Drama un-act
Ⓗ 1960 John R Evans
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



GOLYGFA

Ystafell eistedd fodern. Un dodrefnyn amlwg yw'r "Record Player."

Pan gyfyd y llen eîstedd EFA STEPHENS mewn cadair gyffyrddus yn gwrando ar record yn cael ei chwarae. (Bydd y dewisiad o record yn bwysig). Merch olygus tua 35 oed yw hon.

Egŷr y drws a daw MEURIG i mewn. Mae ef tua'r un oedran â'i wraig. Nid yw hi 'n sylwi arno. Mae ei meddwl i gyd ar y gerddoriaeth.

AMSER: 8 p.m.

Saif Meurig wrth y drws gan edrych yn ddiamynedd. Mae'n pesychu.

Efa

(Try edrych am foment.) Hst!

Meurig

Bob tro y do' i adre, dim ond yr un sŵn o hyd! A thithau wedi dianc i fyd breuddwyd! (Mae MEURIG yn cerdded at yr offeryn ac yn rhoi iaw arno.)

Efa

Paid!

Meurig

'Rwy' wedi blino.

Efa

Ble'r wyt ti wedi bod?

Meurig

Yn y labordy. Ble arall!

Efa

Rwyt ti'n hwyrach nag erioed... Ac yn awr, os gweli di fod yn dda, efallai y caf wrando ar y record. Mae hi'n wych.

Meurig

'Rwyf heb fwyta ers hanner dydd. Pam nad ei di i'r gegin fach i baratoi rhywbeth, yn lle segura fan hyn!

Efa

(Edrych ar y llall foment.) Rhaid i ti gymryd pethau'n fwy hamddenol.

Meurig

(Erys) Ie... pam lai! (Yn chwerw.) Yn yr un man y byddwn i.

Efa

Os yw hyn'na'n wir, 'wela' i fawr iawn o synnwyr dy fod ti'n lladd dy hunan yn y labordy. Mi fyddet yn fwy cysurus o lawer gartre. (Yn dawel.) A minnau.

Meurig

Ond mae'r arbrofion yn galw!

Efa

Ydyw dy waith di mor bwysig â hyn'na?

Meurig

Yn aruthrol bwysig.

Efa

(Yn dawel.) 'R wy'n ceisio dyfalu weithiau, Meurig, pam y priodaist ti o gwbl.

Meurig

(Yn mynd ati.) Ydyw pethau cynddrwg â hyn'na?

Efa

Nid fel hyn oedd hi 'r blynyddoedd cyntaf. Yn yr amser hwnnw fe roddet sylw i mi, yn ogystal ag i'r labordy.

Meurig

Rwy'n gorfod talu'n ddrud am y camgymeriad a wnes i bedair blynedd yn ôl.

Efa

Paid â gofidio cymaint. Mae'r Awdurdodau 'n siwr o roi dy hen swydd yn ôl i ti. Yr wyt ti'n rhy athrylithgar iddyn' nhw dy anwybyddu di o hyd.

Meurig

Tybed? I feddwl 'u bod nhw wedi fy nghadw i i weithio ar bethau dibwys ers dros dair blynedd, a hynny, dim ond am i mi agor fy ngheg mewn parti. 'Ddywedais i ddim byd nad oedd yn hysbys i bawb. Dim ond bod un o'r mân swyddogion wedi fy nghlywed i. Mae'r peth yn ynfyd.

Efa

Yr wyt ti'n rhy ddiamynedd. Anghofia'r helynt. Anghofia bopeth... ond bod gen ti wraig. (Erys.) 'Rwy' wedi bod yn unig trwy'r dydd.

Meurig

Mae gen ti dy ddiddordebau.

Efa

Efallai. (Ennyd o ddistawrwydd.) Sut wyt ti'n teimlo'n nawr?

Meurig

Yn well. Efallai mai ti sy'n iawn wedi'r cyfan. Efallai nad yw fy ngwaith i'n cyfri' o gwbl. Does dim yn aros heddi'. Mae dyn yn dod ar draws rhywbeth newydd, yn cael rhyw weledigaeth, ac mae hyn yn ei wefreiddio. Ond 'dyw'r cyffro ddim yn aros. Mae problemau newydd yn codi, ac mae'n rhaid mynd ar ôl y rheiny.

Efa

Dyna ti o hyd. Yn rhy uchelgeisiol! Fe all uchelgais ladd dyn gydag amser. (Yn dawel.) 'Rwy' i'n dy gael di'n ddigon, fel ag yr wyt ti.

Meurig

Diolch. (Erys.) 'Rwy'n teimlo weithiau nad oes angen mwy... Ond mae rhyw ysfa yn fy ngorfodi i i weithio ymlaen, a churo'r lleill.

Efa

Ac ennill beth?

Meurig

Yr hen glod.

Efa..

A hynny sy'n bwysig?

Meurig

A thi! Mi fyddi dithau ar dy ennill pan fydda' i ar fy nhraed unwaith eto.

