Y Dyn Drws Nesaf

Ciw-restr ar gyfer Josef

(Efa) {Try edrych am foment.}
 
(1, 0) 257 Godidog.
 
(1, 0) 259 Ie... godidog.
(Meurig) A ga'i 'i chwarae hi eto?
 
(Meurig) Mae Efa yn 'i hoffi hi'n fawr.
(1, 0) 262 Mae Efa yn deall.
(1, 0) 263 Mae hi'n gallu gwerthfawrogi miwsig symbolig.
(1, 0) 264 A beth amdanoch chi?
(1, 0) 265 Yr o'ch chithau'n gwrando.
 
(1, 0) 267 Mae e'n dod yr un ffordd â ni.
(Meurig) Dim eto, Josef.
 
(1, 0) 270 Trueni.
 
(1, 0) 272 Mae'n anodd dirnad pam nad yw pawb yn ymateb i fiwsig tebyg i hwn.
(1, 0) 273 Mae'r miwsig hwn yn wir o bob oes.
(Meurig) Yn wir?
 
(Meurig) Yn wir?
(1, 0) 275 Ydy'.
(1, 0) 276 Gan mai |dianc| yw'r thema.
(1, 0) 277 Os oes yna un gair yn arbennig yn nodweddu Ewrop heddiw, y gair dianc yw hwnnw.
(Meurig) Fe ddylech chi fod yn gwybod, Josef.
 
(1, 0) 281 Fe wn beth yw ffoi.
(1, 0) 282 Dianc?
(1, 0) 283 Na.
(1, 0) 284 Mae hwnnw'n fwy anodd.
(1, 0) 285 Fe all dyn ffoi i bellteroedd y ddaear, ond eto, heb ddianc.
(1, 0) 286 Mae rhywbeth yn aros o'r hen fywyd ac yn gafael ynddo o hyd.
(Meurig) Cydwybod efallai?
 
(Efa) Efallai yr hoffech chithau rywbeth 'i fwyta?
(1, 0) 292 Dim, diolch yn fawr.
(1, 0) 293 Ond nes ymlaen... cwpanaid o goffi... E?
(Efa) Cewch siwr.
 
(1, 0) 296 Does neb arall yng Nghymru cystal â'ch gwraig chi am wneud coffi.
(Meurig) 'Dwy i byth yn 'i yfed e.
 
(Meurig) Gwaith pacio.
(1, 0) 303 Yr ych chi'n mynd i ffwrdd?
(Meurig) Mae'r gwaith yn galw am hynny.
 
(Meurig) Mae'r gwaith yn galw am hynny.
(1, 0) 305 Dyna'r gwaetha' o ddal swydd o dan y Weinyddiaeth.
(Meurig) Paid ti â dod.
 
(Meurig) Mae'r thema yn un mor addas i chi'ch dau.
(1, 0) 312 I ni'n tri.
 
(1, 0) 314 Onid yw'r gwyddonydd hefyd â'i fryd ar ddianc y dyddiau hyn?
(1, 0) 315 Mae si yn y pentref fod y sateleit nesaf yn mynd i gario dynion.
(Meurig) Mae trigolion y pentref hwn yn rhy hoff o glebran.
 
(Meurig) Mae trigolion y pentref hwn yn rhy hoff o glebran.
(1, 0) 317 Felly 'dyw'r stori ddim yn wir?
(Meurig) Amser a ddengys.
 
(Meurig) Amser a ddengys.
(1, 0) 319 Chwarae teg i chi.
(1, 0) 320 Ni allai'r un swyddog diogelwch gael unrhyw fai ynoch chi.
(1, 0) 321 Eto... yn hwyr neu'n hwyrach, fe welwn ddynion yn mentro i'r gwagle... i ddianc.
(Meurig) I ddarganfod rhyfeddodau newydd.
 
(Meurig) I ddarganfod rhyfeddodau newydd.
(1, 0) 323 A thrwy hynny... yn dianc oddiwrth y presennol sydd yn gwasgu.
 
(1, 0) 325 Fe ddeallodd y cyfansoddwr hynny'n glir iawn, ac mae e' wedi cerfio 'i ddarlun fan hyn.
 
(1, 0) 327 Ond 'rwyf heb eich llongyfarch chi eto.
(Meurig) Ar beth?
 
