Ar Ddu a Gwyn

Ciw-restr ar gyfer Amos

 
(1, 0) 10 P'nawn da, Syr.
(Botha) P'nawn da, Amos.
 
(Botha) P'nawn da, Amos.
(1, 0) 13 Chi'n teimlo'n well, Syr?
(Botha) {Yn eistedd wrth ei ddesg.}
 
(Botha) 'Wyt ti wedi gorffen y 'stafell yma?
(1, 0) 19 Ydw' Syr.
(Botha) Mi gei fynd, felly.
 
(Botha) Mae arna'i eisiau llonydd rŵan.
(1, 0) 22 O'r gora', Syr.
 
(1, 0) 26 Syr?
(Botha) Tyrd yma am funud.
 
(1, 0) 29 Syr?
(Botha) Dy ferch,—sut y mae hi y dyddia' 'ma?
 
(Botha) Dy ferch,—sut y mae hi y dyddia' 'ma?
(1, 0) 31 Yr un fath, Syr.
(1, 0) 32 Dim golwg gwella arni.
(Botha) Hm!
 
(Botha) 'Faint ydy' ei hoed hi rŵan?
(1, 0) 35 Naw, Syr.
(1, 0) 36 Ei phen-blwydd hi ddoe.
(Botha) Felly'n wir...
 
(Botha) Beth mae'r meddyg yn 'i ddweud?
(1, 0) 39 Y galon, Syr.
(1, 0) 40 Mae hi'n wanllyd erioed.
(1, 0) 41 'Does dim lle yn yr ysbyty.
(1, 0) 42 Nhw'n dweud ddim lle am flwyddyn arall.
(1, 0) 43 Mae ein hysbyty ni'n llawn bob amser, Syr.
(Botha) Ydy', 'rwy'n deall...
 
(Botha) Gad imi wybod sut y bydd o dro i dro.
(1, 0) 47 O'r gora', Syr.
(Botha) {Mynd i'w boced.}
 
(Botha) Hwda, dos i brynu tipyn o ffrwythau iddi.
(1, 0) 52 'Wn i ddim sut i ddiolch ichi, Syr?
(Botha) Paid â thrio.
 
(Botha) Paid â dweud am hyn wrth neb, 'wyt ti'n deall?
(1, 0) 56 Fi'n deall.
(Botha) Dim hyd yn oed wrth Miss Helga...
 
(Botha) B'le mae hi, gyda llaw?
(1, 0) 59 Yn yr ardd, fi'n credu, Syr.
 
(1, 0) 61 Ia, dacw hi, Syr, yn hel blodau.
(1, 0) 62 'Ydych chi am imi alw arni?
(Botha) Na, na: mi ddaw yma mewn munud...
 
(Botha) Mae yma un peth arall, Amos.
(1, 0) 65 Syr?
(Botha) 'Dwy'i ddim am iti ddweud gair wrthi am y wasgfa fach honno ge's i y bore yma.
 
(Botha) 'Dwy'i ddim am iti ddweud gair wrthi am y wasgfa fach honno ge's i y bore yma.
(1, 0) 67 O'r gora', Syr.
(Botha) 'Dydy' o ddim ond tipyn o wendid.
 
(Botha) 'Fynnwn i mo'i phoeni heb eisiau.
(1, 0) 71 Ond os bydd hi'n gofyn imi, Syr?
(Botha) 'Dwyt ti'n gwybod dim.
 
(Botha) Celwydd gola', Amos,— dyw hwnnw ddim yn bechod!
(1, 0) 74 Nac ydy', Mr. Botha.
(Botha) 'Oes yna rywbeth ar dy feddwl di?
 
(Botha) 'Oes yna rywbeth ar dy feddwl di?
(1, 0) 76 Fi —?
(Botha) 'Rwy' i wedi sylwi arnat ti yn ddiweddar yma.
 
(Botha) Fel petai ofn arnat ti.
(1, 0) 80 Dim ond ychydig o bryder, Syr: y ferch fach yn wael... a chwitha', Syr.
(Botha) O, 'rwy'n gweld.
 
(Botha) Rhaid iti fod yn fwy ffyddiog, wyddost ti.
(1, 0) 86 Rhaid, Syr.
(Botha) 'Rwyt ti'n was da a ffyddlon, Amos.
 
