Y Dyn Drws Nesaf

Ciw-restr ar gyfer Meurig

(Efa) {Try edrych am foment.}
 
(Efa) Hst!
(1, 0) 21 Bob tro y do' i adre, dim ond yr un sŵn o hyd!
(1, 0) 22 A thithau wedi dianc i fyd breuddwyd!
 
(Efa) Paid!
(1, 0) 25 'Rwy' wedi blino.
(Efa) Ble'r wyt ti wedi bod?
 
(Efa) Ble'r wyt ti wedi bod?
(1, 0) 27 Yn y labordy.
(1, 0) 28 Ble arall!
(Efa) Rwyt ti'n hwyrach nag erioed...
 
(Efa) Mae hi'n wych.
(1, 0) 32 'Rwyf heb fwyta ers hanner dydd.
(1, 0) 33 Pam nad ei di i'r gegin fach i baratoi rhywbeth, yn lle segura fan hyn!
(Efa) {Edrych ar y llall foment.}
 
(1, 0) 37 Ie... pam lai!
 
(1, 0) 39 Yn yr un man y byddwn i.
(Efa) Os yw hyn'na'n wir, 'wela' i fawr iawn o synnwyr dy fod ti'n lladd dy hunan yn y labordy.
 
(Efa) A minnau.
(1, 0) 44 Ond mae'r arbrofion yn galw!
(Efa) Ydyw dy waith di mor bwysig â hyn'na?
 
(Efa) Ydyw dy waith di mor bwysig â hyn'na?
(1, 0) 46 Yn aruthrol bwysig.
(Efa) {Yn dawel.}
 
(1, 0) 50 Ydyw pethau cynddrwg â hyn'na?
(Efa) Nid fel hyn oedd hi 'r blynyddoedd cyntaf.
 
(Efa) Yn yr amser hwnnw fe roddet sylw i mi, yn ogystal ag i'r labordy.
(1, 0) 53 Rwy'n gorfod talu'n ddrud am y camgymeriad a wnes i bedair blynedd yn ôl.
(Efa) Paid â gofidio cymaint.
 
(Efa) Yr wyt ti'n rhy athrylithgar iddyn' nhw dy anwybyddu di o hyd.
(1, 0) 57 Tybed?
(1, 0) 58 I feddwl 'u bod nhw wedi fy nghadw i i weithio ar bethau dibwys ers dros dair blynedd, a hynny, dim ond am i mi agor fy ngheg mewn parti.
(1, 0) 59 'Ddywedais i ddim byd nad oedd yn hysbys i bawb.
(1, 0) 60 Dim ond bod un o'r mân swyddogion wedi fy nghlywed i.
(1, 0) 61 Mae'r peth yn ynfyd.
(Efa) Yr wyt ti'n rhy ddiamynedd.
 
(Efa) 'Rwy' wedi bod yn unig trwy'r dydd.
(1, 0) 67 Mae gen ti dy ddiddordebau.
(Efa) Efallai.
 
(Efa) Sut wyt ti'n teimlo'n nawr?
(1, 0) 71 Yn well.
(1, 0) 72 Efallai mai ti sy'n iawn wedi'r cyfan.
(1, 0) 73 Efallai nad yw fy ngwaith i'n cyfri' o gwbl.
(1, 0) 74 Does dim yn aros heddi'.
(1, 0) 75 Mae dyn yn dod ar draws rhywbeth newydd, yn cael rhyw weledigaeth, ac mae hyn yn ei wefreiddio.
(1, 0) 76 Ond 'dyw'r cyffro ddim yn aros.
(1, 0) 77 Mae problemau newydd yn codi, ac mae'n rhaid mynd ar ôl y rheiny.
(Efa) Dyna ti o hyd.
 
(Efa) 'Rwy' i'n dy gael di'n ddigon, fel ag yr wyt ti.
(1, 0) 83 Diolch.
 
(1, 0) 85 'Rwy'n teimlo weithiau nad oes angen mwy...
(1, 0) 86 Ond mae rhyw ysfa yn fy ngorfodi i i weithio ymlaen, a churo'r lleill.
(Efa) Ac ennill beth?
 
(Efa) Ac ennill beth?
(1, 0) 88 Yr hen glod.
(Efa..) A hynny sy'n bwysig?
 
(Efa..) A hynny sy'n bwysig?
(1, 0) 90 A thi!
(1, 0) 91 Mi fyddi dithau ar dy ennill pan fydda' i ar fy nhraed unwaith eto.
(Efa) Tybed?
 
