig.
 
(Meurig) Mi ddyweda' i pam!
(1, 0) 592 Gad lonydd i bethau 'nawr, Meurig!
(1, 0) 593 Ddaw dim daioni o'r siarad anweddaidd hyn.
(Meurig) {Yn ei hanwybyddu.}
 
(Meurig) Ac fe roist dithau bob anogaeth iddo.
(1, 0) 608 Naddo, Meurig...
(1, 0) 609 M... mae Josef yn mynd odd'ma.
(Meurig) Fe ddaw 'nôl.
 
(Meurig) Llwybr Josef?
(1, 0) 627 'Rwy'n aros fan hyn.
(Meurig) A pham?
 
(Josef) Nage, Meurig.
(1, 0) 645 O... pam ddaru i chi adael?
(Josef) Fe fyddwch chi yn gallu deall...
 
(Josef) Onid yw gwyddoniaeth yn cael ei phuteinio ymhob gwlad?
(1, 0) 652 Yna i ble'r ewch chi, Josef?
(Josef) {Erys foment.}
 
(Josef) Adre.
(1, 0) 655 O nage!
 
(1, 0) 657 Dwed wrtho, Meurig.
(1, 0) 658 Fe gaiff garchar neu'i ladd os aiff e' adre!
(Josef) Dim ond i'r corff mae carchar, Efa.
 
(Josef) Dim ond i'r corff mae carchar, Efa.
(1, 0) 660 Meurig! Dwed wrtho am aros!
(Meurig) Ei ddyletswydd yw dychwelyd adre.
 
(Meurig) Gad iddo wneud un tro da yn ei fywyd!
(1, 0) 663 Meurig!
(Josef) Diolch.
 
(Josef) {Â allan.}
(1, 0) 668 Josef!
(Meurig) {Ei lais wedi tyneru.}
 
(1, 0) 675 Yn eitha' siŵr.
(Meurig) Ond yr wyt ti 'n 'i garu e'.
 
(Meurig) Mewn diwydiant!
(1, 0) 691 Cei.
(Meurig) Dere gyda mi!
 
(Meurig) Dechrau o'r newydd.
(1, 0) 694 Na, Meurig.
(Meurig) Josef!
 
(Meurig) Josef!
(1, 0) 696 Nid Josef.
(1, 0) 697 Ti!
(1, 0) 698 Hanner awr yn ôl 'ro'wn yn dy gasâu di fel gwyddonydd.
(1, 0) 699 Ar ôl dy siarad di gynnau fach, 'rwy'n dy gasâu di fel dyn!
(Meurig) Nid oedd Josef yn haeddu gwell!
 
(Meurig) Nid oedd Josef yn haeddu gwell!
(1, 0) 701 Dyna'n union pam yr wy'n dy gasâu di!
(1, 0) 702 'Rwyt ti heb newid dim.
(1, 0) 703 Cer!