Efa

Tybed? Nid wyf i'n chwennych clod... Dim ond dy gwmni.

Meurig

Fe ddaw hynny eto... ar ôl y llwyddiant.

Efa

Yfory yw hi o hyd. (Ennyd o ddistawrwydd.) Gwell i mi fynd i'r gegin.

Meurig

'Does dim chwant bwyd arna' i erbyn hyn.

Efa

Lol! A thra bydda' i'n paratoi'r swper 'rwyf am glywed y miwsig unwaith eto. Mi fydd Josef draw cyn hir yn gofyn fy marn i am y record.

Meurig

(Ei lais yn caledu.) 'Ddaw e' ddim draw heno?

Efa

Mae e'n siwr o ddod. Fe wyddost yn burion fel mae e'n hoffi dod draw am sgwrs bob nos cyn mynd i'r gwely?

Meurig

Mae e'n ddigon o farn!

Efa

Rwy'n teimlo trueni drosto. (Erys.) Mi fyddi di'n gwrtais os daw e'?

Meurig

Mae dyn yn blino ar drafod yr un hen bethau o hyd.

Efa

(Yn araf.) Yr wyf i'n hoffi'r dyn.

Meurig

Fe ddylai fod cywilydd arnat ti dy fod ti'n barod i gyfaddef hynny!

Efa

Pam na all dau berson fod yn gyfeillgar?

Meurig

Mae dynion yn siarad. Tref fach yw hon.

Efa

Gad iddyn' nhw siarad! Beth yw'r ots? Yr wyt ti'n deall yn iawn y berthynas sydd rhyngof i a Josef, a dim ond hynny sy'n cyfrif.

Meurig

Ni hoffais i mo'th ffrindiau di erioed.

Efa

Naddo. Mae nhw'n perthyn i'm byd i, ac yn anffodus mae hwnnw allan o'th gyrraedd di.

Meurig

Am dy fod ti'n dymuno hynny.

Efa

Nage. Nid arnaf i mae'r bai. 'Rwy' wedi ceisio deall dy ddiddordebau di, ond wedi methu. Oes syndod yn hynny? Ches i mo 'mreintio â'th allu di. Ond beth amdanat ti? Yr ŷm ni'n dau wedi bod yn briod wyth mlynedd... wyth mlynedd i heddi'.

Meurig

Efa! Maddau i mi! Anghofiais yn llwyr! Dyna ffŵl! Y labordy 'na.

Efa

Dyna oedd dy esgus di y llynedd hefyd. Ond paid â hidio. Fe ges un anrheg i'm hatgoffa i o'r diwrnod braf hwnnw, wyth mlynedd yn ôl.

Meurig

Beth?

Efa

Y record.

Meurig

Fe roddodd Josef anrheg i ti, i ddathlu dydd dy briodas!

Efa

Anrheg i ni'n dau.

Meurig

Fe ŵyr yn burion nad wyf i'n hoffi miwsig! (Erys.) Pwy ddywedodd wrtho mai heddi' oedd y dydd?

Efa

Efallai mai fi. 'Wn i ddim. Rhaid dy fod ti neu fi wedi cyfeirio at y dyddiad rywbryd neu'i gilydd yn ei gwmni.

Meurig

Nid y fi.

Efa

Beth yw'r ots pwy?

Meurig

Yr wyt ti'n dweud popeth wrth Josef. Pob cyfrinach fach. Yn cyfathrachu â rhyw grachach o estron sebonllyd.

Efa

'Dyw hyn'na ddim yn wir!

Meurig

Wyt ti'n gwadu mai estron yw e'?

Efa

Nag wyf. Dim ond dy ddisgrifiad rhagfarnllyd di! (Yn wawdlyd.) Ble mae'r gwyddonydd wedi dianc heno? Ti sydd wedi bod yn pregethu gogoniant rhesymeg ar hyd dy oes! Yn awr yn condemnio dyn, a hynny dim ond achos dy anallu di i ffrwyno teimladau ynfyd.

Meurig

Nage!

Efa

(Ei llais yn newid.) Ond dyna hyfryd i feddwl fod gen ti deimladau o gwbl. Oes posibl fod yna galon wedi'r cyfan yn curo o dan darian blwm y gwyddonydd niwclar? Fe gredais hynny wyth mlynedd yn ôl.

Meurig

Yr wyt ti fel plentyn o hyd, yn byw ym myd breuddwydion.

Efa

Yr unig fyd o werth. Byd sydd ymhell iawn o'th fyd di,... a'th fydoedd. (Yn wawdlyd.) A luchiwyd byd bach newydd i fyny i'r gwagle heddiw? Naddo? Wel, wel. Beth ych chi wedi bod yn ei wneud yn y labordy heddi'? Yn ceisio dod o hyd i ffordd newydd, fwy effeithiol o ddifetha'r byd hwn? Hynny efallai?

Meurig

Mae Josef yn ddiweddar.