(Efa) Dim ond dy gwmni.
(1, 0) 95 Fe ddaw hynny eto... ar ôl y llwyddiant.
(Efa) Yfory yw hi o hyd.
 
(Efa) Gwell i mi fynd i'r gegin.
(1, 0) 99 'Does dim chwant bwyd arna' i erbyn hyn.
(Efa) Lol!
 
(1, 0) 104 'Ddaw e' ddim draw heno?
(Efa) Mae e'n siwr o ddod.
 
(Efa) Fe wyddost yn burion fel mae e'n hoffi dod draw am sgwrs bob nos cyn mynd i'r gwely?
(1, 0) 107 Mae e'n ddigon o farn!
(Efa) Rwy'n teimlo trueni drosto.
 
(Efa) Mi fyddi di'n gwrtais os daw e'?
(1, 0) 111 Mae dyn yn blino ar drafod yr un hen bethau o hyd.
(Efa) {Yn araf.}
 
(Efa) Yr wyf i'n hoffi'r dyn.
(1, 0) 114 Fe ddylai fod cywilydd arnat ti dy fod ti'n barod i gyfaddef hynny!
(Efa) Pam na all dau berson fod yn gyfeillgar?
 
(Efa) Pam na all dau berson fod yn gyfeillgar?
(1, 0) 116 Mae dynion yn siarad.
(1, 0) 117 Tref fach yw hon.
(Efa) Gad iddyn' nhw siarad!
 
(Efa) Yr wyt ti'n deall yn iawn y berthynas sydd rhyngof i a Josef, a dim ond hynny sy'n cyfrif.
(1, 0) 121 Ni hoffais i mo'th ffrindiau di erioed.
(Efa) Naddo.
 
(Efa) Mae nhw'n perthyn i'm byd i, ac yn anffodus mae hwnnw allan o'th gyrraedd di.
(1, 0) 124 Am dy fod ti'n dymuno hynny.
(Efa) Nage.
 
(Efa) Yr ŷm ni'n dau wedi bod yn briod wyth mlynedd... wyth mlynedd i heddi'.
(1, 0) 132 Efa!
(1, 0) 133 Maddau i mi!
(1, 0) 134 Anghofiais yn llwyr!
(1, 0) 135 Dyna ffŵl!
(1, 0) 136 Y labordy 'na.
(Efa) Dyna oedd dy esgus di y llynedd hefyd.
 
(Efa) Fe ges un anrheg i'm hatgoffa i o'r diwrnod braf hwnnw, wyth mlynedd yn ôl.
(1, 0) 140 Beth?
(Efa) Y record.
 
(Efa) Y record.
(1, 0) 142 Fe roddodd Josef anrheg i ti, i ddathlu dydd dy briodas!
(Efa) Anrheg i ni'n dau.
 
(Efa) Anrheg i ni'n dau.
(1, 0) 144 Fe ŵyr yn burion nad wyf i'n hoffi miwsig!
 
(1, 0) 146 Pwy ddywedodd wrtho mai heddi' oedd y dydd?
(Efa) Efallai mai fi.
 
(Efa) Rhaid dy fod ti neu fi wedi cyfeirio at y dyddiad rywbryd neu'i gilydd yn ei gwmni.
(1, 0) 150 Nid y fi.
(Efa) Beth yw'r ots pwy?
 
(Efa) Beth yw'r ots pwy?
(1, 0) 152 Yr wyt ti'n dweud popeth wrth Josef.
(1, 0) 153 Pob cyfrinach fach.
(1, 0) 154 Yn cyfathrachu â rhyw grachach o estron sebonllyd.
(Efa) 'Dyw hyn'na ddim yn wir!
 
(Efa) 'Dyw hyn'na ddim yn wir!
(1, 0) 156 Wyt ti'n gwadu mai estron yw e'?
(Efa) Nag wyf.
 
(Efa) Yn awr yn condemnio dyn, a hynny dim ond achos dy anallu di i ffrwyno teimladau ynfyd.
(1, 0) 163 Nage!
(Efa) {Ei llais yn newid.}
 
(Efa) Fe gredais hynny wyth mlynedd yn ôl.
(1, 0) 168 Yr wyt ti fel plentyn o hyd, yn byw ym myd breuddwydion.
(Efa) Yr unig fyd o werth.
 