(1, 0) 91 Petai pawb 'r un fath â chi, Syr...
(Botha) Ia, Amos?
 
(1, 0) 94 O, fi ddim yn gwybod beth i' ddweud...
(1, 0) 95 Maddeuwch imi...
(1, 0) 96 Fi'n mynd i wneud eich llefrith yn barod.
(Botha) O'r gora'.
 
(Botha) Cofia ddweud sut y bydd dy ferch fach o bryd i bryd.
(1, 0) 101 Diolch ichi, Syr.
(1, 0) 102 Chi'n garedig iawn.
(1, 0) 103 Diolch yn fawr.
(Botha) Paid â sôn.
 
(Botha) Fe ddaw yma cyn bo hir, mae'n debyg.
(1, 0) 260 Dr. Hoffman, Syr.
(Hoffman) Botha, 'glywaist ti am y pwll?
 
(Botha) Mae arna' i ei heisiau, Duw a ŵyr: mae ar y wlad ei heisiau.
(1, 0) 612 Mr. Karl Hendricks!
(Helga) {Yn gythryblus.}
 
(Botha) Mi rown i unrhyw beth i gael gafael ynddo fo!
(1, 0) 886 Esgusodwch fi, Syr.
 
(1, 0) 889 Chi ddim wedi yfed y llefrith, Syr.
(Botha) Hidia befo'r llefrith, Amos.
 
(Botha) Tyrd yma.
(1, 0) 893 Syr?
(Botha) Beth a wyddost ti am hwn?
 
(Botha) Beth a wyddost ti am hwn?
(1, 0) 896 Syr?
(Botha) O, paid â bod mor hurt!
 
(Botha) Edrych arno.
(1, 0) 900 Fi ddim yn medru darllen yn dda, Syr.
(Botha) Ys gwn i!...
 
(Botha) Welaist ti o o'r blaen?
(1, 0) 903 Naddo, Syr.
(Botha) Edrych ym myw fy llygaid, Amos.
 
(Botha) 'Wyt ti'n dweud y gwir?
(1, 0) 906 Ydw', Syr.
(1, 0) 907 Fi'n dweud y gwir.
(Botha) {Saib ennyd.}
 
(1, 0) 914 "Salvadór"!
(Botha) Ia.
 
(Botha) 'Wyddost ti pwy ydy' o?
(1, 0) 917 Syr?
(Botha) Ateb fy nghwestiwn, 'wyddost ti pwy ydy' o?
 
(Botha) Ateb fy nghwestiwn, 'wyddost ti pwy ydy' o?
(1, 0) 919 Na wn, Syr...
(1, 0) 920 Wedi clywed yr enw, dyna'r cyfan.
(1, 0) 921 Mae'r dref i gyd wedi clywed yr enw.
(1, 0) 922 Ond fi ddim yn gwybod, Syr.
(Botha) 'Wyt ti'n siŵr, rŵan?
 
(Botha) 'Wyt ti'n siŵr, rŵan?
(1, 0) 924 Ydw', Syr.
(1, 0) 925 Coeliwch fi, Syr, fi byth yn gwrando ar neb.
(1, 0) 926 Gwneud fy ngwaith yn ddistaw a meindio fy musnes.
(Botha) O'r gora', 'rwy'n dy goelio.
 
(Botha) 'Ydy' hynna'n glir?
(1, 0) 930 'Ydy', Syr...
(1, 0) 931 'Oes yna rywbeth arall, Syr?
(Botha) Na, dyna'r cyfan.
 
(Helga) Amos, aros am funud.
(1, 0) 937 Ia, Miss Helga?
(Helga) 'Nhad, 'ga' i roi ychydig o flodau iddo i fynd i'w ferch fach?
 
(Helga) Mi gei fynd â nhw adre' heno.
(1, 0) 946 Diolch ichi, Miss Helga.
(1, 0) 947 Fe fydd wrth ei bodd.
(1, 0) 948 Bob dydd mae hi'n sôn am flodau.
(1, 0) 949 Chi a Mr. Botha yn garedig iawn.
(1, 0) 950 Diolch yn fawr ichi.