Efa

Fe ddaw 'nawr. Paid â dweud dy fod ti'n awyddus i'w weld e'?

Meurig

Ydwyf. Mi fydd ei bresenoldeb yn help i'th dawelu. 'Rwyf wedi sylwi, mai dim ond dy gynhyrfu di mae fy mhresenoldeb i. A hynny ers misoedd bellach.

Efa

A hynny am nad ydym yn siarad yr un iaith. Yr wyt ti'n byw ym myd gwyddoniaeth a dinistr, a minnau ym myd celfyddyd,—y byd creadigol.

Meurig

Ond heb lwyddo i greu dim. Pe bai gennyt blentyn efallai na chawn glywed y siarad hwn.

Efa

Meurig!

Meurig

Wel? Wyt ti'n ofni cael dy ddadansoddi, a chael gwybod mor ddiffrwyth dy fywyd? Yr wyt ti wedi sôn am dy ffrindiau. Wfft i'r fath ffrindiau! Pob un ohonynt yn freuddwydiwr a pharaseit. Ac yr oedd yn rhaid i Josef Lobbock ddianc o'i wlad ei hun, a dod yma i freuddwydio.

Efa

Dianc i chwilio am ryddid!

Meurig

Stori ramantus... i ferch anwadal. Mi ddylai Josef fod wedi dal ei dir.

Efa

A chael ei ladd! Fe wyddost mai carchar neu farwolaeth sy'n aros Josef os aiff e 'nôl!

Meurig

Efallai nad efe yw'r unig un sydd am ddianc. Beth amdanat ti? (Yn cyfeirio al y "record player".) Beth yw hwn'na ond offeryn dianc! Ond mae'n amheus gen i a yw e'n ddigon iti. Eto, paid â phryderu. Mae'r cyfle wedi dod i ti gael dianc yn gyfangwbl.

Efa

(Yn bryderus.) Beth... beth wyt ti'n feddwl?

Meurig

Bûm yn gweithio'n hwyrach nag arfer heno. A wyddost ti pam? Am fod fy ngwaith yn y labordy wedi gorffen.

Efa

Yr wyt ti wedi colli dy swydd!

Meurig

Pam wyt ti'n dweud hyn'na? (Yn codi ei lais.) Ateb!

Efa

Dim... Dim ond dy fod ti'n grwgnach weithiau, dy fod ti'n cael cam.

Meurig

Ac mae hynny'n wir.

Efa

Beth sydd yn mynd i ddigwydd i ti 'nawr?

Meurig

'Rwyf wedi ymddeol.

Efa

I ble'r ei di?

Meurig

'Rwyf heb benderfynu'n iawn.

Efa

A 'nawr 'rwy' i'n cael gwybod! (Erys foment, ac na'n dawel.) Yr wy' i'n hapus 'ma.

Meurig

Yn chwarae gyda'th deganau!

Efa

Bod gyda'n gilydd.

Meurig

Na. 'Choelia i fawr! 'Dŷm ni'n dau ddim yn symud yn yr un byd. (Yn newid ei lais.) Rwy'n dy ryddhau di, Efa fach. Fe gei di aros 'ma gyda'th ffrindiau... gyda Josef, ramantus, sebonllyd. (Edrych arni.) Beth sy'n bod arnat ti? Paid ag edrych mor ddigalon. Beth am y record? Gad i ni 'i chlywed hi gyda'n gilydd... am y tro cyntaf... a'r tro olaf. Mi fydda' i'n mynd odd'ma.



Mae MEURIG yn rhoi'r record i chwarae, ac yna'n gwrando. Yn sydyn mae cloch y drws yn canu.

Meurig

Josef. Paid â'i gadw i aros ar garreg y drws. Pam wyt ti'n oedi? Cer!



A EFA allan yn araf. Erys MEURIG ar ei draed â'i gefn at y tân. Daw EFA yn ôl i'r ystafell. Saif wrth y drws am foment i JOSEF LOBBOCK gael dod i mewn. Dyn tua 45 oed, ac yn siarad yn dawel yw JOSEF.}

Meurig

Noswaith dda, Josef. Yr ŷm ni wedi bod yn 'ch disgwyl chi.

Josef

(Erys heb symud.) (Dim ond gwrando ar y record.) (O'r diwedd mae yn siarad.) Godidog. (Daw y miwsig i ben.) Ie... godidog.

Meurig

A ga'i 'i chwarae hi eto? Mae Efa yn 'i hoffi hi'n fawr.

Josef

Mae Efa yn deall. Mae hi'n gallu gwerthfawrogi miwsig symbolig. A beth amdanoch chi? Yr o'ch chithau'n gwrando. (Try at EFA.) Mae e'n dod yr un ffordd â ni.

Meurig

Dim eto, Josef.

Josef

(Yn siomedig.) Trueni. (Try at y "record player".) Mae'n anodd dirnad pam nad yw pawb yn ymateb i fiwsig tebyg i hwn. Mae'r miwsig hwn yn wir o bob oes.