(Efa) Hynny efallai?
(1, 0) 178 Mae Josef yn ddiweddar.
(Efa) Fe ddaw 'nawr.
 
(Efa) Paid â dweud dy fod ti'n awyddus i'w weld e'?
(1, 0) 181 Ydwyf.
(1, 0) 182 Mi fydd ei bresenoldeb yn help i'th dawelu.
(1, 0) 183 'Rwyf wedi sylwi, mai dim ond dy gynhyrfu di mae fy mhresenoldeb i.
(1, 0) 184 A hynny ers misoedd bellach.
(Efa) A hynny am nad ydym yn siarad yr un iaith.
 
(Efa) Yr wyt ti'n byw ym myd gwyddoniaeth a dinistr, a minnau ym myd celfyddyd,—y byd creadigol.
(1, 0) 187 Ond heb lwyddo i greu dim.
(1, 0) 188 Pe bai gennyt blentyn efallai na chawn glywed y siarad hwn.
(Efa) Meurig!
 
(Efa) Meurig!
(1, 0) 190 Wel?
(1, 0) 191 Wyt ti'n ofni cael dy ddadansoddi, a chael gwybod mor ddiffrwyth dy fywyd?
(1, 0) 192 Yr wyt ti wedi sôn am dy ffrindiau.
(1, 0) 193 Wfft i'r fath ffrindiau!
(1, 0) 194 Pob un ohonynt yn freuddwydiwr a pharaseit.
(1, 0) 195 Ac yr oedd yn rhaid i Josef Lobbock ddianc o'i wlad ei hun, a dod yma i freuddwydio.
(Efa) Dianc i chwilio am ryddid!
 
(Efa) Dianc i chwilio am ryddid!
(1, 0) 197 Stori ramantus... i ferch anwadal.
(1, 0) 198 Mi ddylai Josef fod wedi dal ei dir.
(Efa) A chael ei ladd!
 
(Efa) Fe wyddost mai carchar neu farwolaeth sy'n aros Josef os aiff e 'nôl!
(1, 0) 201 Efallai nad efe yw'r unig un sydd am ddianc.
(1, 0) 202 Beth amdanat ti?
 
(1, 0) 204 Beth yw hwn'na ond offeryn dianc!
(1, 0) 205 Ond mae'n amheus gen i a yw e'n ddigon iti.
(1, 0) 206 Eto, paid â phryderu.
(1, 0) 207 Mae'r cyfle wedi dod i ti gael dianc yn gyfangwbl.
(Efa) {Yn bryderus.}
 
(Efa) Beth... beth wyt ti'n feddwl?
(1, 0) 210 Bûm yn gweithio'n hwyrach nag arfer heno.
(1, 0) 211 A wyddost ti pam?
(1, 0) 212 Am fod fy ngwaith yn y labordy wedi gorffen.
(Efa) Yr wyt ti wedi colli dy swydd!
 
(Efa) Yr wyt ti wedi colli dy swydd!
(1, 0) 214 Pam wyt ti'n dweud hyn'na?
 
(1, 0) 216 Ateb!
(Efa) Dim...
 
(Efa) Dim ond dy fod ti'n grwgnach weithiau, dy fod ti'n cael cam.
(1, 0) 219 Ac mae hynny'n wir.
(Efa) Beth sydd yn mynd i ddigwydd i ti 'nawr?
 
(Efa) Beth sydd yn mynd i ddigwydd i ti 'nawr?
(1, 0) 221 'Rwyf wedi ymddeol.
(Efa) I ble'r ei di?
 
(Efa) I ble'r ei di?
(1, 0) 223 'Rwyf heb benderfynu'n iawn.
(Efa) A 'nawr 'rwy' i'n cael gwybod!
 
(Efa) Yr wy' i'n hapus 'ma.
(1, 0) 227 Yn chwarae gyda'th deganau!
(Efa) Bod gyda'n gilydd.
 
(Efa) Bod gyda'n gilydd.
(1, 0) 229 Na.
(1, 0) 230 'Choelia i fawr!
(1, 0) 231 'Dŷm ni'n dau ddim yn symud yn yr un byd.
 
(1, 0) 233 Rwy'n dy ryddhau di, Efa fach.
(1, 0) 234 Fe gei di aros 'ma gyda'th ffrindiau... gyda Josef, ramantus, sebonllyd.
 