(Meurig) Ar beth?
(1, 0) 329 Dydd eich priodas.
(1, 0) 330 Wyth mlynedd i heddiw, ontefe?
 
(1, 0) 332 Peidiwch â dweud fy mod i wedi gwneud camsyniad?
(Efa) Naddo.
 
(1, 0) 336 Yr ych chi'n ddyn lwcus iawn.
(Meurig) 'Rwyf yn eich dyled.
 
(Meurig) 'Rwyf yn eich dyled.
(1, 0) 338 Sut hynny?
(Meurig) Fe anghofiais i ba ddydd oedd e' heddi'.
 
(1, 0) 342 Dyma chi wedi cyflawni'r pechod anfaddeuol... yn anghofio dydd eich priodas.
(1, 0) 343 Beth ych chi'n ddweud, Efa?
(Efa) {Erys foment.}
 
(1, 0) 347 Dyw hi ddim am 'ch condemnio chi'n gyfangwbl chwaith.
(Meurig) Efallai mai i'r miwsig 'rwy'n ddyledus am hynny.
 
(Meurig) 'Rwy'n mynd i fod yn brysur.
(1, 0) 360 Beth sy'n bod?
(Efa) {Llais rhyfedd.}
 
(Efa) Gadewch iddo chwarae.
(1, 0) 363 Ond 'd oeddech chi ddim yn gwrando.
(Efa) Oeddwn, rywle yn fy isymwybod.
 
(1, 0) 366 Fe fu yna adeg pan oeddech chi'n arfer gwrando â'ch holl feddwl.
(Efa) Y pen tost 'ma.
 
(Efa) Y pen tost 'ma.
(1, 0) 368 Ydyw e'n ddrwg?
(Efa) Mae e' wedi bod gen i trwy'r dydd.
 
(Efa) Mae e' wedi bod gen i trwy'r dydd.
(1, 0) 370 Effaith y siom?
 
(1, 0) 372 Mae gwragedd yn disgwyl cael blodau i ddathlu dydd priodas.
(Efa) 'Ches i ddim mo'r pen tost 'ma llynedd, a welais i ddim blodau y pryd hwnnw chwaith.
 
(Efa) 'Ches i ddim mo'r pen tost 'ma llynedd, a welais i ddim blodau y pryd hwnnw chwaith.
(1, 0) 374 'Falle y carech chi i mi fynd.
(1, 0) 375 Mi ddof draw nos yfory.
(Efa) Efallai na fydd yfory.
 
(1, 0) 378 Yr ych chi'n sâl!
(Efa) {Gyda gwên fach.}
 
(Efa) Ond heno 'wnaiff y rheiny ddim mo'r tro.
(1, 0) 383 Oes rhywbeth y galla" i ei wneud?
(Efa) Dim, Josef.
 
(Efa) Pa faint o amser ych chi wedi bod yn byw yn y pentre' 'ma erbyn hyn?
(1, 0) 387 Blwyddyn... na, deng mis.
(1, 0) 388 Rwy' wedi colli cyfri'.
(Efa) A minnau.
 
(Efa) Pam tybed?
(1, 0) 392 Am ein bod ni'n dau yn credu yn yr un pethau, y pethau tragwyddol.
(Efa) Ond eto i gyd fe wn i ond ychydig iawn amdanoch chi.
 
(Efa) Dim byd am 'ch hanes chi.
(1, 0) 395 'Dyw fy ngorffennol yn cyfri' dim.
(Efa) Nid dyna farn y byd.
 
(Efa) Yr ych chi'n gweld fel mae pethau wedi newid yn y tŷ hwn, a hynny mewn byr amser?
(1, 0) 405 Mae hawl gyda chi i'm holi i.
(Efa) Croesholi!
 
(1, 0) 410 Fe ddes i'r pentre' 'ma gan obeithio dod o hyd i noddfa.
(1, 0) 411 Cyn dod yma fe dreuliais ddwy flynedd yn Llundain gyda chyfeillion.
(1, 0) 412 Roedd hynny'n nefoedd ar y dechrau ar ôl dioddef yr erledigaeth yn fy ngwlad fy hun.
(1, 0) 413 Ond yn raddol dyma'r bywyd yn Llundain yn dechrau suro.
(1, 0) 414 Dinas y trwst a'r gweiddi mawr, a phob pwyslais ar gynnwrf y byd.
(1, 0) 415 Gwaethygodd fy iechyd, ac yr oedd yn rhaid i mi ddianc.
(1, 0) 416 Mae pethau'n wahanol yma.
(Efa) 'Wn i ddim.
 