Meurig

Yn wir?

Josef

Ydy'. Gan mai dianc yw'r thema. Os oes yna un gair yn arbennig yn nodweddu Ewrop heddiw, y gair dianc yw hwnnw.

Meurig

Fe ddylech chi fod yn gwybod, Josef. Yr ych chi'n arbenigwr ar y cwestiwn, hynny yw, os yw ffoi a dianc yn gyfystyr.

Josef

(Yn dawel.) Fe wn beth yw ffoi. Dianc? Na. Mae hwnnw'n fwy anodd. Fe all dyn ffoi i bellteroedd y ddaear, ond eto, heb ddianc. Mae rhywbeth yn aros o'r hen fywyd ac yn gafael ynddo o hyd.

Meurig

Cydwybod efallai?

Efa

Beth am dy swper, Meurig? (Try at JOSEF.) Newydd ddod adre mae e'. Efallai yr hoffech chithau rywbeth 'i fwyta?

Josef

Dim, diolch yn fawr. Ond nes ymlaen... cwpanaid o goffi... E?

Efa

Cewch siwr.

Josef

(Try at MEURIG.) Does neb arall yng Nghymru cystal â'ch gwraig chi am wneud coffi.

Meurig

'Dwy i byth yn 'i yfed e. Chi'r estroniaid sy'n hoff o goffi. (Try at EFA.) Paid ti â ffwdanu am fy swper i. Mae gen i waith arall i'w wneud gynta'. Gwaith pacio.

Josef

Yr ych chi'n mynd i ffwrdd?

Meurig

Mae'r gwaith yn galw am hynny.

Josef

Dyna'r gwaetha' o ddal swydd o dan y Weinyddiaeth.



Mae MEURIG yn cerdded at y drws ac EFA yn ei ddilyn. Edrych EFA yn ddryslyd.

Meurig

Paid ti â dod. Does dim angen. Aros i drafod y record 'na gyda dy gyfaill. Mae'r thema yn un mor addas i chi'ch dau.

Josef

I ni'n tri. (Mae MEURIG yn edrych arno.) Onid yw'r gwyddonydd hefyd â'i fryd ar ddianc y dyddiau hyn? Mae si yn y pentref fod y sateleit nesaf yn mynd i gario dynion.

Meurig

Mae trigolion y pentref hwn yn rhy hoff o glebran.

Josef

Felly 'dyw'r stori ddim yn wir?

Meurig

Amser a ddengys.

Josef

Chwarae teg i chi. Ni allai'r un swyddog diogelwch gael unrhyw fai ynoch chi. Eto... yn hwyr neu'n hwyrach, fe welwn ddynion yn mentro i'r gwagle... i ddianc.

Meurig

I ddarganfod rhyfeddodau newydd.

Josef

A thrwy hynny... yn dianc oddiwrth y presennol sydd yn gwasgu. (Yn cydio yn y record.) Fe ddeallodd y cyfansoddwr hynny'n glir iawn, ac mae e' wedi cerfio 'i ddarlun fan hyn. (Yn sydyn.) Ond 'rwyf heb eich llongyfarch chi eto.

Meurig

Ar beth?

Josef

Dydd eich priodas. Wyth mlynedd i heddiw, ontefe? (Edrych ar EFA.) Peidiwch â dweud fy mod i wedi gwneud camsyniad?

Efa

Naddo. Diolch... am yr anrheg.

Josef

(Try at MEURIG ) Yr ych chi'n ddyn lwcus iawn.

Meurig

'Rwyf yn eich dyled.

Josef

Sut hynny?

Meurig

Fe anghofiais i ba ddydd oedd e' heddi'. Mi fyddai hwn wedi bod yn ddiwrnod siomedig iawn i Efa, onibai i chi gofio amdani.

Josef

(Yn gwenu.) Dyma chi wedi cyflawni'r pechod anfaddeuol... yn anghofio dydd eich priodas. Beth ych chi'n ddweud, Efa?

Efa

(Erys foment.) Mae e'n bechod mawr.

Josef

(Yn gwenu ac yn troi at MEURIG.) Dyw hi ddim am 'ch condemnio chi'n gyfangwbl chwaith.

Meurig

Efallai mai i'r miwsig 'rwy'n ddyledus am hynny. (Yn cerdded at y "record player".). A gaf i chwarae'r record i chi 'to? Beth wyt ti'n ddweud, Efa?

Efa

Mae gen i ben tost.

Meurig

Fe wellith hwn ben tost. (Y miwsig yn dechrau.) Ac yn awr rhaid i chi'ch dau esgusodi i. 'Rwy'n mynd i fod yn brysur.



Mae MEURIG yn mynd allan. Nid yw EFA yn siwr beth i'w wneud. Yn sydyn mae JOSEF yn rhoi taw ar yr offeryn.

Josef

Beth sy'n bod?

Efa

(Llais rhyfedd.) Gadewch iddo chwarae.