(1, 0) 236 Beth sy'n bod arnat ti?
(1, 0) 237 Paid ag edrych mor ddigalon.
(1, 0) 238 Beth am y record?
(1, 0) 239 Gad i ni 'i chlywed hi gyda'n gilydd... am y tro cyntaf... a'r tro olaf.
(1, 0) 240 Mi fydda' i'n mynd odd'ma.
 
(1, 0) 243 Josef.
(1, 0) 244 Paid â'i gadw i aros ar garreg y drws.
(1, 0) 245 Pam wyt ti'n oedi?
(1, 0) 246 Cer!
 
(1, 0) 252 Noswaith dda, Josef.
(1, 0) 253 Yr ŷm ni wedi bod yn 'ch disgwyl chi.
(Josef) {Erys heb symud.}
 
(Josef) Ie... godidog.
(1, 0) 260 A ga'i 'i chwarae hi eto?
(1, 0) 261 Mae Efa yn 'i hoffi hi'n fawr.
(Josef) Mae Efa yn deall.
 
(Josef) Mae e'n dod yr un ffordd â ni.
(1, 0) 268 Dim eto, Josef.
(Josef) {Yn siomedig.}
 
(Josef) Mae'r miwsig hwn yn wir o bob oes.
(1, 0) 274 Yn wir?
(Josef) Ydy'.
 
(Josef) Os oes yna un gair yn arbennig yn nodweddu Ewrop heddiw, y gair dianc yw hwnnw.
(1, 0) 278 Fe ddylech chi fod yn gwybod, Josef.
(1, 0) 279 Yr ych chi'n arbenigwr ar y cwestiwn, hynny yw, os yw ffoi a dianc yn gyfystyr.
(Josef) {Yn dawel.}
 
(Josef) Mae rhywbeth yn aros o'r hen fywyd ac yn gafael ynddo o hyd.
(1, 0) 287 Cydwybod efallai?
(Efa) Beth am dy swper, Meurig?
 
(Josef) Does neb arall yng Nghymru cystal â'ch gwraig chi am wneud coffi.
(1, 0) 297 'Dwy i byth yn 'i yfed e.
(1, 0) 298 Chi'r estroniaid sy'n hoff o goffi.
 
(1, 0) 300 Paid ti â ffwdanu am fy swper i.
(1, 0) 301 Mae gen i waith arall i'w wneud gynta'.
(1, 0) 302 Gwaith pacio.
(Josef) Yr ych chi'n mynd i ffwrdd?
 
(Josef) Yr ych chi'n mynd i ffwrdd?
(1, 0) 304 Mae'r gwaith yn galw am hynny.
(Josef) Dyna'r gwaetha' o ddal swydd o dan y Weinyddiaeth.
 
(Josef) Dyna'r gwaetha' o ddal swydd o dan y Weinyddiaeth.
(1, 0) 308 Paid ti â dod.
(1, 0) 309 Does dim angen.
(1, 0) 310 Aros i drafod y record 'na gyda dy gyfaill.
(1, 0) 311 Mae'r thema yn un mor addas i chi'ch dau.
(Josef) I ni'n tri.
 
(Josef) Mae si yn y pentref fod y sateleit nesaf yn mynd i gario dynion.
(1, 0) 316 Mae trigolion y pentref hwn yn rhy hoff o glebran.
(Josef) Felly 'dyw'r stori ddim yn wir?
 
(Josef) Felly 'dyw'r stori ddim yn wir?
(1, 0) 318 Amser a ddengys.
(Josef) Chwarae teg i chi.
 
(Josef) Eto... yn hwyr neu'n hwyrach, fe welwn ddynion yn mentro i'r gwagle... i ddianc.
(1, 0) 322 I ddarganfod rhyfeddodau newydd.
(Josef) A thrwy hynny... yn dianc oddiwrth y presennol sydd yn gwasgu.
 
(Josef) Ond 'rwyf heb eich llongyfarch chi eto.
(1, 0) 328 Ar beth?
(Josef) Dydd eich priodas.
 
(Josef) Yr ych chi'n ddyn lwcus iawn.
(1, 0) 337 'Rwyf yn eich dyled.
(Josef) Sut hynny?
 
(Josef) Sut hynny?
(1, 0) 339 Fe anghofiais i ba ddydd oedd e' heddi'.
(1, 0) 340 Mi fyddai hwn wedi bod yn ddiwrnod siomedig iawn i Efa, onibai i chi gofio amdani.
(Josef) {Yn gwenu.}
 
(Josef) Dyw hi ddim am 'ch condemnio chi'n gyfangwbl chwaith.
(1, 0) 348 Efallai mai i'r miwsig 'rwy'n ddyledus am hynny.
 