(Efa) Mae'r labordy yma, a hwnnw yw duw mawr y gymdogaeth, yn rhoi gwaith ac yn addo'n dda.
(1, 0) 419 Sylwais i ddim.
(1, 0) 420 Rwyf wedi treulio yr holl oriau diddan yn yr ystafell hon.
(Efa) Bywyd unig.
 
(Efa) Bywyd unig.
(1, 0) 422 Pan ddes i 'ma flwyddyn yn ôl, dyna pryd yr oeddwn yn ddyn unig.
(1, 0) 423 Fy nghyfeillion yn Llundain wedi methu a'm cysuro ar ôl i mi golli fy ngwlad.
(Efa) Mi fyddai hynny'n ormod i'w ddisgwyl.
 
(1, 0) 426 Fe lwyddoch chi.
(1, 0) 427 Efallai ryw ddiwrnod y caf y fraint o dalu peth o'r ddyled yn ôl.
(Efa) Ond fi sydd yn 'ch dyled chi!
 
(Efa) Cyn cwrdd â chi yr oeddwn yn ddall i bopeth o werth.
(1, 0) 433 Yr oedd y gallu i ddeall ynoch chi'n barod.
(1, 0) 434 Dim ond 'ch annog chi.
(1, 0) 435 Dyna i gyd a wnes i.
(Efa) {Yn oedi foment.}
 
(Efa) Mae e' wedi gorffen â'i waith yn y labordy.
(1, 0) 441 Beth!
(1, 0) 442 'Chlywais i ddim mohonoch chi'n sôn am hyn o'r blaen.
(Efa) 'Wyddwn innau ddim tan heno.
 
(Efa) 'Wyddwn innau ddim tan heno.
(1, 0) 444 'D... 'does dim o'i le?
(Efa) Dim... mor bell ag y mae'r Awdurdodau yn y cwestiwn.
 
(Efa) Dim... mor bell ag y mae'r Awdurdodau yn y cwestiwn.
(1, 0) 446 Mae rhywbeth arall?
(Efa) Oes.
 
(Efa) Nid yw Meurig yn gallu deall... y gall dyn a merch fod yn... gyfeillion diniwed.
(1, 0) 450 Ni'n dau?
 
(1, 0) 452 Ai dyna'r rheswm mae e'n mynd odd'ma?
(Efa) Beth arall?
 
(Efa) Beth arall?
(1, 0) 454 Mae hyn yn sydyn iawn.
(1, 0) 455 Anodd gen i gredu mai heno yw'r tro cyntaf i Meurig gyfeirio at ein... cyfeillgarwch.
(1, 0) 456 Mae'n rhaid fod y peth ar i feddwl e' ers llawer dydd.
(Efa) Dyma'r tro cyntaf iddo ddweud yn blaen.
 
(Efa) 'Roedd hynny'n peri difyrrwch i mi ar y dechrau, ond fe aeth chwerthin yn fwy anodd gydag amser.
(1, 0) 461 I ble'r ych chi'ch dau yn meddwl symud?
(Efa) Nid dau.
 
(Efa) Gwallgofrwydd!
(1, 0) 467 O'm hachos i?
(Efa) {Erys.}
 
(1, 0) 472 Pam wy' i wedi cael croeso gyda chi i ddod i'r tŷ 'ma 'n ystod y misoedd diwetha'?
(Efa) Am ein bod ni'n dau wedi digwydd dod ar draws ein gilydd, ac yn cael ein gilydd yn caru'r un pethau.
 
(Efa) Am ein bod ni'n dau wedi digwydd dod ar draws ein gilydd, ac yn cael ein gilydd yn caru'r un pethau.
(1, 0) 474 Beth amdanoch chi'n ceisio deall diddordebau Meurig?
(Efa) Maent y tu hwnt i'm hamgyffred.
 
(Efa) Maent y tu hwnt i'm hamgyffred.
(1, 0) 476 Felly, yr ych chi'n falch fod heno wedi dod?
(Efa) Nagwyf!
 
(1, 0) 482 Rwyf mewn cariad o hyd.
(Efa) Ble mae hi?
 
(Efa) Dyma'r tro cyntaf i mi 'ch clywed chi'n sôn amdani!
(1, 0) 485 Mae clo wedi bod ar fy nhafod i tan heno.
(Efa) Heno?
 