Josef

Ond 'd oeddech chi ddim yn gwrando.

Efa

Oeddwn, rywle yn fy isymwybod.

Josef

(Yn gwenu.) Fe fu yna adeg pan oeddech chi'n arfer gwrando â'ch holl feddwl.

Efa

Y pen tost 'ma.

Josef

Ydyw e'n ddrwg?

Efa

Mae e' wedi bod gen i trwy'r dydd.

Josef

Effaith y siom? (Edrych EFA arno.) Mae gwragedd yn disgwyl cael blodau i ddathlu dydd priodas.

Efa

'Ches i ddim mo'r pen tost 'ma llynedd, a welais i ddim blodau y pryd hwnnw chwaith.

Josef

'Falle y carech chi i mi fynd. Mi ddof draw nos yfory.

Efa

Efallai na fydd yfory.

Josef

(Edrych arni'n syn.) Yr ych chi'n sâl!

Efa

(Gyda gwên fach.) Dim ond gofid. Hyd yn hyn 'rwyf wedi llwyddo i gadw 'ngofiadau o dan ddisgyblaeth,—diolch i chi a ddaeth â diddordebau newydd, pwysig i mi. Ond heno 'wnaiff y rheiny ddim mo'r tro.

Josef

Oes rhywbeth y galla" i ei wneud?

Efa

Dim, Josef. (Erys.) Pa faint o amser ych chi wedi bod yn byw yn y pentre' 'ma erbyn hyn?

Josef

Blwyddyn... na, deng mis. Rwy' wedi colli cyfri'.

Efa

A minnau. Gallwn feddwl fy mod i wedi 'ch 'nabod chi erioed. Pam tybed?

Josef

Am ein bod ni'n dau yn credu yn yr un pethau, y pethau tragwyddol.

Efa

Ond eto i gyd fe wn i ond ychydig iawn amdanoch chi. Dim byd am 'ch hanes chi.

Josef

'Dyw fy ngorffennol yn cyfri' dim.

Efa

Nid dyna farn y byd. Mae'r byd... yr Awdurdodau wedi ein cofrestru ni i gyd erbyn hyn, gyda llwyddiant ein dyfodol yn dibynnu ar burdeb ein gorffennol. 'Does dim lle i neb sydd wedi pechu yn erbyn y Wladwriaeth. Rwy'n gwybod. Mae Meurig wedi gorfod dioddef am iddo siarad gormod. Dim ond unwaith. Ond yr oedd yn ddigon.—Ond beth am 'ch hanes chi? (Yn oedi.) Yr ych chi'n gweld fel mae pethau wedi newid yn y tŷ hwn, a hynny mewn byr amser?

Josef

Mae hawl gyda chi i'm holi i.

Efa

Croesholi! Dyna fesur y ffordd yr ŷm ni wedi dod o'ch byd chi. Yr ŷm ni yn y byd sydd o'n cwmpas ni 'nawr, y byd lle mae pawb yn drwgdybio 'i gilydd.

Josef

(Erys foment.) Fe ddes i'r pentre' 'ma gan obeithio dod o hyd i noddfa. Cyn dod yma fe dreuliais ddwy flynedd yn Llundain gyda chyfeillion. Roedd hynny'n nefoedd ar y dechrau ar ôl dioddef yr erledigaeth yn fy ngwlad fy hun. Ond yn raddol dyma'r bywyd yn Llundain yn dechrau suro. Dinas y trwst a'r gweiddi mawr, a phob pwyslais ar gynnwrf y byd. Gwaethygodd fy iechyd, ac yr oedd yn rhaid i mi ddianc. Mae pethau'n wahanol yma.

Efa

'Wn i ddim. Mae'r labordy yma, a hwnnw yw duw mawr y gymdogaeth, yn rhoi gwaith ac yn addo'n dda.

Josef

Sylwais i ddim. Rwyf wedi treulio yr holl oriau diddan yn yr ystafell hon.

Efa

Bywyd unig.

Josef

Pan ddes i 'ma flwyddyn yn ôl, dyna pryd yr oeddwn yn ddyn unig. Fy nghyfeillion yn Llundain wedi methu a'm cysuro ar ôl i mi golli fy ngwlad.

Efa

Mi fyddai hynny'n ormod i'w ddisgwyl.

Josef

(Ym dawel.) Fe lwyddoch chi. Efallai ryw ddiwrnod y caf y fraint o dalu peth o'r ddyled yn ôl.

Efa

Ond fi sydd yn 'ch dyled chi! 'Roeddwn innau'n unig. Chi agorodd fy llygaid i beth o ogoniant y byd 'ma. I'r celfyddydau. Cyn cwrdd â chi yr oeddwn yn ddall i bopeth o werth.

Josef

Yr oedd y gallu i ddeall ynoch chi'n barod. Dim ond 'ch annog chi. Dyna i gyd a wnes i.