(1, 0) 350 A gaf i chwarae'r record i chi 'to?
(1, 0) 351 Beth wyt ti'n ddweud, Efa?
(Efa) Mae gen i ben tost.
 
(Efa) Mae gen i ben tost.
(1, 0) 353 Fe wellith hwn ben tost.
 
(1, 0) 355 Ac yn awr rhaid i chi'ch dau esgusodi i.
(1, 0) 356 'Rwy'n mynd i fod yn brysur.
(Josef) Beth sy'n bod?
 
(1, 0) 552 Beth sy' wedi digwydd i'r miwsig?
(1, 0) 553 Ond efallai nad yw'r miwsig mor bwysig wedi'r cyfan!
(Josef) 'Roeddwn ar fynd.
 
(1, 0) 556 Go dda!
(1, 0) 557 Mynd a dod yn ôl 'ch mympwy.
(1, 0) 558 Byd braf!
(Efa) M... mae brys ar Josef.
 
(Efa) M... mae brys ar Josef.
(1, 0) 560 Amhosibl!
(1, 0) 561 Ni fu arno frys erioed!
(1, 0) 562 Dim ond pan ffodd allan o'i wlad... ac o berygl!
(Efa) Paid, Meurig!
 
(Efa) Paid, Meurig!
(1, 0) 564 Oes gen i ddim hawl i'm barn?
(1, 0) 565 Ac ar fy aelwyd fy hun!
(1, 0) 566 Aelwyd pwy yw hon, Josef?
(Josef) {Yn dawel.}
 
(Josef) 'Ch aelwyd chi... ac Efa.
(1, 0) 569 lefe?
(1, 0) 570 'Rwy'n amau!
(1, 0) 571 Bob tro y do i adre mae rhyw ddieithryn wedi cydio yn y lle.
(Josef) Nagoes, Meurig.
 
(Efa) Yr wyt ti allan mor amal.
(1, 0) 575 Duw Mawr!
(1, 0) 576 Mae gen ti a'r crachach hwn y wyneb i gyfathrachu â'ch gilydd, ac yna fwrw'r bai arna' i.
(Efa) Nid hynny, Meurig.
 
(Josef) Rwy'n cydnabod fy mod i'n ymwelwr cyson, ond 'roedd y tŷ hwn yn noddfa.
(1, 0) 580 Gadewch y siarad sentimental er mwyn popeth!
(Josef) Credais fy mod i'n cael croeso.
 
(Josef) Credais fy mod i'n cael croeso.
(1, 0) 582 Ac fe gawsoch.
(1, 0) 583 Gyda hon!
(Josef) Gyda'r ddau ohonoch chi.
 
(Josef) Gyda'r ddau ohonoch chi.
(1, 0) 585 Dyna gelwydd!
(1, 0) 586 Ni feddylioch y fath beth.
(1, 0) 587 Fe ddangosais i f'ochor i o'r dechrau.
(1, 0) 588 Ni fu gen i erioed amynedd i ddelio â llwfrgwn.
(1, 0) 589 Ydych chi am ddweud na sylwoch chi ar hynny?
(Josef) Efallai fe fûm i'n ddall.
 
(Josef) Efallai fe fûm i'n ddall.
(1, 0) 591 Mi ddyweda' i pam!
(Efa) Gad lonydd i bethau 'nawr, Meurig!
 
(1, 0) 595 Fe gawsoch 'ch dallu gan Efa!
(Josef) Fe fu 'ch gwraig yn help mawr i mi, yn gyfrwng i mi anghofio hylltra'r byd.
 
(Josef) Fe fu 'ch gwraig yn help mawr i mi, yn gyfrwng i mi anghofio hylltra'r byd.
(1, 0) 597 Dyma chi eto.
(1, 0) 598 Yr un hen siarad arwynebol!
(1, 0) 599 Pam na gyfaddefwch chi'r gwir!
(1, 0) 600 Dim ond fel merch y gwelsoch chi Efa'n ddiddorol.
(1, 0) 601 A ellwch chi wadu?
(Josef) {Nid yw yn ateb.}
 
(Josef) {Nid yw yn ateb.}
(1, 0) 603 Pam nad atebwch chi?
(1, 0) 604 Ond beth wy'n ddisgwyl?
(1, 0) 605 Fel i bob estron seimllyd arall, rhywbeth i'w ddiystyru yw'r gwir i chi.
 