(1, 0) 488 Mae Meurig yn dianc.
 
(1, 0) 490 Efa!
(1, 0) 491 Rwy'n 'ch caru chi.
(1, 0) 492 Nid rhywbeth sydyn yw hyn.
(1, 0) 493 Rwyf wedi bod yn ymladd yn i erbyn e' ers misoedd, ond heno mae'n rhaid i mi siarad.
(Efa) Na!
 
(Efa) Na!
(1, 0) 495 Ni fwriedais ddweud fy nghyfrinach wrth neb fyth.
(1, 0) 496 Roedd gen i ormod o barch tuag atoch chi a Meurig.
(1, 0) 497 Ond mae Meurig yn mynd i ffwrdd, ac mae'r ffaith hynny'n newid popeth.
(1, 0) 498 Rwyf am i chithau ddod i ffwrdd gyda fi.
(Efa) Peidiwch!
 
(Efa) Peidiwch!
(1, 0) 500 Mae'n bryd i ni gyd wynebu'r ffeithiau!
(1, 0) 501 'Does dim dyfodol i chi a Meurig gyda'ch gilydd.
(1, 0) 502 Mae Meurig wedi cydnabod hynny heno.
(Efa) Nid oes ddyfodol i Meurig yn unman heb rywun y tu cefn iddo.
 
(Efa) Nid oes ddyfodol i Meurig yn unman heb rywun y tu cefn iddo.
(1, 0) 504 Nid oes 'ch angen chi ar Meurig!
(1, 0) 505 Fawr iawn o barch mae e' wedi ei ddangos i chi erioed.
(1, 0) 506 'Rwy' wedi sylwi ar ei ymddygiad droeon, a'r profiad yn fy nghynhyrfu i'r gwraidd.
(1, 0) 507 Wn i ddim ar y ddaear sut y llwyddais i'm hatal fy hun rhag ymyrryd.
(Efa) Fe ddylech fod wedi dweud y pethau hyn o'r blaen!
 
(Efa) Fe ddylech fod wedi dweud y pethau hyn o'r blaen!
(1, 0) 509 'Doedd gen i mo'r hawl.
(Efa) Rhaid fy mod i'n ddall...
 
(Efa) Ond fe welodd Meurig trwy'r cyfan!
(1, 0) 512 Naddo!
(1, 0) 513 'Roeddech chi a Meurig yn ymbellhau oddiwrth 'ch gilydd ymhell cyn i mi ddod i'r pentref.
(Efa) Mawr fy nghywilydd i!
 
(Efa) Mawr fy nghywilydd i!
(1, 0) 515 Beth amdano fe?
(Efa) Gwyddonydd disglair yn 'i faes cyfyng... ond plentyn, y tu allan i'r maes hwnnw.
 
(Efa) Gwyddonydd disglair yn 'i faes cyfyng... ond plentyn, y tu allan i'r maes hwnnw.
(1, 0) 517 Chi sy'n siarad fel plentyn 'nawr!
(Efa) Beth amdanoch chi, Josef?
 
(Efa) Fy chwennych i yr ych chi!
(1, 0) 521 I ni gael cyfrannu o'r byd hwnnw gyda'n gilydd.
(Efa) Mae 'ch cynllun yn rhy syml.
 
(Efa) Mae 'ch cynllun yn rhy syml.
(1, 0) 523 Dyna ei ogoniant.
(Efa) Nage.
 
(Efa) Yr ych chi'n cynghori dianc eto!
(1, 0) 529 Efa!
(1, 0) 530 Mae bywyd yn fyr.
(1, 0) 531 Nid oes ystyr i fywyd, os nad i chwilio am nefoedd fach yn rhywle.
(Efa) Yn anffodus, nid ynys i ddianc iddi mo'r nefoedd.
 
(Efa) Yn anffodus, nid ynys i ddianc iddi mo'r nefoedd.
(1, 0) 533 Felly, yr ych chi'n gwrthod?
(Efa) Mae'n rhaid i fi.
 
(1, 0) 539 Efa annwyl.
 
(1, 0) 541 Fe ddywedsoch y gwir gynnau fach...
(1, 0) 542 Mae'n hyfory ni wedi mynd.
(1, 0) 543 Fe gawn ffarwelio heno.
(Efa) Nid ffarwelio!
 