Efa

(Yn oedi foment.) Trist yw meddwl y daw'r dyddiau hyn i ben. (Erys.) Mae Meurig yn symud. Mae e' wedi gorffen â'i waith yn y labordy.

Josef

Beth! 'Chlywais i ddim mohonoch chi'n sôn am hyn o'r blaen.

Efa

'Wyddwn innau ddim tan heno.

Josef

'D... 'does dim o'i le?

Efa

Dim... mor bell ag y mae'r Awdurdodau yn y cwestiwn.

Josef

Mae rhywbeth arall?

Efa

Oes. (Erys.) Nid yw Meurig yn gallu deall... y gall dyn a merch fod yn... gyfeillion diniwed.

Josef

Ni'n dau? (Erys.) Ai dyna'r rheswm mae e'n mynd odd'ma?

Efa

Beth arall?

Josef

Mae hyn yn sydyn iawn. Anodd gen i gredu mai heno yw'r tro cyntaf i Meurig gyfeirio at ein... cyfeillgarwch. Mae'n rhaid fod y peth ar i feddwl e' ers llawer dydd.

Efa

Dyma'r tro cyntaf iddo ddweud yn blaen. Nid yw ef erioed wedi bod yn rhy hoff o'm ffrindiau i. Mae e'n ystyried pob math o artist yn ffŵl sentimental. 'Roedd hynny'n peri difyrrwch i mi ar y dechrau, ond fe aeth chwerthin yn fwy anodd gydag amser.

Josef

I ble'r ych chi'ch dau yn meddwl symud?

Efa

Nid dau. Dim ond Meurig. Mae e' wedi penderfynu ei bod hi'n bryd i ni'n dau ymwahanu. Onid yw'r peth yn anhygoel! Gwallgofrwydd!

Josef

O'm hachos i?

Efa

(Erys.) Nage. Mae Meurig yn credu mai chi yw ei elyn... ond ei elyn pennaf yw ef ei hun.

Josef

(Yn oedi.) Pam wy' i wedi cael croeso gyda chi i ddod i'r tŷ 'ma 'n ystod y misoedd diwetha'?

Efa

Am ein bod ni'n dau wedi digwydd dod ar draws ein gilydd, ac yn cael ein gilydd yn caru'r un pethau.

Josef

Beth amdanoch chi'n ceisio deall diddordebau Meurig?

Efa

Maent y tu hwnt i'm hamgyffred.

Josef

Felly, yr ych chi'n falch fod heno wedi dod?

Efa

Nagwyf! Heb gydymdeimlad â Meurig fel gwyddonydd wyf i... nid fel dyn. (Erys.) A fuoch chi, Josef, erioed mewn cariad?

Josef

(Wedi oedi.) Rwyf mewn cariad o hyd.

Efa

Ble mae hi? Dyma'r tro cyntaf i mi 'ch clywed chi'n sôn amdani!

Josef

Mae clo wedi bod ar fy nhafod i tan heno.

Efa

Heno?

Josef

(Yn oedi.) Mae Meurig yn dianc. (Yn mynd at EFA.) Efa! Rwy'n 'ch caru chi. Nid rhywbeth sydyn yw hyn. Rwyf wedi bod yn ymladd yn i erbyn e' ers misoedd, ond heno mae'n rhaid i mi siarad.

Efa

Na!

Josef

Ni fwriedais ddweud fy nghyfrinach wrth neb fyth. Roedd gen i ormod o barch tuag atoch chi a Meurig. Ond mae Meurig yn mynd i ffwrdd, ac mae'r ffaith hynny'n newid popeth. Rwyf am i chithau ddod i ffwrdd gyda fi.

Efa

Peidiwch!

Josef

Mae'n bryd i ni gyd wynebu'r ffeithiau! 'Does dim dyfodol i chi a Meurig gyda'ch gilydd. Mae Meurig wedi cydnabod hynny heno.

Efa

Nid oes ddyfodol i Meurig yn unman heb rywun y tu cefn iddo.

Josef

Nid oes 'ch angen chi ar Meurig! Fawr iawn o barch mae e' wedi ei ddangos i chi erioed. 'Rwy' wedi sylwi ar ei ymddygiad droeon, a'r profiad yn fy nghynhyrfu i'r gwraidd. Wn i ddim ar y ddaear sut y llwyddais i'm hatal fy hun rhag ymyrryd.

Efa

Fe ddylech fod wedi dweud y pethau hyn o'r blaen!

Josef

'Doedd gen i mo'r hawl.

Efa

Rhaid fy mod i'n ddall... Ond fe welodd Meurig trwy'r cyfan!

Josef

Naddo! 'Roeddech chi a Meurig yn ymbellhau oddiwrth 'ch gilydd ymhell cyn i mi ddod i'r pentref.

Efa

Mawr fy nghywilydd i!

Josef

Beth amdano fe?

Efa

Gwyddonydd disglair yn 'i faes cyfyng... ond plentyn, y tu allan i'r maes hwnnw.