(1, 0) 607 Ac fe roist dithau bob anogaeth iddo.
(Efa) Naddo, Meurig...
 
(Efa) M... mae Josef yn mynd odd'ma.
(1, 0) 610 Fe ddaw 'nôl.
(Josef) Dim y tro hwn.
 
(Josef) Dim y tro hwn.
(1, 0) 612 Dyma newydd sydyn!
(Josef) Mor sydyn â'ch penderfyniad chi.
 
(Josef) Mor sydyn â'ch penderfyniad chi.
(1, 0) 614 Ai hwnnw yw'r symbyliad?
(Josef) {Erys.}
 
(1, 0) 618 Diddorol.
(1, 0) 619 Felly, dyma ni wedi cyrraedd y groesffordd.
(1, 0) 620 Un yn mynd ffordd 'na.
 
(1, 0) 622 Y llall, y ffordd acw.
 
(1, 0) 624 A beth amdanat ti, Efa.
 
(1, 0) 626 Llwybr Josef?
(Efa) 'Rwy'n aros fan hyn.
 
(Efa) 'Rwy'n aros fan hyn.
(1, 0) 628 A pham?
(1, 0) 629 Rho dy resymau.
(1, 0) 630 Carwn 'u clywed.
(1, 0) 631 Beth ych chi'n ddweud, Josef?
(Josef) Mae f'amser i'n rhy brin, Meurig.
 
(Josef) {Yn cerdded i gyfeiriad y drws.}
(1, 0) 634 Beth yw'r brys mawr ar ôl misoedd o oedi?
(Josef) Misoedd o waith ymchwil manwl, ac yna'r fflach a'r symud mawr.
 
(Josef) A chithau'n wyddonydd?
(1, 0) 638 Beth a wyddoch chi am fywyd y labordy?
(Josef) {Erys foment, ac yna'n dawel.}
 
(Josef) {Edrych y ddau arall arno'n syn.}
(1, 0) 643 Anwiredd!
(Josef) Nage, Meurig.
 
(Josef) Offeryn heb enaid.
(1, 0) 649 Pam nad ych chi'n dal swydd yn y wlad hon?
(1, 0) 650 Mae prinder gwyddonwyr.
(Josef) Onid yw gwyddoniaeth yn cael ei phuteinio ymhob gwlad?
 
(Efa) Meurig! Dwed wrtho am aros!
(1, 0) 661 Ei ddyletswydd yw dychwelyd adre.
(1, 0) 662 Gad iddo wneud un tro da yn ei fywyd!
(Efa) Meurig!
 
(1, 0) 673 Wyt ti'n siŵr nad wyt ti ddim am fynd ar 'i ôl e'?
(Efa) {Llais blinedig.}
 
(Efa) Yn eitha' siŵr.
(1, 0) 676 Ond yr wyt ti 'n 'i garu e'.
 
(1, 0) 678 'Rwy' wedi ymddwyn fel ffŵl!
 
(1, 0) 680 Dyw' hi ddim yn rhy ddiweddar.
(1, 0) 681 Mi alla' i fod yn wahanol o hyn allan.
(1, 0) 682 Fe oedd yn fy nghynddeiriogi i.
 
(1, 0) 684 Gwrando, Efa.
(1, 0) 685 Mae'n rhaid i mi fynd i ffwrdd.
(1, 0) 686 'Rwyf wedi ymddeol ar gais yr Awdurdodau!
(1, 0) 687 'Dŷn' nhw erioed wedi ymddiried yno' i.
(1, 0) 688 Digon da fy mod i'n mynd.
(1, 0) 689 Fe ga' i ddigon o swyddi,—yn talu'n well hefyd.
(1, 0) 690 Mewn diwydiant!
(Efa) Cei.
 
(Efa) Cei.
(1, 0) 692 Dere gyda mi!
(1, 0) 693 Dechrau o'r newydd.
(Efa) Na, Meurig.
 
(Efa) Na, Meurig.
(1, 0) 695 Josef!
(Efa) Nid Josef.
 
(Efa) Ar ôl dy siarad di gynnau fach, 'rwy'n dy gasâu di fel dyn!
(1, 0) 700 Nid oedd Josef yn haeddu gwell!
(Efa) Dyna'n union pam yr wy'n dy gasâu di!
 
(1, 0) 705 Mi fydda' i'n symud heno, Efa.
 
(1, 0) 707 Ac mi fydda' innau'n aros.