(Efa) Nid ffarwelio!
(1, 0) 545 Cyn daw'r chwerw.
(1, 0) 546 Oni dyna fydd orau i ni?
(Efa) {Erys yn hir cyn ateb.}
 
(Meurig) Ond efallai nad yw'r miwsig mor bwysig wedi'r cyfan!
(1, 0) 554 'Roeddwn ar fynd.
(Meurig) {Yn wawdlyd.}
 
(1, 0) 568 'Ch aelwyd chi... ac Efa.
(Meurig) lefe?
 
(Meurig) Bob tro y do i adre mae rhyw ddieithryn wedi cydio yn y lle.
(1, 0) 572 Nagoes, Meurig.
(1, 0) 573 Mae'r aelwyd 'ma'n barod i'ch croesawu chi bob amser.
(Efa) Yr wyt ti allan mor amal.
 
(Efa)
(1, 0) 579 Rwy'n cydnabod fy mod i'n ymwelwr cyson, ond 'roedd y tŷ hwn yn noddfa.
(Meurig) Gadewch y siarad sentimental er mwyn popeth!
 
(Meurig) Gadewch y siarad sentimental er mwyn popeth!
(1, 0) 581 Credais fy mod i'n cael croeso.
(Meurig) Ac fe gawsoch.
 
(Meurig) Gyda hon!
(1, 0) 584 Gyda'r ddau ohonoch chi.
(Meurig) Dyna gelwydd!
 
(Meurig) Ydych chi am ddweud na sylwoch chi ar hynny?
(1, 0) 590 Efallai fe fûm i'n ddall.
(Meurig) Mi ddyweda' i pam!
 
(Meurig) Fe gawsoch 'ch dallu gan Efa!
(1, 0) 596 Fe fu 'ch gwraig yn help mawr i mi, yn gyfrwng i mi anghofio hylltra'r byd.
(Meurig) Dyma chi eto.
 
(Meurig) Fe ddaw 'nôl.
(1, 0) 611 Dim y tro hwn.
(Meurig) Dyma newydd sydyn!
 
(Meurig) Dyma newydd sydyn!
(1, 0) 613 Mor sydyn â'ch penderfyniad chi.
(Meurig) Ai hwnnw yw'r symbyliad?
 
(1, 0) 616 Nage.
(Meurig) {Edrych o'r un i'r llall.}
 
(Meurig) Beth ych chi'n ddweud, Josef?
(1, 0) 632 Mae f'amser i'n rhy brin, Meurig.
 
(Meurig) Beth yw'r brys mawr ar ôl misoedd o oedi?
(1, 0) 635 Misoedd o waith ymchwil manwl, ac yna'r fflach a'r symud mawr.
(1, 0) 636 Fe wyddoch y drefn, Meurig.
(1, 0) 637 A chithau'n wyddonydd?
(Meurig) Beth a wyddoch chi am fywyd y labordy?
 
(1, 0) 640 Digon.
(1, 0) 641 Gan i mi dreulio dros ugain mlynedd yn llafurio mewn un ohonynt.
 
(Meurig) Anwiredd!
(1, 0) 644 Nage, Meurig.
(Efa) O... pam ddaru i chi adael?
 
(Efa) O... pam ddaru i chi adael?
(1, 0) 646 Fe fyddwch chi yn gallu deall...
(1, 0) 647 Yn fy ngwlad i, offeryn yw'r gwyddonydd yn nwylo'r Awdurdodau politicaidd.
(1, 0) 648 Offeryn heb enaid.
(Meurig) Pam nad ych chi'n dal swydd yn y wlad hon?
 
(Meurig) Mae prinder gwyddonwyr.
(1, 0) 651 Onid yw gwyddoniaeth yn cael ei phuteinio ymhob gwlad?
(Efa) Yna i ble'r ewch chi, Josef?
 
(1, 0) 654 Adre.
(Efa) O nage!
 
(Efa) Fe gaiff garchar neu'i ladd os aiff e' adre!
(1, 0) 659 Dim ond i'r corff mae carchar, Efa.
(Efa) Meurig! Dwed wrtho am aros!
 
(Efa) Meurig!
(1, 0) 664 Diolch.
(1, 0) 665 I'r ddau ohonoch chi.
(1, 0) 666 I chi, Efa, am y breuddwyd... i chithau, Meurig, am y deffro.