Josef

Chi sy'n siarad fel plentyn 'nawr!

Efa

Beth amdanoch chi, Josef? Fe luniasoch fyd newydd ar fy nghyfer i... y byd perffaith... ond yr ych chi 'ch hunan wedi colli ffydd yn y byd hwnnw heno. Fy chwennych i yr ych chi!

Josef

I ni gael cyfrannu o'r byd hwnnw gyda'n gilydd.

Efa

Mae 'ch cynllun yn rhy syml.

Josef

Dyna ei ogoniant.

Efa

Nage. 'Roedd anawsterau yn 'ch gwlad. Fe ddihangsoch. Mae gen innau anawsterau yn fy nghartref. Yr ych chi'n cynghori dianc eto!

Josef

Efa! Mae bywyd yn fyr. Nid oes ystyr i fywyd, os nad i chwilio am nefoedd fach yn rhywle.

Efa

Yn anffodus, nid ynys i ddianc iddi mo'r nefoedd.

Josef

Felly, yr ych chi'n gwrthod?

Efa

Mae'n rhaid i fi. Petawn i'n dianc gyda chi, mi fyddai'r misoedd diwetha' 'ma'n ddiystyr. Ni fyddent ond llwybr i lwfrdra, a fyddai mor ddinistriol â'r gwaith sydd yn mynd ymlaen yn labordy Meurig. Mae'n cyfeillgarwch ni'n dau yn golygu llawer mwy na hynny.

Josef

(Yn dawel.) Efa annwyl. (Rhydd ei law ar ei braich.) Fe ddywedsoch y gwir gynnau fach... Mae'n hyfory ni wedi mynd. Fe gawn ffarwelio heno.

Efa

Nid ffarwelio!

Josef

Cyn daw'r chwerw. Oni dyna fydd orau i ni?

Efa

(Erys yn hir cyn ateb.) Ie. Nid wyf am golli'r breuddwyd hwn.



Egyr y drws yn sydyn a daw MEURIG i mewn.

Meurig

(Edrych arnynt am foment.) Beth sy' wedi digwydd i'r miwsig? Ond efallai nad yw'r miwsig mor bwysig wedi'r cyfan!

Josef

'Roeddwn ar fynd.

Meurig

(Yn wawdlyd.) Go dda! Mynd a dod yn ôl 'ch mympwy. Byd braf!

Efa

M... mae brys ar Josef.

Meurig

Amhosibl! Ni fu arno frys erioed! Dim ond pan ffodd allan o'i wlad... ac o berygl!

Efa

Paid, Meurig!

Meurig

Oes gen i ddim hawl i'm barn? Ac ar fy aelwyd fy hun! Aelwyd pwy yw hon, Josef?

Josef

(Yn dawel.) 'Ch aelwyd chi... ac Efa.

Meurig

lefe? 'Rwy'n amau! Bob tro y do i adre mae rhyw ddieithryn wedi cydio yn y lle.

Josef

Nagoes, Meurig. Mae'r aelwyd 'ma'n barod i'ch croesawu chi bob amser.

Efa

Yr wyt ti allan mor amal.

Meurig

Duw Mawr! Mae gen ti a'r crachach hwn y wyneb i gyfathrachu â'ch gilydd, ac yna fwrw'r bai arna' i.

Efa

Nid hynny, Meurig.

Josef

Rwy'n cydnabod fy mod i'n ymwelwr cyson, ond 'roedd y tŷ hwn yn noddfa.

Meurig

Gadewch y siarad sentimental er mwyn popeth!

Josef

Credais fy mod i'n cael croeso.

Meurig

Ac fe gawsoch. Gyda hon!

Josef

Gyda'r ddau ohonoch chi.

Meurig

Dyna gelwydd! Ni feddylioch y fath beth. Fe ddangosais i f'ochor i o'r dechrau. Ni fu gen i erioed amynedd i ddelio â llwfrgwn. Ydych chi am ddweud na sylwoch chi ar hynny?

Josef

Efallai fe fûm i'n ddall.

Meurig

Mi ddyweda' i pam!

Efa

Gad lonydd i bethau 'nawr, Meurig! Ddaw dim daioni o'r siarad anweddaidd hyn.

Meurig

(Yn ei hanwybyddu.) Fe gawsoch 'ch dallu gan Efa!

Josef

Fe fu 'ch gwraig yn help mawr i mi, yn gyfrwng i mi anghofio hylltra'r byd.

Meurig

Dyma chi eto. Yr un hen siarad arwynebol! Pam na gyfaddefwch chi'r gwir! Dim ond fel merch y gwelsoch chi Efa'n ddiddorol. A ellwch chi wadu?

Josef

(Nid yw yn ateb.)

Meurig

Pam nad atebwch chi? Ond beth wy'n ddisgwyl? Fel i bob estron seimllyd arall, rhywbeth i'w ddiystyru yw'r gwir i chi. (Try at EFA.) Ac fe roist dithau bob anogaeth iddo.

Efa

Naddo, Meurig... M... mae Josef yn mynd odd'ma.

Meurig

Fe ddaw 'nôl.

Josef

Dim y tro hwn.

Meurig

Dyma newydd sydyn!

Josef

Mor sydyn â'ch penderfyniad chi.

Meurig

Ai hwnnw yw'r symbyliad?

Josef

(Erys.) Nage.

Meurig

(Edrych o'r un i'r llall.) Diddorol. Felly, dyma ni wedi cyrraedd y groesffordd. Un yn mynd ffordd 'na. (Yn cyfeirio.) Y llall, y ffordd acw. (Yn cyfeirio eto.) A beth amdanat ti, Efa. (Braidd yn wawdlyd.) Llwybr Josef?

Efa

'Rwy'n aros fan hyn.

Meurig

A pham? Rho dy resymau. Carwn 'u clywed. Beth ych chi'n ddweud, Josef?

Josef

Mae f'amser i'n rhy brin, Meurig. (Yn cerdded i gyfeiriad y drws.)

Meurig

Beth yw'r brys mawr ar ôl misoedd o oedi?

Josef

Misoedd o waith ymchwil manwl, ac yna'r fflach a'r symud mawr. Fe wyddoch y drefn, Meurig. A chithau'n wyddonydd?

Meurig

Beth a wyddoch chi am fywyd y labordy?

Josef

(Erys foment, ac yna'n dawel.) Digon. Gan i mi dreulio dros ugain mlynedd yn llafurio mewn un ohonynt. (Edrych y ddau arall arno'n syn.)

Meurig

Anwiredd!

Josef

Nage, Meurig.

Efa

O... pam ddaru i chi adael?

Josef

Fe fyddwch chi yn gallu deall... Yn fy ngwlad i, offeryn yw'r gwyddonydd yn nwylo'r Awdurdodau politicaidd. Offeryn heb enaid.

Meurig

Pam nad ych chi'n dal swydd yn y wlad hon? Mae prinder gwyddonwyr.

Josef

Onid yw gwyddoniaeth yn cael ei phuteinio ymhob gwlad?

Efa

Yna i ble'r ewch chi, Josef?

Josef

(Erys foment.) Adre.

Efa

O nage! (Try at MEURIG.) Dwed wrtho, Meurig. Fe gaiff garchar neu'i ladd os aiff e' adre!

Josef

Dim ond i'r corff mae carchar, Efa.

Efa

Meurig! Dwed wrtho am aros!

Meurig

Ei ddyletswydd yw dychwelyd adre. Gad iddo wneud un tro da yn ei fywyd!

Efa

Meurig!

Josef

Diolch. I'r ddau ohonoch chi. I chi, Efa, am y breuddwyd... i chithau, Meurig, am y deffro. (Â allan.)

Efa

Josef!



Am foment mae'n debyg fod EFA yn mynd i'w ddilyn. Ond erys yn sydyn. Mae'r ddau yn ddistaw.

Meurig

(Ei lais wedi tyneru.) Wyt ti'n siŵr nad wyt ti ddim am fynd ar 'i ôl e'?

Efa

(Llais blinedig.) Yn eitha' siŵr.

Meurig

Ond yr wyt ti 'n 'i garu e'.



(Mae Efa yn siglo ei phen.)

Meurig

'Rwy' wedi ymddwyn fel ffŵl! (Yn mynd ati.) Dyw' hi ddim yn rhy ddiweddar. Mi alla' i fod yn wahanol o hyn allan. Fe oedd yn fy nghynddeiriogi i. (Nid yw EFA yn cymryd sylw.) Gwrando, Efa. Mae'n rhaid i mi fynd i ffwrdd. 'Rwyf wedi ymddeol ar gais yr Awdurdodau! 'Dŷn' nhw erioed wedi ymddiried yno' i. Digon da fy mod i'n mynd. Fe ga' i ddigon o swyddi,—yn talu'n well hefyd. Mewn diwydiant!

Efa

Cei.

Meurig

Dere gyda mi! Dechrau o'r newydd.

Efa

Na, Meurig.

Meurig

Josef!

Efa

Nid Josef. Ti! Hanner awr yn ôl 'ro'wn yn dy gasâu di fel gwyddonydd. Ar ôl dy siarad di gynnau fach, 'rwy'n dy gasâu di fel dyn!

Meurig

Nid oedd Josef yn haeddu gwell!

Efa

Dyna'n union pam yr wy'n dy gasâu di! 'Rwyt ti heb newid dim. Cer!

Meurig

(Erys.) Mi fydda' i'n symud heno, Efa. (Yn edrych arno.) Ac mi fydda' innau'n aros.



Edrych y ddau ar eí gilydd am beth amser. Try MEURIG yn sydyn a mynd allan. Erys EFA am foment heb symud. O'r diwedd â at y "record player" a chwarae'r record. Disgyn y llen yn araf i sŵn y miwsig.

DIWEDD

Drama un-act